Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O'R FFINIAU ADOLYGIAD O FFINIAU CYMUNEDOL YN SIR POWYS

ADRODDIAD A CHYNIGION

  1. CYFLWYNIAD
  2. CYNIGION CYNGOR SIR POWYS
  3. YSTYRIAETH Y COMISIWN
  4. GWEITHDREFN
  5. CYNIGION
  6. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
  7. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN

Andrew Davies AC

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

Llywodraeth Cynulliad Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Mae Cyngor Sir Powys wedi cynnal adolygiad o ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol cymunedol o dan Adrannau 55(2) a 57 (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (y Ddeddf). Yn unol ag Adran 55(2) o'r Ddeddf mae Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno adroddiad i'r Comisiwn yn rhoi manylion am eu cynigion am newidiadau i nifer o ffiniau cymunedol yn eu hardal (Atodiad A).

1.2 Rydym wedi ystyried adroddiad Cyngor Sir Powys yn unol ag Adran 55(3) o'r Ddeddf ac yn cyflwyno'r adroddiad canlynol ar argymhellion y Cyngor.

2. CYNIGION CYNGOR SIR POWYS

2.1 Cyflwynwyd cynigion Cyngor Sir Powys i'r Comisiwn ar 7 Tachwedd 2006 ( Atodiad A). Nid yw'r Comisiwn wedi derbyn unrhyw gynrychioliadau am y cynigion.

2.2 O ganlyniad i'w hadolygiad mae'r Cyngor wedi argymell newidiadau i'r ffiniau rhwng y cymunedau canlynol: Aberhonddu a Glyn Tarell, Crughywel a Dyffryn Grwyne, Duhonwy a Llanfair-ym-Muallt, Y Gelli Gandryll a Llanigon, Glyn Tarell a Llanfrynach, Tawe-Uchaf ac Ystradfellte, Castell Caereinion a Llanfair Caereinion, Ceri a'r Ystog, Llandysul a'r Drenewydd a Llanllwchaearn, Llangedwyn a Llansanffraid, Llanidloes a Llangurig, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Trefaldwyn a'r Ystog, Llanddewi-yn-hwytyn a Tref-y-clawdd. Maent hefyd wedi argymell newid i'r ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

2.3 Yn eu hadroddiad mae Cyngor Sir Powys wedi cynnwys mapiau sy'n rhoi manylion am bedwar o'r newidiadau ffiniau a argymhellwyd. Ar gyfer y newidiadau sy'n weddill cynhyrchodd Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn fapiau wedi'u dehongli o'r disgrifiadau yn nhestun yr adroddiad. Anfonwyd y mapiau hyn i Gyngor Sir Powys a gadarnhaodd wedyn fod y newidiadau a argymhellwyd wedi'u dehongli'n gywir.

3. YSTYRIAETH Y COMISIWN

3.1 Ystyriom yn gyntaf a oedd y Cyngor Sir wedi cynnal eu hadolygiad yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y Ddeddf. Ystyriom wedyn a oedd y newidiadau a argymhellwyd yn addas er mwyn sicrhau llywodraeth leol effeithiol a hwylus.

4. GWEITHDREFN

4.1 Mae Adran 60 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gymryd y camau yr ystyriant eu bod yn addas i sicrhau bod personau a allai fod â diddordeb yn yr adolygiad yn cael gwybod am y bwriad i gynnal yr adolygiad ac wedi hynny am y cynigion drafft sydd i'w gosod yn swyddfeydd y Cyngor. Mae rheidrwydd hefyd i'r adroddiad cynigion terfynol fod ar gael o swyddfeydd y Cyngor am gyfnod o chwe mis.

4.2 Rydym yn fodlon bod Cyngor Sir Powys wedi cynnal yr adolygiad yn unol â'r weithdrefn a nodir yn Adran 60 o'r Ddeddf.

5. CYNIGION

Aberhonddu a Glyn Tarell

5.1 Mae'r newid a argymhellir i'r ffin gymunedol yn golygu trosglwyddo ardal fechan sy'n cynnwys un uned ddiwydiannol o Gymuned Glyn Tarell i Gymuned Aberhonddu. Nodom nad effeithir ar unrhyw etholwr gan y newid a argymhellir ac nad oedd Cyngor Sir Powys wedi derbyn unrhyw gynrychioliadau yn ymwneud â'r cynnig. Rydym wedi archwilio'r mapiau perthnasol ac wedi ymweld â'r safle ac yn ystyried bod y ffin a argymhellir yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Aberhonddu a Chymuned Glyn Tarell fel y nodir ar y map yn Atodiad B.

Crughywel a Dyffryn Grwyne

5.2 Mae'r newid a argymhellir i'r ffin gymunedol yn golygu trosglwyddo ardal sy'n cynnwys safle ffatri Elvicta, gweithfeydd carthffosiaeth y dref a meysydd chwaraeon y dref o Gymuned Dyffryn Grwyne i Gymuned Crughywel. Rydym wedi archwilio'r mapiau perthnasol ac wedi cynnal ymweliad safle â'r ardal ac yn ystyried bod y ffin a argymhellir yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy. Sylwom, yn ystod yr adolygiad, fod Cyngor Cymuned Dyffryn Grwyne wedi gwrthwynebu'r cynnig. Rydym fodd bynnag, yn sylweddoli, gan nad yw'r newid a argymhellir yn effeithio ar unrhyw adeilad preswyl ac yr ymddengys bod gan yr ardal berthynas agos â Chymuned Crughywel, bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Crughywel a Chymuned Dyffryn Grwyne fel y nodir ar y map yn Atodiad C.

Duhonwy a Llanfair-ym-Muallt

5.3 Mae'r newid a argymhellir i'r ffin gymunedol yn golygu trosglwyddo ardal sy'n cynnwys eiddo Erwhelm o Gymuned Llanfair-ym-Muallt i Gymuned Duhonwy. Yn ystod ein hymweliad safle â'r ardal nodwyd fod y lôn i'r gogledd o'r ffin sy'n arwain at Lanfair-ym-Muallt heb fetlin ychydig wedi mynd heibio i Erwhelm. Roedd hyn yn gwneud hi'n anodd i gerbyd modur safonol ddefnyddio'r lôn i gael mynediad i'r eiddo o gyfeiriad Llanfair-ym-Muallt ac ymddengys felly fod y brif fynedfa i'r eiddo drwy Gymuned Duhonwy. Nodom hefyd fod y ffin a argymhellir yn dilyn llinellau ffensys pendant. Ymddengys inni fod gan Erwhelm berthynas agosach â Chymuned Duhonwy na Chymuned Llanfair-ym-Muallt. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Duhonwy a Chymuned Llanfair-ym-Muallt fel y nodir yn Atodiad D.

Y Gelli Gandryll a Llanigon

5.4 Mae'r newid a argymhellir i'r ffin gymunedol yn golygu trosglwyddo'r rhan honno o gymuned Llanigon sy'n ffinio â ffin orllewinol tref y Gelli Gandryll yn Fferm Gipsy Castle a The Burlands i mewn i gymuned y Gelli Gandryll. Nodom nad oedd Cyngor Sir Powys wedi derbyn unrhyw gynrychioliadau mewn perthynas â'r newid argymelledig hwn yn ystod yr adolygiad. Yn dilyn ymweliad safle â'r ardal rydym yn fodlon bod y ffin a argymhellir yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus ac felly yn argymell newid i'r ffin rhwng Cymuned Y Gelli Gandryll a Chymuned Llanigon fel y nodir ar y map yn Atodiad E.

Glyn Tarell a Llanfrynach

5.5 Mae'r newid a argymhellir i'r ffin gymunedol yn golygu trosglwyddo ardal sy'n cynnwys yr eiddo a elwir The Held o Gymuned Glyn Tarell i Gymuned Llanfrynach. Ystyriai'r Cyngor fod yr eiddo a elwir The Held yn sefyll ar elin o Gymuned Glyn Tarell ac mai'r unig fynediad i'r eiddo oedd drwy Gymuned Llanfrynach. Yn ystod ein hymweliad safle sefydlwyd mai'r unig fynediad i The Held oedd drwy Gymuned Llanfrynach. Rydym o'r farn bod gan yr eiddo fwy yn gyffredin â Chymuned Llanfrynach na Chymuned Glyn Tarell. Rydym wedi archwilio'r mapiau perthnasol ac wedi cynnal ymweliad safle â'r ardal ac yn ystyried bod y ffin yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Glyn Tarell a Chymuned Llanfrynach fel y nodir yn y map yn Atodiad F.

Tawe-Uchaf ac Ystradfellte

5.6 Argymhellodd Cyngor Sir Powys addasu'r ffin ddwyreiniol â Chymuned Ystradfellte i gynnwys y ffermydd canlynol, Tonyfildre, Cefnwaunynog a Nant-y-fedwen ac er mwyn cyflawni hyn byddai ffin ddwyreiniol ar gyfer cymuned Tawe-Uchaf yn Nant-y-moel yn fwy priodol. Ystyriai'r Cyngor fod daearyddiaeth a safle ffyrdd lleol yn awgrymu bod y tair annedd hyn yn perthyn yn agosach at anheddiad Coelbren na Phontneddfechan. Sylwom yn ystod yr adolygiad na dderbyniodd y cyngor unrhyw gynrychioliadau mewn perthynas â'r newid hwn. Yn ystod ein hymweliad safle sefydlwyd fod mynediad mwyaf uniongyrchol i'r ffermydd o dan sylw drwy Gymuned Tawe-Uchaf yn hytrach na Chymuned Ystradfellte. Ystyriom hefyd fod y ffin a argymhellwyd yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Tawe-Uchaf a Chymuned Ystradfellte fel y nodir ar y map yn Atodiad G.

Castell Caereinion a Llanfair Caereinion

5.7 Yn ei adroddiad argymhellodd Cyngor Sir Powys y dylid trosglwyddo eiddo ar hyd Lôn Fronhaul (Tanycoed, Tynewydd, The Grange, Glynhwdog, The Ochr a Ty'n y Brwydd) i Gymuned Castell Caereinion o Gymuned Llanfair Caereinion. Ystyriai'r Cyngor fod trigolion Lôn Fronhaul yn troi at Gastell Caereinion am wasanaethau lleol ac nid oes mynediad uniongyrchol i Gymuned Llanfair Caereinion. Sylwom na dderbyniodd Cyngor Sir Powys unrhyw gynrychioliadau mewn perthynas â'r newid hwn yn ystod yr adolygiad. Yn ystod ein hymweliad safle cadarnhaom fod mynediad i Lôn Fronhaul drwy Gymuned Castell Caereinion a chadarnhau hefyd fod y ffin a argymhellir yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Castell Caereinion a Chymuned Llanfair Caereinion fel y nodir ar y map yn Atodiad H.

Ceri a'r Ystog

5.8 Mae'r newid a argymhellir i'r ffin gymunedol yn golygu trosglwyddo Lower House, Sarn o gymuned yr Ystog i Gymuned Ceri. Yn ystod yr ymweliad safle â'r ardal cadarnhaom fod mynediad i Lower House drwy Gymuned Ceri a bod y ffin arfaethedig yn dilyn nodweddion daearyddol pendant. Yn ystod yr ymweliad siaradom ni hefyd â thrigolion Lower House a gadarnhaodd eu bod yn fodlon ar y newid arfaethedig i'r ffin gymunedol ac a gadarnhaodd hefyd fod y ffin arfaethedig yn briodol. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Ceri a Chymuned Yr Ystog fel y nodir yn y map yn Atodiad I.

Llandysul a'r Drenewydd a Llanllwchaearn

5.9 Mae'r Cyngor yn argymell trosglwyddo pentref bach Aberbechan yn gyfan gwbl i Gymuned Llandysul o Gymuned y Drenewydd a Llanllwchaearn. Byddai'r newid hwn yn cynnwys eiddo Ponbechan (chwe annedd), Glen Coe, The Swallows a Tynllwyn. Sylwom ni na dderbyniwyd unrhyw gynrychioliadau mewn perthynas â'r newid hwn yn ystod yr adolygiad. Wrth ymweld â phentref Aberbechan sylwyd nad oedd dau le pellach wrth gefn Glen Coe, The Swallows a Tynllwyn, wedi'u cynnwys yn y newid a argymhellir gan Gyngor Sir Powys. Sylwom fod mynediad i'r ddau le hyn (Neuadd-fraith a Bryn Bechan) drwy gyfrwng yr un ffordd â Glen Coe, The Swallows a Tynllwyn ac ystyriom ni fod y ddau le hyn hefyd yn rhan o Aberbechan. Ystyriom felly newid ffin amgen, helaethach na'r hwnnw a argymhellwyd gan Gyngor Sir Powys. Anfonom ni fanylion ein diwygiad at Gyngor Sir Powys a phreswylwyr y ddau le ychwanegol a gofyn am eu barn. Yn ei gyfarfod ar 3 Ebrill 2007, derbyniodd Bwrdd Cyngor Sir Powys y newid hwn a chawsom ni ymateb gan breswylwyr un o'r eiddo a ddywedodd nad oedd gwrthwynebiad ganddynt i'r newidiadau i'r ffin. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir fel y diwygiwyd gan y Comisiwn o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Llandysul a Chymuned Y Drenewydd a Llanllwchaearn fel y nodir ar y map yn Atodiad J.

Llangedwyn a Llansanffraid

5.10 Mae'r newid a argymhellir i'r ffin gymunedol yn golygu trosglwyddo'r rhan honno o aneddiad Pen-y-bont Llanerchemrys sydd ar hyn o bryd yng Nghymuned Llansanffraid i Gymuned Llangedwyn. Ystyriai Cyngor Sir Powys fod gan yr eiddo Old New Inn ac 1 a 2 bythynnod Old New Inn, sydd ar hyn o bryd y tu allan i ardal anheddiad pentref Pen-y-bont Llanerchemrys, gyswllt agos â'r pentref. Awgrymodd y Cyngor i'r ffin newydd ddilyn yr hen linell reilffordd o ger Penisarmynydd i Neuadd Pen-y-bont. Wrth ymweld â'r ardal sylwyd fodd bynnag nad oedd yr hen reilffordd yn cynnig nodwedd ddaearyddol bendant mewn mannau. Ystyriom felly ffin amgen sy'n trosglwyddo ardal lai ond sy'n dal i gynnwys yr eiddo Old New Inn ac 1 a 2 bythynnod Old New Inn. Anfonom fanylion ein diwygiad i Gyngor Sir Powys a gofyn am eu barn. Yn eu cyfarfod ar 3 Ebrill 2007, derbyniodd Bwrdd Cyngor Sir Powys y newid hwn hefyd. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid y ffin rhwng Cymuned Llangedwyn a Chymuned Llansanffraid fel y nodir ar y map yn Atodiad K.

Llanidloes a Llangurig

5.11 Mae Cyngor Sir Powys wedi argymell symud rhan o safle cyflogaeth gyffredinol Parc Hafren sydd ar hyn o bryd yn rhan o Gymuned Llangurig i Gymuned Llanidloes. Yn ystod ein hymweliad safle sylwom fod ystâd ddiwydiannol Parc Hafren ar gyrion Llanidloes ond ei bod yn sefyll ond rhyw bedair milltir o Langurig. Sylwom hefyd fod y ffin a argymhellir yn dilyn llinell ffensys bendant a bod cyfle i ehangu yn y dyfodol o fewn ardal yr ystâd ddiwydiannol. Sylwom hefyd nad yw'r newid a argymhellir yn effeithio ar unrhyw etholwr ac na dderbyniodd y Cyngor unrhyw gynrychioliadau yn ystod cyfnod eu hadolygu. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Llanidloes a Chymuned Llangurig fel y nodir ar y map yn Atodiad L.

Llanrhaeadr-ym-Mochnant

5.12 Yr argymhelliad yw cyfuno cymunedau presennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn-ddosbarth Glyndwr) a Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn-ddosbarth Trefaldwyn) i ffurfio un gymuned newydd. Wedi cynnal ymweliad safle â'r ardal mae'n amlwg bod pentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn un pentref cydlynol. Ystyriwn felly bod y bwriad i uno'r ddwy gymuned o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly uno'r ddwy Gymuned presennol yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant i ffurfio un Gymuned o'r enw Llanrhaeadr-ym-Mochnant (gweler y map yn Atodiad M).

Trefaldwyn a'r Ystog

5.13 Yr argymhelliad yw trosglwyddo ardal Weston Madoc, sydd ar o hyn o bryd yn rhan ddatgysylltiedig o gymuned Yr Ystog, o'r Gymuned honno i Gymuned Trefaldwyn. Sylwom fod Cyngor Sir Powys wedi nodi na chawsant unrhyw wrthwynebiad i'r newid arfaethedig yn ystod eu cyfnod adolygiad. Wrth ymweld â'r ardal ein barn ni oedd bod gan ardal Yr Ystog (datgysylltiedig) berthynas â Threfaldwyn. Nodwyd hefyd er mwyn teithio i'r Ystog (datgysylltiedig) o'r Ystog, gan ddefnyddio'r ffordd fwyaf uniongyrchol, mae angen teithio drwy ran o Loegr. Ystyriwn felly bod y newid a argymhellir gan Gyngor Sir Powys o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly fod yr ardal a adwaenir ar hyn o bryd yn Yr Ystog (datgysylltiedig) yn cael ei symud o Gymuned Yr Ystog ac yn cael ei huno â Chymuned bresennol Trefaldwyn (gweler y map yn Atodiad N).

Llanddewi-yn-hwytyn a Tref-y-clawdd

5.14 Yr argymhelliad yw trosglwyddo holl anheddiad di-ddosbarth Rhos y Meirch o Gymuned Trefyclo i Gymuned Llanddewi-yn-hwytyn. Sylwom fod Cyngor Sir Powys wedi adrodd na chawsant unrhyw wrthwynebiadau i'r newid arfaethedig yn ystod eu cyfnod adolygiad. Wrth ymweld ag anheddiad Rhos y Meirch nodwyd nad oedd rhan o ffin arfaethedig Clawdd Offa yn nodwedd ddaearyddol bendant. Nodwyd ar y pryd hwn fod Llwybr Clawdd Offa wedi'i ddargyfeirio oddi wrth linell y Clawdd i ddilyn y ffyrdd. Ystyriom fod y llinell hon yn creu ffin fwy pendant wrth dal i gwmpasu'r holl eiddo o fewn y cynnig gwreiddiol. Anfonom fanylion ein diwygiad i Gyngor Sir Powys a gofyn am eu barn. Yn eu cyfarfod ar 3 Ebrill 2007, derbyniodd Bwrdd Cyngor Sir Powys y newid hwn hefyd. Rydym o'r farn bod y newid a argymhellir o fudd o safbwynt llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Llanddewi-yn-hwytyn a Chymuned Trefyclo fel y nodir ar y map yn Atodiad O.

Ffin Powys a Merthyr Tudful

5.15 Yn ei adroddiad argymhellodd Cyngor Sir Powys newid i'r ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Gan fod ystyried prif ffiniau ardal tu allan i delerau Adran 55(2) rydym yn bwriadu cynnal adolygiad o'r ffin rhwng Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn hwyrach.

6. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL

6.1 Wrth ystyried y newidiadau amrywiol i'r ffiniau cymunedol roedd yn rhaid inni hefyd ystyried yr effeithiau ar drefniadau etholiadol i gynghorau cymuned a'r prif awdurdod, a fyddai'n codi o ganlyniad i'r newidiadau hyn. Mae'r adran hon o'n hadroddiad yn rhoi manylion ein cynigion am newidiadau ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol. Darparwyd yr ystadegau etholiadol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn gan Gyngor Sir Powys.

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned

6.2 Nid yw'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Aberhonddu a Chymuned Glyn Tarell yn cynnwys trosglwyddo unrhyw etholwyr. Gan hynny, nid oes angen unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol cyngor cymuned Cymuned Aberhonddu na Chymuned Glyn Tarell o ganlyniad i'r newid hwn.

6.3 Nid yw'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Crughywel a Chymuned Dyffryn Grwyne yn golygu trosglwyddo unrhyw etholwyr. Gan hynny, nid oes angen unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol Cyngor Cymuned Crughywel na Chymuned Dyffryn Grwyne o ganlyniad i'r newid hwn.

6.4 Mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Llanfair-ym-Muallt a Chymuned Duhonwy yn golygu trosglwyddo un eiddo â 2 etholwr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i nifer yr etholwyr yn teilyngu newid yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r naill na'r llall o'r cymunedau hyn.

6.5 Mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Y Gelli Gandryll a Chymuned Llanigon yn golygu trosglwyddo 3 etholwr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i nifer yr etholwyr yn teilyngu newid yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r naill na'r llall o'r cymunedau hyn.

6.6 Mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Glyn Tarell a Chymuned Llanfrynach yn golygu trosglwyddo un eiddo â 2 etholwr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i rif yr etholwyr yn teilyngu newid yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r naill na'r llall o'r cymunedau hyn.

6.7 Mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Ward Coelbren Cymuned Tawe Uchaf a Chymuned Ystradfellte yn golygu trosglwyddo 6 etholwr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i nifer yr etholwyr yn teilyngu newid yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r naill na'r llall o'r cymunedau hyn.

6.8 Mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Castell Caereinion a Chymuned Llanfair Caereinion yn golygu trosglwyddo 10 etholwr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i nifer yr etholwyr yn teilyngu newid yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r naill na'r llall o'r cymunedau hyn.

6.9 Mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Ward Sarn yng Nghymuned Ceri a Chymuned Yr Ystog yn golygu trosglwyddo un eiddo â 3 etholwr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i nifer yr etholwyr yn teilyngu newid yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r naill a'r llall o'r cymunedau hyn.

6.10 Mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Ward Aber-miwl yng Nghymuned Llandysul a Gward Gogledd Llanllwchaearn yng Nghymuned Drenewydd a Llanllwchaearn yn golygu trosglwyddo 17 etholwr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i nifer yr etholwyr yn teilyngu newid yn nifer yr etholwyr sy'n cynrychioli'r naill na'r llall o'r cymunedau hyn.

6.11 Mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Ward Pool yng Nghymuned Llansanffraid i mewn i Gymuned Llangedwyn yn golygu trosglwyddo 3 etholwr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i nifer yr etholwyr yn teilyngu newid yn rhif y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r naill na'r llall o'r cymunedau hyn.

6.12 Nid yw'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Llanidloes a Chymuned Llangurig yn golygu trosglwyddo unrhyw etholwr. Gan hynny, nid oes angen unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol cyngor y gymuned yng Nghymuned Llanidloes na Chymuned Llangurig o ganlyniad i'r newid hwn.

6.13 O dan ein cynigion bydd Cymuned newydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn cael ei ffurfio drwy gyfuno cymunedau presennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn-ddosbarth Glyndwr) a Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn-ddosbarth Trefaldwyn). Mae gan gymuned bresennol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn-ddosbarth Glyndwr) 602 o etholwyr a gynrychiolir gan 10 cynghorydd ac mae gan gymuned gyfredol Llanrhaeadr-ym-Mochnant (yng nghyn-ddosbarth Trefaldwyn) 378 o etholwyr a gynrychiolir gan 8 cynghorydd. Sylwom fod Cyngor Sir Powys yn eu hadroddiad adolygu a fabwysiadwyd ym mis Awst 2006, yn cynnig bod y gymuned newydd yn cael ei chynrychioli gan 11 cynghorydd. Ystyriwn fod 11 cynghorydd sy'n cynrychioli 980 etholwr yn lefel briodol o gynrychiolaeth ar gyfer yr ardal hon a chynigiwn felly.

6.14 O dan ein hargymhellion bydd yr ardal a adwaenir ar hyn o bryd fel Yr Ystog (datgysylltiedig) yn cael ei throsglwyddo o Gymuned Yr Ystog a'i chyfuno â Chymuned bresennol Trefaldwyn. Mae gan ardal bresennol Yr Ystog (datgysylltiedig) 36 etholwr. Er ein bod ni'n ystyried y gallai gostyngiad o 36 etholwr yng Nghymuned Yr Ystog deilyngu newid ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol, sylwom fod Cyngor Sir Powys wedi gwneud cynigion am newid sylweddol i drefniadau etholiadol Cymuned Yr Ystog ac yn bwriadu gwneud y gorchymyn perthnasol ar ôl datrys mater y ffin gymunedol. Rydym yn fodlon felly i beidio â gwneud argymhelliad am newid ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol Cymuned Yr Ystog ac i aros i'r gorchymyn am newid sylweddol gael ei wneud gan Gyngor Sir Powys. Yng nghyd-destun trefniadau etholiadol Cymuned Trefaldwyn, mae gan yr ardal gyfredol 992 o etholwyr a gynrychiolir gan 11 cynghorydd. Ystyriwn nad yw cynnydd o 36 etholwr yn teilyngu newid yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli Cymuned Trefaldwyn.

6.15 Mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Llanddewi-yn-hwytyn a Chymuned Trefyclo yn golygu trosglwyddo 15 etholwr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i nifer yr etholwyr yn teilyngu newid yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r naill na'r llall o'r cymunedau hyn.

Trefniadau Etholiadol Cyngor Sir

6.16 Mae Adran Etholiadol Ward St. David Fewnol yn cynnwys Ward Cymuned Aberhonddu. Dim ond newid bach i Ward St. David Mewnol y mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Aberhonddu a Chymuned Glyn Tarell yn ei olygu ac nid yw'n golygu trosglwyddo unrhyw etholwr. Cynigiwn felly newid i'r ffin ond dim newid yn nifer y cynghorwyr yng nghyd-destun Adran Etholiadol St. David Fewnol.

6.17 Nodom argymhelliad Cyngor Sir Powys yng nghyd-destun Adran Etholiadol St John (sy'n cynnwys Ward St. John presennol Cymuned Aberhonddu). Mae'r argymhelliad hwn yn codi o newid arfaethedig y Cyngor i drefniadau etholiadol Cymuned Aberhonddu. Ni allwn ystyried yr argymhelliad hwn fel newid ôl-ddilynol i'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Aberhonddu a Glyn Tarell gan nad yw'r newid hwn yn cynnwys Adran Etholiadol St. John. Bydd y newidiadau a wneir i drefniadau etholiadol Cymuned Aberhonddu o ganlyniad i'r gorchymyn mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu ei wneud yn cael eu hystyried yn ein hadolygiad o drefniadau etholiadol sydd i ddod (gweler paragraff 6.32).

6.18 Mae Adran Etholiadol Crughywel yn cynnwys Cymunedau Crughywel a Dyffryn Grwyne. Ni fydd y newid arfaethedig i'r ffin rhwng y ddwy gymuned felly yn galw am newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Sir Powys.

6.19 Mae Adran Etholiadol Llanfair-ym-Muallt yn cynnwys Cymunedau Llanfair-ym-Muallt â 1,934 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd ac Adran Etholiadol Llanafanfawr sy'n cynnwys Cymunedau Cilmeri, Duhonwy, Llanafanfawr a Llanwrthwl â 1,147 etholwr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Gan mai dim ond trosglwyddo 2 etholwr y golyga'r newid i'r ffin rhwng Cymuned Llanfair-ym-Muallt a Chymuned Duhonwy, cynigiwn newid i'r ffin ond dim newid i'r nifer o gynghorwyr mewn perthynas â threfniadau etholiadol Adrannau Llanfair-ym-Muallt a Llanafanfawr.

6.20 Mae Adran Etholiadol Y Gelli yn cynnwys Cymuned Y Gelli â 1,328 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Mae Adran Etholiadol Gwernyfed yn cynnwys Cymunedau Gwernyfed a Llanigon â 1,229 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Gan fod newid i'r ffin rhwng Cymuned Y Gelli a Chymuned Llanigon yn golygu trosglwyddo 3 etholwr yn unig, cynigiwn newid i'r ffin ond dim newid i'r nifer o gynghorwyr mewn perthynas â threfniadau etholiadol yn Adrannau Etholiadol Y Gelli a Gwernyfed.

6.21 Mae Adran Etholiadol Tal-y-bont ar Wysg yn cynnwys Cymunedau Glyn Tarell, Llanfrynach a Thal-y-bont ar Wysg. Ni fydd y newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Glyn Tarell a Chymuned Llanfrynach felly yn galw am newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol Cyngor Sir Powys. Mae'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Aberhonddu a Chymuned Glyn Tarell yn golygu newid bach i'r ffin ond nid yw'n golygu trosglwyddo unrhyw etholwyr. Cynigiwn felly newid i'r ffin ond dim newid i'r nifer o gynghorwyr mewn perthynas ag Adran Etholiadol Tal-y-bont ar Wysg.

6.22 Mae Adran Etholiadol Tawe-Uchaf yn cynnwys Cymunedau Tawe-Uchaf ac Ystradfellte. Ni fydd y newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Tawe-Uchaf a Chymuned Ystradfellte felly yn galw am newidiadau ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Sir Powys.

6.23 Mae Adran Etholiadol Cegidfa yn cynnwys Cymunedau Castell Caereinion a Chegidfa â 1,787 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd ac Adran Etholiadol Llanfair Caereinion yn cynnwys Cymuned Llanfair Caereinion â 1,266 etholwr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Gan mai trosglwyddo 10 etholwr yn unig y mae newid y ffin rhwng Cymuned Castell Caereinion a Chymuned Llanfair Caereinion, cynigiwn newid i'r ffin ond dim newid yn rhif y cynghorwyr mewn perthynas ag Adrannau Etholiadol Cegidfa a Llanfair Caereinion.

6.24 Mae Adran Etholiadol Yr Ystog yn cynnwys Cymuned Yr Ystog â 1,285 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. O ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig i'r ffiniau rhwng Cymuned Yr Ystog a Chymunedau Ceri a Threfaldwyn bydd nifer yr etholwyr yn lleihau i 1,282. Nid ydym yn ystyried bod y newid i nifer yr etholwyr yn ddigon arwyddocaol i deilyngu newid i'r trefniadau etholiadol ar wahân i'r newidiadau i'r ffiniau a nodwyd.

6.25 Mae Adran Etholiadol Dolforwyn yn cynnwys Cymunedau Betws a Llandysul â 1,418 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd ac mae Adran Etholiadol Gogledd Y Drenewydd Llanllwchaearn yn cynnwys Ward Gogledd Cymuned Y Drenewydd a Llanllwchaearn â 1,666 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Gan fod y newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Llandysul a Ward Gogledd Llanllwchaearn Cymuned Y Drenewydd a Llanllwchaearn yn golygu trosglwyddo 17 etholwr yn unig, cynigiwn newid i'r ffin ond dim newid i nifer y cynghorwyr mewn perthynas â threfniadau etholiadol Adrannau Etholiadol Dolforwyn a Llanllwchaearn.

6.26 Mae Adran Etholiadol Llansanffraid yn cynnwys Cymunedau Llanfechain a Llansanffraid. Gan fod y newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Llansanffraid i mewn i Gymuned Llangedwyn yn golygu trosglwyddo 3 etholwr yn unig, cynigiwn newid i'r ffin ond dim newid i nifer y cynghorwyr mewn perthynas â threfniadau etholiadol Adran Etholiadol Llansanffraid.

6.27 Mae Adran Etholiadol Llanidloes yn cynnwys Cymuned Llanidloes ac mae Adran Etholiadol Blaen Hafren yn cynnwys Cymunedau Llangurig, Llanidloes Allanol a Threfeglwys. Nid yw'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Llanidloes a Chymuned Llangurig yn golygu trosglwyddo unrhyw etholwyr ac felly cynigiwn newid i'r ffin ond dim newid yn nifer y cynghorwyr mewn perthynas â threfniadau etholiadol Adrannau Etholiadol Llanidloes a Blaen Hafren.

6.28 Mae adran Etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn cynnwys Cymunedau Llangynog, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanwddyn a Phen-y-bont Fawr (yng nghyn-ddosbarth Sir Drefaldwyn) â 1,225 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd ac mae Adran Etholiadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant/Llansilin yn cynnwys Cymunedau Llangedwyn, Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin (yng nghyn-ddosbarth Glyndwr) â 1,386 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. O ganlyniad i'r cynnig i gyfuno dwy Gymuned Llanrhaeadr-ym-Mochnant a'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Llansanffraid i mewn i Gymuned Llangedwyn, mae Cyngor Sir Powys wedi argymell dwy Adran Etholiadol amgen fel a ganlyn:

6.29 Rydym yn poeni am yr anghysondeb rhwng lefelau cynrychiolaeth Adrannau Etholiadol argymelledig Llanwddyn a Llanrhaeadr-ym-Mochnant / Llansilin. Nodom, fodd bynnag, o dan drefniadau cyfredol, fod gan nifer o Adrannau Etholiadol nifer is neu gyffelyb o etholwyr ag Adran Etholiadol argymelledig Llanwddyn a bod gan nifer o Adrannau Etholiadol nifer uwch neu gyffelyb o etholwyr ag Adran Etholiadol argymelledig Llanrhaeadr-ym-Mochnant / Llansilin. Byddwn yn ymdrin â'r materion hyn fel rhan o'n hadolygiad arfaethedig o drefniadau etholiadol Cyngor Sir Powys (gweler paragraff 6.31). Cytunwn felly, yn y tymor byr, fod Adrannau Etholiadol argymelledig Llanrhaeadr-ym-Mochnant / Llansilin yn darparu trefniadau etholiadol priodol am yr ardal.

6.30 Mae Adran Etholiadol Trefaldwyn yn cynnwys Cymuned Trefaldwyn â 992 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. O ganlyniad i'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Yr Ystog a Chymuned Trefaldwyn bydd nifer yr etholwyr yn cynyddu i 1,028. Gan ein bod yn ystyried hyn yn lefel briodol o gynrychiolaeth am yr ardal, cynigiwn newid i'r ffin ond dim newid i nifer y cynghorwyr yng nghyd-destun Adran Etholiadol Trefaldwyn.

6.31 Mae Adran Etholiadol Llangynllo yn cynnwys Cymunedau Llanddewi Ystradenni, Llanfihangel Rhydithon, Llangynllo a Llanddewi-yn-hwytyn â 1,046 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd ac Adran Etholiadol Trefyclo sy'n cynnwys Cymuned Trefyclo â 2,415 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Gan fod y newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Llanddewi-yn-hwytyn a Chymuned Trefyclo yn golygu trosglwyddo 15 etholwr yn unig, cynigiwn newid i'r ffin ond dim newid i'r nifer o gynghorwyr mewn perthynas â threfniadau etholiadol Adrannau Etholiadol Llangynllo a Tref-y-clawdd.

6.32 O fewn y blynyddoedd nesaf bwriadwn gynnal adolygiad o drefniadau etholiadol pob prif gyngor yng Nghymru a rhagdybiwn y byddwn yn cael cyfarwyddiadau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i'n harwain ni wrth gynnal yr adolygiad. Bryd hynny byddwn yn edrych yn fanwl ar drefniadau etholiadol Cyngor Sir Powys a byddwn yn cymryd i ystyriaeth unrhyw newidiadau a fydd yn codi o'r newidiadau arfaethedig hyn i'r ffiniau cymunedol.

7. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN

7.1 Wedi gorffen ein hystyriaeth o'r adolygiad o ffiniau cymunedol yn Sir Powys a chyflwyno'n hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru, rydym wedi cyflawni'n rhwymedigaeth statudol o dan y Ddeddf .

7.2 Mater i Lywodraeth Cynulliad Cymru nawr, os y gwêl yn dda, yw derbyn neu cyfeirio naill ai at y Comisiwn neu'r Cyngor Sir er mwyn ymgymryd ag adolygiad pellach.

7.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychioliadau pellach yn ymwneud â'r materion yn yr adroddiad at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, a dim hwyrach na chwe wythnos ar ôl y dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyfeirio cwynion i'r:

Tîm Democratiaeth Adran Polisi Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Dirprwy Gadeirydd)

PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Gorffennaf 2007

4/7/2007