Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT A SIR POWYS YN ARDAL CWMTWRCH

ADRODDIAD A CHYNIGION

  1. CYFLWYNIAD
  2. CRYNODEB GWEITHREDOL

  3. CWMPAS A NOD YR AROLWG

  4. CYNIGION DRAFFT
  5. CRYNODEB O’R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

  6. ASESIAD

  7. CYNIGION

  8. TREFNIADAU DILYNOL
  9. CYDNABYDDIAETHAU
  10. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

Sue Essex AM

Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau’r arolwg o ran o’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwmtwrch a chyflwynwn ein cynigion ar gyfer ffin newydd. Ceir map yn nodi’r ardal y cynhaliwyd arolwg ohoni yn Atodiad 1.

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

2.1 Cynigiwn y dylid adlinio’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwmtwrch i ddilyn afon Twrch fel y nodir ar y map yn Atodiad 1.

3. CWMPAS A NOD YR AROLWG

3.1 Noda Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy’n ddymunol, ym marn y Comisiwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Gweithdrefn

3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi’r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r arweiniad hwnnw ysgrifenasom ar 29 Ebrill 2002 at Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys, Cynghorau Cymuned Ystalyfera ac Ystradgynlais, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, Aelodau’r Cynulliad ar gyfer yr ardal, cymdeithasau awdurdodau lleol, awdurdod yr heddlu dros yr ardal a’r pleidiau gwleidyddol, i’w hysbysu o’n bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol. Gwahoddwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys i gyflwyno eu hawgrymiadau ar gyfer newidiadau i’r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i’n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i’r cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Powys, Cyngor Cymuned Ystalyfera, Y Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS, Gwenda Thomas AC, Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ac un o’r trigolion. Ystyriwyd y sylwadau hyn a chyhoeddwyd crynodeb ohonynt yn ein Cynigion Drafft ar 15 Tachwedd 2002.

4.2 Ystyriwyd y sylw a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Powys yn nodi anghysondebau yn y ffin rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys yn ardal Cwmtwrch Isaf. Archwiliasom fapiau manwl o’r ardal a chynhaliwyd ymweliad safle ar 2 Medi 2002. Yn dilyn yr ymchwiliadau hyn, cytunwyd gennym y byddai’r troelliadau presennol yn y ffin yn debygol o achosi anawsterau wrth nodi ym mha sir yr oedd eiddo penodol wedi’i leoli. Daethom i’r casgliad y byddai hyn, yn ei dro, yn achosi anawsterau wrth gyflwyno gwasanaethau llywodraeth leol ac y byddai newid priodol i’r ffin o fudd yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4.3 Ystyriwyd awgrym Cyngor Sir Powys y gellid defnyddio afon Twrch fel y ffin ac, yn dilyn ein harolygiad safle, canfuwyd ei bod wedi’i diffinio’n glir.

4.4 Nodwyd gwrthwynebiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i’r ffin a gynigiwyd gan Gyngor Sir Powys ac ystyriwyd eu hawgrym hwy y dylai’r ffin ddilyn llinell ganol ffordd yr A4068. Ystyriwyd y byddai o fudd yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus y dylai unrhyw newid i’r ffin anelu at ddod â phentref cyfan Cwmtwrch o fewn yr un sir. Ar y sail hon, roeddem o’r farn y byddai’r ffin a awgrymwyd gan Gastell-nedd Port Talbot yn gwaethygu’r sefyllfa yn hytrach na’i datrys, gan ddod â mwy o eiddo o fewn ardal Castell-nedd Port Talbot. Nodwyd hefyd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o’r farn y byddai’r ffin a awgrymwyd gan Gyngor Sir Powys yn golygu y byddai rhannau o’r pentref yn parhau o fewn ardal Castell-nedd Port Talbot o hyd. Nid oedd yn amlwg o’r sylw pa ardal y cyfeiriwyd ati, ond cymerwyd yn ganiataol gennym fod y sylw yn berthnasol i’r eiddo ar draws yr afon ar hyd Heol Rhiwfawr tuag at Ben Rhiw-fawr. Roeddem o’r farn er ei bod yn debygol bod gan yr eiddo hyn gysylltiadau cymunedol â Chwmtwrch, ei bod hefyd yn bosibl bod ganddynt gysylltiadau cymunedol â phentref Pen Rhiw-fawr o fewn ardal Castell-nedd Port Talbot. Er, yn ddelfrydol, y byddem am weld pob ardal â diddordebau cymunedol wedi’u grwpio gyda’i gilydd, mae’n rhaid i ni gydbwyso hyn gyda’r gofyniad ar gyfer ffin wedi’i diffinio’n glir. Ni dderbyniwyd unrhyw gynigion ar gyfer ffin amgen sy’n bodloni’r ddau ofyniad hyn ac ni lwyddasom ninnau i nodi ffin o’r fath ychwaith. Ar ôl pwyso a mesur, roeddem o’r farn felly mai’r ffin a awgrymwyd gan Gyngor Sir Powys yw’r ffin orau i fodloni’r gofyniad i ddod â phentref cyfan Cwmtwrch o fewn yr un sir.

4.5 Ystyriwyd gennym er bod y ffin bresennol wedi’i sefydlu ers amser, nad yw hyn o reidrwydd yn golygu y gellir ei nodi’n glir neu ei bod yn effeithiol ac yn gyfleus. Ystyriwyd gennym yn yr achos hwn nad yw hynny’n wir. Nodwyd y pwynt a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o ran y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau ar draws y ffin a lleoliadau dewisol ar draws y ffin ar gyfer dalgylchoedd ysgolion ac nid oes gennym unrhyw amheuaeth y gall trefniant o’r fath fod yn effeithiol. Fodd bynnag, roedd y Comisiwn yn fodlon y byddai ffin wedi’i diffinio’n gliriach, ac un a fyddai’n dod â’r pentref cyfan o fewn yr un Sir, o fudd yn nhermau Llywodraeth Leol effeithiol a chyfleus.

4.6 Nodwyd pwynt Castell-nedd Port Talbot na ddylid ystyried gwahaniaethau mewn lefelau’r dreth gyngor rhwng awdurdodau lleol fel nodwedd barhaol. Yn gyffredinol, mae’r Comisiwn o’r farn na ddylai gwahaniaethau yn y dreth gyngor ar eu pen eu hunain bennu’r ffin rhwng ardaloedd prif Gynghorau. Ymhlith ffactorau eraill, noda’r Comisiwn y pwynt a wnaed gan Gastell-nedd Port Talbot, bod lefelau’r dreth gyngor, rhwng awdurdodau, yn debygol o newid, ac na ellir eu hystyried yn nodwedd gyson.

4.7 Nodwyd pryderon Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o ran cynnwys Cwmtwrch Isaf o fewn ardal ‘Cymunedau yn Gyntaf’ Ystalyfera. O dan y cynnig gan Gyngor Sir Powys byddai pentref Cwmtwrch yn cael ei gynnwys o fewn rhanbarth etholiadol Ystradgynlais. Gan fod rhanbarth etholiadol Ystradgynlais hefyd yn gymwys i gael arian o dan y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ystyriwyd gennym na fyddai’r newid a gynigiwyd yn debygol o gael effaith andwyol ar bentref Cwmtwrch yn nhermau arian Cymunedau yn Gyntaf.

4.8 Nodwyd hefyd bryderon Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gennym o ran trosglwyddo Ystad Ddiwydiannol y Gurnos i Bowys a’r effaith a gaiff hyn ar arian Amcan 1. Gofynasom am gyngor gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sydd o’r farn na fydd newid ffin awdurdod lleol yn effeithio ar statws Amcan 1 ardal yn ystod cyfnod y cylch cyfredol o raglenni’r Cronfeydd Strwythurol.

4.9 Roeddem o’r farn bod afon Twrch yn cynrychioli ffin naturiol wedi’i diffinio’n glir ac y byddai newid y ffin bresennol i ddilyn yr afon yn cael gwared ar yr anghysondeb sy’n golygu bod pentref Cwmtwrch Isaf yn cael ei rannu rhwng dau awdurdod unedol. Ystyrid gennym y byddai newid o’r fath o fudd yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Felly argymhellodd ein Cynigion Drafft y dylid adlinio’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwmtwrch i ddilyn afon Twrch.

4.10 Anfonwyd copïau o’r Cynigion Drafft at bob un o’r cynghorau, y cyrff a’r unigolion y cyfeirir atynt ym mharagraff 3.2 gan ofyn am eu safbwyntiau. Anfonwyd copi hefyd at unrhyw un a gyflwynodd sylwadau cychwynnol. Drwy gyfrwng hysbysiad cyhoeddus gwahoddwyd unrhyw sefydliadau neu bobl arall â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu safbwyntiau. Roedd copïau o’r Cynigion Drafft ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Powys a’r Comisiwn ac roedd copïau hefyd i’w gweld yn swyddfeydd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys.

5. CRYNODEB O’R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Derbyniwyd sylwadau gennym gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot; Cyngor Sir Powys; cyngor tref Ystradgynlais; y Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS; Gwenda Thomas AC; un cynghorydd; a dau gorff arall a thrigolion eraill a oedd â diddordeb. Ystyriwyd yr holl sylwadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion.

5.2 Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gwrthwynebu adlinio’r ffin yn ardal Cwmtwrch. Yn benodol, roedd yn wrthwynebus i’r cynnig i drosglwyddo Ystad Ddiwydiannol y Gurnos o Gastell-nedd Port Talbot i Bowys. Nid oeddent o’r farn y byddai newid i’r ffin o unrhyw fudd yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac nid oedd unrhyw awydd amlwg i newid y ffin ar ran trigolion yr ardal. Ped adlinid y ffin, roeddent o’r farn y dylai ddilyn llinell ganol yr A4068 (Heol Bethel / Heol Twrch) a fyddai’n creu ffin fwy cyfleus ac amlwg gyda’r effaith leiaf bosibl ar y gymuned a chan adael Ystad Ddiwydiannol y Gurnos yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Mae datblygiad parhaus yr ystad ddiwydiannol yn hanfodol nid yn unig i ffyniant Cwmtwrch ond i ffyniant y rhanbarth cyfan. Roedd y Cyngor wedi cael gwybod bod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi cymeradwyo cais am arian o dan flaenoriaeth 1 Mesur 5 Amcan 1 ar gyfer datblygiad Cam 3 yr ystad ddiwydiannol. Byddai’r sefyllfa ar ôl 2006 yn ansicr pe byddai’r ffin yn cael ei newid mewn unrhyw ffordd. Nododd y Cyngor y byddai cynnig y Comisiwn i adlinio’r ffin yn golygu y byddai Castell-nedd Port Talbot yn colli tua 90 o etholwyr a fyddai’n effeithio ar lefel y grant cymorth refeniw ac yn arwain at golli arian sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd.

Mewn sylw pellach tynnodd y Cyngor sylw’r Comisiwn at y ffaith y byddent yn elwa ar Gronfa Amddifadedd y Cynulliad Cenedlaethol. Yn eu barn hwy, byddai trosglwyddo unrhyw gyfran o’r boblogaeth o Gastell-nedd Port Talbot yn effeithio’n andwyol ar y manteision a ddeuai yn sgîl cyflwyno’r gronfa hon i’r Fwrdeistref Sirol.

5.3 Mynegodd Cyngor Sir Powys eu cefnogaeth i gynigion y Comisiwn.

5.4 Roedd y Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i adlinio’r ffin rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Dywedodd y dylai Ystad Ddiwydiannol y Gurnos a’r tir cyfagos barhau’n rhan o ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

5.5 Roedd Gwenda Thomas AC yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i adlinio’r ffin rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys ac yn benodol, gwrthwynebai’r cynnig i drosglwyddo Ystad Ddiwydiannol y Gurnos a ddylai, yn ei barn hi, barhau’n rhan o ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

5.6 Roedd Cyngor Tref Ystradgynlais o blaid Cynigion Drafft y Comisiwn. Roeddent o’r farn bod y ffin bresennol yn groes i synnwyr cyffredin ac y byddai adlinio’r ffin yn golygu y byddai trigolion yr ardal yn teimlo eu bod yn rhan o un gymuned gan roi’r un ymdeimlad o hunaniaeth iddynt.

5.7 Roedd y Cynghorydd Alun Llewellyn yn cytuno â sylw Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn rhannu eu pryderon mewn perthynas ag Ystad Ddiwydiannol y Gurnos. Ar ôl iddo dderbyn sylwadau gan drigolion mewn perthynas â’r cynigion, ni theimlai fod llawer o frwdfrydedd tuag at newid y ffin. Roedd o’r farn y dylai’r Comisiwn gysylltu’n uniongyrchol â’r trigolion er mwyn rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ar y cynigion.

5.8 Nid oedd gan Gofrestrfa Tir EM unrhyw sylwadau i’w gwneud mewn perthynas â Chynigion Drafft y Comisiwn.

5.9 Nid oedd gan yr Arolwg Ordnans unrhyw sylwadau i’w gwneud mewn perthynas â Chynigion Drafft y Comisiwn.

6. ASESIAD

6.1 Nodwyd y pryderon a fynegwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Peter Hain AS, Gwenda Thomas AC a’r Cynghorydd Alun Llewelyn mewn perthynas â’r effaith y byddai newid y ffin yn ei chael ar Ystad Ddiwydiannol y Gurnos. Ystyriwyd y mater hwn a’r effaith a gaiff y newid i’r ffin ar arian Amcan 1 gennym wrth lunio ein Cynigion Drafft. Cawsom gyngor gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru na fyddai newid i ffin awdurdod lleol yn effeithio ar statws Amcan 1 ardal yn ystod cyfnod y cylch cyfredol o raglenni’r Cronfeydd Strwythurol. Felly roeddem o’r farn na fyddai newid y ffin yn effeithio ar y cynigion datblygu presennol ar gyfer yr ardal gan gynnwys Ystad Ddiwydiannol y Gurnos. Ar ôl ystyried y sylwadau pellach a dderbyniwyd gennym ar y mater hwn, rydym yn parhau i arddel y farn honno. Yn y tymor hwy, fel y nodwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, mae’r sefyllfa yn ansicr ar hyn o bryd. Mae’r cymorth sydd ar gael o’r Gronfa Strwythurol Ewropeaidd (y mae Amcan 1 yn rhan ohoni) yn cwmpasu’r cyfnod o 2000-2006. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gynigion a gyhoeddwyd ar gyfer rhaglenni ar ôl 2006. Felly, yn ein barn ni, nid yw’n bosibl asesu’r effaith y byddai newid y ffin yn ei chael ar unrhyw raglenni ariannu Ewropeaidd (posibl) yn y dyfodol. Felly, parhawn i arddel y farn na ddylai arian Amcan 1 fod yn un o’r prif ffactorau wrth ystyried y ffin rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys.

6.2 Cododd Castell-nedd Port Talbot hefyd y pryder y byddai newid i’r ffin yn effeithio ar swm y grant a gaiff y Cyngor Bwrdeistref Sirol gan Gronfa Amddifadedd y Cynulliad Cenedlaethol. Fe’n hysbyswyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod dosbarthiad y grant ar gyfer 2003-04 wedi’i bennu ac felly na fydd unrhyw newid i’r ffin yn effeithio arno. Bwriedir i’r grant fodoli am fwy na blwyddyn. Ar gyfer blynyddoedd diweddarach, cytunwyd y caiff y fformiwla ei hailystyried ond, gan na phennwyd y fformiwla eto, mae’n rhy gynnar i allu asesu’r effaith a gaiff newid y ffin ar lefel yr arian a dderbynnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Beth bynnag, dim ond y gostyngiad yn nifer yr etholwyr y mae’r gostyngiad yn swm y grant yn debygol o’i adlewyrchu, ac yn yr ardal dan sylw 0.08% fyddai’r gostyngiad hwn. Felly rydym o’r farn na fyddai unrhyw newid posibl i lefel y Grant Amddifadedd y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ei dderbyn o ganlyniad i newid y ffin yn cael effaith sylweddol ar y rhaglenni a gaiff eu hariannu gan y Grant.

6.3 Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a’r Cynghorydd Alun Llewellyn o’r farn nad oedd unrhyw awydd amlwg i newid ar ran trigolion yr ardal. Nododd y Cynghorydd Llewellyn ymhellach ei fod o’r farn y dylid cysylltu’n uniongyrchol â holl drigolion yr ardal dan sylw i ofyn am eu safbwyntiau. Yn unol â’n gweithdrefnau arferol ysgrifenasom at y partïon â diddordeb a restrir yn 3.2 uchod ar ddechrau’r arolwg. Yn ogystal, gofynnwyd i awdurdodau lleol osod hysbysiadau a ddarparwyd mewn lleoliadau fel llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol ac ati. Trefnwyd hefyd i hysbysiadau tebyg gael eu gosod mewn papurau newydd a ddosberthir yn yr ardal a chyhoeddwyd bod yr arolwg wedi dechrau ar ein gwefan. Pan gyhoeddwyd ein Cynigion Drafft, anfonwyd copïau at bob un o’r partïon â diddordeb ac at bawb a anfonodd sylwadau atom. Eto, rhoddwyd hysbysiadau i’r awdurdodau lleol a gosodwyd hysbysiadau mewn papurau newydd. Atgynhyrchwyd ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft yn llawn ar ein gwefan. Yn y gorffennol, bu’r camau a amlinellir uchod yn ddigonol i hysbysu’r trigolion lleol bod arolwg yn cael ei gynnal ac y byddem yn croesawu eu safbwyntiau. Yn dilyn cyhoeddi ein Cynigion Drafft, ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan drigolion yr ardal. Felly nid ydym yn ymwybodol o farn y cyhoedd ar y mater hwn.

6.4 Rydym yn parhau o’r farn bod yr anghysondeb sy’n golygu bod pentref Cwmtwrch Isaf wedi’i rannu rhwng dau awdurdod unedol yn effeithio’n andwyol ar lywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn yr ardal. Rydym o’r farn gan fod afon Twrch yn cynrychioli ffin naturiol wedi’i diffinio’n glir, y byddai newid y ffin bresennol i ddilyn yr afon yn cael gwared ar yr anghysondeb hwn. Ystyriwn y byddai newid o’r fath o fudd yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

7. CYNIGION

7.1 Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd ar gael i ni, cynigiwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, y dylid adlinio’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwmtwrch yn yr ardal y cynhaliwyd arolwg ohoni i ddilyn afon Twrch. yes"> Nodir y newid a gynigir i’r ffin mewn glas ar y map yn Atodiad 1.

8. TREFNIADAU DILYNOL

8.1 O dan Adran 54(1)(e) y Ddeddf, gall y Comisiwn wneud cynigion ar gyfer newid y trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol sy’n deillio o unrhyw newid a gynigir i’r ardaloedd llywodraeth leol. Ceir dadansoddiad manwl o’r newidiadau a gynigir i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys a chymunedau Ystalyfera ac Ystradgynlais isod.

8.2 Byddai’r newidiadau a gynigir yn golygu y byddai tua 90 o etholwyr yn cael eu trosglwyddo o Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i Sir Powys (ffigurau a ddarparwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot). Yr ardal i’w throsglwyddo fyddai Ward Ystalyfera yng Nghymuned Ystalyfera sy’n ffurfio rhanbarth etholiadol Ystalyfera gyda 2,433 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd. Nodwyd gennym fod gan ranbarth etholiadol cyfagos Godre’r Graig sy’n cynnwys ward Godre’r Graig yng Nghymuned Ystalyfera 1,151 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd. Felly byddai gostwng nifer yr etholwyr yn rhanbarth etholiadol Ystalyfera yn helpu i leihau’r anghysondeb mawr hwn yn y cymarebau cynghorydd/etholwyr. Felly ystyriwn, er bod angen newid dilynol i ffin rhanbarth etholiadol Ystalyfera, na ddylid newid nifer y cynghorwyr ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

8.3 Nid ydym o’r farn ychwaith y byddai’r gostyngiad o tua 90 o etholwyr allan o gyfanswm o 3,584 yng Nghymuned Ystalyfera yn effeithio’n sylweddol ar drefniadau etholiadol y Gymuned. Felly cynigiwn, er bod angen newid dilynol i ffin ward Godre’r Graig yng Nghymuned Ystalyfera, na ddylid newid nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli Cymuned Ystalyfera.

8.4 Byddai’r cynnig yn golygu ychwanegu tua 90 o etholwyr i Ward Cwmtwrch yng Nghymuned Ystradgynlais sydd yn rhanbarth etholiadol Cwmtwrch lle y ceir 1,516 o etholwyr ar hyn o bryd yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd (gan roi cyfanswm o tua 1,606 o etholwyr). Er y byddai’r gymhareb cynghorydd/etholwyr yn parhau ar lefel uwch na chyfartaledd y sir o 1: 1,359 ystyriwn fod y gymhareb yn cymharu’n ffafriol â rhanbarth etholiadol cyfagos Ynyscedwyn (sy’n cynnwys Ward Ynyscedwyn yng Nghymuned Ystradgynlais) gyda 1,770 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd a rhanbarth etholiadol Ystradgynlais (sy’n cynnwys ward Ystradgynlais yng Nghymuned Ystradgynlais) gyda 2,010 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd. Felly ystyriwn, er bod angen newid dilynol i ffin rhanbarth etholiadol Ystradgynlais, na ddylid newid nifer y cynghorwyr ar Gyngor Sir Powys.

8.5 Ystyriwn hefyd na fyddai’r cynnydd o tua 90 o etholwyr i’r cyfanswm o 5,296 yng Nghymuned Ystradgynlais yn effeithio’n sylweddol ar y trefniadau etholiadol ar gyfer y Gymuned. Felly cynigiwn, er bod angen newid dilynol i ffin ward Ystradgynlais yng Nghymuned Ystradgynlais, na ddylid newid nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli Cymuned Ystradgynlais.

8.6 Y ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd a Sir Powys yn yr ardal y cynhelir arolwg ohoni hefyd yw’r ffin rhwng siroedd cadwedig Gorllewin Morgannwg a Phowys. O ystyried y rhesymau dros gadw siroedd cadwedig rydym o’r farn eu bod yn ddymunol i ffiniau’r siroedd cadwedig ddilyn y ffiniau rhwng yr awdurdodau unedol. Felly cynigiwn y dylid newid y ffin rhwng siroedd cadwedig Gorllewin Morgannwg a Phowys hefyd i ddilyn y llinell a nodir ar y map yn Atodiad 1.

9. CYDNABYDDIAETHAU

9.1 Hoffem fynegi ein diolch i’r prif gynghorau a’r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob person a chorff a gyflwynodd sylwadau i ni.

10. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

10.1 Wedi cwblhau ein harolwg o ran o’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwmtwrch a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cwblhau ein rhwymedigaeth statudol o dan y cyfarwyddiadau a ddosbarthwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

10.2 Penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, os cred fod hynny’n briodol, fydd eu rhoi ar waith gyda neu heb addasiadau ar ffurf Gorchymyn neu roi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o’r fath nes i gyfnod o chwe wythnos fynd heibio o’r dyddiad y cyflwynwyd argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

10.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach yn ymwneud â’r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau i:

Isadran Moderneiddio Llywodraeth Leol 2
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

J DAVIES ICSA IPFA (Dirprwy Gadeirydd)

D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Aelod)

E H LEWIS BSc DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Mai 2003