AROLWG O'R FFINIAU AROLWG O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
CYNIGION DRAFFT
- CYFLWYNIAD
- CRYNODEB GWEITHREDOL
- CYNRYCHIOLAETHAU A GAFWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT
- ASESIAD
- CYNIGION
- TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
- CYDNABYDDIAETH
- YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
- Y CAMAU NESAF
1. CYFLWYNIAD
1.1 Rydym ni y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) wedi cwblhau cam cyntaf yr arolwg o ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn unol â chyfarwyddiadau gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei Chyfarwyddyd i ni dyddiedig 20 Medi 2006 ( Atodiad A).
1.2 Diben yr arolwg yw ystyried a ddylai'r Comisiwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, gynnig newidiadau i'r ffiniau cymunedol presennol. Mae'r arolwg yn cael ei gynnal dan ddarpariaethau Adran 56(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf).
1.3 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw, ysgrifennom ar 4 Ionawr 2007 at Gynghorau Cymuned Llanhari, Llanharan, Pont-y-clun, Llantrisant, Hirwaun a'r Rhigos (nid oes cyngor cymuned gan gymuned Pen-y-waun), yr Aelod Seneddol ar gyfer yr etholaeth leol, Aelodau'r Cynulliad ar gyfer yr ardal, a phartïon eraill â diddordeb i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg a gofyn am eu safbwyntiau rhagarweiniol. Cyn dechrau'r arolwg darparodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf nifer o awgrymiadau am newidiadau i ffiniau cymunedol. Amgaewyd rhestr o'r rhain gyda'r llythyr cychwynnol hwn ( Atodiad B). Fe wnaethom ni hefyd gyhoeddi ein bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal a gofyn i'r Cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus. Rhoddwyd hysbysiad am gychwyn yr arolwg a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cynrychiolaethau (8 Mawrth 2007) ar wefannau'r Comisiwn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
2. CRYNODEB GWEITHREDOL
2.1 Cynigiwn:
- bod y ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymunedau Llanharan a Llantrisant yn cael ei hadlinio i ddilyn y ffin a ddangosir mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad D;
- bod y ffin rhwng Cymuned Llanhari a Chymuned Pont-y-clun yn cael ei hadlinio i ddilyn y ffin a ddangosir mewn gwyrdd ar y mapiau yn Atodiadau E a F; a
- bod y ffin rhwng Cymuned Hirwaun a Chymuned Pen-y-waun yn cael ei hadlinio i ddilyn y ffin a ddangosir mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad G;
3. CYNRYCHIOLAETHAU A GAFWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT
3.1 Cawsom gynrychiolaethau gan Gyngor Cymuned Llanhari, Cyngor Cymuned Llanharan, Cyngor Cymuned Pont-y-clun, Cyngor Cymuned Llantrisant, Cyngor Cymuned Hirwaun a Chyngor Cymuned y Rhigos, a nifer o drigolion. Gellir gweld manylion yr holl gynrychiolaethau hyn yn Atodiad C.
4. ASESIAD
4.1 Rydym wedi ystyried newidiadau awgrymedig i ffiniau cymunedol yn yr ardaloedd canlynol: Llanhari, Llanharan, Pont-y-clun, Llantrisant, Hirwaun a Phen-y-waun.
Pontyclun / Llanharan / Llantrisant
4.2 Awgrymodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf bod Ynysddu (o ward Llanharan Cymuned Llanharan) a Phant y Dderwen (o ward Tonysguboriau Cymuned Llantrisant) yn cael eu cynnwys yn ardal Cymuned Pont-y-clun. Nodwyd gennym yr arolwg a gynhaliwyd gan Gyngor Cymuned Llanharan o bob un o'r 270 o dai yn Ynysddu lle'r oedd 83% o arolygon a anfonwyd yn ôl yn cefnogi symud i Bont-y-clun. Nodwyd gennym hefyd bryderon Cyngor Cymuned Llanharan mewn perthynas â cholli praesept, er y teimlai'r Cyngor y dylai gael ei arwain gan ganlyniad yr arolwg.
4.3 Yn dilyn ymweliad safle â'r ardal ystyriwn fod gan ardaloedd Ynysddu a Phant y Dderwen fwy o affinedd â Phont-y-clun na naill ai Llanharan na Llantrisant yn y drefn honno. Penderfynom fod y ffin awgrymedig yn dilyn nodweddion daearyddol clir. Rydym o'r farn y byddai'r newidiadau awgrymedig er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly cynigiwn y newidiadau i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llanharan a'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llantrisant fel y dangosir ar y map yn Atodiad D.
Llanhari / Pont-y-clun
4.4 Nodwyd awgrym Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gennym i drosglwyddo Clos Brenin o ward Tyle-garw Cymuned Llanhari i Gymuned Pont-y-clun. Nodwyd gennym hefyd na dderbyniom unrhyw gynrychiolaethau mewn perthynas â'r awgrym hwn.
4.5 Yn dilyn ymweliad safle â'r ardal nodwyd gennym fod yr unig fynediad i Glos Brenin drwy Gymuned Pont-y-clun ac yr ymddengys fod gan Glos Brenin fwy o affinedd â Chymuned Pont-y-clun nag â Chymuned Llanhari. Rydym o'r farn y byddai'r newidiadau awgrymedig er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly cynigiwn y newid i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llanhari fel y dangosir ar y map yn Atodiad E.
4.6 Nodwyd gennym fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi awgrymu hefyd fod Elms Farm a rhan o'r stad dai gyfagos yn cael eu trosglwyddo o ward Brynsadler Cymuned Pont-y-clun i Gymuned Llanhari.
4.7 Yn dilyn ymweliad safle â'r ardal nodwyd gennym yr ymddengys bod gan Elms Farm a'r stad dai gyfagos fwy o affinedd â Chymuned Pont-y-clun nag â Chymuned Llanhari. Nodwyd gennym fod y stad dai wedi'i rhannu rhwng y ddwy Gymuned a bod rhai o'r tai i'w gweld yn croesi'r ffin bresennol. Nodwyd gennym hefyd fod y ffin awgrymedig yn dilyn nodweddion daearyddol clir. Rydym o'r farn y byddai'r newidiadau awgrymedig er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly cynigiwn y newid i'r ffin rhwng Cymuned Pont-y-clun a Chymuned Llanhari fel y dangosir ar y map yn Atodiad F.
4.8 Nodwyd gennym fodd bynnag y byddai'r newid awgrymedig i'r ffin rhwng Llanhari a Phont-y-clun yn ardal Elms Farm yn gadael ardal fach o dai yng Nghastell-y-mwnws ar ymyl Cymuned Pont-y-clun. Byddem yn croesawu barn ynghylch priodolrwydd ymestyn y ffin arfaethedig i gynnwys yr ardal hon hefyd yng Nghymuned Llanhari.
Hirwaun / Pen-y-waun
4.9 Nodwyd awgrym Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gennym fod Trenant, rhan o Hirwaun Road, Parc Montana a Threwaun yn cael eu trosglwyddo o Gymuned Pen-y-waun i Gymuned Hirwaun. Ystyriwyd gennym hefyd yr awgrym a wnaed gan Gyngor Cymuned Hirwaun i droi'n ôl at y ffin wreiddiol, sef y cwrs dwr naturiol sy'n rhannu cymunedau Pen-y-waun a Hirwaun. O'r wybodaeth a roddwyd i ni nid oedd yn glir ymhle byddai'r ffin awgrymedig hon yn gorwedd. Diffiniwyd y ffin bresennol rhwng Pen-y-waun a Hirwaun gan Orchymyn Cwm Cynon (Cymunedau) 1981. Y gorchymyn hwn a greodd gymunedau Pen-y-waun a Hirwaun. Yn flaenorol bodolai cymunedau Penderyn ac Aberdâr a rannwyd ar hyd llinell Afon Cynon. Nodwyd gennym fod nant yn rhedeg ochr yn ochr â stad Trenant ac efallai mai hwn yw'r cwrs dwr a nodir gan y Cyngor. Ystyriwn y gall hyn ddarparu llwybr gwahanol ar gyfer rhan o'r ffin a awgrymwyd gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf. Byddem yn croesawu barn ar y mater hwn.
4.10 Yn dilyn ymweliad safle nodwyd gennym yr ymddengys fod gan yr ardaloedd dan sylw affinedd â Hirwaun a Phen-y-waun. Nodwyd gennym hefyd fod y ffin a awgrymir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dilyn nodweddion daearyddol a ddiffinnir yn glir.
4.11 Nodwyd pryderon Cyngor Cymuned Hirwaun gennym hefyd ynghylch statws Pen-y-waun fel ardal Cymunedau yn Gyntaf a'r effaith y byddai trosglwyddo rhyw 200 o anheddau yn ei chael ar y ddwy gymuned. Fel y deallwn, ni fydd y newid i'r ffin yn effeithio ar statws Pen-y-waun fel ardal Cymunedau yn Gyntaf. Nid oes cyngor cymuned gan Gymuned Pen-y-waun felly nid yw pryder ynghylch colli praesept yn gymwys. Byddai'r newid i'r ffin yn golygu y byddai'n rhaid i Gyngor Cymuned Hirwaun ddarparu ei wasanaethau i ardal fwy ond byddai hyn yn cael ei wrthbwyso gan y cynnydd yn ei braesept. Ar hyn o bryd rydym o'r farn y byddai'r newid awgrymedig i'r ffin rhwng Cymunedau Pen-y-waun a Hirwaun o fudd o ran cael llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cynigiwn felly newid i'r ffin fel y dangosir ar y map yn Atodiad G.
5. CYNIGION
5.1 Wedi ystyried y dystiolaeth a oedd ar gael i ni yn y cyfnod hwn o'n harolwg, cynigiwn y dylid adlinio ffiniau Cymunedau Pont-y-clun, Llanharan, Llantrisant, Hirwaun a Phen-y-waun yn yr ardal dan sylw i ddilyn y ffiniau a ddangosir mewn gwyrdd ar y mapiau yn Atodiadau D, E, F ac G.
5.2 Gellir archwilio mapiau manwl ar raddfa fwy sy'n dangos y ffiniau newydd arfaethedig yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.
5.3 Mae'r adroddiad drafft hwn yn manylu ein cynigion i newid y ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a byddem yn croesawu unrhyw sylwadau ar y cynigion.
6. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
6.1 Wrth ystyried y newidiadau amrywiol i'r ffiniau cymunedol, roedd hefyd yn ofynnol i ni ystyried yr effeithiau ar y trefniadau etholiadol i gynghorau cymuned a'r prif awdurdod, a fyddai'n deillio o'r newidiadau hyn. Mae'r adran hon o'n hadroddiad yn manylu ar ein cynigion ar gyfer newidiadau ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol. Byddem yn croesawu sylwadau ar yr agwedd hon ar ein hadroddiad hefyd. Darparwyd yr ystadegau etholiadol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Trefniadau Etholiadol Cynghorau Cymuned
6.2 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau Cymunedol, mae Cymuned Pont-y-clun wedi'i rhannu'n wardiau cymunedol Cefnyrhendy, Groes-faen, Maes-y-felin a Meisgyn. Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer yr etholwyr a chynghorwyr ar gyfer pob ward.
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Pont-y-clun | Cefnyrhendy |
2,362 |
3 |
787 |
| Groes-faen | 490 | 1 | 490 | |
| Maes-y-felin | 1,692 | 4 | 423 | |
| Meisgyn | 547 | 2 | 274 | |
| Cyfansym: | 5,091 | 10 | 509 |
* Etholwyr i bob Cynghorydd
6.3 O dan ein cynigion, bydd nifer yr etholwyr yn ward Cefnyrhendy yn cynyddu gan 575 i 2,937 o etholwyr a bydd ward Maes-y-felin yn cynyddu gan 161 i 1,853 o etholwyr. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hon sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Pont-y-clun, nodom y byddai angen cynyddu nifer y cynghorwyr gan 1 i 11. Ystyriwn y dylai nifer y cynghorwyr gael eu dyrannu mewn cyfrannedd â nifer yr etholwyr. Cynigiwn felly fod y trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Pont-y-clun fel a ganlyn:
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Pont-y-clun | Cefnyrhendy |
2,937 |
5 |
587 |
| Groes-faen | 490 | 1 | 490 | |
| Maes-y-felin | 1,853 | 4 | 463 | |
| Meisgyn | 547 | 2 | 274 | |
| Cyfansym: | 5,827 | 11 | 530 |
6.4 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau Cymunedol, rhennir Cymuned Llanharan yn wardiau cymunedol Brynna, Llanharan a Llanilid. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Llanharan | Brynna |
1,998 |
6 |
333 |
| Llanharan | 2,773 | 6 | 462 | |
| Llanilid | 698 | 2 | 349 | |
| Cyfansym: | 5,469 | 14 | 391 |
6.5 O dan ein cynigion bydd nifer yr etholwyr yn ward Llanharan yn lleihau gan 490 i 2,283 o etholwyr. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hon sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Llanharan, nodom y byddai angen lleihau nifer y cynghorwyr gan 1 i 13. Ystyriwn y dylai nifer y cynghorwyr gael eu dyrannu yn gymesur â nifer yr etholwyr. Cynigiwn felly fod y trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Llanharan fel a ganlyn:
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Llanharan | Brynna |
1,998 |
5 |
400 |
| Llanharan | 2,283 | 6 | 381 | |
| Llanilid | 698 | 2 | 349 | |
| Cyfansym: | 4,979 | 13 | 383 |
6.6 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau Cymunedol, rhennir Cymuned Llantrisant yn wardiau cymunedol Beddau, Tonysguboriau, y Dref a Tyn-y-nant. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Llantrisant | Beddau |
3,114 |
4 |
779 |
| Tonysguboriau | 2,052 | 2 | 1,026 | |
| Y Dref | 3,483 | 4 | 871 | |
| Tyn-y-nant | 2,460 | 3 | 820 | |
| Cyfansym: | 11,109 | 13 | 855 |
6.7 O dan ein cynigion bydd nifer yr etholwyr yn ward Tonysguboriau yn lleihau gan 85 i 1,967 o etholwyr. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hon sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Llantrisant, nid oes angen gwneud unrhyw newid i nifer y cynghorwyr. Rydym o'r farn hefyd y dylai nifer y cynghorwyr sy'n cael eu dyrannu ar gyfer pob ward ar hyn o bryd aros yn gymesur â nifer yr etholwyr. Cynigiwn felly fod y trefniadau etholiadol ar gyfer Cymuned Llantrisant yn aros fel a ganlyn:
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Llantrisant | Beddau |
3,114 |
4 |
779 |
| Tonysguboriau | 1,967 | 2 | 984 | |
| Y Dref | 3,483 | 4 | 871 | |
| Tyn-y-nant | 2,460 | 3 | 820 | |
| Cyfansym: | 11,024 | 13 | 848 |
6.8 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau Cymunedol, rhennir Cymuned Llanhari yn wardiau cymunedol Llanhari a Tyle-garw. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Llanhari | Llanhari |
2,008 |
8 |
251 |
| Tyle-garw | 540 | 3 | 180 | |
| Cyfansym: | 2,548 | 11 | 232 |
6.9 O dan ein cynigion bydd nifer yr etholwyr yn ward Tyle-garw yn lleihau gan 161 i 379 o etholwyr a bydd nifer yr etholwyr yn ward Llanhari yn cynyddu gan 72 i 2,080 o etholwyr. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hon sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Llanhari, nid oes angen gwneud unrhyw newid i nifer y cynghorwyr. Pe bai nifer y cynghorwyr yn cael eu dyrannu yn gymesur â nifer yr etholwyr, byddai trefniadau etholiadol Cymuned Llantrisant fel a ganlyn:
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Llanhari | Llanhari |
2,080 |
9 |
231 |
| Tyle-garw | 379 | 2 | 190 | |
| Cyfansym: | 2,459 | 11 | 224 |
6.10 O ystyried yr anghysonder yn nifer yr etholwyr rhwng wardiau Llanhari a Thyle-garw, mae gennym bryderon ynglyn â dymunoldeb wardio Cymuned Llanhari. Mae gennym bryderon hefyd ynglyn â'r lefel gynrychiolaeth uchel yn y Gymuned a byddem yn dymuno ystyried gostwng nifer y cynghorwyr. Nid ydym yn gwneud cynigion ar yr un o'r materion hyn ar yr adeg hon, ond byddem yn croesawu sylwadau cyn i ni ystyried ein cynigion terfynol.
6.11 Ar hyn o bryd, at ddibenion etholiadau Cymunedol, rhennir Cymuned Hirwaun yn wardiau cymunedol Hirwaun a Phenderyn. Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr etholwyr a'r cynghorwyr ar gyfer pob ward.
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Hirwaun | Hirwaun |
2,991 |
10 |
299 |
| Penderyn | 685 | 4 | 171 | |
| Cyfansym: | 3,676 | 14 | 263 |
6.12 O dan ein cynigion, bydd nifer yr etholwyr yn ward Hirwaun yn cynyddu gan 339 i 3,330 o etholwyr. Er mwyn cynnal lefel debyg o gynrychiolaeth i'r hon sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymuned Hirwaun, byddai angen cynyddu nifer y cynghorwyr gan 1 i 15. Ystyriwn fodd bynnag, mewn cymhariaeth â nifer o gymunedau eraill yn yr ardal, bod lefel y gynrychiolaeth yng Nghymuned Hirwaun eisoes yn uchel. Nid ydym felly yn cynnig cynnydd yn nifer y cynghorwyr. Pe bai nifer y cynghorwyr yn cael eu dyrannu yn gymesur â nifer yr etholwyr, byddai trefniadau etholiadol Cymuned Hirwaun fel a ganlyn:
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Hirwaun | Hirwaun |
3,330 |
12 |
278 |
| Penderyn | 685 | 2 | 343 | |
| Cyfansym: | 4,015 | 14 | 287 |
6.13 O ystyried yr anghysonder yn nifer yr etholwyr rhwng wardiau Hirwaun a Phenderyn, mae gennym bryderon ynglyn â dymunoldeb wardio Cymuned Hirwaun. Nid ydym yn gwneud cynnig ar y materion hyn ar yr adeg hon, ond byddem yn croesawu sylwadau cyn i ni ystyried ein cynigion terfynol.
6.14 O dan y cynigion byddai cymuned Pen-y-waun yn lleihau gan 339 i 1,568 o etholwyr. Gan nad oes cyngor cymuned gan y Gymuned, nid oes angen unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol.
Trefniadau Etholiadol y Cyngor Bwrdeistref Sirol
6.15 Ar hyn o bryd, mae gan Adran Etholiadol Hirwaun, sy'n cynnwys ward Hirwaun yng Nghymuned Hirwaun, 2,991 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Hirwaun a Phen-y-waun yn golygu y byddai nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Hirwaun yn cynyddu i 3,330.
6.16 Ar hyn o bryd, mae gan Adran Etholiadol Llanharan, sy'n cynnwys ward Llanharan yng Nghymuned Llanharan, 2,773 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Llanharan a Phont-y-clun yn golygu y byddai nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Llanharan yn gostwng i 2,283.
6.17 Ar hyn o bryd, mae gan Adran Etholiadol Llanhari, sy'n cynnwys Cymuned Llanhari, 2,548 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Llanhari a Phont-y-clun yn golygu y byddai nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Llanhari yn gostwng i 2,459.
6.18 Ar hyn o bryd, mae gan Adran Etholiadol Pen-y-waun, sy'n cynnwys Cymuned Pen-y-waun, 1,907 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Pen-y-waun a Hirwaun yn golygu y byddai nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Pen-y-waun yn gostwng i 1,568.
6.19 Ar hyn o bryd, mae gan Adran Etholiadol Pont-y-clun, sy'n cynnwys Cymuned Pont-y-clun, 5,091 o etholwyr a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffiniau rhwng Cymunedau Pont-y-clun a Chymunedau Llanhari, Llanharan a Llantrisant yn golygu y byddai nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Pont-y-clun yn cynyddu i 5,827.
6.20 Ar hyn o bryd, mae gan Adran Etholiadol Tonysguboriau, sy'n cynnwys ward Tonysguboriau yng Nghymuned Llantrisant, 2,052 o etholwyr a gynrychiolir gan un cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Llantrisant a Phont-y-clun yn golygu y byddai nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Tonysguboriau yn gostwng i 1,967.
6.21 Ar gyfer yr holl adrannau etholiadol a nodir uchod, rydym o'r farn nad yw'r newidiadau yn nifer yr etholwyr o ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig i ffiniau mor sylweddol fel bod angen cynyddu neu leihau nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli pob adran etholiadol ar hyn o bryd. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn yn arolygu trefniadau etholiadol yr holl brif gynghorau yng Nghymru, a rhagwelwn y byddwn yn derbyn cyfarwyddiadau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru fel canllaw i ni wrth gynnal yr arolwg. Bryd hynny, byddwn yn edrych yn fanwl ar drefniadau etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn ystyried unrhyw newidiadau sy'n codi o'r newidiadau arfaethedig hyn i ffiniau cymunedol.
7. CYDNABYDDIAETH
7.1 Dymunwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'r Cynghorau Cymuned am eu cymorth ac i bob person a chorff a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni.
8. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
8.1 Dylid anfon yr holl arsylwadau ar yr adroddiad drafft hwn at:
Yr Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas Caerdydd CF10 3BEerbyn 25 Hydref 2007 fan bellaf.
9. Y CAMAU NESAF
9.1 Byddwn yn cyflwyno ein hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ffurf adroddiad a chynigion ar ôl i ni ystyried y sylwadau a gawn mewn ymateb i'r adroddiad drafft hwn. Yna, os byddant o'r farn eu bod yn gweddu, cyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru fydd rhoi ein hargymhellion ar waith, naill ai gydag addasiadau neu hebddynt.
MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)
D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Dirprwy Gadeirydd)
Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Aelod)
E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)
Awst 2007
