AROLWG O'R FFINIAU CYMUNEDOL A'R TREFNIADAU ETHOLIADOL CYMUNEDOL YM MWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT
ADRODDIAD A CHYNIGION
- CYFLWYNIAD
- CYNIGION BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT
- YSTYRIAETH Y COMISIWN
- GWEITHDREFN
- CYNIGION
- YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
Sue Essex AC
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. CYFLWYNIAD
1.1 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cynnal arolwg o'r ffiniau cymunedol a'r trefniadau etholiadol cymunedol o dan ddarpariaethau Adrannau 55(2) a 57 (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (y Ddeddf).
1.2 Rydym wedi ystyried adroddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn unol ag Adran 55(3) o'r Ddeddf ac yr ydym yn cyflwyno'r adroddiad canlynol ar argymhellion y Cyngor.
2. CYNIGION CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT
2.1 Cyflwynwyd cynigion Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i'r Comisiwn ar 7 Medi 2006 ( Atodiad A). Nid yw'r Comisiwn wedi cael unrhyw gynrychiolaethau am y cynigion.
2.2 O ganlyniad i'w arolwg, mae'r Cyngor wedi argymell nad oedd ganddynt unrhyw gynigion i'w gwneud ynglyn â newidiadau i'r ardal gymunedol ac na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i'r trefniadau etholiadol cynghorau cymunedol.
3. YSTYRIAETH Y COMISIWN
3.1 Ystyriom yn gyntaf a oedd y Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi cynnal ei arolwg yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y Ddeddf. Yna ystyriom a oedd y cynigion yn addas ar gyfer sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
4. GWEITHDREFN
4.1 O dan Adran 60 y Ddeddf mae'n ofynnol bod y Cyngor yn cymryd y cyfryw gamau y mae'n ei ystyried ei bod yn addas i sicrhau bod personau a allai fod â diddordeb yn yr arolwg yn cael gwybod am y cynnig i gynnal arolwg ac yn ddiweddarach eu bod yn cael gwybod am y cynigion drafft sydd i'w gosod yn swyddfeydd y Cyngor. Mae'n ofynnol hefyd bod adroddiad y cynigion terfynol hefyd yn cael ei osod yn swyddfeydd y Cyngor am gyfnod o chwe mis.
4.2 Rydym yn fodlon bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cynnal yr arolwg yn unol â'r weithdrefn a nodir yn Adran 60 y Ddeddf.
5. CYNIGION
5.1 O ran y newidiadau i ffiniau cymunedol, cafodd y Cyngor ddau newid awgrymedig oddi wrth Gyngor Cymuned Dyffryn Clydach: un yn ardal Primrose Bank a Wernddu a gynhwysir ar hyn o bryd yn Ward Gogledd Bryncoch yng Nghymuned Blaenhonddan; ac un yn ardal Abaty Castell-nedd i'r ffin â Chymuned Coed-ffranc. Ystyriodd y Cyngor nad oedd unrhyw newid sylweddol yn y naill ardal na'r llall ers pan nodwyd y ffin bresennol a daeth i'r casgliad nad oedd angen unrhyw newid.
5.2 O ran y newidiadau i'r trefniadau etholiadol Cymunedol, cafodd y Cyngor un newid awgrymedig i'r ffin rhwng Gwaun-Cae-Gurwen a Brynaman Isaf yng Nghymuned Gwaun-Cae-Gurwen. Unwaith eto, penderfynodd y Cyngor gan nad oedd unrhyw amgylchiadau newydd ers yr arolwg diwethaf, ni wneir unrhyw newidiadau i'r trefniadau etholiadol cymunedol, gan gynnwys Gwaun-Cae-Gurwen.
5.3 Rydym wedi arolygu'r mapiau diweddaraf o'r ardaloedd dan sylw ac rydym yn cytuno â'r Cyngor, gan nad ymddangosir bod unrhyw ddatblygiadau sylweddol wedi digwydd yn yr ardaloedd hyn, nid oes unrhyw fuddiannau o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i'w cael trwy newid naill ai'r ffiniau cymunedol na'r trefniadau etholiadol cymunedol.
6. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
6.1 Wedi cwblhau ein hystyriaeth o'r arolwg o'r ffiniau cymunedol a phenderfyniad y Cyngor Bwrdeistref Sirol am drefniadau etholiadol cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y Ddeddf.
6.2 Gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl yn dda, yw eu derbyn neu gyfarwyddo naill ai'r Comisiwn neu Cyngor Bwrdeistref Sirol i gynnal arolwg pellach.
6.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau pellach yn ymwneud â'r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, a beth bynnag nid hwyrach na chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:
Y Tîm Democratiaeth Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQMRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)
J DAVIES ICSA IPFA (Dirprwy Gadeirydd)
D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Aelod)
E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)
Rhagfyr 2006
