AROLWG O'R FFINIAU ADOLYGIAD O FFINIAU CYMUNEDOL YN SIR YNYS MÔN
ADRODDIAD A CHYNIGION
- CYFLWYNIAD
- CRYNODEB GWEITHREDOL
- CWMPAS A PHWRPAS YR AROLWG
- CYNIGION DRAFFT
- SYLWADAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
- ASESU
- CYNIGION
- TREFNIADAU CANLYNIADOL
- CYDNABYDDIAETH
- Y CAMAU NESAF
Brian Gibbons AC
Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cynulliad Cymru
1. CYFLWYNIAD
1.1 1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o'r Ffiniau Cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Ynys Môn yn unol â chyfarwyddyd y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei chyfarwyddyd i ni dyddiedig 20 Medi 2006 ( Atodiad A).
2. CRYNODEB GWEITHREDOL
2.1 Cynigiwn fod:
- y ffin rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur yn cael ei hailosod i ddilyn y ffin a ddangosir mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad D;
- y ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phenmynydd yn cael ei hailosod i ddilyn y ffin a ddangosir mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad E;
- y ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phentraeth yn cael ei hailosod i ddilyn y ffin a ddangosir mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad F; a'r
- ffin rhwng Cymunedau Pentraeth a Chymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf yn cael ei hailosod i ddilyn y ffin a ddangosir mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad G.
3. CWMPAS A PHWRPAS YR AROLWG
3.1 Pwrpas yr arolwg yw ystyried a ddylai'r Comisiwn gynnig newidiadau i'r ffiniau cymuned presennol, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Caiff yr arolwg ei gynnal o dan ddarpariaethau Adran 56(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf).
Gweithdrefn
3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn pennu canllawiau gweithdrefnol i'w dilyn wrth gyflawni arolwg. Yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw ysgrifennom ar 7 Tachwedd 2006 at Gynghorau Cymuned Cwm Cadnant, Penmynydd, Porthaethwy, Caergybi, Trearddur, Rhoscolyn, Pentraeth, Llanfair-Mathafarn-Eithaf a Llanddyfnan, Aelod Seneddol yr etholaeth leol, Aelodau Cynulliad yr ardal dan arolwg a phartïon eraill â buddiant i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal arolwg a gofyn am eu barnau cychwynnol. Cyn dechrau'r arolwg, derbyniodd Cyngor Sir Ynys Môn nifer o awgrymiadau ar gyfer newid ffiniau cymunedau. Amgaewyd rhestr o'r rhain gyda'r llythyr cychwynnol hwn ( Atodiad B). Cyhoeddasom hefyd ein bwriad i gynnal yr arolwg mewn papur newydd lleol yn cylchredeg yn yr ardal a gofynnasom i'r Cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus. Gosodwyd hysbysiad o gychwyn yr arolwg a dyddiad cau ar gyfer sylwadau (12 Ionawr 2007) ar wefannau'r Comisiwn a Chyngor Sir Ynys Môn.
4. CYNIGION DRAFFT
4.1 Mewn ymateb i'n gwahoddiad cychwynnol, derbyniasom sylwadau oddi wrth Gyngor Tref Caergybi, Cyngor Cymuned Rhoscolyn, Cyngor Cymuned Trearddur, Cyngor Cymuned Cwm Cadnant, Cyngor Tref Porthaethwy, Cyngor Cymuned Penmynydd a Star, Cyngor Cymuned Pentraeth, Cyngor Cymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf a Chyngor Cymuned Llanddyfnan, Ieuan Wyn Jones AC, Mark Isherwood AC, y Cynghorydd P J Dunning, y Cynghorydd W J Williams a nifer o drigolion. Yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 9 Gorffennaf 2007, ystyriasom y materion a godwyd yn y sylwadau.
4.2 Cynigiwyd newidiadau awgrymedig i ffiniau cymunedau yn yr ardaloedd canlynol: Caergybi, Trearddur, Rhoscolyn, Pentraeth, Llanfair-Mathafarn-Eithaf, Llanddyfnan, Cwm Cadnant, Penmynydd a Phorthaethwy.
Caergybi / Trearddur / Rhoscolyn
4.3 Awgrymodd Cyngor Tref Caergybi y dylid cyfuno'r tair cymuned a gynhwysir gan Ynys Gybi (Caergybi, Trearddur a Rhoscolyn) i ffurfio un ardal gymuned. Ystyriai'r Cyngor Tref eu bod mewn sefyllfa dda i ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol y ddwy ardal arall. Fodd bynnag, nodasom y gwrthwynebiadau i'r awgrym hwn a wnaed gan Gynghorau Cymuned Trearddur a Rhoscolyn a nifer o drigolion, ynghyd â phryderon y ddau Aelod Cynulliad a ysgrifennodd atom. Ar ôl ystyried y pwyntiau a godwyd yn y sylwadau ac ymweld â'r ardal, roeddem o'r farn bod y tair ardal yn wahanol eu natur ac mai'r trefniant presennol o dri chyngor cymuned ar wahân oedd y ffordd orau o ddiwallu buddion llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn yr ardal.
4.4 Awgrymodd Cyngor Tref Caergybi hefyd y dylid cynyddu eu hardal nhw i gynnwys o leiaf y parc adwerthu newydd ym Mhenrhos a datblygiad Ty Mawr. Mewn sylw arall, gofynnwyd am roi ystyriaeth i drosglwyddo'r gwaith alwminiwm o Gymuned Trearddur iddynt gan y byddai hyn yn sicrhau y byddai'r holl safleoedd diwydiannol ar gyffiniau Tref Caergybi ar hyn o bryd tu mewn i'w cymuned nhw. Nodasom fod yr ardaloedd hyn yn ffurfio rhan o ardal ddatblygu Caergybi fel y diffinnir yng Nghynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (2001). Ystyriem fod parc adwerthu Penrhos, datblygiad Ty Mawr sydd ar ddod a'r gwaith alwminiwm yn gysylltiedig â Chymuned Caergybi. Ystyriem fod newid i ffin gymuned yr ardal hon yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Yn adroddiad ein Cynigion Drafft felly, cynigiwn newid i'r ffin rhwng Cymuned Caergybi a Chymuned Trearddur.
Cwm Cadnant / Penmynydd
4.5 Awgrymodd Cyngor Cymuned Cwm Cadnant newid i'r ffin rhwng eu cymuned a Chymuned Penmynydd fel y gwelir ar y map yn Atodiad E adroddiad y Cynigion Drafft. Gan fod ceisiadau cynllunio ar gyfer Safle Gwastraff Penhesgyn yn dod dan awdurdodaeth y Cyngor, ystyrid y byddai'n fuddiol, o ran ystyriaethau cynllunio, pe byddai'r eiddo ar hyd y ffordd sy'n arwain i'r safle a leolir ar hyn o bryd ym Mhenmynydd yn rhan o Gwm Cadnant hefyd. Ar ôl astudio mapiau manwl ac ymweld â'r safle, roeddem o'r farn bod gan yr ardal sy'n cael ei chynnig ar gyfer trosglwyddo gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant berthynas â Chymuned Penmynydd. Gan fod y prif fynediad i'r safle gwastraff trwy Gymuned Penmynydd, roeddem o'r farn y byddai'n fuddiol, o ran ystyriaethau cynllunio, pe byddai ardal gyfan y safle gwastraff a'r ardal o gwmpas yn cael eu cynnwys yn ardal Cymuned Penmynydd. Roeddem o'r farn bod gan ardal Cymuned Cwm Cadnant sy'n gorwedd i'r gorllewin o Ffordd Pentraeth (A5025) berthynas â Chymuned Penmynydd. Nodasom fod mwyafrif y tai yn ne'r ardal, ger y B5420, sef y ffordd o Borthaethwy i Benmynydd. Gan mai nodwedd gorfforol fwyaf amlwg yr ardal oedd yr A5025, dewisasom honno fel y ffin arfaethedig. Ystyriem fod newid i ffin cymunedau yn yr ardal hon yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, cynigiasom newid i'r ffin rhwng Cymuned Cwm Cadnant a Chymuned Penmynydd.
Cwm Cadnant / Porthaethwy
4.6 Awgrymodd Cyngor Cymuned Cwm Cadnant ailosod y ffin rhwng eu cymuned a Chymuned Porthaethwy. Ystyriai'r Cyngor y byddai'r ffin awgrymedig yn gliriach na'r ffin bresennol ac y byddai'r newid yn lliniaru dryswch mewn perthynas ag ymgynghoriadau cynllunio. Yn dilyn ymweliad safle â'r ardal, roedd gennym bryderon ynglyn â'r ffin awgrymedig gan y byddai'n rhannu eiddo ar naill ochr y ffordd a'r llal rhwng dwy ardal gymuned. Roeddem o'r farn bod y ffin bresennol yn glir ac yn dilyn nodweddion daearyddol clir. Nid oeddem yn fodlon â'r farn y byddai'r newid awgrymedig o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, ni chynigiasom unrhyw newid i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phorthaethwy.
Cwm Cadnant / Pentraeth
4.7 Awgrymodd Cyngor Cymuned Cwm Cadnant ailosod y ffin rhwng eu cymuned a Chymuned Pentraeth ger cyffordd Black Horse Lane, Pen-y-garnedd a'r A5025. Ystyriai'r y Cyngor y byddai hyn yn tacluso'r ffin gan y byddai'n cynnwys eiddo y derbyniwyd ceisiadau cynllunio tebyg ar eu cyfer gan eu Cyngor hwy. Yn dilyn ymweliad safle â'r ardal, sylwasom fod gan y ffin awgrymedig y fantais o uno grwp bach o anheddau mewn un ardal gymuned. Nodasom hefyd fod yr awgrym yn datrys anghysondeb yn y ffin bresennol sy'n rhannu tai cyfagos rhwng dwy gymuned. Fodd bynnag, nodasom nad oedd y ffin a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant wedi ei diffinio am ran o'i hyd. Nodasom hefyd fod ffin fyrrach arall wedi ei diffinio'n gliriach sy'n dilyn nant a ffordd a fyddai'n uno'r eiddo yn yr ardal ym Mhentraeth yn hytrach na Chwm Cadnant. Roeddem o'r farn bod gan y grwp hwn o eiddo gysylltiadau lleol â Chymuned Pentraeth a bod y ffin arall wedi ei diffinio'n gliriach. Ystyriem fod newid i'r ffin gymunedol yn yr ardal hon yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, cynigiasom newid i'r ffin rhwng Cymuned Cwm Cadnant a Chymuned Pentraeth.
Pentraeth / Llanfair-Mathafarn-Eithaf
4.8 Awgrymodd Cyngor Cymuned Pentraeth y dylid estyn eu ffin ogledd-orllewinol i gynnwys rhan o Gymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf ger Rhôs y Gâd. Roeddent yn ystyried y byddai ailosod y ffin yn sythu llinell ffin y gymuned a chryfhau Pentraeth o ran maint a phoblogaeth. Fodd bynnag, nodasom wrthwynebiadau Cyngor Cymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf i'r newid awgrymedig. Ar ôl ymweld â'r safle, roeddem o'r farn bod gan yr ardal sy'n cael ei hawgrymu ar gyfer trosglwyddo gan Gyngor Cymuned Pentraeth berthynas â Chymuned Pentraeth. Nodasom y bu ychydig o ddatblygiad yn yr ardal ers yr arolwg diwethaf o ffiniau cymunedol ym 1978. Ystyriem fod y ffin awgrymedig yn dilyn nodweddion daearyddol clir iawn a'i bod yn datrys yr anghysondeb yn y ffin ar Fferm Bryn. Roeddem o'r farn y byddai newid i'r ffin gymuned yn yr ardal hon yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Felly, yn adroddiad ein Cynigion Drafft, cynigiwn newid i'r ffin rhwng Cymuned Pentraeth a Chymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf.
Pentraeth / Llanddyfnan
4.9 Awgrymodd Cyngor Cymuned Pentraeth y dylid estyn eu ffin ogledd-orllewinol i gynnwys rhan o Gymuned Llanddyfnan ger Tyn-y-pwll. Fodd bynnag, nodasom y gwrthwynebiadau i'r cynnig hwn a wnaed gan Gyngor Cymuned Llanddyfnan a'r Cynghorydd W J Williams (Is-adran Etholaethol Llanddyfnan). Ar ôl ymweld â'r ardal, nodasom na fu datblygiadau yn yr ardal hon ers yr arolwg diwethaf ym 1978 ac nad oedd y ffin awgrymedig yn gwella'r ffin bresennol. Nid oeddem yn fodlon y byddai'r newid awgrymedig o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, ni chynigiasom unrhyw newid felly i'r ffin rhwng Cymunedau Pentraeth a Llanddyfnan.
Llanddyfnan / Llangefni
4.10 Nodasom awgrym Cyngor Cymuned Llanddyfnan y dylid newid y ffin rhwng eu cymuned a Chymuned Llangefni i gynnwys ardaloedd Rhosmeirch a Marianglas. Fodd bynnag, gan nad yw Cymuned Llangefni wedi ei chynnwys yng Nghyfarwyddiadau'r Arolwg (Atodiad A), nodasom na allem wneud unrhyw argymhellion, yn yr arolwg hwn, mewn perthynas â newid ffin Cymuned Llangefni. Felly cyfeiriasom y newid awgrymedig hwn at Gyngor Sir Ynys Môn a all ystyried gwneud arolwg o dan Adran 55(2) y Ddeddf.
5. SYLWADAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
5.1 Mewn ymateb i adroddiad ein Cynigion Drafft, derbyniasom sylwadau oddi wrth Gyngor Tref Caergybi, Cyngor Cymuned Trearddur, Cyngor Cymuned Cwm Cadnant, Cyngor Cymuned Penmynydd, Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf a Chyngor Cymuned Pentraeth. Gellir gweld crynodeb o'r sylwadau hyn yn Atodiad C.
6. ASESU
Caergybi / Trearddur / Rhoscolyn
6.1 Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, ystyriem mai'r trefniant presennol o dri chyngor cymuned ar wahân oedd y ffordd orau i ddiwallu buddion llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn yr ardal. Fodd bynnag, cynigiasom newid i'r ffin rhwng Cymuned Caergybi a Chymuned Trearddur.
6.2 Er i Gyngor Tref Caergybi gael eu siomi gan benderfyniad y Comisiwn i beidio ag estyn Cymuned Caergybi i gynnwys Ynys Gybi gyfan, nodasom fod y Cyngor Tref wedi cefnogi'r ffin arall a gynigiwyd gan y Comisiwn. Nododd y Comisiwn wrthwynebiad Cyngor Cymuned Trearddur i'r cynnig i newid y ffin rhwng Trearddur a Chaergybi ar y sail bod y Cyngor wedi gofalu'n dda am yr ardal dan sylw a sawl nodwedd ynddi. Fodd bynnag, cadwodd y Comisiwn mewn golwg y pwyntiau a wnaed gan Gyngor Tref Caergybi ym mharagraff 4.4. uchod ac, yn unol â'r rhesymau a bennwyd yn y paragraff hwnnw, mae'r Comisiwn yn dal i fod o'r farn bod gan y safleoedd y soniwyd amdanynt yn y paragraff hwnnw gysylltiadau clir ac amlwg â Chaergybi. Mewn perthynas â'r cynnig arall a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Trearddur i wella'r ffin ger parc adwerthu Penrhos a'i throsglwyddo i Gaergybi, ystyriem nad oedd y ffin arall hon yn dilyn nodweddion clir ar y tir ac ystyriem nad oedd yn cynnig unrhyw welliant sylweddol i'r trefniadau presennol.
6.3 Ystyriwn fod ein cynigion drafft mewn perthynas ag Ynys Gybi'n cynnig gwelliant sylweddol i'r ffin bresennol gan eu bod yn darparu rhaniad cliriach rhwng y ddwy gymuned. Ystyriwn fod y newid hwn o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cynigiwn y newid i'r ffin rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur felly fel y dangosir ar y map yn Atodiad D.
Cwm Cadnant / Penmynydd
6.4 Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, ystyriasom newid awgrymedig a wnaed gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant ond gan i ni ystyried bod gan yr ardal dan sylw fwy o berthynas â Chymuned Penmynydd, ni chynigiasom y newid awgrymedig hwn. Fodd bynnag, ystyriem fod gan ardal, sy'n rhan o Gymuned Cwm Cadnant ar hyn o bryd, fwy o berthynas â Chymuned Penmynydd ac felly cynigiasom y dylid newid y ffin rhwng y ddwy gymuned hon yn unol â hynny.
6.5 Nodasom y sylwadau a wnaed gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant a wrthwynebodd yn gryf y cynigion drafft ar y sail eu bod yn mynd y tu hwnt i'r ymarfer 'tacluso', sef bwriad gwreiddiol y Cyngor pan gyflwynodd eu newidiadau awgrymedig ar ddechrau'r arolwg. Arolygasom ein Cynigion Drafft yn sgil y sylwadau hyn ond rydym yn dal i fod o'r farn bod ardal Cwm Cadnant rydym wedi cynnig ei throsglwyddo i Benmynydd yn manteisio, o ran ystyriaethau cynllunio, ar ymgorffori ardal gyfan y safle gwastraff, yr ardal o'i chwmpas a mynediad yn ardal Cymuned Penmynydd ac na dderbyniwyd tystiolaeth yn groes i hyn yn ystod y cyfnod sylwadau ar gyfer y cynigion drafft. Nododd y Comisiwn bryderon Cyngor Cymuned Cwm Cadnant fod y safle gwastraff yn cael ei gynnwys yn ardal un cyngor cymuned a bod mynediad y safle'n cael ei gynnwys yn ardal cyngor cymuned arall sy'n golygu y caiff ceisiadau cynllunio eu cyflwyno i wahanol gynghorau cymuned. Byddai'r ffin arfaethedig yn datrys yr anghyfleustra hwn. Nodasom hefyd fod Cyngor Cymuned Penmynydd yn cefnogi'r cynigion. Yn ogystal, nododd y Comisiwn fod yr ardal yn brin ei phoblogaeth ac na fyddai'r newid yn cael llawer iawn o effaith ar nifer yr etholwyr ym mhob cymuned.
6.6 Rydym yn dal o'r farn felly y bydd y newid i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phentraeth a gynigiwyd yn adroddiad ein cynigion drafft yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac felly cynigiwn y newid a ddangosir ar y map yn Atodiad E.
Cwm Cadnant / Pentraeth
6.7 Fel yn 6.5 uchod, nodasom wrthwynebiad Cyngor Cymuned Cwm Cadnant a gynhwysai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cwm Cadnant a Phentraeth. Nodasom hefyd fod Cyngor Cymuned Pentraeth yn cefnogi ein cynigion drafft. Rydym yn dal i fod o'r farn bod y mân newid a gynigiasom i'r ffin rhwng Cwm Cadnant a Phentraeth yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cynigiwn felly'r newid i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phentraeth fel y gwelir ar y map yn Atodiad F.
Cwm Cadnant / Porthaethwy
6.8 Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, ystyriasom newid awgrymedig i'r ffin a wnaed gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant. Fel y nodir yn 4.6 uchod, nid oeddem yn fodlon y byddai'r newid awgrymedig o fudd o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Gan na dderbyniwyd unrhyw sylwadau pellach mewn perthynas â'r newid awgrymedig hwn, rydym yn dal i fod o'r farn na ddylid newid y ffin rhwng Cwm Cadnant a Phorthaethwy.
Pentraeth / Llanfair-Mathafarn-Eithaf
6.9 Mewn perthynas â'r newidiadau arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Llanfair Mathafarn Eithaf a Phentraeth, nododd y Comisiwn nad oedd gan Gyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf sylwadau i'w gwneud ar y cynigion drafft ond bod Cyngor Cymuned Pentraeth yn eu cefnogi. Yn sgil prinder gwrthwynebiadau i'n cynigion drafft ar gyfer yr ardal hon, rydym o'r farn bod y newid a gynigir yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cynigiwn newid y ffin rhwng Cymunedau Pentraeth a Llanfair-Mathafarn-Eithaf felly fel y dangosir ar y map yn Atodiad G.
7. CYNIGION
7.1 Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth ar gael i ni, cynigiwn ailosod ffiniau Cymunedau Cwm Cadnant, Caergybi, Llanfair-Mathafarn-Eithaf, Penmynydd, Pentraeth a Threarddur yn yr ardal dan sylw i ddilyn y ffiniau a ddangosir mewn gwyrdd ar y mapiau yn Atodiadau D, E, F a G.
7.2 Gellir archwilio mapiau manwl ar raddfa fwy sy'n dangos y ffiniau arfaethedig newydd yn swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn ac yn swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.
8. TREFNIADAU CANLYNIADOL
8.1 Wrth ystyried y newidiadau amrywiol i'r ffiniau cymuned, roedd gofyn i ni hefyd ystyried yr effeithiau ar drefniadau etholaethol ar gyfer cynghorau cymuned a'r prif awdurdod a fyddai'n deillio o'r newidiadau hyn. Mae adran hon yr adroddiad yn manylu ar ein cynigion ar gyfer newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholaethol. Darparwyd yr ystadegau etholaethol presennol a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn gan Gyngor Sir Ynys Môn. Yn unol â'r gofynion statudol i ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol y cymunedau dan sylw, sy'n debygol o ddigwydd o fewn pum mlynedd, gofynnodd y Comisiwn am wybodaeth mewn perthynas â'r gofyniad hwn gan y Cyngor Sir. Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth gan y Cyngor Sir. Mae'r Comisiwn wedi ystyried y wybodaeth a ddaeth i'w feddiant yn ystod yr arolwg (a gynhwysir yn y sylwadau er enghraifft) ac nid yw'n ymwybodol o unrhyw newidiadau perthnasol sy'n debygol o ddigwydd yn y pum mlynedd nesaf y dylid eu hystyried at ddibenion trefniadau canlyniadol.
Trefniadau Etholaethol y Cynghorau Cymuned
8.2 Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur yn golygu trosglwyddo 13 o etholwyr o Gymuned Trearddur i ward London Road Cymuned Caergybi ac ardal heb iddi unrhyw etholwyr o Gymuned Trearddur i ward Kingsland Cymuned Caergybi. Mae'r trefniadau etholaethol presennol ar gyfer Cymuned Caergybi fel a ganlyn:
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C* |
|---|---|---|---|---|
| Caergybi | Kingsland |
959 |
3 |
320 |
| London Road | 991 | 3 | 330 | |
| Maeshyfryd | 1,505 | 3 | 502 | |
| Morawelon | 936 | 3 | 312 | |
| Parc a'r Mynydd | 905 | 2 | 453 | |
| Porthyfelin | 1,537 | 5 | 307 | |
| Town | 706 | 2 | 353 | |
| Cyfansym: | 7,539 | 21 | 359 |
* Etholwr fesul cynghorydd
8.3 Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, ystyriasom awgrym Cyngor Tref Caergybi y dylid gostwng nifer bresennol ei aelodau o 21 i 14, gan adael dau aelod ar gyfer pob un o'r saith ward etholaethol yn y gymuned. Ystyriasom lefel y gynrychiolaeth ar gyfer wardiau Maeshyfryd a Porthyfelin a nifer gynyddol yr etholwyr yn London Road a Kingsland o ganlyniad i'r newid arfaethedig a chynigiwn drefniadau etholaethol diwygiedig ar gyfer Cymuned Caergybi.
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C |
|---|---|---|---|---|
| Caergybi | Kingsland |
959 |
2 |
480 |
| London Road | 1,004 | 2 | 502 | |
| Maeshyfryd | 1,505 | 3 | 502 | |
| Morawelon | 936 | 2 | 468 | |
| Parc a'r Mynydd | 905 | 2 | 453 | |
| Porthyfelin | 1,537 | 3 | 512 | |
| Town | 706 | 2 | 353 | |
| Cyfansym: | 7,552 | 16 | 472 |
8.4 Yn ei sylwadau, cefnogodd Cyngor Tref Caergybi'r newid arfaethedig i'r trefniadau etholaethol. Cadarnhawn felly ein cynigion drafft a chynigiwn newid i'r trefniadau etholaethol ar gyfer Cymuned Caergybi fel y manylir arno yn y tabl uchod.
8.5 Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur yn golygu gostyngiad o 13 o etholwyr i 1,358 o etholwyr ar gyfer Cymuned Trearddur. Nid oes gan Gymuned Trearddur wardiau ac, ar hyn o bryd, caiff 1,371 o etholwyr eu cynrychioli gan 12 o gynghorwyr. Yn adroddiad ein cynigion drafft, nodasom ein bod yn pryderu, er nad yw'r gostyngiad arfaethedig yn golygu ond newid bach yn nifer yr etholwyr, y byddai hyn yn cynyddu'r hyn sydd eisoes yn lefel uchel o gynrychiolaeth. Ystyriem ei fod yn briodol gostwng nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli Cymuned Trearddur a chroesawasom farnau'r rhai a oedd â buddiant.
8.6 Rydym wedi nodi bod Cyngor Cymuned Trearddur wedi gwrthwynebu gostyngiad yn nifer aelodau'r Cyngor. Mae wedi gofyn i'r Comisiwn ystyried y cynnydd mawr yn y boblogaeth yn ystod yr haf. Rydym wedi ystyried barn y Cyngor Cymuned ac rydym o'r farn na fyddai'n briodol, yn yr amgylchiadau penodol hyn, i leihau nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r Gymuned. Nid ydym felly'n cynnig unrhyw newid i drefniadau etholaethol presennol Cymuned Trearddur.
8.7 Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phenmynydd yn arwain at drosglwyddo 29 o etholwyr o ward Llansadwrn yng Nghymuned Cwm Cadnant i Gymuned Penmynydd. Yn ogystal, byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phentraeth yn arwain at drosglwyddo 3 o etholwyr o ward Llansadwrn yng Nghymuned Cwm Cadnant i Gymuned Pentraeth. Mae trefniadau etholaethol presennol Cymuned Cwm Cadnant fel a ganlyn:
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C |
|---|---|---|---|---|
| Cwm Cadnant | Llandegfan |
1,503 |
11 |
137 |
| Llansadwrn | 284 | 3 | 95 | |
| Cyfansym: | 1,787 | 14 | 128 |
8.8 Yn ein Cynigion Drafft, gyda'r gostyngiad yn nifer yr etholwyr o 284 i 252, ystyriem y byddai'n fuddiol, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i gael gwared ar y trefniant wardiau ar gyfer Cymuned Cwm Cadnant ac i'r 1,755 o'r etholwyr sy'n weddill gael eu cynrychioli gan 12 o gynghorwyr, gan i ni ystyried y byddai hon yn lefel briodol o gynrychiolaeth ar gyfer yr ardal.
8.9 Yn eu sylwadau, roedd Cymuned Cwm Cadnant yn gwrthwynebu unrhyw newidiadau i'r Gymuned. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r newid i'r ffin gymuned a ystyriwyd yn 6.4 i 6.6 uchod, rydym yn dal i fod o'r farn y byddai'n fuddiol, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i gael gwared ar y trefniant wardiau ar gyfer Cymuned Cwm Cadnant a gostwng nifer y cynghorwyr. Cynigiwn felly na ddylid cael wardiau ar gyfer Cymuned Cwm Cadnant a'i bod yn cael ei chynrychioli gan 12 o gynghorwyr.
8.10 Mae gan gymuned bresennol Penmynydd 294 o etholwyr a gynrychiolir gan 8 o gynghorwyr. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phenmynydd yn gweld nifer yr etholwyr yng Nghymuned Penmynydd yn codi i 323. Yn ein Cynigion Drafft, roeddem o'r farn bod y trefniadau etholaethol presennol yn darparu lefel gymesurol uchel o gynrychiolaeth; ni chynigiasom gynnydd cyfatebol felly yn nifer y cynghorwyr ar gyfer Cymuned Penmynydd. Gan na fu i sylwadau Cyngor Cymuned Penmynydd nodi na fyddai 8 o gynghorwyr yn lefel briodol o gynrychiolaeth ar gyfer yr ardal gymuned estynedig, ni chynigiwn unrhyw newid i nifer y cynghorwyr cymunedol sy'n cynrychioli Cymuned Penmynydd.
8.11 Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Pentraeth a Chymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf yn trosglwyddo 33 o etholwyr o ward Llanbedrgoch yng Nghymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf i Gymuned Pentraeth. Mae'r trefniadau etholaethol presennol ar gyfer Cymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf fel a ganlyn:
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C |
|---|---|---|---|---|
| Llanfair-Mathafarn-Eithaf | Benllech 'A' |
815 |
4 |
204 |
| Benllech 'B' | 1,182 | 6 | 197 | |
| Brynteg | 313 | 2 | 157 | |
| Llanbedrgoch | 429 | 3 | 143 | |
| Cyfansym: | 2,739 | 15 | 183 |
8.12 Yn ein Cynigion Drafft, gyda'r gostyngiad yn nifer yr etholwyr yn ward Llanbedrgoch o 429 i 396, ystyriem y byddai lefel briodol o gynrychiolaeth yn y ward hwn yn 2 o gynghorwyr. Cynigiasom drefniadau etholaethol diwygiedig felly ar gyfer Cymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf.
8.13 Nodasom nad oedd gan Lanfair-Mathafarn-Eithaf sylwadau mewn perthynas â'n Cynigion Drafft. Mewn perthynas â'r trefniadau etholaethol ar gyfer Cymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf, cadarnhawn ein trefniadau etholaethol diwygiedig arfaethedig fel a ganlyn:
|
Cymuned |
Ward |
Etholwyr | Cynghorwyr | E/C |
|---|---|---|---|---|
| Llanfair-Mathafarn-Eithaf | Benllech 'A' |
815 |
4 |
204 |
| Benllech 'B' | 1,182 | 6 | 197 | |
| Brynteg | 313 | 2 | 157 | |
| Llanbedrgoch | 396 | 2 | 198 | |
| Cyfansym: | 2,706 | 14 | 193 |
8.14 Mae gan Gymuned bresennol Pentraeth 849 o etholwyr a gynrychiolir gan 11 o gynghorwyr. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phentraeth a'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Llanfair-Mathafarn-Eithaf a Phentraeth yn gweld nifer yr etholwyr yng Nghymuned Pentraeth yn cynyddu i 885. Yn ein Cynigion Drafft, ystyriemm fod 11 o gynghorwyr yn dal i fod yn lefel briodol o gynrychiolaeth ar gyfer yr ardal hon ac felly ni wnaethom unrhyw gynigion i newid trefniadau etholaethol Cymuned Pentraeth.
8.15 Nodasom fod Cyngor Cymuned Pentraeth wedi derbyn a chymeradwyo ein cynigion drafft. Cadarnhawn felly ein cynigion drafft ac ni wnawn unrhyw gynigion i newid trefniadau etholaethol Cymuned Pentraeth.
Trefniadau Etholaethol y Cyngor Bwrdeistref Sirol
8.16 Mae Is-adran Etholaethol Kingsland yn cynnwys ward Kingsland yng Nghymuned Caergybi ac mae ganddi 959 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Ni fyddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur yn golygu unrhyw newid i nifer yr etholwyr yn Is-adran Etholaethol Kingsland.
8.17 Mae Is-adran Etholaethol London Road yn cynnwys ward London Road Cymuned Caergybi ac mae ganddi 991 o etholwyr ar hyn o bryd a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur yn golygu y byddai nifer yr etholwyr yn Is-adran Etholaethol London Road yn cynyddu i 1,004.
8.18 Mae Is-adran Etholaethol Cwm Cadnant yn cynnwys Cymuned Cwm Cadnant ac mae ganddi 1,787 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phenmynydd yn golygu y byddai nifer etholwyr Is-adran Etholaethol Cwm Cadnant yn gostwng i 1,755.
8.18 Mae Is-adran Etholaethol Llanfihangel Ysgeifiog yn cynnwys Cymunedau Llanfihangel Ysgeifiog a Phenmynydd ac mae ganddi 1,428 o etholwyr ar hyn o bryd a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phenmynydd yn golygu y byddai nifer etholwyr Is-adran Etholaethol Llanfihangel Ysgeifiog yn cynyddu i 1,457.
8.19 Mae Is-adran Etholaethol Llanbedrgoch yn cynnwys wardiau Benllech 'A' a Llanbedrgoch yng Nghymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf ac mae ganddi 1,244 o etholwyr ar hyn o bryd a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Pentraeth a Chymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf yn golygu y byddai nifer etholwyr Is-adran Etholaethol Llanbedrgoch yn gostwng i 1,211.
8.20 Mae Is-adran Etholaethol Pentraeth yn cynnwys Cymunedau Llanddona a Phentraeth ac mae ganddi 1,348 o etholwyr ar hyn o bryd a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Pentraeth a Chymuned Llanfair-Mathafarn-Eithaf yn golygu y byddai nifer etholwyr Is-adran Etholaethol Pentraeth yn cynyddu i 1,381.
8.21 Yn ein Cynigion Drafft, datganasom y farn nad yw'r newidiadau i nifer yr etholwyr o ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig i ffiniau ar hyn o bryd mor sylweddol nes iddynt fynnu cynnydd na gostyngiad yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli pob is-adran etholaeth. Nodasom ein bod, yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn disgwyl ymgymryd ag arolwg o drefniadau etholaethol holl brif gynghorau Cymru ac y byddwn, bryd hynny, yn edrych yn fanwl ar y trefniadau etholaethol ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn a byddwn yn ystyried unrhyw newidiadau sy'n deillio o'r newidiadau hyn i ffiniau cymuned.
9. CYDNABYDDIAETH
9.1 Hoffem fynegi ein diolch i Gyngor Sir Ynys Môn a'r Cynghorau Cymuned am eu cymorth ac i'r holl unigolion a chyrff a gyflwynodd sylwadau i ni.
10. Y CAMAU NESAF
10.1 Ar ôl gorffen ystyried arolwg ffiniau cymuned Sir Ynys Môn a chyflwyno ein hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y Ddeddf.
10.2 Daw i Lywodraeth Cynulliad Cymru nawr i'w derbyn neu i gyfarwyddo'r Comisiwn i gynnal arolwg arall.
10.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach mewn perthynas â'r materion yn yr adroddiad at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid eu gwneud cyn gynted â phosibl ond heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau at:
Y Tîm Democratiaeth Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQMRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)
D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Dirprwy Gadeirydd)
Y PARCHEDIG HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Aelod)
E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)
Ebrill 2008
