Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O'R FFINIAU AROLWG O FFINIAU CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF

CYNIGION DRAFFT

ATODIAD C

Crynodeb o Gynrychioliadau a Dderbyniwyd Cyn y Cynigion Drafft

PONT-Y-CLUN / LLANHARAN / LLANTRISANT

Byddai Cyngor Cymuned Llanharan yn dymuno i ffin Llanharan aros fel y mae ar hyn o bryd, ac eithrio stad Ynysddu a ddylai gael ei throsglwyddo o Lanharan i Bont-y-clun. Daeth y cyngor i'r penderfyniad hwn ar ôl cynnal arolwg o 270 o gartrefi.

Canlyniadau (ymateb gan 40% fel a ganlyn)
10% Heb farn benodol
83% O blaid symud i Bont-y-clun
7% Aros yn Llanharan

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Pont-y-clun i gefnogi'r awgrymiadau a gynigiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Gofynnwyd ganddynt, yn benodol, bod sylw'r Comisiwn yn cael ei dynnu at yr affinedd agos rhwng y datblygiadau preswyl newydd yn Ynysddu a Chlos Brenin, y ddau union gerllaw'r ffin bresennol, â Phont-y-clun. Roeddent o'r farn yr amlygir yr affinedd gan y ffaith fod trigolion y ddau ddatblygiad yn defnyddio siopau, meddygfeydd a deintyddfeydd Pont-y-clun, yn defnyddio cyfleusterau hamdden Pont-y-clun, yn mynychu mannau addoli Pont-y-clun ac yn anfon eu plant i ysgolion Pont-y-clun.

Ysgrifennodd un o drigolion Llanharan i ddweud yr awgrymwyd uno Ynysddu â Phont-y-clun 20 mlynedd yn ôl. Gofynnodd Cyngor Cymuned Llanharan i bob cartref (225 bryd hynny) am eu barn am y newid awgrymedig. Bryd hynny fe wnaethant bleidleisio i aros yn ward Llanharan. Awgrymodd un o'r trigolion bod yr un peth yn cael ei wneud eto ar gyfer y cartrefi presennol (265 erbyn hyn), gan fod ganddynt hawl ddemocrataidd. Eu rhagorfraint hwythau wedyn fyddai gwneud cynrychiolaethau i'w Cynghorwyr, AC a'u AS priodol.

Ysgrifennodd dau o drigolion Llantrisant i fynegi'u pryderon lu ynghylch diffyg cyfyngiad traffig yn ardal Llantrisant.

Dywedodd un o drigolion Llantrisant bod pobl sy'n byw yn Llantrisant, Llanhari, Pont-y-clun a Llanharan, oherwydd adleoli prif swyddfeydd y cyngor i Glydach neu Bontypridd, yn gorfod teithio'n bell i fynychu cyfarfodydd cynllunio. Mynegodd ei bryderon hefyd ynglyn â diffyg mesurau traffig yn yr ardal.

HIRWAUN /PEN-Y-WAUN / Y RHIGOS

Nododd Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn y newidiadau awgrymedig i'r ffin gymunedol i gynnwys Trewaun a Thenant yng Nghymuned Hirwaun. Roeddent o'r farn fod y newidiadau awgrymedig, ac eithrio un darn byr, yn mynd yn ôl at y ffiniau gwreiddiol ac yn hynny o beth nid ymddengys bod unrhyw reswm i beidio â throi'n ôl yn llawn at y ffin wreiddiol, sef y cwrs dwr naturiol sydd yn rhannu cymunedau Pen-y-waun a Hirwaun. Un pryder gan y Cynghorwyr oedd bod Pen-y-waun wedi'i ddynodi yn ardal Cymunedau yn Gyntaf, ond nid felly Hirwaun. Bydd trosglwyddo rhyw 200 o anheddau allan o Ben-y-waun i gymuned Hirwaun yn cael effaith sylweddol ar y ddwy gymuned.

Byddai Cyngor Cymuned y Rhigos yn dymuno i'r ffin ar gyfer y Rhigos aros fel y mae ar hyn o bryd.

23/8/2007