AROLWG O RAN OR FFIN RHWNG BWRDEISTREF SIROL CASTELL NEDD PORT TALBOT A DINAS A SIR ABERTAWE YN ARDAL HEOL PONTARDAWE
ADRODDIAD A CHYNIGION
- CYFLWYNIAD
- CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
- CYNIGION DRAFFT
- CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLIADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT
- ASESIAD
- CYNIGION
- TREFNIADAU CANLYNIADOL
- CYDNABYDDIAETHAU
- YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN
H Rhodri Morgan Ysw AS AC
Prif Ysgrifennydd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. CYFLWYNIAD
1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau’r arolwg o ran o’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe yn adran Heol Pontardawe a chyflwynwn ein cynigion ar gyfer ffin newydd.2. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
2.1 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Y drefn
2.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r arweiniad hwnnw ysgrifenasom, ar 28ain Mehefin 1999, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chynghorau Dinas a Sir Abertawe, Cynghorau Cymuned Clydach a Phontardawe, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, Aelodau’r Cynulliad dros yr ardal, cymdeithasau yr awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu dros yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg, ac i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol. Gwahoddwyd Cynghorau Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer newidiadau i’r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i’r cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus.
3. CYNIGION DRAFFT
3.1 Derbyniwyd cynrychioliadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot; Cyngor Dinas a Sir Abertawe; dau gyngor tref a chymuned; Martin Caton AS; Peter Hain AS; Alun Cairns AC; Val Feld AC; Edwina Hart AC; Gwenda Thomas AC; a thri chorff a thrigolion eraill oedd â diddordeb. Ystyriwyd y cynrychioliadau hyn a cheir crynodeb ohonynt yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 25 Chwefror 2000.
3.2 Argymhellodd ein Cynigion Drafft y dylid adlinio’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe yn yr ardal dan arolwg i ddilyn y llinell bresennol ar hyd canol Heol-y-Ffin nes iddi gyrraedd pwynt gyferbyn â’r ffin rhwng 172 Heol Pontardawe a 246 Heol Abertawe. Dylai’r ffin wedyn droi i ddilyn llinell y ffin ffens hon nes iddi gwrdd â’r ffin bresennol unwaith eto. Nodwyd y newid arfaethedig i’r ffin ar y map yn yr adroddiad.
3.3 Anfonwyd copïau o'r Cynigion Drafft at bob cyngor, corff ac unigolyn y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.2 yn gofyn am eu barn. Hefyd anfonwyd copi at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau rhagarweiniol. Drwy hysbysiad cyhoeddus gwahoddwyd unrhyw sefydliad neu berson arall oedd â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu barn. Roedd copïau o'r Cynigion Drafft ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Dinas a Sir Abertawe a’r Comisiwn a hefyd yn swyddfeydd Awdurdod Heddlu De Cymru.
4. CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLIADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT
4.1 Derbyniwyd cynrychioliadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot; Cyngor Cymuned Clydach; Edwina Hart AC; a dau gorff a thrigolion eraill oedd â diddordeb. Ystyriwyd pob un o’r cynrychioliadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion.
4.2 Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot nad oeddynt yn dymuno gwneud unrhyw gynrychioliadau pellach ynghylch arolwg y Comisiwn o’r ffin.
4.3 Roedd Cyngor Cymuned Clydach yn cefnogi’r newid arfaethedig i’r ffin bresennol a amlinellwyd yn y Cynigion Drafft.
4.4 Dywedodd Edwina Hart AC ei bod yn cefnogi’r newid arfaethedig i’r ffin bresennol a amlinellwyd yn y Cynigion Drafft.
4.5 Nid oedd gan Arolwg Ordnans unrhyw sylwadau i’w gwneud am y newid arfaethedig i’r ffin bresennol.
4.6 Dywedodd Mr P Davies, yn ysgrifennu ar ran trigolion 162 i 172 Heol Pontardawe, fod trigolion yr eiddo dan sylw yn cefnogi’r newid arfaethedig i’r ffin bresennol a amlinellwyd yn y Cynigion Drafft.
5. ASESIAD
5.1 Yn ein Cynigion Drafft nodwyd bod consensws cyffredinol bod angen newid y ffin bresennol rhwng Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe gan na ddiffinnir yn glir lle y mae’n gorwedd yng nghefn yr eiddo yn 162 i 172 Heol Pontardawe. Derbyniwyd tri chynnig ar gyfer ffin wahanol:
- y dylai’r ffin barhau’r llinell bresennol ar hyd y ffin rhwng rhif 162 Heol Pontardawe a’r fynwent nes iddi gyrraedd glan Camlas Abertawe ac yna dilyn y gamlas nes iddi gyrraedd y ffin bresennol;
- y dylai’r ffin barhau’r llinell bresennol ar hyd canol Heol-y-Ffin nes iddi gyrraedd canol Heol Pontardawe. Yna dylai droi tuag at Drebanos nes iddi gyrraedd pwynt gyferbyn â’r ffin rhwng 172 Heol Pontardawe a 246 Heol Abertawe. Dylai’r ffin wedyn droi i ddilyn llinell y ffin ffens hon nes iddi gwrdd â’r ffin bresennol unwaith eto;
- y dylai’r ffin newid cyfeiriad o’r ffin bresennol ar y pwynt lle mae’n cwrdd â’r llinell rheilffordd segur. Dylai wedyn ddilyn llwybr nant yng nghefn 39 Heol-y-Llwynan ac ymlaen mewn ceuffos i gefn 2 Heol y Fferm lle mae’n ymddangos am gyfnod byr eto cyn mynd o dan y ddaear gan ymddangos ar ffin ‘Den Van’ a 230 Heol Abertawe.
5.3 Ystyriwyd y cynrychioliadau a wnaed i ni mewn ymateb i’n Cynigion Drafft ac rydym yn fodlon bod y mwyafrif llethol o blaid yr adliniad a gynigwyd yn ein Cynigion Drafft.
6. CYNIGION
6.1 Wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, rydym yn cynnig, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, y dylid adlinio’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe yn yr ardal dan arolwg i ddilyn y llinell bresennol ar hyd canol Heol-y-Ffin nes iddi gyrraedd canol Heol Pontardawe. Dylai wedyn droi tuag at Drebanos nes iddi gyrraedd pwynt gyferbyn â’r ffin rhwng 172 Heol Pontardawe a 246 Heol Abertawe. Dylai’r ffin wedyn droi i ddilyn llinell y ffin ffens hon nes iddi gwrdd â’r ffin bresennol unwaith eto. Dangosir y newid arfaethedig i’r ffin mewn glas ar y map yn Atodiad 1.
|
Nodwch nad yw'r map yn Atodlen 1 wedi ei gynnwys gyda'r fersiwn yma o'r adroddiad o ganlyniad i anawsterau technegol a hawlfraint. Mae copi o'r adroddiad gyda'r map ar gael trwy gysylltu âr Comisiwn. |
Caiff yr ardal sy’n cynnwys pob eiddo rhwng 162 a 172 Heol Pontardawe fel y nodir ar y map yn Atodiad 1 ei throsglwyddo o Ward Trebanos yng Nghymuned Pontardawe yng Nghastell-nedd Port Talbot i Ward Clydach yng Nghymuned Clydach yn Abertawe. Gan fod rhanbarth etholiadol Trebanos yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gydffiniol â ward Trebanos yng Nghymuned Pontardawe a bod rhanbarth etholiadol Clydach yn cynnwys Ward Clydach yng Nghymuned Clydach, bydd newid cyfatebol i ffiniau’r rhanbarthau etholiadol hyn.
7. TREFNIADAU CANLYNIADOL
7.1 Mae’r adroddiad hwn yn nodi ein cynnig i newid y ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe. Wrth ystyried y newid i’r ffin roedd hefyd angen i ni ystyried yr effeithiau ar y trefniadau etholiadol ar gyfer y cynghorau cymuned a’r prif gynghorau awdurdod a fyddai’n deillio o’r newid hwn.7.2 Tynnwn sylw at y ffaith y byddai chwe eiddo preifat yn cael eu trosglwyddo o Gastell-nedd Port Talbot i Abertawe pe bai’r ffin arfaethedig yn cael ei mabwysiadu. Byddai hyn yn gofyn am newid cofrestrau etholiadol y cynghorau perthnasol ond oherwydd y nifer fach o etholwyr dan sylw, ni fyddai’n effeithio ar y trefniadau etholiadol ar gyfer y cynghorau cymuned na’r prif gynghorau.
8. CYDNABYDDIAETHAU
8.1 Hoffem fynegi ein diolch i’r prif gynghorau ac i’r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob person a chorff a gyflwynodd gynrychioliadau i ni.9. YMATEBION I’R AROLWG HWN
9.1 Wedi cwblhau ein harolwg o ran o’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe yn ardal Heol Pontardawe a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y Ddeddf.
9.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny’n briodol, yw eu gweithredu gydag addasiadau neu hebddynt drwy Orchymyn neu gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o’r fath cyn cyfnod o chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
9.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychioliadau pellach yn ymwneud â’r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio cynrychioliadau i:
Adain Moderneiddio Llywodraeth Leol 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQYR ATHRO E SUNDERLAND OBE LL MA PhD LLD FIBiol (Cadeirydd)
E F L FITZHUGH OBE DL (Dirprwy Gadeirydd)
MRS S G SMITH LLB (Aelod)
R L KNIGHT BA MSc MRTPI (Ysgrifennydd)
Gorffennaf 2000
