Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O'R FFINIAU ADOLYGIAD O FFINIAU CYMUNEDOL YN SIR YNYS MÔN

CYNIGION DRAFFT

ATODIAD C

Crynodeb o Gynrychioliadau a Dderbyniwyd Cyn y Cynigion Drafft

CAERGYBI / TREARDDUR / RHOSCOLYN

Cynigiodd Cyngor Tref Caergybi y dylid cynyddu ei ffin i gynnwys Ynys Cybi a fyddai'n cynnwys Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn. Ystyrient eu bod wedi'u lleoli'n dda i ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol ardal fwy o'r fath gan eu bod nhw ar hyn o bryd yn cymryd camau i wella'r gwasanaethau a ddarperir i'w hardal gymunedol gyfredol. Awgryment dylid cynyddu eu hardal, o leiaf, i gynnwys parc manwerthu Penrhos a datblygiad Ty Mawr.

Cynigiont hefyd y dylid lleihau eu nifer gyfredol o aelodau o 21 i 14, gan adael dau aelod am bob un o'r saith ward etholiadol o fewn eu cymuned gan eu bod nhw'n ystyried y byddai hyn yn gynrychiolaeth ddigonol am eu hardal gyfredol.

Mewn sylw pellach cynigiodd y Cyngor, pe bai datblygiad Ty Mawr yn cael ei gynnwys o fewn eu Cymuned, wedyn dylid alinio'r ffin yn yr ardal honno i ddilyn Ffin Ddyrannu'r CDU gan y byddai hyn yn sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau pellach yn yr ardal yn parhau i fod o fewn ffin eu Cyngor. Gofynnon nhw hefyd am ystyried trosglwyddo safle Metelau Aliminiwm Sir Fôn i mewn i'w cymuned gan y byddai hyn yn sicrhau bod pob prif safle diwydiannol sy'n ffinio â Thref Caergybi ar hyn o bryd o fewn eu Cymuned.

Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Rhoscolyn y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi am y rhesymau canlynol:

Cyflwynodd y Cyngor y ddeiseb ganlynol hefyd:

Ymgais Cyngor Tref Caergybi i Newid Ffiniau Llywodraeth Leol

Rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn gwrthwynebu dymuniad cyngor Tref Caergybi i reoli Ynys Cybi ac amddifadu Cynghorau Rhoscolyn a Threarddur o'u hannibyniaeth

89 llofnod

Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi am y rhesymau canlynol:

Gwrthwynebodd Ieuan Wyn Jones AC y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai y byddai uno o'r fath yn galw am gytundeb unfrydol pob un o'r tri chyngor cymuned.

Ysgrifennodd Mark Isherwood AC i gefnogi pryderon a godwyd ynghylch y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi.

Gwrthwynebodd y Cyng. P J Dunning (Adran Etholiadol Trearddur) y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai nad oedd manteision i drigolion Trearddur a Rhoscolyn naill ai'n wleidyddol neu'n economaidd a thynnodd sylw at boblogaethau is y cymunedau hyn o'u cymharu â Chaergybi a fyddai'n golygu mai dim ond cynrychiolaeth fach fyddai ganddynt fel rhan o gyngor cymuned cyfunol. Roedd cynghorau cymuned presennol Trearddur a Rhoscolyn yn ymgymryd â'u dyletswyddau'n effeithiol ac yn economaidd mewn partneriaeth â'r Cyngor Sir. Tynnodd sylw at y ffaith bod y tair cymuned yn wahanol iawn i'w gilydd o ran cymeriad, roedd Rhoscolyn yn wledig gyda thraddodiad Cymraeg cryf, roedd Trearddur yn wledig gyda chysylltiadau cryf â thwristiaeth tra bod Caergybi yn gymuned yn seiliedig ar borthladd trefol. Ystyriai fod gan aelodaeth bresennol Cyngor Cymuned Trearddur yr arbenigedd angenrheidiol i weinyddu ei gymuned ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a'i fod wedi meithrin perthnasau da ag asiantaethau amrywiol a busnesau lleol Sir Fôn ac wedi cynnal praeseptau rhesymol a godwyd ar drigolion.

Awgrymodd hefyd, pe bai unrhyw uno yn angenrheidiol, y byddai'n gwneud mwy o synnwyr i uno cymunedau Trearddur a Rhoscolyn a fyddai wedyn yn adlewyrchu ffin adran etholiadol y Cyngor Sir.

Gwrthwynebodd un o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod Cyngor Cymuned Trearddur yn effeithlon iawn ac yn gweithio'n ddyfal ar ran y pentref . Ystyriai na fyddai Cyngor Tref Caergybi yn gallu ymdopi ag ardal fwy ac na fyddai'n gallu darparu gwasanaethau digonol a bod y cynnig yn cael ei gyflwyno am resymau ariannol.

Gwrthwynebodd dau o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyrient y byddai cam o'r fath yn cynyddu cost llywodraeth leol ac y byddai trigolion Bae Trearddur a Rhoscolyn yn ymbellhau o gael llais yn nyfodol eu hardal. Nid oeddent yn gweld unrhyw fantais yn y cynnig gan eu bod nhw'n cael ei gwasanaethu'n dda gan Gyngor Cymuned Trearddur.

Gwrthwynebodd un o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod Trearddur a Rhoscolyn yn wledig tra bod Caergybi yn ardal drefol ac nad oedd yna gefnogaeth leol i'r cynnig. Nid oedd unrhyw awgrym bod y gwasanaethau a ddarparerid i Drearddur a Rhoscolyn gan Gyngor Tref Caergybi yn welliant ar y gwasanaethau cyfredol.

Gwrthwynebodd un o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod ardaloedd gwledig Trearddur a Rhoscolyn yn wahanol iawn i ardal drefol Caergybi ac na roddwyd unrhyw fantais i'r cynnig. Nododd ei fod yn fodlon ar gynrychiolaeth y cyngor cymuned presennol.

Gwrthwynebodd un o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Nid ystyriai fod materion Caergybi yn cael eu rheoli'n dda ac y byddai materion cymunedol Trearddur yn gwella o ganlyniad i ymuno â Chaergybi yn arbennig gyda chyngor wedi'i leihau i 14 aelod. Tynnodd sylw at y ffaith bod Trearddur yn ardal dwristaidd gydag anghenion gwahanol i ardal drefol Caergybi. Dywedodd fod Cynghorwyr Cymuned Trearddur wedi gofalu ar ôl anghenion yr ardal yn dda ac yn effeithlon yn y gorffennol.

Gwrthwynebodd un o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod anghenion Trearddur a Chaergybi yn gwbl wahanol yng nghyd-destun tai, cyflogaeth a lles. Tynnodd sylw at y ffaith nad oedd gan yr ardaloedd wir berthynas â'i gilydd gan fod Bae Trearddur yn gyrchfan wyliau a Chaergybi yn ymwneud yn fwy â thraffig y fferi i Iwerddon. Ystyriai hefyd nad oedd materion cymunedol Caergybi yn cael eu rheoli'n dda a bod gwrthwynebiad lleol cryf i'r uno arfaethedig.

Gwrthwynebodd dau o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyrient fod y problemau a oedd yn effeithio ar Gaergybi drefol gan fwyaf yn wahanol i'r rhai hynny yn Nhrearddur a Rhoscolyn gwledig a fyddai ar eu colled. Byddai'r uno arfaethedig yn cael effaith andwyol ar drigolion Bae Trearddur.

Gwrthwynebodd un o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod cynghorau cymuned Trearddur a Rhoscolyn yn ymdrin â phryderon eu trigolion. Nododd mai dim ond anfanteision y gallai hi eu gweld yn yr uno arfaethedig gyda Chaergybi gan y byddai diddordeb uniongyrchol yn Nhrearddur a Rhoscolyn yn cael ei golli.

Ystyriai dau o drigolion Bae Trearddur y dylai unrhyw newid yn y weinyddiaeth fod o fudd i'r trethdalwyr lleol.

Gwrthwynebodd un o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod Tref Caergybi yn drefol gydag economi anwadal yn ddibynnol ar y porthladd tra bod Trearddur a Rhoscolyn yn gynghorau gwledig gyda thraddodiad o economi gadarn a chynghorwyr llawr gwlad. Mae gan Gyngor Cymuned Trearddur ddealltwriaeth dda o anghenion economaidd a thwristaidd yr ardal a datblygiadau arfaethedig fel Ty Mawr. Pan estynnodd Cyngor Caergybi ei ffiniau yn y gorffennol dioddefodd yr ardaloedd y cymerodd gyfrifoldeb drostynt drethi uwch a diffyg cyfleusterau.

Gwrthwynebodd un o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Nododd fod Caergybi yn dref borthladd y môr oedd â phroblemau yn debyg i'r rhai hynny a geir mewn dinasoedd ac ystyriai fod hyn yn ei gwneud yn anaddas i gymryd cyfrifoldeb dros redeg cymunedau gwledig Trearddur a Rhoscolyn gyda'u poblogaethau sy'n mynd yn hyn. Ystyriai fod Cyngor Tref Caergybi yn dioddef ei broblemau ei hun heb ychwanegu anghenion gwledig Trearddur a Rhoscolyn atynt.

Gwrthwynebodd un o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod Caergybi, fel tref borthladd a diwydiannol, yn hollol wahanol i Drearddur a Rhoscolyn. Roedd Trearddur a Rhoscolyn ar y cyfan yn ardaloedd gwledig, roedd gan Roscolyn dreftadaeth Gymraeg gref a Bae Trearddur hanes hir o dwristiaeth. Roedd gan bob un o'r tair ardal anghenion gwahanol iawn a dylai pob un gael ei chynrychioli gan gyngor cymuned ar wahân. Ystyriai fod Cynghorau Cymuned Trearddur a Rhoscolyn wedi gwasanaethu eu hardaloedd yn dda yn y gorffennol.

Gwrthwynebodd dau o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyrient fod materion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol Rhoscolyn, Pontrhydybont a Bae Trearddur yn wahanol iawn i'r rheiny yng Nghaergybi a bod yr ardaloedd hynny yn cael eu gwasanaethu'n well gan y cynghorau cymuned presennol a oedd yn deall anghenion pob ardal.

Gwrthwynebodd dau o drigolion Bae Trearddur y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyrient fod gan Roscolyn yn arbennig ei hunaniaeth benodol ei hun a chyngor a oedd yn weithgar wrth wasanaethu anghenion a barn trigolion lleol a thynnodd sylw at y ffaith y byddai hyn yn cael ei golli pe bai'r newid arfaethedig yn cael ei fabwysiadu.

Gwrthwynebodd un o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymuned Rhoscolyn ag unrhyw ardal fwy. Ystyriai fod gan Roscolyn ei hanghenion unigryw ei hun a ddylai gael eu rheoli'n lleol ac y byddai uno ag ardal arall yn gallu arwain at orfodi polisïau amhriodol.

Gwrthwynebodd un o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymuned Rhoscolyn â Chaergybi. Ystyriai fod yr ystyriaethau a oedd yn bwysig i Roscolyn yn wahanol iawn i'r rheiny sy'n effeithio ar Gaergybi.

Gwrthwynebodd dau o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymuned Rhoscolyn / Pontrhydybont â Chymuned Caergybi. Ystyrient fod yna wahaniaeth amlwg o ran buddiannau'r ddwy ardal gan fod Rhoscolyn yn wledig a Chaergybi yn ardal drefol adeiledig ac ni chredai fod gan Gyngor Tref Caergybi yr adnoddau i gynrychioli buddiannau trigolion Rhoscolyn. Mae Cyngor Cymuned presennol Rhoscolyn yn cynnwys cynghorwyr lleol sydd â gwybodaeth dda am faterion lleol ac y mae trigolion yn ffyddiog y byddent yn ei eu cynrychioli'n briodol ac ni ellid ei wella gan Gyngor Tref Caergybi. Dywedon nhw nad oedd unrhyw dystiolaeth fod canoli o'r math a argymhellwyd ar gyfer Ynys Cybi o fudd i gymunedau lleol. Ystyrient y byddai uno â Chaergybi hefyd yn golygu cynnydd mewn taliadau cymunedol.

Gwrthwynebodd dau o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymuned Rhoscolyn / Pontrhydybont â Chymuned Caergybi. Ystyrient fod gan y ddwy ardal wahaniaethau amlwg o ran eu buddiannau gan fod Rhoscolyn yn wledig a Chaergybi yn ardal drefol â llawer o adeiladau ac ni chredent fod gan Gyngor Tref Caergybi yr adnoddau i gynrychioli trigolion Rhoscolyn. Roedd Cyngor Cymuned presennol Rhoscolyn yn cynnwys cynghorwyr lleol oedd â gwybodaeth dda o faterion lleol ac yr oedd trigolion lleol yn hyderus y byddent yn eu cynrychioli'n briodol ac ni ellid ei wella gan Gyngor Tref Caergybi. Dywedon nhw nad oedd unrhyw dystiolaeth fod canoli fel a argymhellwyd ar gyfer Ynys Cybi o fudd i gymunedau lleol. Ystyrient y byddai uno â Chaergybi hefyd yn golygu cynnydd mewn taliadau cymunedol. Tynnent sylw hefyd at bapur gwyn y llywodraeth sy'n dweud na ddylid diddymu cynghorau plwyf presennol yn erbyn ewyllys y bobl leol.

Gwrthwynebodd un o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod y trefniadau presennol ar gyfer Caergybi yn gweithio'n dda iawn gan fod y cynghorwyr yn adnabod y gymuned yn dda ac yn deall ei hanghenion. Credai y byddai hyn yn cael ei golli pe bai'r uno arfaethedig yn digwydd.

Gwrthwynebodd dau o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyrient fod anghenion pob un gymuned yn cael ei diwallu'n well gan eu cynghorau cymuned presennol a oedd yn deall anghenion unigol yr ardaloedd yr oeddent yn gyfrifol amdanynt.

Gwrthwynebodd dau o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymuned Rhoscolyn â Chaergybi. Ystyrient fod yna wahaniaeth amlwg o ran buddiannau rhwng ardal drefol Caergybi ac ardal wledig Rhoscolyn ac ni chredent fod gan Gyngor Tref Caergybi yr adnoddau i gynrychioli eu buddiannau. Tynnent sylw at y ffaith fod gan eu cynghorwyr cymuned yn Rhoscolyn wybodaeth o faterion ac anghenion lleol a olygai y gallent gynrychioli'r trigolion yn briodol. Nid oeddent yn ystyried y byddai'r canoli a oedd yn cael ei argymell gan Gyngor Tref Caergybi yn llwyddiannus ac y byddai'n arwain at daliadau cymunedol uwch.

Gwrthwynebodd teulu o drigolion Rhoscolyn / Wirral y cynnig i uno Cymuned Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyrient fod Cyngor Cymuned Rhoscolyn wedi llywodraethu'r gymuned leol yn foddhaol yn y gorffennol gyda'r isafswm adnodd cost effeithiol. Tynnon nhw sylw at y ffaith bod yna wahaniaeth mawr o ran buddiannau Caergybi drefol a Rhoscolyn wledig ac nid oeddent yn credu bod gan Gyngor Tref Caergybi yr adnoddau i gynrychioli buddiannau trigolion Rhoscolyn. Roedd Cyngor Cymuned presennol Rhoscolyn yn cynnwys cynghorwyr lleol oedd â gwybodaeth dda o faterion lleol ac roedd y trigolion yn ymddiried ynddynt i'w gwasanaethu'n briodol ac ni ellid ei wella gan Gyngor Tref Caergybi. Dywedon nhw nad oedd unrhyw dystiolaeth fod y canoli o'r math a argymhellwyd ar gyfer Ynys Cybi o fudd i gymunedau lleol. Ystyrient y byddai uno â Chaergybi hefyd yn golygu cynnydd mewn taliadau cymunedol.

Gwrthwynebodd un o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod Cyngor Cymuned Rhoscolyn yn cynnwys cynrychiolwyr a oedd yn gweddu i'r ardal wledig, arfordirol yr oeddent yn ei gwasanaethu o safbwynt eu gwybodaeth a'u cefndir. Byddai'r cynnig yn uno ardaloedd cwbl wahanol gydag amgylchiadau ac anghenion gwahanol a byddai'r gwahaniaeth arwyddocaol o ran trwch poblogaeth yn arwain at effeithio'n andwyol ar gynrychiolaeth Rhoscolyn, sydd â phoblogaeth isel. Dywedodd fod gan Gaergybi praesept cymunedol llawer mwy na Rhoscolyn ac y byddai uno yn arwain at gostau uwch i drigolion Rhoscolyn gyda dim buddiannau o ganlyniad iddo.

Gwrthwynebodd un o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Tynnodd sylw at y ffaith fod papur gwyn y llywodraeth ar gymunedau yn cynnig na ddylai cynghorau cymuned presennol gael eu diddymu yn erbyn ewyllys y bobl leol. Ystyriai na fyddai buddiannau Rhoscolyn a'i thrigolion yn cael eu cynrychioli'n briodol gan gyngor dan ddylanwad porthladd fferi prysur a rhan helaeth o ddiwydiant gweithgynhyrchu Sir Fôn ac ni allai weld unrhyw fudd i ardal wledig gael ei llywodraethu gan gyngor sy'n canolbwyntio ar dref. Dywedodd na ddylid uno Rhoscolyn ag unrhyw gymuned arall.

Gwrthwynebodd un o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod economi a chymdeithas yr ardaloedd yn wahanol mewn sawl agwedd bwysig a bod gan gynghorwyr pob ardal arbenigedd, gwybodaeth a dyletswyddau gwahanol. Dywedodd fod gan gynghorwyr presennol Rhoscolyn wybodaeth helaeth am yr ardal a materion lleol ac y gall trigolion gysylltu â hwy yn hawdd. Tynnodd sylw at y ffaith bod cyngor Rhoscolyn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl, sy'n dangos cysondeb o ran treftadaeth ac iaith. Tynnodd sylw at y ffaith fod papur gwyn y llywodraeth ar gymunedau yn cynnig na ddylid diddymu cynghorau cymuned yn erbyn ewyllys y bobl leol.

Gwrthwynebodd dau o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyrient fod gan Roscolyn ei nodweddion cymdeithasol, gwaith a daearyddol unigryw ei hun sy'n wahanol iawn i rai Caergybi. Roedd cynghorwyr Rhoscolyn yn lleol i'r ardal ac roedd ganddynt wybodaeth fanwl o faterion lleol ac nid oeddent yn credu y gallai Cyngor Tref Caergybi wella ar hyn na bod ganddynt yr adnoddau i gynrychioli buddiannau Rhoscolyn. Ystyrient y byddai'r uno yn golygu y byddai trigolion Rhoscolyn yn talu mwy am lefel is o gynrychiolaeth.

Gwrthwynebodd un o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymuned Rhoscolyn â Chymuned Caergybi neu unrhyw ardal arall. Ystyriai fod anghenion ardal o'r fath yn wahanol iawn ac y byddai isadeiledd tref yn amhriodol ar gyfer pentref gwledig glan môr. Roedd cynghorwyr presennol Rhoscolyn yn lleol i'r ardal ac yn deall anghenion y gymuned. Tynnodd sylw at bapur gwyn y llywodraeth sy'n datgan na ddylai cynghorau cymuned presennol gael eu diddymu yn erbyn ewyllys y bobl leol.

Gwrthwynebodd dau o drigolion Wirral y cynnig i uno Cymuned Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyrient fod y ddwy gymuned yn gwbl wahanol a bod gan Roscolyn anghenion na fyddai'n berthnasol i ardal drefol fawr fel Caergybi. Tynnon nhw sylw at y ffaith bod gan gynghorwyr Rhoscolyn ystod eang o sgiliau, diddordebau a gwybodaeth o faterion lleol a alluogai iddynt gynrychioli'r gymuned yn effeithiol ac ystyrient fod y lefel hon o gynrychiolaeth yn cael ei cholli pe bai uno. Ystyrient fod yr uno â Chaergybi yn golygu taliadau cymunedol uwch heb unrhyw fudd i drigolion Rhoscolyn a thynnon nhw sylw at y ffaith bod papur gwyn y llywodraeth ar gymunedau yn cynnig na ddylid diddymu cynghorau cymuned presennol yn erbyn ewyllys y bobl leol.

Gwrthwynebodd un o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymuned Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod yr ardaloedd yn wahanol iawn gyda'u buddiannau amrywiol a hyd yn oed gwrthgyferbyniol eu hunain a nodweddion cymdeithasol a daearyddol unigryw. Roedd cynghorwyr presennol Rhoscolyn yn lleol i'r ardal ac yn deall materion gwledig a lleol a oedd yn bwysig i'r gymuned. Byddai eu huno yn gadael Rhoscolyn heb unrhyw rym gwleidyddol, cymdeithasol na chynrychiolaeth arwyddocaol annibynnol. Tynnodd sylw at y ffaith bod papur gwyn y llywodraeth ar gymunedau yn cynnig y dylai cynghorau cymuned presennol gael mwy o lais o fewn cynghorau sir ac felly na fyddai'n gwneud synnwyr i uno Rhoscolyn a Chaergybi.

Gwrthwynebodd un o drigolion Rhoscolyn y cynnig i uno Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn â Chymuned Caergybi. Ystyriai fod gan y cynghorau cymuned presennol wybodaeth helaeth o faterion ac achosion lleol a'u bod felly wedi cynrychioli eu hardaloedd yn dda. Tynnodd sylw at y ffaith nad oedd y cynnig yn cyd-fynd â phapur gwyn y llywodraeth ar gymunedau a oedd yn cynnig na ddylid diddymu cynghorau cymuned presennol yn erbyn ewyllys y bobl leol. Ystyriai mai cymhelliannau ariannol oedd gan Gyngor Tref Caergybi ac na fyddai'n gwella effeithlonrwydd na chynrychiolaeth y cymunedau yr oeddent yn dymuno eu mabwysiadu.

Cynigiwyd pob un neu rai o'r rhesymau canlynol dros wrthwynebu uno Cymunedau Trearddur, Rhoscolyn a Chaergybi gan 5 o drigolion Rhoscolyn:

PORTHAETHWY / CWM CADNANT / PENMYNYDD

Ystyriai Cyngor Cymuned Cwm Cadnant y dylid alinio ffin eu cymuned i gynnwys rhan o Gymuned Penmynydd yng nghyffiniau cyffordd ffordd Penmynydd y B5420 yn arwain at Safle Gwastraff Penhesgyn fel ymarfer tacluso. Tynnodd y Cyngor sylw at y ffaith bod ceisiadau cynllunio ar gyfer y safle yn dod o dan eu hawdurdodaeth er bod rhai eiddo ar y ffordd yn arwain at y safle wedi'u lleoli ym Mhenmynydd. Ystyrient hefyd y dylid alinio'r ffin gymunedol rhwng eu cymuned hwy a Chymuned Porthaethwy i gynnwys yr eiddo yng nghyffiniau'r ffordd un lôn yr ochr draw i Fodurdy Pentraeth eto fel ymarfer tacluso gan fod ceisiadau cynllunio a dderbynir gan y cyngor wedi'u lleoli'n agosach i Borthaethwy nag o leiaf hanner dwsin o eiddo eraill yn y cyffiniau.

Gwrthwynebodd Cyngor Tref Porthaethwy y newid i'r ffin rhwng eu cymuned hwy a Chwm Cadnant a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant gan eu bod nhw o'r farn y byddai'n arwain at ddryswch a cham-ddehongli'r ffin draddodiadol. O ganlyniad i natur benodol Porthaethwy fel y porth i Ynys Môn ystyrient y dylai'r ffin bresennol aros fel yr oedd hi.

Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Penmynydd a Star y newid i'r ffin rhwng eu cymuned hwy a Chwm Cadnant a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant. Ystyrient fod yr ardal o dan sylw yn hanesyddol yn rhan o Benmynydd a'i fod yn fwy cyfleus i drigolion i ymgynnull a phleidleisio ym Mhenmynydd.

Gwrthwynebodd Ieuan Wyn Jones AC y cynnig i newid y ffin rhwng cymunedau Porthaethwy, Penmynydd a Chwm Cadnant gan nad oedd gan y cynigion hyn gefnogaeth pob parti a oedd ynghlwm â'r mater.

Gwrthwynebodd un o drigolion Gaerwen y newid i'r ffin rhwng Penmynydd a Chwm Cadnant a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant. Ystyrient ei fod yn fwy cyfleus i drigolion yr ardal dan sylw i ymgynnull a phleidleisio ym Mhenmynydd.

PENTRAETH / LLANFAIR MATHAFARN EITHAF / LLANDDYFNAN

Cynigiodd Cyngor Cymuned Pentraeth y dylid estyn eu ffin ogledd-orllewin i gynnwys rhan o Gymuned Llanfair Mathafarn Eithaf yng nghyffiniau Rhôs y Gâd a rhan o Gymuned Llanddyfnan yng nghyffiniau Tyn-y-pwll. Ystyrient y byddai alinio'r ffin fel yr argymhellwyd yn sythu llinell y ffin gymunedol ac yn cryfhau Pentraeth o ran maint a phoblogaeth. Byddai hefyd yn cynyddu gwerth trethiannol Pentraeth heb effeithio ar gymuned Llanfair Mathafarn Eithaf. Tynnon nhw sylw at y ffaith fod gan yr ardal y cynigiwyd ei throsglwyddo gyfeiriad a chod post Pentraeth eisoes.

Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf y newid i'r ffin rhwng eu cymuned a Phentraeth a gynigiwyd gan Cyngor Cymuned Pentraeth am y rhesymau canlynol:

Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Llanddyfnan y cynnig i newid y ffin rhwng eu cymuned a chymuned Pentraeth a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Pentraeth gan eu bod yn ystyried bod y trefniadau presennol yn gweithio'n dda yn yr ardal honno. Roedd y Cyngor o'r farn hefyd y dylid addasu ei ffin gymunedol i gynnwys ardaloedd Rhosmeirch a Marian-glas.

Gwrthwynebodd y Cyngh. W J Williams (Adran Etholiadol Llanddyfnan) y cynnig i newid y ffin rhwng Llanddyfnan a Phentraeth a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Pentraeth. Tynnodd sylw at y ffaith bod y ffin bresennol yn ddaearyddol o ran ei natur ac yn adnabyddus i drigolion lleol. Ystyriai nad oedd unrhyw ddatblygiad wedi bod yn yr ardal a fyddai'n gwarantu newid i'r ffin.

CWM CADNANT / PENTRAETH

Ystyriai Cyngor Cymuned Cwm Cadnant y dylid alinio'r y ffin rhwng eu cymuned hwy a Chymuned Pentraeth yn ardal cyffordd Black Horse Lane a'r A5025 fel ymarfer tacluso gan y byddai'n cynnwys eiddo yr oedd ceisiadau cynllunio tebyg wedi'u derbyn gan y cyngor mewn perthynas â hwy.

Gwrthwynebodd Cyngor Cymuned Pentraeth y cynnig gan Gyngor Cwm Cadnant i newid y ffin gymunedol yng nghyffiniau Black Horse Lane.

23/7/2007