Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O'R FFINIAU ADOLYGIAD O FFINIAU CYMUNEDOL YN SIR YNYS MÔN

CYNIGION DRAFFT

  1. CYFLWYNIAD
  2. CRYNODEB GWEITHREDOL
  3. CYNRYCHIOLIADAU A DDERBYNIWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT
  4. ASESU
  5. CYNIGION
  6. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
  7. CYDNABYDDIAETHAU
  8. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
  9. Y CAMAU NESAF

1. CYFLWYNIAD

1.1 Rydym ni Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) wedi cwblhau cam cyntaf adolygiad o Ffiniau Cymunedol yn Sir Ynys Môn fel y gorchmynnwyd gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei Chyfarwyddiadau i ni dyddiedig 20 Medi 2006 ( Atodiad A).

1.2 Diben yr adolygiad yw ystyried a ddylai'r Comisiwn, er mwyn llywodraeth leol effeithiol a hwylus, gynnig newidiadau i'r ffiniau cymunedol presennol. Cynhelir yr adolygiad o dan ddarpariaethau Adran 56(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf).

1.3 Mae Adran 60 o'r Ddeddf yn gosod y canllawiau gweithdrefnol, sydd i'w dilyn wrth gynnal adolygiad. Yn unol â'r arweiniad hwnnw ysgrifennom ar 7 Tachwedd 2006 i Gynghorau Cymuned Cwm Cadnant, Penmynydd, Porthaethwy, Caergybi, Trearddur, Rhoscolyn, Pentraeth, Llanfair Mathafarn Eithaf a Llanddyfnan, yr Aelod Seneddol dros yr etholaeth leol, yr Aelodau Cynulliad dros yr ardal o dan adolygiad ac unrhyw un arall a fynegodd ddiddordeb er mwyn rhoi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr adolygiad ac i ofyn am eu barn ragarweiniol. Cyn dechrau'r adolygiad derbyniodd Cyngor Sir Ynys Môn nifer o awgrymiadau am newidiadau i'r ffiniau cymunedol. Darparwyd rhestr o'r rhain gyda'r llythyr gwreiddiol hwn ( Atodiad B). Cyhoeddom hefyd ein bwriad i gynnal adolygiad mewn papur newydd lleol sy'n cael ei ddosbarthu yn yr ardal a gofyn i'r Cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus. Rhoddwyd hysbysiad am ddechrau'r adolygiad a'r dyddiad cau ar gyfer cynnig cynrychioliadau (sef 12 Ionawr 2007) ar wefannau'r Comisiwn a Chyngor Sir Ynys Môn.

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

2.1 Cynigiwn:

3. CYNRYCHIOLIADAU A DDERBYNIWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT

3.1 Derbyniom gynrychioliadau oddi wrth Gyngor Tref Caergybi, Cyngor Cymuned Rhoscolyn, Cyngor Cymuned Trearddur, Cyngor Cymuned Cwm Cadnant, Cyngor Tref Porthaethwy, Cyngor Cymuned Penmynydd a Star, Cyngor Cymuned Pentraeth, Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf a Chyngor Cymuned Llanddyfnan, Ieuan Wyn Jones AC, Mark Isherwood AC, y Cynghorydd P J Dunning, y Cynghorydd W J Williams a nifer o drigolion. Ceir manylion am yr holl gynrychioliadau hyn yn Atodiad C.

4. ASESU

4.1 Rydym wedi ystyried y newidiadau a awgrymwyd i'r ffiniau cymunedol yn yr ardaloedd canlynol: Caergybi, Trearddur, Rhoscolyn, Pentraeth, Llanfair Mathafarn Eithaf, Llanddyfnan, Cwm Cadnant, Penmynydd a Phorthaethwy.

Caergybi / Trearddur / Rhoscolyn

4.2 Awgryma Cyngor Tref Caergybi uno'r tair cymuned sy'n ffurfio Ynys Cybi (Caergybi, Trearddur a Rhoscolyn) i greu un ardal gymunedol. Ystyria'r Cyngor Tref eu bod nhw wedi'u lleoli'n dda i ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol y ddwy ardal arall. Sylwom fodd bynnag y gwrthwynebiadau i'r cynnig hwn a wnaed gan Gynghorau Cymuned Trearddur a Rhoscolyn a nifer o drigolion ( Atodiad C) a hefyd bryderon y ddau Aelod Cynulliad a ysgrifennodd atom. Wedi ystyried y pwyntiau a godwyd gan y cynrychioliadau a chynnal ymweliad safle â'r ardal rydym o'r farn bod y tair ardal yn wahanol o ran eu natur a bod y trefniadau cyfredol sef tri chyngor cymuned ar wahân yn bodloni gofynion llywodraeth leol effeithiol a hwylus orau yn yr ardal.

4.3 Awgrymodd Cyngor Tref Caergybi hefyd y dylai eu hardal gael ei chynyddu o leiaf i gynnwys y parc manwerthu newydd ym Mhenrhos a datblygiad Ty Mawr. Mewn sylw pellach fe ofynnon nhw hefyd i ystyriaeth gael ei roi i drosglwyddo gwaith alwminiwm o Gymuned Trearddur iddynt hwy gan y byddai hyn yn sicrhau bod pob prif safle diwydiannol sy'n ffinio â thref Caergybi ar hyn o bryd o fewn eu Cymuned. Sylwom fod yr ardaloedd hyn yn rhan o ardal ddatblygu Caergybi fel y diffinir yng Nghynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (2001). Ystyriwn fod gan barc manwerthu Penrhos, datblygiad Ty Mawr sydd ar ddod, a'r gwaith alwminiwm gyswllt agos â Chymuned Caergybi. Ystyriwn y byddai newid i'r ffin gymunedol yn yr ardal hon yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Caergybi a Chymuned Trearddur fel y nodir ar y map yn Atodiad D.

Cwm Cadnant / Penmynydd

4.4 Awgrymodd Cyngor Cymuned Cwm Cadnant newid i'r ffin rhwng eu Cymuned hwy a Chymuned Penmynydd fel y nodir ar y map yn Atodiad E. Ystyria'r Cyngor y byddai'n fuddiol, gan i geisiadau cynllunio am Safle Gwastraff Penhesgyn ddod o dan eu hawdurdodaeth hwy, yng nghyd-destun ystyriaethau cynllunio, pe bai eiddo ar y ffordd yn arwain i'r safle sydd ar hyn o bryd wedi'u lleoli ym Mhenmynydd hefyd yng Nghwm Cadnant. Wedi astudio mapiau manwl a chynnal ymweliad safle â'r ardal rydym o'r farn bod gan yr ardal yr hoffai Cyngor Cymuned Cwm Cadnant ei throsglwyddo berthynas â Chymuned Penmynydd. Rydym o'r farn gan fod y brif fynedfa i'r safle gwastraff drwy Gymuned Penmynydd, y byddai o fudd, o ran ystyriaethau cynllunio, pe bai holl ardal y safle gwastraff a'i gyffiniau yn cael ei chynnwys o fewn ardal Cymuned Penmynydd. Rydym o'r farn bod gan yr ardal o Gymuned Cwm Cadnant sydd i'r Gorllewin o Ffordd Pentraeth (A5025) berthynas â Chymuned Penmynydd. Sylwn fod y mwyafrif o dai yn ne'r ardal, ger y B5420, y ffordd o Borthaethwy i Benmynydd. Gan mai'r nodwedd ddaearyddol fwyaf pendant yn yr ardal oedd yr A5025 dewisom honno fel y ffin arfaethedig. Ystyriwn fod newid i'r ffin gymunedol yn yr ardal hon yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Cwm Cadnant a Chymuned Penmynydd. Nodir y manylion ar y map yn Atodiad F.

Cwm Cadnant / Porthaethwy

4.5 Awgrymodd Cyngor Cymuned Cwm Cadnant hefyd y dylid alinio'r ffin rhwng eu cymuned hwy a Chymuned Porthaethwy fel y nodir ar y map yn Atodiad E. Ystyriai'r Cyngor y byddai'r ffin arfaethedig yn fwy eglur na'r ffin bresennol ac y byddai'r newid yn lleihau dryswch mewn perthynas ag ymgynghori cynllunio. Yn dilyn ymweliad safle â'r ardal mae gennym bryderon am y ffin a awgrymwyd gan y byddai'n rhannu eiddo ar naill ochr y ffordd a'r llall rhwng dwy ardal gymunedol. Rydym o'r farn bod y ffin bresennol yn eglur gan ei bod yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy. Nid ydym yn fodlon y byddai'r newid a awgrymwyd o fudd yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Ni chynigiwn felly unrhyw newid i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phorthaethwy.

Cwm Cadnant / Pentraeth

4.6 Awgrymodd Cyngor Cymuned Cwm Cadnant hefyd y dylid alinio'r ffin rhwng eu cymuned hwy a Chymuned Pentraeth yn ardal cyffordd Black Horse Lane, Pen-y-garnedd a'r A5025 fel y nodir ar y map yn Atodiad E. Ystyriai'r Cyngor y byddai hyn yn tacluso'r ffin gan y byddai'n cynnwys eiddo y mae eu Cyngor wedi cael ceisiadau cynllunio tebyg mewn perthynas â hwy. Yn dilyn ymweliad safle â'r ardal sylwom fod gan y ffin a awgrymwyd y fantais o uno grwp bach o anheddau o fewn un ardal gymunedol. Nodom hefyd fod yr awgrym yn datrys anghysondeb yn y ffin bresennol sy'n rhannu tai drws nesaf i'w gilydd rhwng y ddwy gymuned. Nodom fodd bynnag fod y ffin a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant yn amhenodol am ran o'i hyd. Nodom hefyd fod yna ffin amgen eglurach a byrrach sy'n dilyn nant a ffordd a fyddai'n uno eiddo yn yr ardal hon â Phentraeth yn hytrach na Chwm Cadnant. Rydym o'r farn bod gan y grwp hwn o eiddo gysylltiadau lleol â Chymuned Pentraeth a bod y ffin amgen yn eglurach. Ystyriwn y byddai newid i'r ffin gymunedol yn yr ardal hon o fudd er lles llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Cwm Cadnant a Chymuned Pentraeth fel y nodir ar y map yn Atodiad G.

Pentraeth / Llanfair Mathafarn Eithaf

4.7 Awgrymodd Cyngor Cymuned Pentraeth estyn ei ffin ogledd-orllewinol i gynnwys rhan o Gymuned Llanfair Mathafarn Eithaf yng nghyffiniau Rhôs y Gâd fel y nodir ar y map yn Atodiad H. Roeddent o'r farn y byddai alinio'r ffin yn sythu llinell y ffin gymunedol ac yn cryfhau Pentraeth yn nhermau maint a phoblogaeth. Nodom fodd bynnag wrthwynebiadau Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf i'r newid a awgrymwyd. Wedi cynnal ymweliad safle â'r ardal rydym o'r farn bod gan yr ardal yr awgrymwyd ei throsglwyddo gan Gyngor Cymuned Pentraeth berthynas â Chymuned Pentraeth. Sylwom fod ychydig o ddatblygu wedi digwydd yn yr ardal ers yr adolygiad diwethaf o'r ffiniau cymunedol ym 1978. Ystyriwn fod y ffin a argymhellwyd yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy ac eglur ac yn datrys yr anghysondeb ffiniol wrth Fferm y Bryn. Rydym o'r farn y byddai newid i'r ffin gymunedol yn yr ardal hon o fudd i lywodraeth leol effeithiol a hwylus. Cynigiwn felly newid i'r ffin rhwng Cymuned Pentraeth a Chymuned Llanfair Mathafarn Eithaf fel y nodir ar y map yn Atodiad I.

Pentraeth / Llanddyfnan

4.8 Awgrymodd Cyngor Cymuned Pentraeth hefyd estyn ei ffin ogledd-ddwyreiniol i gynnwys rhan o Gymuned Llanddyfnan yng nghyffiniau Tyn-y-pwll fel y nodir ar y map yn Atodiad G. Nodom fodd bynnag wrthwynebiadau i'r cynnig hwn a wnaed gan Gyngor Cymuned Llanddyfnan a'r Cynghorydd W J Williams (Adran Etholiadol Llanddyfnan). Wrth gynnal ymweliad safle â'r ardal sylwom nad oedd hi'n ymddangos bod unrhyw ddatblygu wedi digwydd yn yr ardal hon ers yr adolygiad diwethaf ym 1978 ac nid oedd y ffin a awgrymwyd yn ymddangos yn welliant i'r ffin bresennol. Nid ydym yn fodlon y byddai'r newid a awgrymwyd o fudd yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Ni chynigiwn felly unrhyw newid i'r ffin rhwng Cymunedau Pentraeth a Llanddyfnan.

Llanddyfnan / Llangefni

4.9 Nodom awgrym Cyngor Cymuned Llanddyfnan y dylid addasu'r ffin rhwng ei gymuned a Chymuned Llangefni i gynnwys ardaloedd Rhos-meirch a Marian-glas. Nodom fodd bynnag gan nad yw Cymuned Llangefni wedi'i chynnwys yn y Cyfarwyddiadau am yr Adolygiad ( Atodiad A), na allwn ni, yn yr adolygiad hwn, wneud unrhyw argymhellion mewn perthynas â'r newid i'r ffin yng Nghymuned Llangefni. Gan hynny, cyfeiriwn y newid argymelledig hwn i Gyngor Sir Ynys Môn a fydd efallai yn ystyried cynnal adolygiad o dan Adran 55(2) o'r Ddeddf.

5. CYNIGION

5.1 Wedi ystyried y dystiolaeth sydd ar gael inni yn y cyfnod hwn o'n hadolygiad cynigiwn alinio'r ffiniau Cymunedau Caergybi a Threarddur, Cwm Cadnant a Phenmynydd, Cwm Cadnant a Phentraeth, a Phentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf yn yr ardal o dan adolygiad i ddilyn y ffiniau a welir mewn gwyrdd ar y mapiau yn Atodiadau D, F, G a I.

5.2 Gellir archwilio mapiau manwl ar raddfa fwy sy'n dangos y ffiniau newydd arfaethedig yn swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn ac yn swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.

5.3 Mae'r adroddiad drafft hwn yn rhoi manylion am ein cynnig dros newid i'r ffiniau cymunedol yn Sir Ynys Môn a byddem yn croesawu cynrychioliadau ar y cynigion.

6. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL

6.1 Wrth ystyried y newidiadau amrywiol i'r ffiniau cymunedol roedd angen i ni hefyd gymryd i ystyriaeth yr effaith ar drefniadau etholiadol i'r cynghorau cymuned a'r prif awdurdod, a fyddai'n codi o'r newidiadau hyn. Mae'r adran hon o'n hadroddiad yn rhoi manylion am ein cynigion am newidiadau ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol. Byddem yn croesawu cynrychioliadau ar yr agwedd hon o'n hadroddiad hefyd. Darparwyd yr ystadegau etholiadol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn gan Gyngor Sir Ynys Môn.

Trefniadau Etholiadol Cyngor Cymuned

6.2 Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur yn golygu trosglwyddo 13 etholwr o Gymuned Trearddur i Ward London Road Cymuned Caergybi ac ardal heb unrhyw etholwyr o Gymuned Trearddur i Ward Kingsland Cymuned Caergybi. Mae'r trefniadau etholiadol cyfredol ar gyfer Cymuned Caergybi fel a ganlyn:

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C*
Caergybi Kingsland

959

3

320

  London Road 991 3 330
  Maeshyfryd 1,505 3 502
  Morawelon 936 3 312
  Parc a'r Mynydd 905 2 453
  Porthyfelin 1,537 5 307
  Town 706 2 353
  Cyfansym: 7,539 21 359

* Etholwr fesul cynghorydd

6.3 Nodom awgrym Cyngor Tref Caergybi y dylai nifer eu haelodau presennol gael ei leihau o 21 i 14, gan adael dau aelod am bob un o'r saith ward etholiadol o fewn eu cymuned gan eu bod yn ystyried hyn yn ddigon o gynrychiolaeth i'r ardal gyfredol. Rydym wedi nodi bod nifer o ardaloedd wedi cael trafferthion recriwtio digon o gynghorwyr. Rydym felly'n croesawu'r awgrym i leihau'r nifer o gynghorwyr. Rydym yn pryderu na fyddai Wardiau Cymunedol Maeshyfryd a Phorthyfelin sydd â niferoedd llawer uwch o etholwyr na Wardiau eraill yn cael cynrychiolaeth ddigonol drwy gael dau gynghorydd yn unig. Ystyriwn y byddai tri chynghorydd yr un yn gynrychiolaeth fwy priodol ar gyfer Gwardiau Maeshyfryd a Phorthyfelin. Wedi cymryd hyn i ystyriaeth a'r nifer uwch o etholwyr yn London Road a Kingsland o ganlyniad i'r newid arfaethedig, cynigiwn y trefniadau etholiadol diwygiedig canlynol ar gyfer Cymuned Caergybi:

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C
Caergybi Kingsland

959

2

480

  London Road 1,004 2 502
  Maeshyfryd 1,505 3 502
  Morawelon 936 2 468
  Parc a'r Mynydd 905 2 453
  Porthyfelin 1,537 3 512
  Town 706 2 353
  Cyfansym: 7,552 16 472

6.4 Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur yn golygu gostyngiad o 13 etholwr i 1,358 o etholwyr ar gyfer Cymuned Trearddur. Mae Cymuned Trearddur yn ddi-ward â 1,371 o etholwyr ar hyn o bryd yn cael eu cynrychioli gan 12 cynghorydd. Er bod y gostyngiad yn cynrychioli newid bach yn unig i nifer yr etholwyr, rydym yn poeni y byddai hyn yn cynyddu'r hyn sydd eisoes yn lefel uchel o gynrychiolaeth. Ystyriwn fod yna werth mewn lleihau'r nifer o gynghorwyr sy'n cynrychioli Cymuned Trearddur a byddem yn croesawu barn y rheiny sydd â diddordeb.

6.5 Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phenmynydd yn golygu trosglwyddo 32 etholwr o Ward Llansadwrn yng Nghymuned Cwm Cadnant i Gymuned Penmynydd. Yn ychwanegol, byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phentraeth yn trosglwyddo 3 o etholwyr o ward Llansadwrn Cymuned Cwm Cadnant i Gymuned Pentraeth. Mae'r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Cymuned Cwm Cadnant fel a ganlyn:

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C
Cwm Cadnant Llandegfan

1,503

11

137

  Llansadwrn 284 3 95
  Cyfansym: 1,787 14 128

6.6 Rydym o'r farn y byddai'r gostyngiad yn nifer yr etholwyr o 284 i 252 o fudd yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a hwylus i ddileu trefniadau wardiau Cymuned Cwm Cadnant ac i'r 1,755 o etholwyr sydd ar ôl gael eu cynrychioli gan 12 cynghorydd gan ein bod ni'n ystyried y byddai hon yn lefel briodol o gynrychiolaeth i'r ardal.

6.7 Mae gan Gymuned bresennol Penmynydd 294 o etholwyr a gynrychiolir gan 8 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phenmynydd yn golygu cynnydd yn nifer yr etholwyr yng Nghymuned Penmynydd i 323. Rydym o'r farn bod y trefniadau etholiadol cyfredol yn darparu lefel gyfrannol uchel o gynrychiolaeth; nid ydym felly yn cynnig cynnydd cyfatebol yn nifer y cynghorwyr ar gyfer Cymuned Penmynydd.

6.8 Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Pentraeth a Chymuned Llanfair Mathafarn Eithaf yn golygu trosglwyddo 33 etholwr o Ward Llanbedr-goch Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf i Gymuned Pentraeth. Mae'r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf fel a ganlyn:

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C
Llanfair-Mathafarn-Eithaf Benllech 'A'

815

4

204

  Benllech 'B' 1,182 6 197
  Brynteg 313 2 157
  Llanbedrgoch 429 3 143
  Cyfansym: 2,739 15 183

6.9 Gyda'r gostyngiad yn nifer yr etholwyr yn Ward Llanbedr-goch o 429 i 396 ystyriwn fod 2 gynghorydd yn lefel briodol o gynrychiolaeth i'r Ward hwn. Cynigiwn felly drefniadau etholiadol diwygiedig ar gyfer Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf fel a ganlyn:

Cymuned

Ward

Etholwyr Cynghorwyr E/C
Llanfair-Mathafarn-Eithaf Benllech 'A'

815

4

204

  Benllech 'B' 1,182 6 197
  Brynteg 313 2 157
  Llanbedrgoch 396 2 198
  Cyfansym: 2,706 14 193

6.10 Mae gan Gymuned bresennol Pentraeth 849 o etholwyr a gynrychiolir gan 11 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phentraeth a'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Llanfair Mathafarn Eithaf a Phentraeth yn golygu cynnydd yn nifer yr etholwyr yng Nghymuned Pentraeth i 885. Ystyriwn fod 11 cynghorydd yn parhau'n lefel briodol o gynrychiolaeth i'r ardal hon ac felly ni chynigiwn unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol Cymuned Pentraeth.

Trefniadau Etholiadol y Cyngor Bwrdeistref Sirol

6.11 Mae Adran Etholiadol Kingsland yn cynnwys Ward Kingsland Cymuned Caergybi ac ar hyn o bryd mae ganddi 959 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Ni fyddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur yn golygu unrhyw newid i'r nifer o etholwyr yn Adran Etholiadol Kingsland.

6.12 Mae Adran Etholiadol Ffordd Llundain yn cynnwys Ward Ffordd Llundain Cymuned Caergybi ac ar hyn o bryd mae ganddi 991 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Caergybi a Threarddur yn golygu cynnydd yn nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Ffordd Llundain i 1,004.

6.13 Mae Adran Etholiadol Cwm Cadnant yn cynnwys Cymuned Cwm Cadnant ac ar hyn o bryd mae ganddi 1,787 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phenmynydd yn golygu gostyngiad yn nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Cwm Cadnant i 1,755.

6.14 Mae Adran Etholiadol Llanfihangel Ysgeifiog yn cynnwys Cymunedau Llanfihangel Ysgeifiog a Phenmynydd ac ar hyn o bryd mae ganddi 1,428 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Cwm Cadnant a Phenmynydd yn golygu cynnydd yn nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Llanfihangel Ysgeifiog i 1,457.

6.15 Mae Adran Etholiadol Llanbedr-goch yn cynnwys Wardiau Benllech 'A' a Llanbedr-goch Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf ac ar hyn o bryd mae ganddi 1,244 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Pentraeth a Chymuned Llanfair Mathafarn Eithaf yn golygu gostyngiad yn nifer etholwyr Adran Etholiadol Llanbedr-goch i 1,211.

6.16 Mae Adran Etholiadol Pentraeth yn cynnwys Cymunedau Llanddona a Phentraeth ac ar hyn o bryd mae ganddi 1,348 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymuned Pentraeth a Chymuned Llanfair Mathafarn Eithaf yn golygu cynnydd yn nifer yr etholwyr yn Adran Etholiadol Pentraeth i 1,381.

6.17 Rydym o'r farn, yn achos yr holl adrannau etholiadol uchod, nad yw'r newidiadau i'r nifer o etholwyr o ganlyniad i'r newid arfaethedig i'r ffiniau mor arwyddocaol, ar hyn o bryd, fel bod angen naill ai gynnydd neu ostyngiad yn nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli pob adran etholiadol. O fewn y blynyddoedd nesaf rydym yn bwriadu cynnal adolygiad o drefniadau etholiadol pob prif gyngor yng Nghymru a rhagdybiwn y byddwn yn derbyn cyfarwyddiadau newydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i'n harwain wrth gynnal yr adolygiad. Yr adeg honno byddwn yn edrych yn fanwl ar drefniadau etholiadol Cyngor Sir Ynys Môn a byddwn yn ystyried unrhyw newidiadau a fydd yn codi o'r newidiadau arfaethedig i'r ffiniau cymunedol.

7. CYDNABYDDIAETHAU

7.1 Dymunwn ddatgan ein diolchgarwch i Gyngor Sir Ynys Môn a'r Cynghorau Cymuned am eu cydweithrediad ac i bob person a chorff a gyflwynodd cynrychioliadau inni.

8. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN

8.1 Dylid anfon pob sylw ar yr adroddiad hwn at:

Yr Ysgrifennydd
Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru
Tŷ Caradog
1-6 Plas Sant Andreas
Caerdydd
CF10 3BE

erbyn 21 Medi 2007 fan bellaf.

9. Y CAMAU NESAF

9.1 Pan fyddwn wedi ystyried y cynrychioliadau a wnaed inni mewn ymateb i'r adroddiad drafft hwn byddwn yn cyflwyno ein hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ffurf adroddiad a chynigion. Mater i Lywodraeth Cynulliad Cymru wedyn, os y gwêl hynny'n dda, fydd gweithredu ein hargymhellion naill ai gyda neu heb addasiadau.

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Dirprwy Gadeirydd)

PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Gorffennaf 2007

23/7/2007