AROLWG O RAN O'R FFIN RHWNG SIR POWYS A BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL YN ARDAL PONTSTICILL
CYNIGION DRAFFT
- CYFLWYNIAD
- CRYNODEB GWEITHREDOL
- CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT
- ASESIAD
- CYNIGION
- TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
- CYDNABYDDIAETHAU
- YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
- Y CAMAU NESAF
1. CYFLWYNIAD
1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau cam cyntaf arolwg o ran o'r ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ardal Pontsticill. Diben yr arolwg yw ystyried a ddylai'r Comisiwn, er mwyn llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, gynnig newidiadau i'r ffin bresennol. Cynhelir yr arolwg o dan ddarpariaethau Adran 55(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf).
1.2 Penderfynom gynnal yr arolwg hwn o ganlyniad i gais gan Gyngor Sir Powys, i'r ardal a nodir ar y map yn Atodiad B gael ei chynnwys o fewn yr ardal sy'n cael ei gwasanaethu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
1.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi canllawiau gweithdrefnol, y mae'n rhaid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw, ar 19 Gorffennaf 2007, ysgrifennom at Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Powys, Cyngor Cymunedol Tal-y-bont ar Wysg, Aelodau Seneddol yr etholaethau lleol, Aelodau Cynulliad yr ardal, y cymdeithasau awdurdod lleol, awdurdodau heddlu yr ardal, Byrddau Iechyd Lleol Powys a Merthyr Tudful a phleidiau gwleidyddol i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg ac i geisio eu barn ragarweiniol. Hefyd, cyhoeddom ein bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau lleol yn yr ardal, a gofynnom i'r cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus. Hysbyswyd cychwyn yr arolwg a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cynrychiolaethau (20 Medi 2007) ar wefan y Comisiwn. Hefyd, cynhaliodd y Comisiwn ymweliad safle â'r ardal ym mis Medi a mis Hydref 2007.
2. CRYNODEB GWEITHREDOL
2.1 Cynigiwn newid i'r ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ardal Pontsticill fel y nodir ar y map yn Atodiad D.
3. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD CYN Y CYNIGION DRAFFT
3.1 Derbyniom gynrychiolaethau oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Powys, Is-gapteiniaeth Morgannwg Ganol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys, Cwmni Rheilffordd Bannau Brycheiniog a phedwar o drigolion. Ystyriwyd pob un o'r cynrychiolaethau'n ofalus cyn llunio ein cynigion.
3.2 Gellir gweld manylion yr holl gynrychiolaethau hyn yn Atodiad A.
3.3 Wrth gynnal ymweliad safle ag ardal yr arolwg, gwahoddwyd aelodau'r Ysgrifenyddiaeth i gyfarfod â thrigolion lleol, a ategodd y pryderon yr oeddent wedi'u mynegi yn eu cynrychiolaethau i ni. Ar ôl y cyfarfod, dangoswyd i aelodau'r Ysgrifenyddiaeth ble'r oedd rhan o'r ffin a oedd yn cael ei hawgrymu gan Gyngor Sir Powys yn torri ar draws cae heb ddilyn unrhyw nodweddion daearyddol adnabyddadwy. Nodwyd ganddynt hefyd ble mae'r ffin awgrymedig yn torri drwy ganol caffi sy'n eiddo i Reilffordd Bannau Brycheiniog.
4. ASESIAD
4.1 Ystyriom y newid i'r ffin sy'n cael ei hawgrymu gan Gyngor Sir Powys ( Atodiad B) a'r cynnig gwahanol a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ( Atodiad C) a'r holl gynrychiolaethau a ddaeth i law.
4.2 Nodom fod Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cefnogi newid i'r ffin a fyddai'n trosglwyddo'r ardal sy'n cael ei hawgrymu gan Gyngor Sir Powys (er i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful awgrymu ardal ychwanegol i'w throsglwyddo). Cefnogir y newid hwn gan Gyngor Cymunedol Tal-y-bont ar Wysg, Is-gapteiniaeth Morgannwg Ganol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys. Nodom, fodd bynnag, fod nifer o bryderon gan Gwmni Rheilffordd Bannau Brycheiniog a rhai o'r trigolion ynghylch y newid arfaethedig. Roedd rhai o'r pryderon yn ymwneud â'r newid o un sir i'r llall, ac roedd pryderon eraill yn rhai penodol i'r ffin benodol a oedd yn cael ei chynnig.
4. 3 Roedd rhai o'r materion a godwyd yn ymwneud â daliadau tir yn cael eu hollti dros ddwy ardal prif gyngor. Er ein bod yn ymwybodol o arolygon eraill bod ffermydd yn croesi ffiniau sirol (a chymunedol), nid oeddem wedi derbyn cynrychiolaethau'n flaenorol gan dirfeddiannwr mewn perthynas â'r cyfryw ganlyniadau canfyddedig. Er mwyn i ni allu rhoi ein hystyriaeth lawn i'r materion a godir yn y cynrychiolaethau, cysylltom â Chyfarwyddiaeth Materion Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) a'r Gofrestrfa Tir i gael gwybodaeth. Ein dealltwriaeth ni yw mai rhif cyfeirnod a ddyrennir i ddaliadau at ddibenion llywodraeth / amaethyddol yw Daliad Plwyf Sirol (CPH). Ni fyddai tir sydd mewn 2 blwyf gwahanol yn cael unrhyw effaith gan fod LlCC yn defnyddio'r rhif CPH fel dynodwr yn unig ar sail lleoliad y prif ffermdy a'r adeiladau. Pe bai'r rhain yn cael eu newid i fod o fewn plwyf (cymuned) arall, yna byddai'r CPH yn cael ei newid. Defnyddir y CPH at ddibenion symud anifeiliaid, ond Is-adrannau LlCC sy'n gyfrifol am greu a hysbysu adrannau eraill am y rhif cywir. Deallwn felly na fyddai dau rif CPH ar wahân yn cael eu creu gan symudiad o'r fath.
4.4 Mewn perthynas â chofrestru tir ac eiddo, dywedwyd wrthym gan y Gofrestrfa Tir nad yw newidiadau i ardaloedd gweinyddol llywodraeth leol, o ran enw ac o ran ardal, yn effeithio ar berchenogaeth gyfreithlon tir/eiddo, gan nad oes unrhyw newid o ran maint y tir, boed yn dir wedi'i gofrestru neu heb ei gofrestru. Pan fydd newidiadau felly'n digwydd mae'r Gofrestrfa Tir yn gallu diweddaru'i chofnodion yn electronig. Nid yw'n ofynnol hysbysu'r perchennog cofrestredig am newidiadau felly, gan nad yw'r newid wedi newid eu perchenogaeth gyfreithlon.
4.5 Roedd y trigolion yn pryderu ynghylch y cynnydd tebygol yn nhaliadau'r dreth gyngor o ganlyniad i'r newid. Nodom fod cyfraddau sylfaenol cyfredol y dreth gyngor yn uwch ym Merthyr Tudful nag ym Mhowys, er y byddai hyn yn cael ei unioni'n rhannol gan y ffaith bod y trigolion yn talu praesept ychwanegol ar hyn o bryd am Gyngor Cymunedol Tal-y-bont ar Wysg, ond o dan y newid arfaethedig byddent yn ardal Cymuned Faenor ac nid oes ganddi gyngor cymunedol ar hyn o bryd. Ystyriwn, fodd bynnag, na ddylai gwahaniaethau yn y Dreth Gyngor, fel mater o bolisi, ddylanwadu llawer, os o gwbl, ar y Comisiwn fel arfer wrth benderfynu rhwng dwy ardal prif gyngor.
4.6 Rydym o'r farn bod newid i'r ffin sydd i gynnwys, fan lleiaf, yr ardal a awgrymir gan Gyngor Sir Powys, yn ddymunol er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus am y rhesymau a roddwyd gan Gyngor Sir Powys nad yw er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i anheddiad fel Pontsticill gael ei rannu fel hyn. Nodom ymestyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i'r awgrym hwn i gynnwys ardal sylweddol fwy o fewn eu ffiniau. Yn eu cynrychiolaeth, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful o'r farn y byddai eu ffin amgen yn fanteisiol o ran cynnwys Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Dolygaer, sy'n eiddo i'r Cyngor, yn eu hardal hwy. Nodom fodd bynnag, nad oedd yn anarferol i awdurdodau fod â buddiannau mewn cyfleusterau felly y tu allan i'w hardaloedd eu hunain. Ystyriom, er y gall fod buddion i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful o ran cael eu Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored o fewn ardal eu cyngor, nad oedd hyn ynddo'i hyn yn teilyngu'r newid sylweddol i'r ffin a awgrymwyd ganddynt.
4.7 Ystyriom y pryderon a fynegwyd gan y trigolion a chan Gwmni Rheilffordd Bannau Brycheiniog ynghylch priodoldeb y ffin awgrymedig mewn rhai ardaloedd. Rydym wedi nodi'r pryderon hyn ac wedi cynnal ymweliadau safle â'r ardal er mwyn archwilio'r ffin sy'n cael ei hawgrymu gan Gyngor Sir Powys (a'r newid pellach a awgrymir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful). Rydym o'r farn nad yw'r ffiniau awgrymedig, mewn rhannau, yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy ac fel y cyfryw ni fyddai'n darparu ffiniau sirol priodol.
4.8 Rydym wedi astudio mapiau manwl o'r ardal ac wedi cynnal ymweliad safle arall er mwyn canfod ffin amgen sydd, er nad yw mor helaeth â chynnig Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn cynnwys yr ardal o fewn y ffin sy'n cael ei chynnig gan Gyngor Sir Powys. Ystyriom ddefnyddio rhan o'r ffin bresennol rhwng Cymunedau Llangynidr a Thal-y-bont ar Wysg. Mae'r ffin hon yn dilyn llwybr troed cyhoeddus sydd ar waelod tarren Cefn yr Ystrad. Nodom ar ein hymweliad safle fodd bynnag bod nifer o draciau wedi'u gwneud gan yr hyn a ymddangosai fel cerbydau modur, ac mewn mannau roedd hyn wedi'i gwneud hi'n anodd nodi cwrs y llwybr troed. Ymhellach i lawr o'r ffin gymunedol tuag at y gronfa ddwr, canfuom fod wal sylweddol o gerrig sychion yn rhedeg yn ddi-dor bron o'r ffin sirol bresennol tua'r gogledd at y nant sy'n llifo o Gwm Criban i mewn i'r gronfa ddwr. Nodom fod y wal sych hon yn nodi hefyd y rhaniad rhwng ardal y gweundir a'r ardal o gaeau. Rydym felly wedi defnyddio'r wal sych a'r nant i ffurfio ffin (a ddangosir ar y map yn Atodiad D) yr ystyriwn ei bod yn dilyn nodweddion daearyddol adnabyddadwy ac a fyddai'n darparu ffin sirol briodol.
4.9 Byddai mabwysiadu ein ffin sirol arfaethedig yn arwain at ran o ardal Cymuned Tal-y-bont ar Wysg yn ffurfio camedd cul o dir anghyfannedd i lawr at y ffin ddeheuol â Merthyr Tudful. O gofio'r problemau o ran nodi pen deheuol y ffin rhwng Cymunedau Tal-y-bont ar Wysg a Llangynidr (a nodir yn 4.8 uchod) cynigiwn newid i'r ffin sy'n defnyddio'r nant sy'n llifo o Gwm Criban. Dangosir y newid arfaethedig i'r ffin gymunedol ar y map yn Atodiad D.
5. CYNIGION
5.1 Wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni yn y cyfnod hwn o'n harolwg, cynigiwn y dylid adlinio'r ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ddilyn y ffin a ddangosir mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad D. Cynigiwn ymhellach y dylid adlinio'r ffin rhwng Cymuned Tal-y-bont ar Wysg a Chymuned Llangynidr i ddilyn y ffin a ddangosir mewn brown ar y map yn Atodiad D.
5.2 Gellir archwilio mapiau manwl ar raddfa fwy sy'n dangos y ffiniau arfaethedig newydd yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Powys ac yn swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.
5.3 Mae'r adroddiad drafft hwn yn rhoi manylion ein cynnig i newid y ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Sir Powys, a byddem yn croesawu unrhyw sylwadau ar y cynigion.
6. TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
6.1 Wrth ystyried y newid i'r ffin sirol, roedd hefyd yn ofynnol i ni gymryd i ystyriaeth yr effeithiau ar y trefniadau etholiadol i gynghorau cymunedol a'r prif awdurdodau, a fyddai'n deillio o'r newidiadau hyn. Mae'r adran hon o'n hadroddiad yn manylu ar ein cynigion ar gyfer newidiadau ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol. Byddem yn croesawu sylwadau ar yr agwedd hon ar ein hadroddiad yn ogystal. Darparwyd yr ystadegau etholiadol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Sir Powys.
Trefniadau Etholiadol Cynghorau Cymunedol
6.2 Nid oes cyngor cymunedol gan Gymuned Faenor ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Nid yw'r newid arfaethedig i'r ffin felly'n gofyn am wneud unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol y gymuned hon.
6.3 Roedd Cymuned Tal-y-bont ar Wysg yn Sir Powys, tan yn ddiweddar, wedi'i rhannu at ddibenion etholiadol cymunedol yn wardiau Cymunedol Llanddeti, Llanfigan a Llansanffraid, yn cael eu cynrychioli gan 4, 5 a 2 o aelodau yn y drefn honno. Fe wnaeth Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol Cymunedol) 2006, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2007, ddileu'r trefniadau wardio a lleihau'r nifer o aelodau a gynrychiolai Cymuned Tal-y-bont ar Wysg o 11 i 9. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin yn lleihau nifer yr etholwyr yng Nghymuned Tal-y-bont ar Wysg o 13 o etholwyr. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn yn nifer yr etholwyr yn teilyngu newid pellach i nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli'r ward hon.
6.4 Nid yw'r newid arfaethedig i'r ffin rhwng Cymunedau Tal-y-bont ar Wysg a Llangynidr yn ymwneud ag unrhyw etholwyr. Nid oes angen unrhyw newidiadau ôl-ddilynol i drefniadau etholiadol y cymunedau hyn felly o ganlyniad i'r newid hwn.
Trefniadau Etholiadol Cynghorau Sir
6.5 Mae Rhanbarth Etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynnwys Cymuned Faenor sydd â 2575 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan 2 gynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin yn cynyddu nifer yr etholwyr o 13.
6.6 Mae Rhanbarth Etholiadol Cyngor Sir Powys yn cynnwys Cymunedau Glyn Tarell, Llanfrynach a Thal-y-bont ar Wysg sydd â 1,624 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan 1 cynghorydd. Byddai'r newid arfaethedig i'r ffin yn lleihau nifer yr etholwyr o 13.
6.7 Rydym o'r farn, ar gyfer y ddau ranbarth etholiadol uchod, nad yw'r newidiadau yn nifer yr etholwyr o ganlyniad i'r newid arfaethedig i'r ffin mor sylweddol bod angen cynyddu neu leihau nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli pob rhanbarth etholiadol ar hyn o bryd.
7. CYDNABYDDIAETHAU
7.1 Dymunwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Sir Powys am eu cymorth ac i bob un ac i bob corff a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni.
8. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
8.1 Dylid anfon cynrychiolaethau ar y cynigion drafft hyn at:
Yr Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas St Andrews Caerdydd CF10 3BEerbyn 14 Mawrth 2008 fan hwyraf.
9. Y CAMAU NESAF
9.1 Pan fyddwn wedi ystyried y cynrychiolaethau a wneir inni mewn ymateb i'r adroddiad drafft hwn byddwn yn cyflwyno ein hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ffurf adroddiad a chynigion. Ar ôl cyhoeddi ein cynigion terfynol, bydd cyfnod pellach o ymgynghori. Mater i Lywodraeth Cynulliad Cymru wedyn, os gwêl hynny'n dda, fydd gweithredu ein hargymhellion naill ai gyda neu heb addasiadau.
MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)
D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Dirprwy Gadeirydd)
Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Aelod)
E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)
Ionawr 2007
