AROLWG O RAN O'R FFIN RHWNG BWRDEISTREF SIROL CASNEWYDD A BWRDEISTREF SIROL TOR-FAEN YN ARDAL CYMUNEDAU LLANTARNAM, MALPAS A CHAERLLION
ADRODDIAD A CHYNIGION
- CYNIGION DRAFFT
-
CRYNODEB O'R CYNRYCHIOLIADAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
- TREFNIADAU DILYNOL
- CYDNABYDDIAETHAU
- YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
Edwina Hart AC
Gweinidog dros Gyllid, Lywodraeth Leol a Chymunedau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. CYFLWYNIAD
1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Casnewydd a Bwrdeistref Sirol Tor-faen yn ardal Cymunedau Llantarnam, Malpas a Chaerllion. Diben yr arolwg yw ystyried a ddylai'r Comisiwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, gynnig newidiadau i'r ffin bresennol. Cynhelir yr arolwg o dan ddarpariaeth Adran 55 (1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn dilyn cynrychioliadau i'r Comisiwn gan dirfeddiannwr, ac mae'r cyflwyniadau hynny i'r Comisiwn o fewn cyd-destun ar arolwg hwn wedi eu cynnwys ym mharagraff 2.5 o'r Adroddiad Cynigion Drafft a pharagraff 5.9 o'r Adroddiad hwn. Ei gynnig penodol ef oedd i'r tir sydd wedi ei liwio'n wyrdd ar y map yn Atodiad 2 gael ei drosglwyddo o Dor-faen i Gasnewydd, ac felly ddefnyddio Ffordd Liniaru Malpas a Thwneli Brynglas fel ffin naturiol yr awdurdod. Ystyriodd y Comisiwn ymestyn y cynnig hwn i drosglwyddo'r ardal o dir sydd wedi ei liwio'n frown ar y map yn Atodiad 2 o Gymuned Caerllion i Gymuned Malpas, gan ddefnyddio Ffordd Liniaru Malpas a Thwneli Brynglas eto, y tro hwn fel ffin gymunedol naturiol. Dyma'r ardaloedd o dir a ystyriwyd yn yr arolwg hwn.
2. CRYNODEB GWEITHREDOL
2.1 Er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn y dylai'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Casnewydd a Bwrdeistref Sirol Tor-faen yn ardal Cymunedau Llantarnam, Malpas a Chaerllion aros heb ei newid. Fodd bynnag, cynigiwn y dylai'r ffin rhwng Cymunedau Caerllion a Malpas gael ei hadlinio ddilyn canol Ffordd Liniaru Twneli Brynglas o'r pwynt lle mae’r ffin bresennol yn croesi'r ffordd yn ardal Grove Park i'r pwynt lle mae'r ffin sirol yn croesi'r ffordd.
3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
3.1 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Gweithdrefn
3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw ysgrifenasom ar 26 Ionawr 2001 at Gyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, Cyngor Cymuned Canolog Cwmbrân, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, Aelodau'r Cynulliad ar gyfer yr ardal, cymdeithasau'r awdurdodau lleol, awdurdod yr heddlu ar gyfer yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg ac i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol. Gwahoddwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen i gyflwyno eu hawgrymiadau ar gyfer newidiadau i'r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i'r cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus.
4. CYNIGION DRAFFT
4.1 Derbyniasom gynrychioliadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, Mr M German AC, a dau gorff arall a thrigolion oedd â diddordeb. Cafodd y cynrychioliadau hyn eu hystyried a'u crynhoi yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf 2001.
4.2 Roedd ein Cynigion Drafft yn argymell y dylid adlinio ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Casnewydd a Bwrdeistref Sirol Tor-faen yn ardal Cymunedau Llantarnam, Malpas a Chaerllion yn ardal yr arolwg i ddilyn ymyl gogleddol Ffordd Liniaru Malpas a Thwneli Brynglas. Dangosir y newid arfaethedig i'r ffin mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad 2.
4.3 Cynigiwyd hefyd bod y ffin rhwng Malpas a Chaerllion yn cael ei adlinio ddilyn canol y ffordd fel y caiff ei ddynodi mewn brown ar y map yn Atodiad 2.
4.4 Anfonwyd copïau o'r Cynigion Drafft i'r holl gynghorau, cyrff ac unigolion y cyfeirir atynt ym mharagraff 3.2 i geisio'u barn. Anfonwyd copi hefyd at bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau cychwynnol. Drwy hysbysiad cyhoeddus hefyd, rhoddwyd gwahoddiad i unrhyw sefydliad neu berson arall oedd â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno'u barn. Roedd copïau o'r Cynigion Drafft ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen a'r Comisiwn ac hefyd yn swyddfeydd Awdurdod Heddlu Gwent.
5. CRYNODEB O'R CYNRYCHIOLIADAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
5.1 Derbyniwyd cynrychioliadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd; Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen; Paul Murphy AS; Rosemary Butler AC; William Graham AC; Awdurdod Heddlu Gwent ac 20 o gyrff eraill a thrigolion oedd â diddordeb. Ystyriwyd pob un o'r cynrychioliadau hyn yn ofalus cyn i ni ffurfio ein cynigion.
5.2 Ffoniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd i ddweud na fyddent yn gwneud sylwadau ar Adroddiad Cynigion Drafft y Comisiwn gan eu bod yn teimlo bod eu sylwadau cychwynnol i wrthwynebu'r arolwg yn parhau'n berthnasol.
5.3 Gwrthwynebodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen Gynigion Drafft y Comisiwn gan fod eu sefyllfa yn dal yr un peth â'r hyn a nodwyd yn eu sylwadau cychwynnol. Datganwyd ymhellach ganddynt fod y ffordd gysylltu yn ffurfio rhan o Ffordd Osgoi Llantarnam gyda'r ddwy gylchfan a gysylltir ganddi yn darparu'r prif fynediad i Dor-faen o'r de. Golygai adliniad arfaethedig y ffin hefyd mai o Gasnewydd y byddai'r fynedfa i ysgol Llantarnam Hall. Ymddangosai bod y ffin arfaethedig yn rhannu'r cyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r gylchfan orllewinol rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen ac roedd hynny'n anfoddhaol. Awgrymwyd ganddynt y dylid adlinio ffin ar hyd ochr ddeheuol y ffordd gyswllt a'r ddwy gylchfan yn hytrach na'r ochr ogleddol.
5.4 Ysgrifennodd y Gwir Anrh. Paul Murphy AS i gefnogi safiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen ar y mater hwn.
5.5 Gwrthwynebodd William Graham AC Gynigion Drafft y Comisiwn. Datganodd ei fod wedi ymgynghori'n eang â'r trigolion o fewn cyrraedd i'r tir dan sylw ac na dderbyniodd unrhyw gefnogaeth i gynigion y Comisiwn.
5.6 Gwrthwynebodd Rosemary Butler AC Gynigion Drafft y Comisiwn. Ystyriai hi efallai fod y cais i drosglwyddo tir o un awdurdod i un arall yn ymgais haerllug i osgoi polisïau cynllunio. Gwnaeth y sylw mai polisi Cynghorau Bwrdeistrefi Sirol Casnewydd a Thor-faen oedd cadw'r ardal fel bwlch pwysig rhwng y ddau awdurdod. Ysgrifennodd Mrs Butler at y Comisiwn hefyd ar ran pump o drigolion Malpas a oedd yn gwrthwynebu Cynigion Drafft y Comisiwn. Ni allai'r trigolion weld unrhyw reswm dros y newid arfaethedig a theimlent y dylid cadw’r ffin bresennol a oedd yn dilyn y nant.
5.7 Datganodd Awdurdod Heddlu Gwent na fyddai cynigion y Comisiwn yn cael unrhyw effaith ar blismona yn yr ardal.
5.8 Gwrthwynebodd Plaid Geidwadol Cymru gynnig y Comisiwn i drosglwyddo'r tir o Dor-faen i Gasnewydd am y rhesymau canlynol:
-
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen na Chyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd yn cefnogi'r cynnig.
-
Bu'r tir yn destun ceisiadau cynllunio ar gyfer ei ddatblygu ddwywaith yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a gwrthodwyd y ddau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen.
-
Mae'r tir yn nes at ganolfan siopa ddatblygedig Cwmbrân na chanol tref Casnewydd a theimlent y byddai gan Dor-faen fwy o fudd o sicrhau na fyddai datblygiad masnachol yn digwydd ar y tir am y rheswm hwn.
-
Byddai gosod datblygiad tai neu ddatblygiad masnachol yn cael effaith andwyol ar werth amwynderau tai ym Mharc Malpas oedd yn edrych drosto.
-
Gan na fyddai unrhyw etholwyr yn rhan o'r trosglwyddiad, roedd teimlad mai'r unig reswm dros wneud y cais oedd y gred y byddai Cyngor Casnewydd yn edrych yn fwy ffafriol na Thor-faen ar gais am ganiatâd cynllunio. Ni theimla'r Blaid fod hyn yn sail gywir dros drosglwyddo'r tir o Dor-faen i Gasnewydd.
5.9 Cefnogodd Gynigion Drafft y Comisiwn. Ers adeiladu Ffordd Liniaru Malpas, ni allai eu clientiaid ffermio yn ardal yr arolwg, ac o ganlyniad, cafodd y tir ei esgeuluso. Roedd eu clientiaid yn croesawu'r syniad y byddai'r ardal yn dod o dan yr un awdurdod cynllunio â'r tir gerllaw i'r de. Credent fod ardal yr arolwg yn ddarn gwerthfawr o dir na ddylid ei adael i fynd â'i ben iddo fel y byddai'n digwydd yn anochel o dan yr awdurdodaethau cynllunio rhanedig presennol.
5.10 Cefnogodd cyd-berchnogion y tir oedd gerllaw ardal yr arolwg Gynigion Drafft y Comisiwn. Credent y byddai ymagwedd gydweithredol i'r tir oedd wedi ei ffinio gan ffordd liniaru Malpas gan awdurdod cynllunio unigol o fudd i berchnogion y tir a'r gymuned. Credent fod y ffin bresennol sy'n rhannu'r ddwy ardal gyfagos rhwng Casnewydd a Thor-faen yn niweidiol i ddefnydd posibl y tir yn y dyfodol. Mae'r sefyllfa hon hefyd wedi achosi i'r tir dyfu'n wyllt ac yn flêr.
5.11 Cefnogodd tirfeddiannwr lleol Gynigion Drafft y Comisiwn. Teimlai ei fod yn annymunol gadael ardal yr arolwg i barhau'n anniben ac y dylai'r holl ardal o dir rhwng ffordd liniaru Malpas a'r tai presennol ym Malpas fod o dan awdurdodaeth un awdurdod cynllunio ac y gellid gwneud defnydd mwy buddiol ohono wedyn. Yr oedd hefyd yn bryderus y gallai'r chwyn a'r mieri a oedd wedi eu gadael i dyfu ar dir yr arolwg ledaenu i'w dir ei hun gyferbyn.
5.12 Gwrthwynebodd un o drigolion Malpas Gynigion Drafft y Comisiwn am ei fod yn credu mai unig fwriad y cynnig oedd galluogi'r tirfeddiannwr i werthu'r tir ar gyfer ei ddatblygu yn y dyfodol. Teimlai y byddai datblygu'r ardal yn dinistrio ei harddwch naturiol a nododd hefyd mai'r unig fynediad i'r tir fyddai drwy Ystad Claremont ac y byddai hynny'n peryglu diogelwch y ffordd fawr i blant yr Ystad.
5.13 Ysgrifennodd dau o drigolion Malpas i wrthwynebu trosglwyddo'r tir o Dor-faen i Gasnewydd. Ni chredent y byddai unrhyw fudd yn deillio o'i drosglwyddo ac y dylid ei adael fel y mae.
5.14 Gwrthwynebodd un o drigolion Malpas Gynigion Drafft y Comisiwn. Credai y dylai'r tir barhau yn llain las ac mai'r unig reswm y gwnaeth y tirfeddiannwr gais am yr arolwg oedd er mwyn cael caniatâd cynllunio.
5.15 Gwrthwynebodd dau o drigolion Malpas Gynigion Drafft y Comisiwn. Yr oeddynt yn bryderus y câi'r tir ei ddatblygu gan fod diffyg mynediad iddo. Yr oeddynt am i'r tir gael ei adael fel llain las.
5.16 Gwrthwynebodd un o drigolion Malpas Gynigion Drafft y Comisiwn. Nododd bod Cynghorau Bwrdeistref Sirol Tor-faen a Chasnewydd yn ystyried yr ardal fel llain las, eu bod yn erbyn datblygu'r tir a bod y ddau gyngor yn fodlon â'r ffin bresennol yn dilyn nodwedd naturiol y nant. Teimlai y byddai unrhyw ddatblygiadau ar y tir yn y dyfodol yn andwyol i Ystad Claremont, ac na fyddai strwythur y ffordd yn gallu ymdopi â'r cynnydd mewn trafnidiaeth. Teimlai hefyd y byddai unrhyw gynnydd mewn trafnidiaeth yn effeithio ar ddiogelwch plant ar yr Ystad.
5.17 Gwrthwynebodd un o drigolion Malpas Gynigion Drafft y Comisiwn. Er na fyddai'r newid ffin ynddo'i hun yn gwneud gwahaniaeth i'r ardal, teimlai mai'r oblygiad sylfaenol fyddai ynghlwm ag unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol oedd angen ei ystyried. Nododd fod Cynghorau Casnewydd a Thor-faen yn erbyn newid y ffin ac mai'r rheswm dros y cais oedd y byddai’n haws cael caniatâd cynllunio ar gyfer y tir yn y dyfodol gan Gyngor Casnewydd. Teimlai y byddai trigolion Caerllion, Malpas a Llantarnam yn dymuno cadw'u hunaniaeth yn hytrach na dod yn gruglwyth arall o adeiladau. Erydwyd y llain las eisoes gan y ffordd osgoi a oedd wedi bod yn achos colli llawer o Grove Park.
5.18 Gwrthwynebodd un o drigolion Malpas Gynigion Drafft y Comisiwn am ei fod yn credu eu bod yn ddiangen. Tybiai mai'r unig un fyddai'n manteisio ar y newid arfaethedig fyddai'r tirfeddiannwr.
5.19 Gwrthwynebodd un o drigolion Casnewydd Gynigion Drafft y Comisiwn. Nododd y bu'r tir yn destun ymgynghori maith a chostus ddwywaith a'r canlyniad y ddau dro oedd y dylai aros yn llain las. Teimlai y byddai newid y ffin yn golygu y câi mwy o geisiadau cynllunio i ddatblygu'r tir eu cyflwyno a nododd bod canllawiau'r llywodraeth yn cynghori y dylid defnyddio tir llwyd ar gyfer datblygiadau ac nid tir glas. Dywedodd bod erwau o dir llwyd y gellid eu datblygu o fewn Casnewydd a Thor-faen.
5.20 Gwrthwynebodd un o drigolion Malpas Gynigion Drafft y Comisiwn.
5.21Nododd dau o drigolion Malpas fod tir yr arolwg wedi ei ddynodi yn llain las rhwng Casnewydd a Thor-faen. Credent y byddai hyn yn cael ei gadw pe bai'r tir yn cael ei drosglwyddo i Gasnewydd. Ni fyddai trigolion lleol yn elwa o gwbl o drosglwyddo'r tir ac felly ymddengys fod yr arolwg yn ddiangen ac nad oedd er budd y cyhoedd. Ni chredent fod ffordd liniaru'r A4042 yn ffin naturiol ond bod y nant yn creu ffin naturiol.
5.22 Gwrthwynebodd dau o drigolion Malpas Gynigion Drafft y Comisiwn gan eu bod yn credu y dylai'r tir barhau'n llain las.
5.23 Gwrthwynebodd dau o drigolion Malpas Gynigion Drafft y Comisiwn. Credent y câi eu heiddo ei ddibrisio gan unrhyw ddatblygiadau ar y tir a fyddai hefyd yn creu lefelau annerbyniol o drafnidiaeth.
5.24 Gwrthwynebodd un o drigolion Malpas Gynigion Drafft y Comisiwn. Nododd fod mynediad i'r tir yn gyfyngedig iawn.
5.25 Yr oedd un o drigolion Malpas yn bryderus y byddai lefelau trafnidiaeth o fewn ystad Claremont yn cynyddu be bai'n cael ei defnyddio fel mynedfa i dir yr arolwg. Nododd fod gan drigolion yr Ystad blant bach a fyddai'n aml yn chwarae ar y lleiniau gwair ac y byddent mewn perygl pe bai’r drafnidiaeth yn cynyddu. Teimlai y dylai'r ffin aros yn ddigyfnewid gan nad oedd wedi creu trafferthion yn y gorffennol.
6. ASESIAD
6.1 Yn ein Cynigion Drafft, rydym wedi nodi'r pryderon a godwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen ynglŷn â defnydd arfaethedig y tir sydd wedi ei liwio'n wyrdd ar y map yn Atodiad 2. Mae'r ddau Gyngor o fewn eu Cynlluniau Datblygu yn anelu at ddiogelu'r ardal hon a'r ardaloedd cyfagos fel bwlch agored rhwng Casnewydd a Chwmbrân. Ymddengys i ni, fodd bynnag, fod yr ardal o dir o dan ystyriaeth wedi ei gysylltu'n agos, yn ffisegol ac yn ei natur, â'r ardal o dir sy'n gorwedd rhwng ardal adeiledig Malpas a Ffordd Liniaru Malpas a Thwneli Brynglas sydd yng Nghasnewydd (sydd wedi ei liwio'n frown ar y map yn Atodiad 2). Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, yr oeddem yn ystyried y byddai'n fwy effeithiol a chyfleus, yn nhermau cynllunio, i ystyried yr ardaloedd hyn fel un uned.
6.2 Nodwyd gennym mai'r unig gefnogaeth a gafwyd i'n Cynigion Drafft oedd gan dirfeddianwyr lleol neu eu cynrychiolwyr a oedd i gyd yn ystyried y dylai'r holl ardal o dir rhwng ffordd liniaru Malpas a'r tai presennol ym Malpas fod o dan awdurdodaeth un awdurdod cynllunio. Credent y gallai'r tir wedyn gael ei roi at ddefnydd mwy buddiol yn hytrach na'i adael yn dir gwastraff.
6.3 Nodwyd gennym hefyd fod yr holl gynrychioliadau a dderbyniwyd gan Awdurdodau Unedol, cynrychiolwyr etholedig a thrigolion Malpas yn pryderu am oblygiadau cynllunio a allai ddeillio o'r newid i'r ffin. Yr oeddynt i gyd am gadw'r ardal o dir yn yr arolwg yn llain las rhwng Casnewydd a Thor-faen.
6.4 Yr oedd y cynnig i newid y ffin rhwng Casnewydd a Thor-faen a ystyriwyd yn ein hadroddiad Cynigion Drafft yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y byddai dod â'r holl dir rhwng ffordd liniaru Malpas a'r tai presennol ym Malpas o dan un awdurdod cynllunio yn fuddiol yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae'n glir oddi wrth y cynrychioliadau a dderbyniwyd gennym nad yw yr un o'r ddau Awdurdod Unedol, y cynrychiolwyr etholedig, na thrigolion yr ardal yn ystyried y byddai hyn o fudd.
6.5 Fodd bynnag, mae’r achos dros drosglwyddo tir o Dor-faen i Gasnewydd yn un deniadol, a chaiff hyn ei nodi'n dda yn y cynrychioliadau a gynhwysir ym mharagraff 5.10 uchod: "… byddai ymagwedd gydweithredol i'r tir oedd wedi ei ffinio gan ffordd liniaru Malpas gan awdurdod cynllunio unigol o fudd i berchnogion y tir a'r gymuned. Credent fod y ffin bresennol sy'n rhannu'r ddwy ardal rhwng Casnewydd a Thor-faen yn niweidiol i ddefnydd posibl y tir yn y dyfodol." Gwelwn nerth y ddadl hon ac, er nad yw'r ystyriaeth o gyflwyno na chaniatáu cais cynllunio penodol o fewn y ffactorau y gall y Comisiwn eu hystyried, mae'r broses gynllunio yn ei chyfanrwydd yn ffactor, fel budd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Wedi'r cyfan, swyddogaeth llywodraeth leol, yn rhannol o leiaf, yw gweinyddu'r system gynllunio.
6.6 Fodd bynnag, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ffactorau yn yr achos sy'n berthnasol, er enghraifft, i ddarpariaeth gwasanaethau a fyddai'n cefnogi trosglwyddo'r tir, a rhaid i ni bwyllo wrth wneud argymhelliad ar fater sy'n unigryw ar y naill law ac hefyd yn ddadleuol iawn. Yn yr achos arbennig hwn, gwrthwynebir ein cynigion gan yr awdurdodau lleol ar y naill law sydd â chyfrifoldeb dros y broses gynllunio ymysg eu swyddogaethau eraill. Mae hwn yn wrthwynebiad, ar wahân i’r holl gynrychioliadau eraill a dderbyniwyd yn erbyn y cynnig, na allwn ei anwybyddu o gwbl. Wedi'r cyfan, rhaid i ni ymateb i farn leol, sydd ynddo'i hun yn arwydd cryf o ble mae manteision llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
6.7 Yn wyneb yr ystyriaethau hynny ac wedi ystyried yn ofalus yr holl gynrychioliadau a wnaed i ni, yr ydym bellach wedi dod i'r casgliad na allwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, argymell unrhyw newid i'r ffin rhwng Bwrdeistrefi Sirol Casnewydd a Thor-faen yn ardal yr arolwg.
6.8 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft hefyd, ystyriwyd y ffin rhwng Cymunedau Caerllion a Malpas o fewn Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Nodwyd gennym fod ardal Cymuned Caerllion rhwng y nant sy'n ffurfio’r ffin bresennol a Ffordd Liniaru Malpas a Thwneli Brynglas wedi ei hynysu i bob pwrpas o weddill Cymuned Caerllion. Cynigiwyd gennym felly ailunio'r ffin rhwng Caerllion a Malpas i ddilyn canol y ffordd fel y dynodir ar y map yn Atodiad 1. Nodwyd nad oedd yr un o'r cynrychioliadau a dderbyniwyd gennym mewn ymateb i'n Cynigion Drafft yn cyfeirio at y cynnig arbennig hwn. Gan na chodwyd yr un mater a fyddai'n gwrthwynebu'r newid a gynigiwyd, yr ydym felly yn cynnig y newid i'r ffin rhwng Cymunedau Caerllion a Malpas fel y dynodir ar y map yn Atodiad 1.
7. CYNIGION
7.1 Ymgymerwyd â'r arolwg gennym yn unol â'r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac ni wnawn unrhyw gynnig i newid y ffin rhwng Bwrdeistrefi Sirol Casnewydd a Thor-faen yn ardal Cymunedau Llantarnam, Malpas a Chaerllion. Cynigiwn, fodd bynnag, bod y ffin rhwng Cymunedau Caerllion a Malpas yn cael ei hadlinio yn ardal yr arolwg i ddilyn canol Ffordd Liniaru Twneli Brynglas o'r pwynt lle mae’r ffin bresennol yn croesi'r ffordd yn ardal Grove Park i'r pwynt lle mae'r ffin sirol yn croesi'r ffordd. Dangosir y newid arfaethedig i'r ffin mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad 1.
7.2 Gellir archwilio map manwl ar raddfa fwy sy'n nodi'r ffin newydd arfaethedig yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen ac yn swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.
8. TREFNIADAU DILYNOL
8.1 O dan Adran 54 (1) (e) o'r Ddeddf, gall y Comisiwn wneud cynnig i newid trefniadau etholiadol unrhyw ardal llywodraeth leol sy'n deillio o ganlyniad i unrhyw newid arfaethedig mewn ardaloedd llywodraeth leol. Gan nad yw'r newid ffin rhwng Cymunedau Caerllion a Malpas yn effeithio ar unrhyw etholwyr ni fydd unrhyw effeithiau dilynol ar y trefniadau etholiadol.
9. CYDNABYDDIAET
9.1 Dymunwn fynegi ein diolch i'r prif gynghorau am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob corff a pherson a gyflwynodd gynrychioliadau i ni.
10. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
10.1 Wedi cwblhau ein harolwg o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Casnewydd a Bwrdeistref Sirol Tor-faen yn ardal Cymunedau Llantarnam, Malpas a Chaerllion a chyflwyno ein cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol yn unol â'r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
10.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny'n briodol, yw eu gweithredu ynghyd ag addasiadau neu hebddynt drwy gyfrwng Gorchymyn neu i gyfarwyddo'r Comisiwn i gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o'r fath yn gynt na chwe wythnos o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
10.3 Dylid anfon unrhyw gynrychioliadau pellach yn ymwneud â'r materion yn yr adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl ac yn sicr cyn pen chwe wythnos fan bellaf o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid anfon cynrychioliadau at:
Adain Moderneiddio Llywodraeth Leol 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQMRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)
J DAVIES (Dirprwy Gadeirydd)
D H ROBERTS BSc. DMS MBCS MIMgt (Aelod)
E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)
Mawrth 2002
