AROLWG O'R FFINIAU ADOLYGIAD O FFINIAU CYMUNEDOL YN SIR YNYS MÔN
ADRODDIAD A CHYNIGION
ATODIAD C
Crynodeb o'r Sylwadau a Dderbyniwyd mewn Ymateb i'r Cynigion Drafft
CAERGYBI / TREARDDUR / RHOSCOLYN
Mynegodd Cyngor Tref Caergybi siom na chynyddwyd ffin eu cymuned i gynnwys Trearddur a Rhoscolyn. Croesawodd y Cyngor gynnig y Comisiwn i ailosod y ffin i gynnwys yr holl barc adwerthu, Anglesey Aluminium, Penrhos a safle datblygu Ty Mawr yng Nghymuned Caergybi. Cefnogodd y Cyngor y cynnig i newid y gynrychiolaeth ym mhob ward a lleihau nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r Gymuned o 21 i 16.
Cefnogodd Cyngor Cymuned Trearddur benderfyniad y Comisiwn i beidio ag uno tair cymuned Caergybi, Trearddur a Rhoscolyn. Nid oeddent yn cefnogi diwygiad arfaethedig y Comisiwn i'r ffin rhwng Trearddur a Chaergybi oherwydd iddynt ystyried eu bod wedi gofalu'n dda am y warchodfa natur a bod ganddynt berthynas dda gydag Anglesey Aluminium. Roeddent yn ystyried bod y Cyngor wedi gofalu'n dda am ddatblygiad Ty Mawr a'u bod wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth sicrhau bod y nodweddion hanesyddol ac archeolegol yn cael eu cadw. Cynigiwyd ailosod y ffin mewn ffordd arall er mwyn tacluso ardal parc adwerthu Penrhos. O ran yr awgrym i ostwng nifer aelodau'r Cyngor, gofynnodd y Cyngor i'r Comisiwn ystyried bod Trearddur yn ardal fawr â phoblogaeth lawer uwch na nifer yr etholwyr oherwydd nifer uchel yr ail gartrefi, cartrefi gwyliau a chartrefi symudol. Ystyriai'r Cyngor fod y boblogaeth yn cynyddu mwy na phedair gwaith y boblogaeth arferol yn ystod misoedd yr haf.
CWM CADNANT / PENMYNYDD
Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Cwm Cadnant yr argymhellion awgrymedig yn gryf gan nad oeddent yn gyson â newidiadau arfaethedig eraill a oedd yn effeithio ar gymunedau eraill Ynys Môn. Roedd y Cyngor wedi awgrymu newidiadau i'r ffin fel ymarfer tacluso ar y cychwyn fel ffordd o fod yn gyfleus a defnyddio synnwyr cyffredin ac, yn benodol, i helpu ceisiadau cynllunio mewn ymdrech i osgoi dryswch. Ystyria'r Cyngor fod hwn wedi tyfu i fod yn fater gwleidyddol lleol enfawr gyda sawl gwrthwynebiad i'r cynnig gwreiddiol. Erbyn hyn, ystyrient ei fod er budd pleidleiswyr Cwm Cadnant i beidio newid y ffiniau.
Cefnogodd Cyngor Cymuned Penmynydd y cynigion drafft. Gan mai Cyngor Cymuned Penmynydd yw cyngor lleiaf yr ynys, ni fyddent yn cefnogi unrhyw newid a fyddai'n lleihau maint eu hardal.
PENTRAETH / LLANFAIR-MATHAFARN-EITHAF
Nid oedd gan Gyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar yr adroddiad drafft.
Derbyniodd a chymeradwyodd Cyngor Cymuned Pentraeth y cynigion drafft.
