Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG CYMUNEDAU LLANGOLLEN A LLANDYSILIO-YN-IÂL YN SIR DDINBYCH A CHYMUNEDAU PENYCAE, CEFN, LLANGOLLEN WLEDIG, Y WAUN, GLYNTRAEAN A LLANSANTFFRAID GLYN CEIRIOG YM MWRDEISTREF SIROL WRECSAM

ADRODDIAD A CHYNIGION

  1. CYFLWYNIAD

  2. CRYNODEB GWEITHREDOL

  3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

  4. CYNIGION DRAFFT

  5. CRYNODEB O’R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

  6. ASESIAD

  7. CYNIGION

  8. CYDNABYDDIAETHAU

  9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

Edwina Hart AC

Gweinidog dros Gyllid, Lywodraeth Leol a Chymunedau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Gorffennaf 2000, rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau’r arolwg o ran o’r ffin rhwng Sir Ddinbych a Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ardal Cymunedau Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl yn Sir Ddinbych a Chymunedau Penycae, Cefn, Llangollen Wledig, Y Waun, Glyntraean a Llansanffraid Glyn Ceiriog ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam a chyflwynwn ein cynigion ar gyfer ffin newydd.

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

2.1 Yn ein barn ni nid yw manteision tybiedig y newid arfaethedig yn fwy na manteision tybiedig y trefniadau presennol o gofio’r costau y bydd y cynghorau yn mynd iddynt wrth weinyddu’r newid. Felly ni allwn argymell newid i’r ffin (paragraff 6.55).

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Cyfarwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3.2 Yn unol ag Adran 56(1) o’r Ddeddf cyfarwyddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y Comisiwn i gynnal arolwg o’r ardal sy’n cynnwys Cymunedau Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl yn Sir Ddinbych a Chymunedau Penycae, Cefn, Llangollen Wledig, Y Waun, Glyntraean a Llansanffraid Glyn Ceiriog ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam erbyn 31 Hydref 2001. Yn Awst 2001, teimlwyd na fyddem yn gallu cwblhau’r Arolwg erbyn y dyddiad hwn, o ganlyniad i’r oedi a fu ar ddechrau’r gwaith hwn. Gofynasom am estyniad i’r amserlen gan y Gweinidog tan fis Chwefror 2002 a chaniatawyd hyn. Ymhellach at ein penderfyniad i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Llangollen i dderbyn unrhyw dystiolaeth bellach, gofynasom am estyniad pellach tan ddiwedd Mawrth 2002 a chaniatawyd hyn.

3.3 Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd wedi rhoi’r cyfarwyddiadau canlynol i’r Comisiwn i’w harwain wrth gynnal yr arolwg yn unol ag Adran 59(1) o’r Ddeddf:

  1. dylid lleoli aneddiadau preswyl ar wahân, lle bo’n bosibl, o fewn un brif ardal;

  2. dylai ffiniau rhwng ardaloedd llywodraeth leol, lle bo’n bosibl, ddilyn nodweddion ffisegol amlwg fel afonydd a ffyrdd; a

  3. dylid ystyried effaith unrhyw gynigion ar Sir Ddinbych.

Y drefn

3.4 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r arweiniad hwnnw ysgrifenasom, ar 9 Awst 2000, at Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ar 15 Awst 2000 at Gynghorau Cymuned Llangollen, Llandysilio-yn-Iâl, Penycae, Cefn, Llangollen Wledig, y Waun, Glyntraean a Llansanffraid Glyn Ceiriog, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, Aelodau’r Cynulliad dros yr ardal, cymdeithasau’r awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu dros yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg, i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol ac i roi copi iddynt o gyfarwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Comisiwn. Gwahoddwyd Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer newidiadau i’r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i’r cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Sir Ddinbych; Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; 24 o gynghorau tref a chymuned; Martyn Jones AS, Gareth Thomas AS; Dr John Marek AC, Karen Sinclair AC; cynghorwyr; a chyrff a thrigolion eraill oedd â diddordeb. Ystyriwyd y sylwadau hyn a cheir crynodeb ohonynt yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 28 Medi 2001.

4.2 Ar ôl ystyried y sylwadau cychwynnol a wnaed i ni, daethom i’r casgliad mai’r unig newid i’w ystyried o fewn paramedrau’r arolwg fyddai newid i’r ffin i ddod â Chymunedau Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl o fewn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Er mwyn cydymffurfio â’r cyfarwyddyd ym mharagraff 3.3(c) uchod, ystyriwyd effaith y cynnig hwn ar Sir Ddinbych.

4.3 Ystyriwyd, er mwyn llunio barn hyddysg ac annibynnol ar y mater pwysig hwn, y dylai’r Comisiwn gyflogi arbenigwr ym maes cyllid llywodraeth leol i gynnal ymchwiliad. Comisiynwyd adroddiad gan Rita Hale & Associates Cyf, a ddaeth i’r casgliad y byddai gweddill Sir Ddinbych yn awdurdod unedol dichonadwy oherwydd:

4.4 Derbyniasom ganfyddiadau’r adroddiad hwn ac ystyriwyd na fyddai trosglwyddo Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl o ran cyllideb yn cael effaith sylweddol ar Gyngor Sir Ddinbych ac y byddai’r Cyngor yn parhau yn Awdurdod Unedol dichonadwy o ran poblogaeth, arbedion maint ac ardal ddaearyddol.

4.5 Ar ôl ystyried y sylwadau a wnaed i ni a chanfyddiadau adroddiad Rita Hale (gan gynnwys y sylwadau a wnaed mewn perthynas â’r adroddiad ei hun) daethom i’r farn na fyddai manteision tybiedig y newid arfaethedig yn fwy na manteision tybiedig y trefniadau presennol o gofio’r costau y byddai’r cynghorau yn mynd iddynt wrth weinyddu’r newid. Felly nid argymhellodd ein Cynigion Drafft newid i’r ffin.

4.6 Anfonwyd copïau o’r Cynigion Drafft i bob cyngor, corff ac unigolyn y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3.4 yn ceisio eu barn. Anfonwyd copi hefyd at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau cychwynnol. Drwy hysbysiad cyhoeddus, gwahoddasom unrhyw sefydliad neu berson arall â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu barn. Roedd copïau o’r Cynigion Drafft ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Comisiwn a rhoddwyd copïau hefyd yn swyddfeydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

5 CRYNODEB O’R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Derbyniasom sylwadau gan Gyngor Sir Ddinbych; Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; 14 o gynghorau tref a chymuned; Martyn Jones AS; Gareth Thomas AS; Chris Ruane AS; Dr John Marek AC; Karen Sinclair AC; Eleanor Burnham AC; Alan Pugh AC; a chyrff a thrigolion eraill â diddordeb. Ystyriwyd pob un o’r sylwadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion.

5.2 Awgrymodd sylw a dderbyniwyd mewn ymateb i’r adroddiad ar y Cynigion Drafft y dylai trigolion Llangollen gael cyfle arall i roi tystiolaeth yn uniongyrchol i’r Comisiwn. Ystyriwyd y cais hwn gennym ac o ganlyniad trefnwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Dref Llangollen ar 30 Ionawr 2002. Cymerwyd trawsgript o’r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod cyhoeddus ac mae’r pwyntiau a godwyd, a’r pwyntiau a godwyd mewn sylwadau dilynol, oll wedi eu cynnwys yn y crynodeb isod a rhoddwyd ystyriaeth briodol iddynt wrth lunio ein cynigion.

5.3 Gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych y pwyntiau canlynol mewn ymateb i Gynigion Drafft y Comisiwn.

Felly mae’r gymhariaeth â chostau is mewn awdurdodau llai yn amherthnasol – gall y baich gwaith a’r dyletswyddau fod yn wahanol, a gall y methodolegau cyfrifo ar gyfer ad-dalu gorbenion canolog fod yn wahanol hefyd. Y broblem yw a allai Sir Ddinbych wneud newid bach i’w chostau yn hawdd. Byddai angen i Sir Ddinbych ddadansoddi’r costau hyn yn fanylach ac ar draul dyletswyddau eraill er mwyn gwneud hyn.

5.4 Mewn sylw pellach a wnaed yng Nghyfarfod Cyhoeddus y Comisiwn yn Neuadd y Dref Llangollen ar 30 Ionawr 2002 gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych y pwyntiau ychwanegol canlynol:

5.5 Gwnaeth Mr I Miller, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych sawl pwynt ysgrifenedig ynglŷn â tystiolaeth a oedd yn rhoi argraff gamarweiniol yn ei farn ef, a gyflwynwyd yng Nghyfarfod Cyhoeddus y Comisiwn:

Yr awgrym oedd bod yn rhaid i drigolion Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl deithio i’r Rhyl er mwyn cael gwasanaethau gan y Cyngor a hefyd na wneir penderfyniadau sy’n effeithio ar Langollen a Llandysilio-yn-Iâl yn lleol. Yn ei farn ef, roedd y sefyllfa wirioneddol fel a ganlyn:

O ran y pwynt a godwyd ynghylch toriadau yn y gwasanaethau a ddarperir gan Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych nododd, gan fod y Byrddau Iechyd Lleol arfaethedig i’w seilio ar ffiniau awdurdodau lleol, yna pe cedwid y ffin bresennol y byddai meddygon teulu Llangollen yn dod o dan Fwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych. Bydd y Byrddau yn comisiynu gwasanaethau iechyd i bobl sy’n byw ymhob ardal awdurdod lleol. Mae’r gwasanaethau a ddarperir i drigolion Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl o Ysbyty Maelor Wrecsam yn debygol o barhau tra bydd Byrddau Iechyd Lleol ar gyfer ardaloedd eraill fel Gwynedd yn comisiynu gwasanaethau hefyd o’r Ysbyty hwn.

5.6 Gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam y pwyntiau canlynol mewn ymateb i Gynigion Drafft y Comisiwn:

5.7 Mewn sylw pellach gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam y pwyntiau canlynol er mwyn ymdrin â’r hyn a oedd yn eu barn hwy yn anghywir ac yn gamliwio a wnaed yng Nghyfarfod Cyhoeddus y Comisiwn yn Neuadd y Dref Llangollen ar 30 Ionawr 2002:

5.8 Teimlai Cyngor Cymuned Llandysilio-yn-Iâl fod y gwasanaethau a ddarperir i’w Cymuned gan Gyngor Sir Ddinbych yn ddigonol. Ni allent weld unrhyw fudd mewn trosglwyddo eu cymuned i Wrecsam.

5.9 Cefnogodd Cyngor Cymuned Dinbych, Cyngor Cymuned Corwen, Cyngor Cymuned Llandyrnog, Cyngor Cymuned Llanarmon yn Iâl, Cyngor Tref Rhuddlan, Cyngor Cymuned Dyserth, Cyngor Cymuned Henllan, Cyngor Cymuned Rhuthun, Cyngor Tref Llanelwy, Cyngor Cymuned Tremeirchion Cwm a’r Waen, Cyngor Cymuned Llanrhaeadr Y.C., Cyngor Cymuned Cefn Meiriadog a Chyngor Cymuned Bodfari gynigion Drafft y Comisiwn. Yn eu barn hwy byddai trosglwyddo Llangollen i Wrecsam yn golygu colli cymuned werthfawr yn Sir Ddinbych, gan arwain at roi mwy o faich ariannol ar weddill Sir Ddinbych a chreu ansicrwydd ac ansefydlogrwydd.

5.10 Gwnaeth Martyn Jones AS y pwyntiau canlynol: 

5.11Cefnogodd Gareth Thomas AS Gynigion Drafft y Comisiwn. Teimlai nad oedd manteision y newid arfaethedig yn drech na manteision y trefniadau presennol o gofio’r gost i’r awdurdod lleol o weinyddu’r newid. Roedd pwysigrwydd y dystiolaeth yn cyfiawnhau cadw’r ffin bresennol, er nad hyn oedd yr ateb mwyaf hwylus. Teimlai nad oedd y rhai a oedd o blaid newid y ffin wedi cyflwyno dadl argyhoeddiadol a fyddai’n cyfiawnhau’r amhariad y byddai newid o’r fath yn ei achosi.

5.12 Cefnogodd Chris Ruane AS, Gynigion Drafft y Comisiwn. Teimlai na chyflwynwyd unrhyw ddadleuon argyhoeddiadol o blaid newid y ffin a bod llawer o dystiolaeth wedi ei chyflwyno ar effeithiau andwyol newid o’r fath ar Sir Ddinbych a bod yr effeithiau hynny wedi eu mynegi’n gryf.

5.13 Dywedodd Dr John Marek AC ei fod yn rhoi gwerth uchel ar ddymuniadau’r bobl leol yr effeithir arnynt. Credai y dylid cynnal pleidlais arall gan nad oedd rhai wedi ystyried y bleidlais flaenorol yn un bwysig neu arwyddocaol. Teimlai, pe bai pleidlais arall yn cael ei chynnal lle y byddai’r canlyniad yn gyfrwymol, y byddai’n ysgogi pob pleidleisiwr i gymryd rhan. Dewis arall fyddai trefnu cyfarfod cyhoeddus lle y gallai pobl leol roi tystiolaeth lafar. Yn ei farn ef nid oedd cost unrhyw newid yn berthnasol gan ei fod yn teimlo ei bod yn bwysicach i wneud yr hyn a oedd yn iawn i Langollen. Credai y byddai manteision sylweddol i Langollen pe bai’n cael ei throsglwyddo i Wrecsam gan fod y ddwy ardal wedi eu cysylltu’n economaidd ac y byddai ardal Llangollen sy’n dwristaidd yn y bôn yn gweddu’n dda i ardal ddiwydiannol a masnachol Wrecsam.

5.14 Gwnaeth Karen Sinclair AC y pwyntiau canlynol ynghylch Cynigion Drafft y Comisiwn:

5.15 Mewn sylw pellach mynegodd Karen Sinclair AC bryder ynghylch Cyfarfod Cyhoeddus y Comisiwn a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref Llangollen ar 30 Ionawr 2002. Dywedodd ei bod wedi ei hysbysu bod swyddogion ac aelodau o Gyngor Sir Ddinbych wedi mynd â dwy awr gyntaf y cyfarfod gan adael dim ond yr awr olaf yn rhydd i bobl leol roi tystiolaeth. Roedd fformat y cyfarfod wedi codi ofn ar rai o’r trigolion a theimlent na allent roi tystiolaeth mewn i feicroffon o flaen neuadd lawn o bobl.

5.16 Dywedodd Eleanor Burnham AC ei bod yn gwerthfawrogi’r ffaith bod canfyddiadau Cynigion Drafft y Comisiwn wedi eu croesawu gan Gyngor Sir Ddinbych a werthfawrogodd yr arolwg fel un â chanlyniad cadarnhaol.

5.17 Dywedodd Alun Pugh AC ei fod yn cytuno’n llwyr â chasgliadau Cyngor Sir Ddinbych a chredai y byddai yr amhariad a achosir o ganlyniad i ad-drefnu yn sgîl newid y ffin yn effeithio’n andwyol ar ei etholwyr yn ardal Rhuthun.

5.18 Dywedodd Prif Gwnstabl R Brunstrom, Heddlu Gogledd Cymru, gan ysgrifennu yn rhinwedd ei swydd fel Prif Gwnstabl ac fel y cyfryw yn gyfrifol am staff gweithredol, fod gan Heddlu Gogledd Cymru bolisi o gydffinio â ffiniau awdurdodau lleol. Mae Llangollen yn eithriad i’r polisi hwn gan ei bod yn cael ei phlismona o’r tu allan i’w hardal awdurdod lleol. Dyma’r unig eithriad o’i fath o fewn Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru. Dywedodd mai ei fwriad oedd y dylai’r eithriad hwn gael ei gywiro ar ôl arolwg y Comisiwn beth bynnag fo’r canlyniad. Nid oedd yn cytuno â’r ddadl bod Bwlch yr Oernant yn atal gwasanaeth digonol gan yr Isadran Ganolog a dywedodd y byddai Llangollen yn cael gwasanaeth heddlu boddhaol, gyda ffin yr heddlu yn cydffinio â ffin yr awdurdod lleol, beth bynnag fo canlyniad yr arolwg o’r ffin.

5.19 Gwnaeth Pennaeth ysgol leol y pwyntiau canlynol:

5.20 Gwnaeth un o Gyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych y pwyntiau canlynol:

5.21 Gwnaeth Prif Weithredwr ECTARC y pwyntiau canlynol:

5.22 Dywedodd Swyddog Proffesiynol Iechyd ac un o drigolion Llangollen y gallai Llangollen, pan ddiddymir yr awdurdod iechyd a sefydlu byrddau iechyd lleol i gomisiynu gofal iechyd, gael ei difreintio drwy fod yn rhan o Sir Ddinbych pan fo ei gofal iechyd yn cael ei gyflwyno gan Wrecsam a Sir y Fflint. Caiff y byrddau iechyd hyn eu creu o weithwyr personél gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd y siroedd y maent yn comisiynu ar eu cyfer, ac felly gwasanaethir Ysbyty Maelor gan y bwrdd iechyd a grëir o bersonél Wrecsam a Sir y Fflint. Os bydd Llangollen yn aros yn Sir Ddinbych bydd yn parhau i dderbyn gwasanaethau aciwt o Ysbyty Maelor ond ni fydd unrhyw ddylanwad ganddi ar ddatblygu’r gwasanaethau a ddarperir neu unrhyw gynrychioliad ar y bwrdd iechyd sy’n ei rheoli.

5.23 Dywedodd dyn busnes lleol fod ef a gweithwyr ei gwmni yn gwrthwynebu trosglwyddo Llangollen i Wrecsam. Dywedodd fod ei gwmni wedi elwa ar statws Amcan Un Llangollen ar ôl sicrhau arian a bod llwyddiant y Cwmni o ganlyniad i hyn yn ei dro wedi bod yn fanteisiol i’r gymuned. Teimlai na ddylid rhoi hyn yn y fantol drwy newid y ffin bresennol.

5.24 Roedd Ysgrifennydd Cymdeithas Leol NASUWT yn gwrthwynebu trosglwyddo Llangollen i Wrecsam. Fel Ysgrifennydd Negodi NASUWT ac aelod o Gydbwyllgor Negodi Athrawon Sir Ddinbych (DTJNC) teimlai y gallai roi ei barn ar waith yr awdurdod addysg lleol. Yn ei barn hi roeddent yn dderbyngar ac yn adeiladol ac am wneud gwelliannau gwirioneddol i amodau gwasanaeth ei haelodau. Nododd y byddai’n pryderu pe na bai ysgol Dinas Brân yn gallu elwa ar y negodiadau y bu DTJNC yn ymwneud â hwy i wella cyfleoedd addysgol disgyblion yn Sir Ddinbych. Fel cynrychiolydd trigain o aelodau NASUWT yn Ysgol Dinas Brân gobeithiai y byddai’n gallu parhau i weithio gyda Chyngor Sir Ddinbych.

5.25 Cefnogodd cyn Bennaeth ysgol leol y cynnig i drosglwyddo Llangollen i Wrecsam am y rhesymau canlynol:

5.26 Gwnaeth sawl un o drigolion Llangollen a’r ardaloedd cyfagos y pwyntiau canlynol i gefnogi’r cynnig i drosglwyddo Llangollen o Sir Ddinbych i Wrecsam:

5.27 Gwnaeth sawl un o drigolion Llangollen a’r ardaloedd cyfagos y pwyntiau canlynol yn gwrthwynebu trosglwyddo Llangollen o Sir Ddinbych i Wrecsam:

6. ASESIAD

6.1 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft datganwyd ar ôl i ni ystyried y sylwadau cychwynnol a gyflwynwyd i ni y daethom i’r casgliad mai’r unig newid i’w ystyried o fewn paramedrau’r arolwg fyddai newid i’r ffin i ddod â Chymunedau Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl o fewn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

6.2 Er mwyn cydymffurfio â’r cyfarwyddyd ym mharagraff 3.3(c) uchod ac yn wir er budd llywodraeth leol gyfleus ac effeithiol, mae’n ofynnol i ni ystyried effaith y newid arfaethedig ar Sir Ddinbych. Ystyriwyd gennym er mwyn llunio barn hyddysg ac annibynnol am y mater pwysig hwn, y dylai’r Comisiwn ddefnyddio gwasanaethau arbenigwr ym maes cyllidebau llywodraeth leol i gynnal ymchwiliad. Ystyriwyd yr adroddiad a ddeilliodd o’r ymchwiliad hwn, ynghyd â’r adroddiad a baratowyd gan Gyngor Sir Ddinbych a nifer o sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r mater hwn, cyn i ni lunio ein Cynigion Drafft.

6.3 Cynhwyswyd ein hystyriaeth fanwl o’r mater hwn yn adran 5 ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft. Ym mharagraff olaf yr adran (5.24) nodwyd:

Rydym o’r farn na fyddai trosglwyddo Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl o ran cyllideb yn cael effaith sylweddol ar Gyngor Sir Ddinbych ac y byddai’r Cyngor yn parhau yn Awdurdod Unedol ymarferol o ran poblogaeth, arbedion maint ac ardal ddaearyddol.

6.4 Mewn ymateb i’n Cynigion Drafft, nododd Cyngor Sir Ddinbych y byddai’r trosglwyddiad yn cael effaith ariannol andwyol ar Sir Ddinbych. Roeddent o’r farn bod y cyfrifiadau SSA diweddaraf yn cadarnhau bod yna bellach llawer mwy o gysondeb rhwng gwariant y Cyngor a’u SSA ac nad yw hyn yn fanteisiol i ardal yr arolwg na’r ardal weddilliol. Darparodd y Cyngor hefyd fanylion pellach am eu gorbenion canolog yn y gyllideb Addysg gan ddatgan o hyd na ellid eu lleihau yn y tymor byr i ganolig. Tynnodd y Cyngor hefyd sylw’r Comisiwn at y problemau o ran trefniadaeth ddemograffig gwasanaethau’r Cyngor a oedd, yn eu barn hwy, yn broblem hir dymor nad yw’n amlwg yn y model côst.

6.5 Fodd bynnag, ar ôl ystyried sylwadau Cyngor Sir Ddinbych yn ofalus, rydym yn parhau o’r farn na fyddai effaith ariannol trosglwyddo yn cael effaith sylweddol ar Gyngor Sir Ddinbych.

6.6 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ar ôl dod i’r casgliad na fyddai effaith ariannol y trosglwyddo yn cael effaith sylweddol ar Gyngor Sir Ddinbych, ystyriwyd ffactorau eraill gennym a oedd yn arwyddocaol yn ein barn ni wrth ystyried y newid a awgrymwyd i’r ffin yn nhermau pa mor ddymunol y byddai er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Ar ôl derbyn gwybodaeth bellach a ddarparwyd gan y rheini a oedd yn cyflwyno sylwadau, rhoddwyd ystyriaeth bellach gennym i’r ffactorau hyn.

Daearyddiaeth

6.7 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft ystyriwyd y pwyntiau a godwyd mewn perthynas â lleoliad Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl yn nhermau daearyddiaeth yr ardal a’u hagosrwydd cymharol at ardaloedd Sir Ddinbych a Wrecsam.

6.8 Roedd y sylwadau o blaid y newid i’r ffin yn nodi bod Llangollen yn Nyffryn Dyfrdwy, sydd wedi’i wahanu o Ddyffryn Clwyd i’r gogledd a swyddfeydd gweinyddol Cyngor Sir Ddinbych yn Rhuthun, y Rhyl a Phrestatyn gan Fwlch yr Oernant. Mae’r sylwadau yn nodi’r cysylltiadau ffyrdd da a’r drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd a chyfleus rhwng Llangollen a Wrecsam.

6.9 Mae’r rheini sydd o blaid cadw’r ffin bresennol yn ystyried bod Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl yn ardaloedd gwledig sydd â llawer yn gyffredin ag ardaloedd gwledig Glyndyfrdwy, Carrog a Chorwen ymhellach i fyny Dyffryn Dyfrdwy. Ystyriant fod y ffin bresennol yn Nhrefor yn doriad naturiol rhwng cytref drefol Wrecsam a Dyffryn Dyfrdwy gwledig.

6.10 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriwyd fod Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl wedi’u cysylltu’n ddaearyddol â rhannau o Wrecsam a rhannau eraill o Sir Ddinbych. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod y cyfleusterau hynny a gysylltir yn gyffredinol ag ardaloedd trefol mwy (fel canolfannau siopa, cyfleusterau hamdden ac ati) yn fwy hygyrch o fewn Wrecsam o gymharu â rhannau eraill o Sir Ddinbych.

Hanes

6.11 Mae nifer o’r sylwadau yn awgrymu bod gan Langollen fwy o gysylltiadau â Sir bresennol Wrecsam na Sir bresennol Dinbych gan fod ardal gyfan Bwrdeistref Sirol Wrecsam fwy neu lai yn rhan o’r hen Sir Ddinbych (cyn 1974) lle mai Rhuthun a Dinbych yw’r unig ddwy dref fawr o fewn y Sir Ddinbych bresennol a gynhwyswyd cyn hynny o fewn yr hen Sir Ddinbych. Cyn 1974 roedd Plwyfi Llangollen Wledig a Llandysilio-yn-Iâl o fewn ardal Cyngor Dosbarth Wrecsam Wledig.

6.12 Nodwyd hefyd o’r sylwadau bod Llangollen, cyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, yn rhan o Gyngor Dosbarth Glyndŵr a oedd a’i bencadlys yn Rhuthun. Nododd Cyngor Sir Ddinbych hefyd na fu Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl erioed yn rhan o awdurdod ar lefel dosbarth a oedd yn cynnwys Tref Wrecsam.

6.13 Mae’n amlwg yn nhermau llywodraeth leol, fod gan Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl gysylltiadau hanesyddol gyda’r ddwy ran o ardal bresennol Sir Ddinbych a rhannau o ardal bresennol Wrecsam. Fodd bynnag, nodwyd gennym ers 1974 na fu unrhyw gysylltiadau llywodraeth leol ar lefel cyngor dosbarth rhwng Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl a Wrecsam.

Darparu Gwasanaethau

6.14 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft nodwyd gennym fod nifer o’r sylwadau o blaid newid y ffin yn nodi’r pellterau rhwng Llangollen a phrif swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych yn Rhuthun, y Rhyl a Phrestatyn o gymharu â’r pellter rhwng Llangollen a Wrecsam. Fodd bynnag, nododd y sylwadau gan Gyngor Sir Ddinbych ac eraill fod llawer o’r gwasanaethau llywodraeth leol a ddarperir i Langollen a Llandysilio-yn-Iâl wedi’u lleoli’n lleol. Nodwyd gennym fod Cyngor Sir Ddinbych oherwydd cyfansoddiad topograffig a demograffig y Sir, wedi trefnu i ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol, a mynediad iddynt, ar sail model datganoledig. Yn ein barn ni, golyga hyn nad yw Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl wedi dioddef unrhyw broblemau sylweddol, yn nhermau gwasanaethau llywodraeth leol, o ganlyniad i’w pellter o swyddfeydd y Cyngor Sir yn Sir Ddinbych.

Datblygiad Economaidd

6.15 Cadarnhawyd gennym yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft pe newidid y ffin, y byddai Llangollen yn cadw ei chymhwyster ar gyfer arian Amcan Un ac y byddai’r rhwymedigaeth i ddarparu arian cyfatebol yn cael ei throsglwyddo. Nododd Cyngor Sir Ddinbych y byddai angen i Wrecsam sefydlu strwythurau gweinyddol a strwythurau partneriaeth ar gyfer y prosiectau Amcan Un ac na ddylid diystyru’r anawsterau cysylltiedig.

6.16 Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o’r farn mai mater bach oedd y costau gweinyddol ychwanegol a oedd yn gysylltiedig ag Amcan Un gan fod eisoes ganddynt Swyddog Ewropeaidd a sawl swyddog prosiect ynghlwm â threfniadau ariannu Amcan Tri a threfniadau ariannu Ewropeaidd eraill. Nodwyd ganddynt mai mater byr dymor yw’r mater Amcan Un gan fod cymhwyster yn dod i ben yn 2006. Fodd bynnag, nododd Cyngor Sir Ddinbych bod yna faterion ariannu trosiannol ac o bosibl materion ariannu parhad hyd at 2010 a thu hwnt.

6.17 Cynhwysir Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl o fewn strategaeth economaidd Sir Ddinbych ar gyfer ardal Dyffryn Dyfrdwy ac mae’r Cyngor o’r farn y byddai newid y ffin yn cael effaith andwyol ar barhad datblygiad economaidd yr ardal.

6.18 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd yn rhedeg Menter Trefi Bach a Phentrefi sy’n cynnwys Cymuned Llangollen Wledig. Yn nhermau Partneriaeth Ardal Dyffryn Dyfrdwy, ni welant unrhyw reswm pam na allai Partneriaeth Ardal traws-ffiniol weithio ac felly maent o’r farn nad oes sail i’r honiad y byddai effaith economaidd andwyol ar ddatblygiad yr ardal.

6.19 Ar yr amod y sefydlir trefniadau traws-ffiniol priodol ac y’u cynhelir, ystyriwn na fyddai newid i’r ffin yn effeithio’n andwyol ar ddatblygiad economaidd yr ardal. Fodd bynnag, ystyriwn hefyd y gellid sefydlu trefniadau o’r fath, hyd yn oed heb newid y ffin, er budd datblygiad economaidd yr ardal gyffredinol sy’n cynnwys yr holl Gymunedau a gynhwysir yn y cyfarwyddiadau ar gyfer yr arolwg hwn.

Addysg

6.20 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd gennym mewn perthynas ag effaith newid i’r ffin ar ddarparu gwasanaethau addysg i ardal Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl. Nodwyd gweithgareddau rhwng gwahanol ysgolion a thrafnidiaeth ysgolion fel dau faes y gallai newid y ffin effeithio arnynt.

6.21 Derbyniasom nifer o sylwadau pellach mewn perthynas â safonau cyffredinol ac amrywiaeth y gwasanaethau addysg ac rydym yn fodlon bod gan Sir Ddinbych a Wrecsam fel ei gilydd y gallu a’r parodrwydd angenrheidiol i sicrhau y’u cynhelir waeth beth fydd canlyniad yr arolwg hwn.

6.22 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft (paragraff 7.22) ystyriom y byddai’n debygol y byddai’n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam barhau i ddarparu trafnidiaeth am ddim i Ysgol Dinas Brân o’r ardaloedd lle y mae’n darparu trafnidiaeth ar hyn o bryd ac y byddai’r un peth yn wir ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych. Felly, ystyriwyd y byddai’n annhebygol y deuai unrhyw arbedion i’r amlwg mewn perthynas â darparu trafnidiaeth ysgol o ganlyniad i newid y ffin.

6.23 Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cytuno â hyn yn eu sylw gan y gellid gwneud arbedion sylweddol o ganlyniad i sefydlu ymagwedd ‘un awdurdod’ tuag at gontractau. Ar hyn o bryd mae 60% o ddisgyblion Ysgol Dinas Brân yn byw yn ardal sir Wrecsam gyda 39% yn byw yn Sir Ddinbych (gydag 1% o siroedd eraill). Pe newidid y ffin byddai 86% o’r disgyblion yn byw yn Wrecsam gyda dim ond 13% ohonynt yn byw yn Sir Ddinbych. Gan nad yw’n debygol y darperir trafnidiaeth am ddim i’r ysgol i nifer o’r disgyblion hynny a fyddai’n trosglwyddo i Wrecsam gan eu bod yn byw o fewn Llangollen, nid ydym yn siwr pa mor sylweddol fyddai’r arbedion a awgrymir. Ystyriwn hefyd, pe gellid gwneud arbedion sylweddol, y gallai’r Cynghorau ystyried rhyw ffurf ar drefniant cydweithio waeth beth fydd canlyniad yr arolwg hwn.

6.24 Ystyriwyd y problemau a achosir gan y pellterau y mae disgyblion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhwng gwahanol ysgolion a gweithgareddau sirol yn eu teithio yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft (paragraff 7.23) ac fe’u codwyd eto gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac eraill mewn sylwadau dilynol. Roeddem yn cydymdeimlo â’r anawsterau a wynebir gan y rhieni a’r staff dan sylw ac yn derbyn y byddai’r problemau hyn yn cael eu lleddfu pe byddai’r ysgol wedi’i lleoli o fewn yr ardal a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nid ydym o’r farn fod y problemau mewn perthynas â gweithgareddau rhwng gwahanol ysgolion yn gysylltiedig â gweithgareddau sirol. Cyn y newidiadau o fewn llywodraeth leol ym 1996, byddai’r gweithgareddau rhwng gwahanol ysgolion wedi cael eu trefnu mewn cydweithrediad ag ysgolion cyfleus o fewn Sir Clwyd. Yn weithredol byddai hyn wedi cynnwys nifer o ysgolion sydd bellach o fewn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Byddai’r gweithgareddau sirol wedi cael eu cynnal mewn amrywiol ganolfannau fel Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, y Rhyl, Bae Colwyn ac ati. Felly, ystyriwn bod y problemau a wynebir gan ddisgyblion Llangollen o ran teithio pellterau hir ar gyfer gweithgareddau sirol yn broblemau sy’n bodoli ers amser er y cytunwn o ystyried y siroedd llai ar ôl 1996 ei bod yn debygol yn ystadegol fod mwy o ddisgyblion Llangollen yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn erbyn hyn. O ran gweithgareddau rhwng gwahanol ysgolion ystyriwn y gellid lleddfu’r problemau drwy sefydlu trefniant traws-ffiniol rhwng Sir Ddinbych a Wrecsam.

Yr Iaith Gymraeg

6.25 Rydym o’r farn bod cynnal a datblygu diwylliant yn seiliedig ar yr iaith Gymraeg yn ffactor pwysig wrth ystyried newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol. Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft ystyriwyd fod proffil diwylliannol iaith Llangollen/Llandysilio-yn-Iâl yn cyfateb yn agosach â phroffil Sir Ddinbych, er i ni nodi bod gan ardaloedd o Wrecsam, fel Dyffryn Ceiriog, broffil tebyg i Langollen/Llandysilio-yn-Iâl. Felly ystyriwyd gennym, ar yr amod y rhoddir cydnabyddiaeth briodol i ddatblygu’r iaith Gymraeg yn Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, na fyddai gan newid a awgrymir i’r ffin o reidrwydd effaith andwyol.

6.26 Mewn ymateb, nododd Cyngor Sir Ddinbych eu bod o’r farn bod gan sylwadau’r Comisiwn yn yr adroddiad ar y Cynigion Drafft ffocws amhriodol gan nad oedd y cymariaethau rhwng eithafau’r ganran o siaradwyr Cymraeg o fewn Siroedd Cymru yn berthnasol wrth lunio cymhariaeth leol. Roeddent o’r farn bod y ffaith bod canran sylweddol uwch o bobl yn siarad Cymraeg yn Sir Ddinbych o gymharu â Wrecsam yn fater arwyddocaol.

6.27 Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gofyn i’r Comisiwn nodi yn ogystal ag ardaloedd fel Dyffryn Ceiriog fod yna ardaloedd mwy poblog o Wrecsam lle y mae’r Iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn gryf iawn, sef Rhosllannerchrugog. Noda’r Cyngor ymhellach at hyn fod myfyrwyr o Langollen a Llandysilio-yn-Iâl sydd am gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn teithio i Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Uwchradd Gymraeg newydd a gydnabyddir fel un o’r cyfleusterau gorau yng Nghymru ar gyfer addysg sector Cymraeg hyd at 18 oed.

6.28 Rhoddwyd ystyriaeth ofalus gennym i’r holl sylwadau a oedd yn ymwneud â’r effeithiau tebygol ar ddiwylliant iaith Gymraeg Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl a chadwn at ein safbwynt yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft sef na fyddai newid i’r ffin o reidrwydd yn cael effaith andwyol.

Cofrestrwyr

6.29 Roedd nifer o’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod cam cychwynnol yr arolwg yn ymwneud â’r pellterau i’w teithio i gofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau. Fodd bynnag, nodwyd yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft bod trefniant ar waith lle y gall trigolion wneud apwyntiad i Gofrestrydd ymweld â Llangollen a oedd yn ateb effeithiol i’r broblem, yn ein barn ni.

6.30 Mewn ymateb, nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fod dau o’r sylwadau cychwynnol yn cyfeirio at yr angen i deithio i Ruthun i fanteisio ar y gwasanaeth hwn ac ystyriant fod hynny’n dystiolaeth nad yw’r trefniant apwyntiadau yn gweithio. Nodwyd hefyd ganddynt eu bod ar hyn o bryd yn darparu gwasanaeth i’r Waun lle y mae’r Cofrestrydd yn mynychu ar 3 bore bob wythnos ac y gellid sefydlu trefniant tebyg ar gyfer Llangollen.

6.31 Yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ‘cofrestru sifil: newid hanfodol’ ceir cynigion ar gyfer cofrestru dros y ffôn neu dros y Rhyngrwyd a thrwy ddefnyddio cronfa ddata ganolog, y gellir cofrestru o unrhyw swyddfa. Mae’r Papur Gwyn yn rhagweld y bydd llawer o’r cynigion hyn yn weithredol erbyn diwedd 2005.

6.32 Rydym o’r farn bod defnyddio Cofrestrydd teithiol yn ateb effeithiol ar y cyfan i’r broblem bod trigolion Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl yn gorfod ymweld â swyddfa’r Cofrestrydd yn Rhuthun er y nodwyd gennym y bu rhai anawsterau gyda’r system hon. Nodwyd y cynigion ar gyfer newidiadau i’r broses gofrestru ac ystyriwyd gennym, yn yr hir dymor, y bydd y cynigion hyn yn darparu ateb mwy cynhwysfawr i’r broblem.

Cyfleusterau Hamdden

6.33 Yn y sylwadau cychwynnol a dderbyniwyd gennym, nododd sawl un o drigolion Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl lle nad oes cyfleusterau yn Llangollen (fel pwll nofio) eu bod yn teithio i gyfleusterau o fewn Wrecsam yn hytrach na gwneud taith hirach i gyfleusterau yn Sir Ddinbych. Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriwyd mai agosrwydd a chost sy’n dylanwadu ar ddefnydd trigolion o gyfleusterau hamdden yn gyffredinol yn hytrach na pha awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y cyfleuster (oni bai bod cynllun disgownt i drigolion yn weithredol). Nodwyd gennym nad oeddem yn ymwybodol fod nifer y bobl sy’n defnyddio cyfleusterau y tu allan i’r sir mor uchel fel eu bod yn achosi problem yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

6.34 Yn eu hymateb, ystyriodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam bod pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y cyfleusterau hamdden yn ystyriaeth gan fod Wrecsam wedi darparu cyfleusterau yn yr ardal ac nad oedd Sir Ddinbych wedi gwneud hynny. Gan fod y cyfleusterau yn Wrecsam wedi’u sybsideiddio cyfyd y mater o degwch gan fod trigolion Llangollen yn talu am gyfleusterau na ddefnyddir ganddynt tra’n defnyddio cyfleusterau wedi’u sybsideiddio yn Wrecsam. Yn eu barn hwy gallai newid i’r ffin achosi gwell sefyllfa ategol yn hytrach na glynu at yr ymagwedd bresennol, gystadleuol heb ei chydlynu.

6.35 Er ein bod yn derbyn y pwynt a wnaed gan Wrecsam, nodwn unwaith eto nad ydym yn ymwybodol bod nifer y trigolion o Langollen a Llandysilio-yn-Iâl sy’n defnyddio cyfleusterau Wrecsam yn achosi problem sylweddol. Rydym yn ymwybodol nad yw’r arfer o ddefnyddio cyfleusterau y tu allan i’r sir yn unigryw i’r ardal y cynhelir arolwg ohoni. Ymhlith yr enghreifftiau lleol o’r arfer hwn ceir cyfleusterau fel y ganolfan sglefrio iâ a Theatr Clwyd sydd wedi’u lleoli yn Sir y Fflint ond a ddefnyddir hefyd gan drigolion Wrecsam a Sir Ddinbych. Rydym o’r farn y gellir cyflawni gwell sefyllfa ategol wrth ddarparu a defnyddio cyfleusterau hamdden drwy sicrhau mwy o gydweithrediad rhwng y Cynghorau heb fod angen newid y ffin.

Gwasanaethau i Ieuenctid

6.36 Yn eu sylw cychwynnol, roedd Cyngor Sir Ddinbych o’r farn y byddai Gwasanaethau i Ieuenctid yng Nghorwen yn cael eu hynysu ymhellach gan y byddai’r cysylltiadau â rhwydwaith o Glybiau a threfniadau trafnidiaeth yn dod i ben. Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriwyd gennym y byddai’r newid arfaethedig i’r ffin yn achosi anawsterau wrth drefnu Gwasanaethau i Ieuenctid yng Nghorwen, yn sicr yn y byr dymor.

6.37 Yn eu hymateb, ystyriodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam pe newidid y ffin, y gallai’r Gwasanaethau i Ieuenctid yng Nghorwen gael eu cysylltu o hyd â’r gwasanaethau hynny yn Llangollen drwy sefydlu trefniant rhwng y ddau Gyngor. Ystyriwyd ganddynt y byddai’r gwasanaethau yn eu cyfanrwydd yn elwa ar gysylltiadau gyda gwasanaethau cymorth i ieuenctid eraill yn rhan ddeheuol Wrecsam.

6.38 Rydym o’r farn na fyddai newid i’r ffin o reidrwydd yn cael effaith andwyol ar ddarparu Gwasanaethau i Ieuenctid o ystyried cydweithrediad y ddau Gyngor.

Gwasanaethau Llyfrgell

6.39 Yn eu sylw cychwynnol, hysbysodd Cyngor Sir Ddinbych y Comisiwn bod Llyfrgell a Siop Un Cam Corwen a Llyfrgell a Siop Un Cam Llangollen wedi’u cysylltu at ddibenion staffio. Ystyriai’r Cyngor y byddai gwrtharbedion maint yn dod i’r amlwg pe collid llyfrgell Llangollen.

6.40 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriwyd gennym y byddai’r newid arfaethedig i’r ffin yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Ddinbych adolygu’r trefniadau staffio ar gyfer Llyfrgell a Siop Un Cam Corwen ac y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn yr un modd yn adolygu’r dull o weinyddu Llyfrgell a Siop Un Cam Llangollen.

6.41 Yn eu hymateb, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o’r farn fod iaith paragraffau 7.31 a 7.32 o’n hadroddiad ar y Cynigion Drafft yn negyddol ei thôn gan eu bod o’r farn y gallai arolwg gan Sir Ddinbych yn dilyn newid i’r ffin ysgogi gwelliannau i wasanaethau yng Nghorwen hefyd.

6.42 Fodd bynnag, roedd y Comisiwn o’r farn fod rhywfaint o sylwedd i bryderon Cyngor Sir Ddinbych ynghylch y mater hwn a’i bod yn briodol tynnu sylw atynt. Nodwn y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithredu newidiadau mewn ymateb i e-lywodraeth a datblygiad cyfleusterau a threfniadau o amgylch y Fwrdeistref Sirol. Yn eu barn hwy, byddai hyn o bosibl o gymorth o ran y trefniadau gweinyddol ar gyfer Llyfrgell a Siop Un Cam Llangollen pe newidid y ffin.

6.43 Rydym yn parhau o’r farn y byddai newid i’r ffin yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Ddinbych ad-drefnu’r trefniadau gweinyddol yng Nghorwen ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ystyried y trefniadau yn Llangollen, naill ai ar wahân neu fel rhan o ystyriaeth ehangach.

Twristiaeth

6.44 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, nodwyd bod Twristiaeth yn weithgaredd economaidd pwysig i Langollen a Llandysilio-yn-Iâl a hyrwyddir ar sail sirol a chan y fenter Ffiniau a gaiff ei rhedeg ar y cyd rhwng Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Ystyriwyd gennym o gofio’r amlygrwydd a roddwyd gan Sir Ddinbych i ardal Llangollen yn ei waith wrth hyrwyddo twristiaeth, y byddai’r newid arfaethedig i’r ffin yn achosi dryswch cychwynnol o ran hunaniaeth. Ystyriwyd gennym hefyd y byddai’r newid yn golygu costau cychwynnol i Sir Ddinbych a Wrecsam er mwyn talu am y newidiadau y byddai’n rhaid eu gwneud i lenyddiaeth a gorbenion gweinyddol eraill.

6.45 Mewn ymateb, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn anghydweld â’r farn y byddai newid i’r ffin yn achosi dryswch cychwynnol o ran hunaniaeth. Nodwyd ganddynt i’r Bwrdd Croeso gytuno’n ddiweddar i osod Llangollen a Wrecsam fel un grðp o dan y fenter Ardal Twf Twristiaeth Rhanbarthol i’w hyrwyddo a buddsoddi ynddynt ar y cyd. Roeddent o’r farn hefyd bod yr awgrym y byddai costau cychwynnol i Sir Ddinbych a Wrecsam er mwyn talu am newidiadau i lenyddiaeth yr un mor annilys gan fod llenyddiaeth yn cael ei chynhyrchu yn flynyddol at ddiben marchnata ac yn bennaf at ddiben hyrwyddo’r “Gororau” y mae Wrecsam a Llangollen yn rhan ohonynt. Yn ogystal, nodwyd ganddynt y ceir cymorth ariannol ychwanegol gan Fwrdd Croeso Cymru ynghlwm â statws Ardal Twf Twristiaeth.

6.46 Yn eu hymateb, ystyriodd Cyngor Sir Ddinbych bod ein barn y byddai’r newid arfaethedig i’r ffin yn achosi dryswch cychwynnol o ran hunaniaeth yn tanddatgan yr achos ac nad oedd yn cydnabod yn ddigonol bod Llangollen yn ganolog i dwristiaeth ddiwylliannol a sail economaidd Sir Ddinbych. Roeddent o’r farn na ellid gwahanu’r gwaith o hyrwyddo twristiaeth yn Sir Ddinbych â’r datblygiad diwylliannol yn Llangollen. Nodwyd y cynllunio a’r buddsoddi a fu i ddatblygu Canolfan Twristiaeth Ddiwylliannol yn Llangollen a fydd yn darparu canolfan twristiaeth, y celfyddydau, cefn gwlad a dysgu integredig a fyddai’n tywys ymwelwyr i’r holl gyfleusterau diwylliannol o fewn y sir. Roedd y Cyngor o’r farn mai cryfder Sir Ddinbych oedd marchnad benodol twristiaeth ddiwylliannol.

6.47 Ar ôl ystyried yr holl sylwadau a wnaed gan y ddau awdurdod ar y mater hwn, daethom i’r casgliad y byddai newid i’r ffin yn cael effaith sylweddol ar fenter twristiaeth ddiwylliannol Cyngor Sir Ddinbych.

Cefnogaeth gan y Cyhoedd

6.48 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft nodwyd yn refferendwm 1993 y pleidleisiodd 58.7% o drigolion Llangollen i ymuno â Wrecsam ac yn y refferendwm diweddarach ym mis Mai 2000 y pleidleisiodd 50.7% yn erbyn arolwg o’r ffin. O ganlyniadau’r refferenda hyn ac o’r sylwadau a dderbyniwyd gan drigolion, gwelsom fod y farn an gadw Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl aros o fewn Sir Ddinbych neu a ddylid eu trosglwyddo i Wrecsam wedi’i rhannu. Roedd hefyd yn amlwg i ni nad oes unrhyw fwyafrif helaeth o blaid y naill opsiwn na’r llall. Roeddem yn fodlon na fyddai unrhyw ddiben cynnal refferendwm arall.

6.49 Mae’r sylwadau pellach a dderbyniwyd gennym a’r barnau a fynegwyd yn y cyfarfod cyhoeddus yn Llangollen wedi cadarnhau ein safbwynt fod y farn leol wedi’i rhannu ac nad oes unrhyw fwyafrif pendant o blaid naill ai trosglwyddo i Wrecsam neu aros o fewn Sir Ddinbych.

Iechyd

6.50 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ym mharagraff 7.36, trafodwyd y trefniadau gofal iechyd ar gyfer yr ardal. Roedd sawl un o’r sylwadau cychwynnol a dderbyniwyd gennym yn awgrymu bod y trefniadau presennol hyn yn dwysau’r rhaniad wrth ddarparu gofal iechyd ac yn creu rhwystr i ddatblygu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon. Ym mharagraffau 7.38 a 7.39 ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft ystyriwyd goblygiadau dogfen ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol “Newid Strwythurol o fewn y GIG yng Nghymru”. Daethom i’r casgliad, ym mharagraff 7.40, fod yna faterion ar gyfer y tymor hwy mewn perthynas â gwasanaethau gofal iechyd lleol o fewn Llangollen. Roeddem o’r farn y gallai cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol yn eu dogfen ymgynghorol at y cwestiwn o gydffinio rhwng gwasanaethau awdurdodau iechyd a gwasanaethau awdurdodau lleol fod yn berthnasol i’r sefyllfa leol pe digwyddai hyn, ond mae’r terfynau amser ar gyfer digwyddiad o’r fath y tu hwnt i derfynau amser yr Arolwg hwn.

6.51 Yn eu sylwadau mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac eraill yn ystyried ei bod yn gwneud synnwyr at ddibenion integreiddio gwasanaethau i Langollen a Llandysilio-yn-Iâl fod yn rhan o Fwrdeistref Sirol Wrecsam, felly gellir gweithredu’r bwriad i ddod â ffiniau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd mewn ffordd sy’n darparu gwasanaeth parhaus i’r cyhoedd mewn ffordd resymegol.

6.52 Roedd Cyngor Sir Ddinbych ac eraill o’r farn bod y pwynt yn ymwneud â cydffinio a darpariaeth y Gwasanaeth Iechyd wedi’i orddatgan, gan nad oes gan y ddarpariaeth gwasanaethau aciwt unrhyw gysylltiad penodol â ffiniau awdurdodau lleol ac na fydd y gofal sylfaenol a ddarperir yn lleol yn newid waeth beth fydd y trefniadau gweinyddol newydd. Nododd y Cyngor bod yna enghreifftiau ymhob awdurdod unedol yng Nghymru lle y darperir gwasanaethau meddygon teulu ar eu ffiniau gan feddygon teulu y mae eu meddygfeydd yn ymestyn ar draws ffiniau Awdurdodau Lleol. Felly ystyriwyd ganddynt na fyddai’n briodol seilio penderfyniad ar drosglwyddo ardaloedd llywodraeth leol ar y chydffinio rhwng Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol.

6.53 Ystyriwn er bod manteision posibl i’r cydffinio rhwng ffiniau Iechyd a ffiniau Awdurdodau Lleol, nad yw’n hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau Iechyd neu wasanaethau llywodraeth leol yn effeithiol. Ystyriwn y gellir rheoli materion iechyd traws-ffiniol yn effeithiol mewn ffordd gydweithredol gan y cyrff dan sylw ac na ddylai hyn fod yn ffactor penderfynu wrth ystyried ffiniau llywodraeth leol.

Yr Heddlu, Tân, Ambiwlans a’r Llysoedd

6.54 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, nodwyd gan na weithredir y swyddogaethau hyn gan awdurdodau’r llywodraeth leol, bod ystyried eu trefniadaeth a’u gweithrediadau y tu allan i gylch gwaith y Comisiwn. O ran yr Heddlu, nodwyd sylw Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru mai ei fwriad oedd cywiro’r anghysondeb bod Llangollen yn cael ei phlismona o’r tu allan i ardal ei hawdurdod lleol. Nodwyd hefyd y pwynt a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Llywodraeth Ganolog yn annog meddwl cydlynus a chydweithio rhwng asiantaethau a’i bod felly yn bwysig sicrhau aliniad rhwng ffiniau lle bynnag y bo’n bosibl. Fodd bynnag, rydym yn parhau o’r farn tra ein bod yn ystyried unrhyw fanteision neu anfanteision a allai ddeillio o ad-drefniant arfaethedig o’r ffin na ellid eu hystyried fel rhesymau sylfaenol dros newid.

Casgliad

6.55 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft, ar ôl ystyried y materion sy’n ymwneud ag ystyried y newid arfaethedig yn nhermau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ymddangosai, yn y rhan fwyaf o achosion, fod cydbwysedd agos. Ar ôl rhoi ystyriaeth fanwl i’r sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi ein Cynigion Drafft, rydym yn parhau o’r un farn. Ein barn yw nad yw manteision tybiedig y newid arfaethedig yn fwy na manteision tybiedig y trefniadau presennol o gofio’r costau y bydd y cynghorau yn mynd iddynt wrth weinyddu’r newid. Felly, cadarnhawn ein casgliad yn y Cynigion Drafft sef na allwn argymell newid i’r ffin.

6.56 Wrth ystyried y sylwadau a dderbyniwyd gennym, nodwyd y teimladau cryf a fynegwyd gan y rheini ar ddwy ochr y ddadl. Bu nifer o’r sylwadau a gyflwynwyd yn emosiynol gan fynegi materion o farn nas ategwyd gan ffeithiau. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am egluro’r ffeithiau sy’n sail i nifer o’r materion hyn.

6.57 Derbyniwyd nifer o sylwadau mewn perthynas â’r cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gennym yn Neuadd y Dref Llangollen ar 30 Ionawr 2002 a hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ymateb iddynt. Mynegwyd pryderon na roddwyd digon o gyhoeddusrwydd i’r cyfarfod ac na roddwyd llawer o gyfle i’r bobl leol siarad. Yn nhermau rhoi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfod gwnaed ymdrechion i sicrhau bod aelodau o’r cyhoedd a phartïon â diddordeb yn ymwybodol o’i chynnal a bod croeso iddynt ei mynychu. Ar y diwrnod y penderfynodd y Comisiwn gynnal cyfarfod cyhoeddus cyhoeddwyd hysbysiad i’r wasg yn nodi y byddai’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Llangollen ym mis Ionawr ar ddyddiad i’w gyhoeddi. Ymddangosodd y wybodaeth hon yn y wasg. Cyn gynted ag y gwnaed y trefniadau ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus cyhoeddwyd datganiad arall i’r wasg yn nodi dyddiad ac amser y cyfarfod ac yn gwahodd partïon â diddordeb i fynychu. Eto ymddangosodd y wybodaeth hon yn y wasg. Hefyd, anfonwyd copïau o hysbysiad cyhoeddus i Gyngor Tref Llangollen a Chyngor Cymuned Llandysilio-yn-Iâl gan ofyn iddynt roi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfod. Anfonwyd copïau o’r hysbysiad cyhoeddus hefyd at Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol yr ardal. Yn olaf cyhoeddwyd hysbysiad arall i’r wasg a gosodwyd hysbyseb yn y papur newydd lleol y diwrnod cyn y cyfarfod. Yn ogystal, hysbysebwyd manylion y cyfarfod ar ein gwefan. O dan yr amgylchiadau rydym yn fodlon y dilynwyd gweithdrefnau a ddylai fod wedi sicrhau y rhoddwyd digon o gyhoeddusrwydd i’r cyfarfod cyhoeddus.

6.58 O ran y beirniadaethau mewn perthynas â’r trefniadau siarad yn y cyfarfod cyhoeddus, gan na allem ragweld faint o bobl fyddai am roi tystiolaeth, y trefniant a wnaed gennym oedd caniatáu i unigolion ein hysbysu o’u bwriad i siarad gan ddyrannu rhif siarad ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Galwyd y rheini a gysylltodd â ni yn ystod y cyfarfod ar y sail hon a chaniataom hefyd i dystiolaeth ysgrifenedig gael ei chyflwyno yn ystod y cyfarfod ac i’r rheini a oedd yn bresennol i anfon tystiolaeth ysgrifenedig bellach atom erbyn 6ed Chwefror 2002. Nodwyd gennym fod rhywfaint o amser yn weddill ar ddiwedd y cyfarfod i siaradwyr ychwanegol pe byddai unrhyw un wedi dymuno siarad. Os oedd unigolion yn teimlo na allent roi eu tystiolaeth yn gyhoeddus, cynigiwyd y cyfle iddynt anfon eu sylwadau yn ysgrifenedig i’r Comisiwn a manteisiodd rhai trigolion ar y cyfle hwn. At hyn, credwn y byddem wedi derbyn mwy fyth o feirniadaeth pe cynhaliwyd y cyfarfod yn breifat. I gloi, credwn i ni roi cyfle rhesymol i’r trigolion lleol leisio eu barn.

7. CYNIGION

7.1Cynhaliwyd yr arolwg hwn gennym yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd ar gael i ni nid oes gennym unrhyw gynigion ar gyfer newid y ffin rhwng Sir Ddinbych a Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ardal Cymunedau Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl yn Sir Ddinbych a Chymunedau Penycae, Cefn, Llangollen Wledig, Y Waun, Glyntraean a Llansanffraid Glyn Ceiriog ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

8. CYDNABYDDIAETHAU

8.1 Hoffem fynegi ein diolch i’r holl brif gynghorau a’r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob corff a pherson a gyflwynodd sylwadau i ni.

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Ar ôl cwblhau ein harolwg o ran o’r ffin rhwng Sir Ddinbych a Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ardal Cymunedau Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl yn Sir Ddinbych a Chymunedau Penycae, Cefn, Llangollen Wledig, Y Waun, Glyntraean a Llansanffraid Glyn Ceiriog ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

9.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny’n briodol, yw eu gweithredu ynghyd ag addasiadau neu hebddynt drwy gyfrwng Gorchymyn neu gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o’r fath yn gynt na chyfnod o chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach yn ymwneud â’r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau at:

Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol 2
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

J DAVIES ICSA IPFA (Dirprwy Gadeirydd)

D H ROBERTS BSc. DMS MBCS MIMgt (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Mawrth 2002