AROLWG O RAN O'R FFIN RHWNG BWRDEISTREFI SIROL RHONDDA CYNON TAF A BRO MORGANNWG YN ARDAL CYMUNEDAU LLANHARI, PONT-Y-CLUN, PENLLYN, LLANDDUNWYD A PHENDEULWYN
ADRODDIAD A CHYNIGION
- CYFLWYNIAD
- CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
- CYNIGION DRAFFT
- CRYNODEB O'R CYNRYCHIOLIADAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
- ASESIAD
- CYNIGION
- TREFNIADAU DILYNOL
- CYDNABYDDIAETHAU
- YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
Y Gwir Anrh H Rhodri Morgan AS AC
Prif Weinidog Cymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. CYFLWYNIAD
1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o ran o'r ffin rhwng bwrdeistrefi sirol Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yn ardal cymunedau Llanhari, Pont-y-Clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn ac yn cyflwyno ein cynigion ar gyfer ffin newydd. Gwelir map yn dangos ardal yr arolwg yn Atodiad 1.
CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
2.1 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Gweithdrefn
2.3 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw ysgrifenasom ar 5 Tachwedd 1999 at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cynghorau Cymuned Llanhari, Pont-y-Clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, Aelodau'r Cynulliad ar gyfer yr ardal, cymdeithasau'r awdurdodau lleol, awdurdod yr heddlu ar gyfer yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol. Gwahoddwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg i gyflwyno eu hawgrymiadau ar gyfer newidiadau i'r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynwyd i'r cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus. Yn ogystal, darparodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gyfeiriadau trigolion yn ardal Rhondda Cynon Taf sy'n byw i'r de o draffordd yr M4. Ysgrifenasom at y trigolion hyn ar 3 Rhagfyr 1999 yn gofyn am eu safbwyntiau cychwynnol ynglyn â'r ffin o dan arolwg gan gynnwys amlinelliad o unrhyw ffactorau cymdeithasol neu weinyddol penodol y dylem eu hystyried ac unrhyw argymhellion y dymunent eu cynnig ar gyfer addasiadau.
3. CYNIGION DRAFFT
3.1 Derbyniwyd cynrychioliadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg; Cynghorau Cymuned Llanhari, Pendeulwyn, Pont-y-Clun a Llanddunwyd; Dr Kim Howells AS; Janet Davies AC, David Melding AC, Owen John Thomas AC; Heddlu De Cymru; a 17 o gyrff eraill a thrigolion oedd â diddordeb. Cafodd y cynrychioliadau hyn eu hystyried a'u crynhoi yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 31 Mai 2000.
3.2 Roedd casgliad ein Cynigion Drafft yn dangos nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi'r farn y byddai er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i newid y ffin rhwng Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.
3.3 Anfonwyd copiau o'r Cynigion Drafft i'r holl gynghorau, cyrff ac unigolion y cyfeirir atynt ym mharagraff 2.3 i geisio'u barn. Anfonwyd copi hefyd at bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau cychwynnol. Drwy hysbysiad cyhoeddus hefyd, rhoddwyd gwahoddiad i unrhyw sefydliad neu berson arall oedd â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno'u barn. Roedd copiau o'r Cynigion Drafft ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a'r Comisiwn ac hefyd yn swyddfeydd Awdurdod Heddlu De Cymru.
4. CRYNODEB O'R CYNRYCHIOLIADAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
4.1 Yn dilyn cyhoeddi ein Cynigion Drafft, fe'n hysbyswyd nad oedd pob un o'r trigolion y cyfeirir atynt yn 2.3 wedi derbyn llythyr yn eu gwahodd i gyflwyno sylwadau. Ar ôl gwneud ymholiadau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, canfuwyd bod 22 o gyfeiriadau wedi eu hepgor oddi ar y rhestr wreiddiol a roddwyd i ni. Ysgrifennwyd at drigolion y cyfeiriadau hyn gan gynnwys copi o'n Cynigion Drafft yn gofyn am eu barn ar y ffin o dan arolwg. Er mwyn caniatáu digon o amser i'r trigolion ysgrifennu atom estynnwyd y cyfnod ymgynghori i 31 Hydref 2000.
4.2 Fe'n hysbyswyd gan Janice Gregory AC a Jane Davidson AC nad oeddynt wedi derbyn llythyr yn gofyn am eu sylwadau cychwynnol ar yr arolwg. Ysgrifenasom at Ms Gregory a Ms Davidson yn nodi'n pryder nad oeddynt wedi gallu cymryd rhan yn rhan gyntaf yr arolwg. Cadarnhaom yr anfonwyd y llythyrau, ond nad oeddynt wedi eu derbyn am ba reswm bynnag.
4.3 Derbyniwyd cynrychioliadau gan Janet Davies AC, Janice Gregory AC, Dr D R Lloyd AC, Mr D Melding AC ac wyth o drigolion. Ystyriwyd pob un o'r cynrychioliadau hyn yn ddwys cyn i ni ffurfio ein cynigion.
4.4 Roedd Janet Davies AC yn cytuno'n llwyr â chasgliadau Cynigion Drafft y Comisiwn.
4.5 Dywedodd Janice Gregory AC ei bod yn cytuno â Chynigion Drafft y Comisiwn.
4.6 Roedd Dr D R Lloyd AC hefyd yn cytuno'n llwyr â chasgliadau Cynigion Drafft y Comisiwn.
4.7 Gofynnodd Mr D Melding AC i'r Comisiwn ystyried mân addasiad i'r ffin bresennol yn ardal dau eiddo ym mhentrefan y Goedlan i drosglwyddo'r eiddo hynny o Rondda Cynon Taf i Fro Morgannwg. Teimlai y byddai'r mân addasiad hwn yn adlewyrchu'r trefniadau presennol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ardal ac yn uno pentrefan y Goedlan sy'n cael ei rannu rhwng dau awdurdod ar hyn o bryd.
4.8 Nododd un o drigolion Talygarn ei siom gyda chynnig [Drafft] y Comisiwn i gadw'r ffin bresennol. Cwestiynodd yr awgrym o gysylltiadau cymdeithasol rhwng Talygarn a Phontyclun gan nodi mai'r unig gludiant cyhoeddus rhwng y ddwy ardal oedd gwasanaeth bws afreolaidd. Nid oedd ychwaith yn teimlo unrhyw awydd i ymgymryd ag unrhyw weithgareddau cymdeithasol ym Mhontyclun gyda'r nos oherwydd meddwdod a chriwiau ar y stryd yno. Nododd hefyd bod ei meddygon hefyd yn gwasanaethu cleifion o Fro Morgannwg ac felly ni ddylent gael eu heffeithio drwy newid y ffin bresennol. Roedd yn gwrthwynebu'r ddadl bod angen i Rondda Cynon Taf gadw'r cyfran o dai drud o ansawdd uchel i'r de o'r M4 er mwyn gwneud yn iawn am ardaloedd eraill yn y Fwrdeistref Sirol oedd yn economaidd ddifreintiedig. Dywedodd nad oedd nifer o'r trigolion i'r de o'r M4 yn gyfoethog ond eu bod yn hen, wedi ymddeol a/neu'n weddwon ac felly ni fyddai'n hawdd iddynt fforddio'r treth gyngor a godir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gyda'u hanes ofnadwy o drin arian.
4.9 Roedd un o drigolion Talygarn yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gadw'r ffin bresennol. Nododd fod y mwyafrif o'r cynrychioliadau a dderbyniwyd gan y Comisiwn o blaid newid y ffin bresennol i ddilyn yr M4. Roedd trigolion yr ardal oedd yn cael ei heffeithio gan yr arolwg ac a oedd wedi gwneud cynrychioliadau yn daer o blaid newid y ffin bresennol gyda dim ond 1 allan o 13 yn gwrthwynebu.
Ystyriai bod tystiolaeth y cynrychioliadau a dderbyniwyd yn dangos nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn darparu gwasanaethau effeithiol i'r ardal gan bod gwasanaethau casglu sbwriel a glanhau strydoedd yn Pantaquesta a Llanhari i'r de o'r M4 yn cael eu darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Nododd bod gwasanaethau casglu sbwriel, glanhau strydoedd a chynnal goleuadau stryd yn Nhalygarn yn annibynadwy a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi derbyn cwynion am hyn. Nododd mai Pontypridd yw'r ganolfan darparu gwasanaethau ar gyfer Rhondda Cynon Taf sydd yn bellach o'r ardal dan sylw na chanolfan gwasanaethau Bro Morgannwg yn Y Bont-faen a nododd nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn gweld unrhyw broblem yn sgîl ymestyn y gwasanaethau a ddarperir ganddynt eisoes ar gyfer rhannau o'r ardal dan sylw i'r de o'r M4 i gynnwys y gweddill. O ran y man claddu yn Llanhari, gan fod pobl yn cael eu claddu ar draws ffiniau ffug ledled y Deyrnas Unedig, credai nad oedd hyn yn fater y dylid ei ystyried. Cwestiynodd a oedd perthynas hanesyddol y chwarel gyda Llanhari yn bwysig gan y teimlai ei bod yn hyll a bod y ffordd fynediad i'r chwarel wedi ei lleoli ym Mro Morgannwg, y tu allan i ffin Llanhari. Teimlai hefyd bod trigolion Talygarn ac ymhellach ar hyd yr A4222 yn dioddef o ganlyniad i broblemau amgylcheddol yn deillio o'r chwarel. Ynglŷn â thrigolion Llanhari sy'n byw i'r de o'r M4, nododd bod dau ohonynt wedi mynegi dymuniad i'r ffin gael ei halinio. Roedd gwasanaethau casglu sbwriel a gwasanethau priffyrdd eraill ar gyfer yr ardal yn cael eu darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac nid oedd unrhyw ofyniad i drigolion newid eu trefniadau meddygol, addysgol, hamdden na chrefyddol oherwydd newid i'r ffin. Gwrthbrofodd yr honiad y byddai trigolion i'r de o'r M4 yn teimlo'n ynysig oddi wrth bentref Llanhari a'i gyfleusterau pe bai'r ffin yn cael ei halinio gan y byddent yn dal yn rhydd i deithio i'r pentref a defnyddio'r cyfleusterau waeth ble byddai'r ffin. Dywedodd nad oedd gan linellau gwleidyddol ar fapiau unrhyw ddylanwad ar ble yr oedd pobl yn cymdeithasu neu'n mynychu'r eglwys ac felly nad oedd pwyntiau a godwyd ynglŷn â chysylltiadau cymunedol yn ymwneud â newid ffin yn berthnasol. Teimlai'n ddig am y datganiad a wnaed gan Gyngor Cymuned Pont-y-Clun bod eu hymholiadau wedi dangos nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi derbyn unrhyw gwynion am y ddarpariaeth o wasanaethau yn yr ardal gan ei fod ef ei hun wedi cyflwyno nifer o gwynion yn y gorffennol i'r Cyngor ynglŷn â chasglu sbwriel, glanhau strydoedd a goleuo strydoedd. Roedd y system casglu sbwriel yn ei ardal ef yn cael ei gweithredu gan ddau gerbyd sbwriel gwahanol yn casglu sbwriel o dai penodol ar ddyddiau na ellid eu darogan. Nododd na fyddai cysylltiadau cymdeithasol a theuluol rhwng trigolion i'r de o'r M4 a thrigolion Pont-y-Clun yn cael eu heffeithio drwy newid y ffin bresennol. Honnodd bod bron i bob gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio oherwydd agosrwydd waeth beth fo ffiniau a bod gwasanaethau wedi eu lleoli yn Y Bont-faen ym Mro Morgannwg yn agosach at ardal yr arolwg na'r rhai oedd wedi eu lleoli ym Mhontypridd, a hefyd bod llawer o'r gwasanaethau ar gyfer yr ardal eisoes yn cael eu darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Ystyriai bod y pryderon ynglŷn â chadw tai o ansawdd uchel i'r de o'r M4 o fewn Rhondda Cynon Taf i'w defnyddio fel ffynhonnell arian ar gyfer gweddill yr awdurdod, yn ganlyniad i fethiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gadw trefn ar ei drefniadau ariannol. Teimlai y byddai pobl broffesiynol a rheolwyr yn debycach o gael eu denu i'r ardal pe baent yn ystyried ei bod wedi ei lleoli o fewn awdurdod oedd yn cael ei reoli'n effeithiol gyda threfn ar ei arian, ac a oedd felly'n codi llai o dreth gyngor. Credai mai'r unig gasgliad y gellid ei lunio o'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad drafft y Comisiwn yw y dylid ymgorffori'r newid arfaethedig i'r ffin.4.10 Credai un o drigolion Talygarn nad oedd sylwedd i'r awgrym a godwyd gan Gyngor Cymuned Llanhari y byddai trigolion i'r de o'r M4 yn teimlo'n ynysig pe symudwyd y ffin, gan fod yr adroddiad yn nodi bod ymchwiliadau'n dangos bod llinellau cyswllt da eisoes yn bodoli rhwng y ddwy ardal. Teimlai bod sylwadau a wnaed yn yr adroddiad yn dangos bod y mwyafrif o drigolion Talygarn a Phantaquesta am drosglwyddo i Fro Morgannwg. Er nad oedd yn dadlau â honiad Cyngor Cymuned Pont-y-Clun bod gan drigolion Talygarn gysylltiadau teuluol a chymdeithasol cryf gyda Phont-y-Clun, roedd yn dal i deimlo bod y rhan fwyaf ohonynt yn dymuno gweld y ffin yn newid. Nododd mai datgan yr amlwg oedd dweud bod trigolion yr ardal oedd yn cael ei heffeithio yn dibynnu ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau oherwydd bod dyletswydd gyfreithiol ar yr awdurdod hwnnw i ddarparu'r gwasanaethau hynny a bod y trigolion wedi talu trethi cyngor iddynt wneud hynny. Teimlai nad oedd hyn yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y gallai Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg eu darparu i'r ardal na'u gallu i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Dywedodd bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg hanes ardderchog o ddarparu gwasanaethau effeithiol a dibynadwy i'r ardaloedd o fewn eu rheolaeth. Teimlai mai damcaniaethol fyddai ystyried a fyddai'r Eglwys yng Nghymru yn newid ei ffin plwyfol ai peidio o ganlyniad i newid i ffin yr awdurdod lleol.
Credai bod y pwyntiau arwyddocaol yn adroddiad y Cynigion Drafft wedi'u cynnwys yn y sylwadau a wnaed gan Dr Kim Howells AS a Janet Davies AC ynglŷn â'r angen i Rondda Cynon Taf gadw'r gyfran o dai drud o ansawdd uchel yn ardal yr arolwg, gan na fyddai cael gwared arnynt o gymorth i awdurdod sydd â nifer o ardaloedd difreintiedig. Gan fod y bandiau treth gyngor yn Rhondda Cynon Taf yn uwch na'r rheini ym Mro Morgannwg am lai o wasanaethau, credai fod y lefelau o effeithlonrwydd o fewn y ddau awdurdod yn berthnasol ac mai'r rheswm dros newid y ffin ddylai fod er mwyn sicrhau bod trigolion yn yr ardal dan sylw yn cael gwell darpariaeth gwasanaethau, gwasanaethau mwy effeithlon ac i symleiddio gweinyddiaeth a rheolaeth er mwyn arbed costau. Er bod cymhariaeth gyffredinol fel hyn o'r lefelau o effeithlonrwydd rhwng y ddau awdurdod y tu allan i gylch gorchwyl arolwg y Comisiwn, teimlai mai dyma gnewyllyn y broblem ac y byddai'n anodd gwneud argymhelliad realistig pe na bai gan y Comisiwn yr hawl i ymchwilio i'r mater hwn.4.11 Dywedodd un o drigolion Pont-y-Clun mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg oedd yn ymgymryd â'r gwaith o raeanu'r ffordd heibio Hensol tua phont yr M4 yn ardal Pantaquesta ond mai anaml iawn y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn graeanu'r ffyrdd rhwng Meisgyn a phont yr M4. Er mwyn diogelwch felly, roedd yn ofynnol iddi deithio nôl heibio Hensol i gyffordd 34 o'r M4. Byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar adegau yn ymgymryd â gwaith glanhau strydoedd yn ei hardal hi er y dywedodd bod angen eu hatgoffa weithiau i gasglu sbwriel.
O ran y cwestiwn a oedd angen i Rondda Cynon Taf gadw'r tai o ansawdd uchel i'r de o'r M4, cwestiynodd am ba hyd y dylid rhoi pwysau ar bobl fel hi, gwraig weddw 67 oed, er mwyn cynnal ardaloedd eraill mwy difreintiedig yn y Fwrdeistref Sirol.
Nododd nad oedd Mr O J Thomas AC wedi sôn am yr arolwg ffin wrth hi na neb arall y gwyddai amdanynt.4.12 Ysgrifennodd un o drigolion Llanhari at y Comisiwn yn gwneud cais i'r ffin bresennol gael ei halinio i drosglwyddo ei heiddo hi a'i chymydog o Rondda Cynon Taf i Fro Morgannwg. Roedd am i'w hachos gael ei ystyried yn unigol oherwydd teimlai ei fod yn seiliedig ar broblemau oedd yn unigryw i'w heiddo hi nad oedd yn effeithio ar unrhyw un arall.
Mae'r ffin rhwng y ddau awdurdod yn dilyn ymylon ei heiddo hi sydd wedi ei leoli o fewn Rhondda Cynon Taf ac mae hyn yn achosi dryswch i'r awdurdodau lleol gan bod y ddau ohonynt yn anfon ffurflenni cofrestru etholiadol ati bob blwyddyn. Mae'n talu tâl cymunedol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf er nad oes golau stryd yn ei hardal a chesglir ei sbwriel gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg sydd hefyd yn graeanu a chynnal y ffyrdd o amgylch ei heiddo. Teimlai ei bod yn annheg iddi dalu tâl cymunedol i awdurdod nad oedd yn derbyn unrhyw wasanaethau ganddynt, tra bod Bro Morgannwg yn darparu gwasanaethau i'w hardal am ddim i bob pwrpas. Teimlai bod y ffin bresennol ar gyfer ei heiddo hi yn cael effaith gymdeithasol negyddol ar ei theulu gan fod ei heiddo wedi ei leoli yn rhy bell i'r de i gael ei gynnwys mewn unrhyw weithgareddau cymunedol yn Rhondda Cynon Taf ac yn cael ei dderbyn fel rhan o weithgareddau plwyfi Llansannor ac Ystradowen. Roedd ei phlant yn mynychu'r ysgol yn Y Bont-faen, ond gan eu bod yn drigolion yn Rhondda Cynon Taf, nid oedd ganddynt yr hawl i deithio ar y bws ysgol a ddarperir gan Gyngor Bro Morgannwg, er bod seddi ar gael ar y bws. Fodd bynnag, roedd plant ei chymydog yn cael teithio ar y bws i'r un ysgol gan fod eu cartref hwy wedi ei leoli ar ochr arall ffin yr awdurdod lleol ym Mro Morgannwg. O ganlyniad, mae ei phlant yn gorfod teithio ar fws i'r ysgol o arhosfan bws 2 filltir i ffwrdd o'u cartref. Ni chaiff ei mab ychwaith chwarae pêl-droed gyda'i ffrindiau yn nhîm pêl-droed Y Bont-faen gan nad yw'n byw ym Mro Morgannwg.4.13 Teimlai un o drigolion Llanhari nad oedd rheswm amlwg pam na ddylai'r ffin bresennol gael ei newid. Teimlai nad oedd unrhyw sail i'r cynrychioliadau a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Dywedodd bod yr eiddo yn ei ardal ef yn agos at ffiniau tair etholaeth a bod hyn yn creu dryswch yn ystod etholiadau cyffredinol. Teimlai bod diffyg gwasanaethau yn ei ardal ef gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'u bod yn darparu gwasanaeth casglu sbwriel ond dim goleuadau stryd, gwasanaeth glanhau strydoedd na graeanu ffyrdd.
Nododd bod y chwe phlentyn yn ei ardal ef yn mynychu tair ysgol wahanol, gyda dwy ohonynt ym Mro Morgannwg, felly ni fyddai trosglwyddo'r ardal i Fro Morgannwg yn effeithio'n ormodol ar y trefniadau addysgol presennol. Teimlai y byddai'n synhwyrol i newid y ffin i gynnwys y chwarel ym Mro Morgannwg gan fod y rhan fwyaf o'r cronfeydd mwynau wedi eu lleoli yno a bod Cynllun Lleol Mwynau mis Gorffennaf 1992 yn nodi y byddai unrhyw estyniad i waith y chwarel yn debygol o fod i'r de o'i leoliad presennol. Dywedodd bod Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi parhau i anwybyddu'r gylchfa ragod pan wnaed ceisiadau cynllunio. Er ei fod yn cytuno bod y rhan fwyaf o gerbydau'n gadael y chwarel ar hyd ffyrdd yn Rhondda Cynon Taf ni allai ganfod unrhyw dystiolaeth bod y mater hwn wedi cael ei godi un ai yn yr ymchwiliad cyhoeddus pan ddyfarnwyd caniatâd cynllunio nag ar unrhyw adeg arall wedi hynny. Teimlai y gallai'r un ddadl a ddefnyddiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dros newid y ffin bresennol i drosglwyddo cronfeydd mwynau'r chwarel i Rondda Cynon Taf gael ei defnyddio er mwyn trosglwyddo'r chwarel i Fro Morgannwg. Teimlai nad oedd gan yr ardal o Lanharri, i'r de o'r M4 lawer yn gyffredin gyda gweddill y gymuned i'r gogledd o'r M4, ac yr amlygwyd hyn ar adegau pan na allai Swyddfa Bost Llanhari roi cyfarwyddiadau i'w ardal.4.14 Teimlai dau o drigolion Llanhari nad oedd y pellter wrth ddarparu gwasanaethau i'r ardal pe bai'r ffin yn cael ei halinio i ddilyn yr M4 yn berthnasol o gofio bod y gwasanaethau prin a ddarperir i'r ardal eisoes yn dod o gryn bellter ar hyn o bryd. Roeddent yn teimlo bod nifer o'r dadleuon dros gadw'r ffin bresennol yn seiliedig ar draddodiad a sentiment. Nid oeddent o'r farn bod unrhyw sail i ddadl Cyngor Cymuned Llanhari y dylai trigolion Heol Degar aros o fewn y ffin bresennol er mwyn hwylustod cyfleusterau ac adnoddau. Ychydig iawn o blant oed ysgol oedd yn yr ardal, roedd y gwasanaaeth casglu sbwriel yn annibynadwy a gellid yn hawdd ei ddarparu gan Fro Morgannwg (gyda hynny eisoes yn digwydd mewn rhai achosion), ni ddarparwyd unrhyw wasanaethau graeanu na glanhau ffyrdd yn yr ardal heblaw am y graeanu a wnaed yn achlysurol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a byddai yr un mor hawdd i drigolion deithio i'r Bont-faen yn y de ag i Lantrisant yn y gogledd ar gyfer hamdden. Gan nad oedd unrhyw gyfyngiadau ar fynychu eglwysi ar draws ffiniau awdurdodau lleol, roeddynt yn teimlo hefyd nad oedd gwrthwynebu newidiadau i'r ffin bresennol ar sail gofynion crefyddol yn berthnasol. Roeddent yn anghytuno â'r honiad y byddai trigolion yn eu hardal yn teimlo'n ynysig oddi wrth Llanhari pe bai'r ffin yn newid gan fod pawb yr oeddent wedi siarad â hwy yn teimlo mwy o gysylltiad gyda Bro Morgannwg.
Roeddent yn gwrthwynebu'r awgrym y dylid cadw'r ffin bresennol oherwydd prinder tai o werth uchel yn Rhondda Cynon Taf gan eu bod yn teimlo na chawsant unrhyw beth yn gyfnewid am dalu treth gyngor a gynyddodd ddeuddeg y cant yn y tair blynedd ddiwethaf ac a oedd yn cael ei defnyddio i ariannu adfywiad economaidd awdurdod a oedd yn dioddef oherwydd rheolaeth wael yn y gorffennol. Nodwyd bod y ffin bresennol wedi ei diffinio cyn i'r M4 gael ei hadeiladu pan oedd yr ardal yn wahanol ac y dylid newid y ffin i ddilyn yr M4 i gydweddu â'r tirlun a daearyddiaeth cyfnewidiol yr ardal.4.15 Dywedodd un o drigolion Llanhari ei fod yn berchen ar bedwar eiddo yn ardal Llanhari i'r de o'r M4 a'i fod yn teimlo eu bod i bob pwrpas wedi eu hynysu oddi wrth bentref Llanhari i'r gogledd o'r M4. Roedd o blaid alinio'r ffin bresennol i ddilyn yr M4 gan y teimlai y byddai'n ffin wedi'i diffinio'n glir ac y byddai'r ddarpariaeth o wasanaethau i'r ardal yn cael ei gwella.
5. ASESIAD
5.1 Fel gyda'n Cynigion Drafft, rydym wedi ystyried yr awgrym a wnaed mewn nifer o gynrychioliadau y dylid alinio'r ffin rhwng Bwrdeistrefi Sirol Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yn ardal Cymunedau Llanhari, Pont-y-Clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn ar hyd traffordd yr M4. Rydym yn cytuno y byddai'r awgrym hwn yn creu ffin sydd ac a fyddai'n hawdd ei nodi. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i ni ystyried newid y ffin yn nhermau ei ddymunoldeb er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Felly ar y sail honno yr ystyriwyd y newid arfaethedig i'r ffin.
5.2 Roedd nifer o'r cynrychioliadau a dderbyniwyd mewn ymateb i'n Cynigion Drafft, yn ogystal â'r rhai a dderbyniwyd yn ystod camau cyntaf yr arolwg, yn nodi eu bod yn ystyried bod yr M4 yn rwystr ffisegol rhwng yr ardaloedd i'r de a'r gogledd o'r draffordd. Ystyriwyd y pwynt hwn yn ein Cynigion Drafft a chanfuwyd er y byddai archwiliad arwynebol o fap o'r ardal yn dangos bod traffordd yr M4 yn creu rhwystr rhwng pwyntiau cyflwyno gwasanaethau llywodraeth leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'r ardal o Rondda Cynon Taf sydd i'r de o'r draffordd, bod archwiliad manylach yn dangos bod y mater hwn yn fwy dyrys nag yr ymddangosai yn wreiddiol. Dangosodd ymweliadau safle â'r ardal bod cysylltiadau ffyrdd da un ai dros neu o dan yr M4 sy'n darparu cysylltiadau effeithiol rhwng yr ardaloedd i'r gogledd a'r de o'r draffordd. Rydym yn ystyried felly na ddylai'r draffordd fod yn rhwystr wrth ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol.
5.3 Rydym wedi nodi bod nifer o gynrychioliadau o blaid newid y ffin oherwydd eu anfodlonrwydd cyffredinol gyda lefel y gwasanaethau a ddarperir yn eu hardal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Rydym hefyd wedi nodi'r cymariaethau a wnaed rhwng y lefelau o wasanaethau a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn ogystal â'r lefelau gwahanol o dreth gyngor. Teimlwn y dylid nodi bod cymhariaeth gyffredinol o effeithlonrwydd darpariaeth gwasanaeth llywodraeth leol rhwng y ddau awdurdod y tu hwnt i gylch gorchwyl yr arolwg hwn. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i ni ystyried y manteision o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus os gwasanaethir ardal benodol yr arolwg gan un awdurdod yn hytrach na'r llall, gan dybio bod lefel gyffredinol y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdodau hynny yr un fath.
5.4 Wrth baratoi ein Cynigion Drafft ystyriwyd yn ofalus yr awgrym gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ddiwygio'r ffin yn ardal Chwarel Forest Wood er mwyn cynnwys 'Ardal Diogelu Mwynau' o fewn ardal Rhondda Cynon Taf. Er bod ardal waith bresennol y chwarel yn gyfangwbl o fewn Rhondda Cynon Taf, mae dwy ardal lle rhoddwyd caniatâd i gloddio cerrig ac ardal wedi ei dynodi'n Adnodd Mwynau wedi'i Ddiogelu sy'n dod o fewn Bro Morgannwg. Mae hefyd ardal fwy o lawer sydd i'r de o'r ffin a ddynodwyd yn Gylchfa Ragod gan hen Gyngor Sir De Morgannwg. Mae'r Gylchfa Ragod hon yn ardal sydd wedi ei diffinio fel nad effeithir yn afresymol ar dai na datblygiadau sensitif tebyg gan weithgareddau cloddio neu i'r gwrthwyneb. Roedd gan Forgannwg Ganol ardal debyg wedi ei diffinio i'r gogledd o'r chwarel a ddynodwyd yn Ardal Diogelu Mwynau. Gwarchodwyd y ddwy ardal hon gan y cynghorau dilynol ond gallent gael eu hail-werthuso fel rhan o'r broses o baratoi Cynlluniau Datblygu Unedol yr awdurdodau hynny. Credwn fod dau fater i'w hystyried yma. Ymddengys ei bod er budd y ddau awdurdod i gynnal yr ardaloedd sy'n cael eu diffinio fel Cylchfeydd Rhagod neu Ardaloedd Diogelu Mwynau ac felly ni welwn unrhyw fudd yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i newid y ffin i gynnwys y ddwy ardal hon o fewn un awdurdod unedol. Yn nhermau'r ardaloedd lle y dyfarnwyd caniatâd i gloddio a'r ardal Adnodd Mwynau wedi'i Ddiogelu, pe bai ardal waith y chwarel yn ymestyn i'r ardaloedd hyn, yna byddai'n croesi ffiniau'r awdurdod unedol presennol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ystyried y byddai'n fuddiol yn nhermau rheoli defnydd tir ac ystyriaethau amgylcheddol i'r holl chwarel fod o fewn ardal un awdurdod lleol. Er ein bod yn cytuno y byddai rhywfaint o fudd yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i'r holl chwarel fod o fewn un awdurdod lleol anodd oedd nodi llinell arall a fyddai'n addas ar gyfer y ffin. Yn ogystal, ystyriwn bod digon o dystiolaeth i ddangos bod y cydweithrediad traws-ffiniol presennol rhwng yr awdurdodau blaenorol a phresennol wedi darparu defnydd effeithiol o dir a rheolaeth amgylcheddol i'r ardal, a'i fod yn parhau i wneud hynny.
Casgliadau
5.6 Yn ein Cynigion Drafft, daethpwyd i'r casgliad nad oedd tystiolaeth ddigonol i gynnal y farn y byddai er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i newid y ffin rhwng Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg i ddilyn llinell traffordd yr M4. Nodwyd cynrychioliadau'r trigolion hynny sy'n byw i'r de o'r draffordd a ddatganodd anfodlonrwydd gyda lefel y gwasanaethau llywodraethol y maent yn eu derbyn. Fodd bynnag, roeddem o'r farn, oherwydd agosrwydd y canolfannau darparu gwasanaeth, ei bod yn fwy effeithiol a chyfleus i'r gwasanaethau hyn gael eu darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
5.7 Mae nifer o'r cynrychioliadau a dderbyniwyd mewn ymateb i'r Cynigion Drafft yn cadarnhau rhywfaint o anfodlonrwydd gyda'r gwasanaethau llywodraeth leol a dderbynnir gan drigolion yn ardal Rhondda Cynon Taf i'r de o draffordd yr M4. Mae'n sicr bod y lefel hon o anfodlonrwydd yn cael ei dwysáu gan y ffaith y codir lefelau uwch o dreth gyngor ar eiddo yn Rhondda Cynon Taf nag ar eiddo tebyg ym Mro Morgannwg. Nid yw'r ystyriaeth hon, fodd bynnag, yn fater sy'n berthnasol i'n hasesiad o fuddiannau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Nid yw anfodlonrwydd gyda'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau lleol gan un awdurdod lleol ynddo'i hun yn arwyddocaol ychwaith. Gwneir ein cynigion ar y sail y dylent ymddangos i ni eu bod er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae'n dilyn o hyn bod angen i ni fod yn fodlon y byddai'r trefniadau arfaethedig yn fwy effeithiol a chyfleus na'r rhai presennol. Ar sail y dystiolaeth a dderbyniwyd yn ystod yr arolwg hwn, ni allwn ddod i'r casgliad y byddai Cyngor Sir Bro Morgannwg yn gallu darparu gwasanaethau llywodraeth leol i'r ardal yn fwy effeithiol a chyfleus na'r rheini sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Felly ni allwn argymell y newid a awgrymwyd i'r ffin.
5.8 Rydym wedi ystyried y cynrychioliadau sy'n gofyn i'r ffin bresennol gael ei halinio er mwyn trosglwyddo dau eiddo ym mhentrefan y Goedlan, o Rondda Cynon Taf i Fro Morgannwg. Ystyriwn bod y ffin bresennol yn yr ardal hon yn anghyson gan ei bod yn rhannu pentrefan bychan y Goedlan. Rydym yn cynnig gwelliant i'r ffin yn yr ardal hon i ddilyn ymylon gogleddol a dwyreiniol yr eiddo a adwaenir fel Brynderwen fel y nodir ar y map yn Atodiad 1.
6. CYNIGION
6.1 Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni cynigiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus y dylid alinio'r ffin rhwng Bwrdeistrefi Sirol Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yn ardal Cymunedau Llanhari, Pont-y-Clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn yn ardal yr arolwg i ddilyn ymylon gogleddol a dwyreiniol yr eiddo a adwaenir fel Brynderwen er mwyn cynnwys eiddo Brynderwen a Two Hoots o fewn ardal Bro Morgannwg. Nodir y newid arfaethedig i'r ffin mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad 1.
6.2 Gellir archwilio map manwl ar raddfa fwy sy'n nodi'r ffin newydd arfaethedig yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac yn swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.
7. TREFNIADAU DILYNOL
7.1 Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys manylion am ein cynnig i newid y ffin rhwng Bwrdeistrefi Sirol Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Wrth ystyried y newid i'r ffin roedd angen i ni hefyd ystyried yr effeithiau ar y trefniadau etholiad ar gyfer y Cynghorau Cymuned a'r Cynghorau Bwrdeistref Sirol a fyddai'n deillio o'r newid hwn.
7.2 Hoffem dynnu sylw at y ffaith y byddai dau eiddo preifat yn cael eu trosglwyddo o Rondda Cynon Taf i Fro Morgannwg pe bai'r ffin arfaethedig yn cael ei mabwysiadu. Byddai hyn yn golygu newid cofrestrau etholiadol y cynghorau perthnasol ond ni fyddai hyn yn effeithio ar y trefniadau etholiadol ar gyfer y Cynghorau Cymuned na'r Cynghorau Bwrdeistref Sirol.
8. CYDNABYDDIAETHAU
8.1 Dymunwn fynegi ein diolch i'r prif gynghorau a'r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob corff a pherson a gyflwynodd gynrychioliadau i ni.
9. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
9.1 Wedi cwblhau ein harolwg o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistrefi Sirol Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yn ardal Cymunedau Llanhari, Pont-y-Clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn a chyflwyno ein cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol yn unol â'r Ddeddf.
9.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny'n briodol, yw eu gweithredu ynghyd ag addasiadau neu hebddynt drwy gyfrwng Gorchymyn neu i gyfarwyddo'r Comisiwn i gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o'r fath yn gynt na chwe wythnos o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
9.3 Dylid anfon unrhyw gynrychioliadau pellach yn ymwneud â'r materion yn yr adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl ac yn sicr cyn pen chwe wythnos fan bellaf o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid anfon cynrychioliadau at:
Adain Foderneiddio Llywodraeth Leol 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQYR ATHRO E SUNDERLAND OBE LL MA PhD LLD FIBiol (Cadeirydd)
E F L FITZHUGH OBE DL (Dirprwy Gadeirydd)
MRS S G SMITH LLB (Aelod)
R L KNIGHT BA MSc MRTPI (Ysgrifennydd)
Mawrth 2001
