Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O RAN O'R FFIN RHWNG SIR POWYS A BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL YN ARDAL PONTSTICILL

CYNIGION DRAFFT

Atodiad A

CRYNODEB O'R CYNRYCHIOLAETHAU CYCHWYNNOL A DDAETH I LAW

Cadarnhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fod y newidiadau arfaethedig a amlygir yn y cynllun gwreiddiol yn annhebygol o gael unrhyw oblygiadau mawr i wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rhoesant argymhelliad gerbron y dylid rhoi ystyriaeth i ymestyn y ffin ymhellach, i gynnwys Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Dolygaer a'r eiddo i'r gogledd o'r gronfa ddwr. Darparodd y Cyngor gynllun yn dangos y ffin awgrymedig. Roeddent o'r farn, pe bai Dolygaer i'w leoli o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y byddai'n elwa'n sylweddol o'r ffynonellau ariannu allanol eang sydd ar gael yn ardaloedd y cymoedd. Roeddent o'r farn y byddai hyn yn lleddfu'r gofyniad presennol i gyflwyno achosion busnes i Bowys pan fo prif fuddiolwyr y ganolfan yn hanu o'r cymoedd yn bennaf.

Roedd Cyngor Sir Powys o'r farn ei bod yn briodol y dylid newid y ffin gymunedol a'r ffin sirol, fel yr awgrymwyd yn flaenorol, er mwyn sicrhau y cynhwysir anheddiad cyfan Pontsticill o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Ystyria'r Cyngor na fyddai er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i anheddiad, fel Pontsticill, gael ei rannu fel hyn. Ystyriant fodd bynnag, y dylai ardal Dolygaer a Neuadd Uchaf, i'r gogledd o gronfa ddwr Pontsticill, ac unrhyw eiddo mwy gwledig arall a ffermydd i'r gogledd o anheddiad Pontsticill, aros yng nghymuned Tal-y-bont ar Wysg a Sir Powys. Roedd y Cyngor o'r farn bod topograffeg a phatrwm anheddu'r ardaloedd hyn yn debycach i rai'r cymunedau sy'n cynnwys Bannau Brycheiniog yn eu Sir.

Roedd Tal-y-bont ar Wysg yn cefnogi'r newid i'r ffin [a awgrymwyd gan Gyngor Sir Powys].

Ystyriodd Is-gapteiniaeth Sir Morgannwg Ganol y cynigion a chefnogi'r awgrym a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i'r ffin gael ei hymestyn ymhellach i gynnwys Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Dolygaer a'r eiddo i'r gogledd o'r gronfa ddwr.

Nid oedd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog unrhyw wrthwynebiadau i'r newid arfaethedig i'r ffin gan nad oes unrhyw oblygiadau uniongyrchol ar Ffin y Parc Cenedlaethol.

Ysgrifennodd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys i ddweud bod y Comander Rhanbarthol dros Bowys yn ystyried bod y newidiadau arfaethedig yn synnwyr cyffredin am eu bod yn symud Rheilffordd Bannau Brycheiniog, Gorsaf Pontsticill a Gwaith Trin Dwr Dwr Cymru i Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Ystyriwyd, er mai prin y gelwir yr heddlu at y safleoedd hyn, bod potensial gan y ddau i fynnu gwasanaeth oherwydd natur eu busnes. Byddai unrhyw uned heddlu ymatebol yn dod o Aberhonddu, sy'n rhyw 20 milltir i ffwrdd. Dim ond dwy filltir i ffwrdd yw Gorsaf Heddlu Dowlais, De Cymru, ac mewn argyfwng mae'n siwr mai nhw fyddai'n ateb galwad yn gyntaf. Mae'r newidiadau arfaethedig felly'n cael eu cefnogi gan yr Awdurdod gan y bydd yn ddiau yn golygu ymateb mwy effeithiol gan wasanaethau heddlu os gofynnir amdanynt yn yr adeiladau y soniwyd amdanynt.

Mynegodd Cwmni Rheilffordd Bannau Brycheiniog bryder y byddai'r ffin arfaethedig yn rhedeg ar hyd canol y trac rheilffordd, ac y byddai un rheilffordd ym Mhowys ac un ym Merthyr. Nodwyd ganddynt hefyd y byddai'r ffin yn torri trwy ganol eu Caffi ym Mhontsticill.

Roedd dau o drigolion yn gwrthwynebu unrhyw newidiadau i'r ffin bresennol. Maent o'r farn bod afonydd yn hanesyddol wedi ffurfio ffiniau naturiol, a'u bod yn rhan bwysig o'n treftadaeth. Ystyriant y bydd unrhyw newid yn cael effaith niweidiol ar y canlynol:

Mynegodd ddau o drigolion bryder ynghylch y newid arfaethedig i'r ffin. Roeddent o'r farn y bydd y newid arfaethedig:

10/1/2008