AROLWG O RAN O'R FFIN RHWNG SIR GEREDIGION A SIR BENFRO YN ARDAL CYMUNEDAU ABERTEIFI A CHILGERRAN
ARGYMHELLION DRAFFT
- CYFLWYNIAD
- CRYNODEB GWEITHREDOL
- CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
- CYNIGION DRAFFT
- CYNRYCHIOLAETHAU A GYFLWYNWYD MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
- ASESIAD
- CYNIGION
- TREFNIADAU ÔL-DDILYNOL
- CYDNABYDDIAETHAU
- YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
Sue Essex AC
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. CYFLWYNIAD
1.1 Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r arolwg o ran o'r ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Aberteifi a Chilgerran. Penderfynom gynnal yr arolwg o ganlyniad i gais gan Gyngor Cymuned Cilgerran, a gefnogwyd gan Gyngor Cymuned Llandudoch, i'r ardal a nodir ar y map yn Atodiad 5 gael ei chynnwys yn Sir Benfro yn hytrach na Cheredigion, ac i'r ardal gael ei rhannu rhwng Cymunedau Llandudoch a Chilgerran.
2.1 Cynigiwn nad oes unrhyw newid yn cael ei wneud i'r ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Aberteifi a Chilgerran
3.1 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn darparu y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddo, wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i beri newidiadau mewn prif ardaloedd yr ymddengys i'r Comisiwn eu bod yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Gweithdrefn
3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn pennu canllawiau trefniadol sydd i'w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw, ysgrifennom ar 11 Mehefin 2004 i'r prif gynghorau, y cynghorau cymuned, Aelodau Seneddol yr etholaethau lleol, Aelodau Cynulliad yr ardal, cymdeithasau awdurdodau lleol, awdurdod heddlu'r ardal, y byrddau iechyd lleol, pleidiau gwleidyddol a thrigolion yr ardal i ddweud wrthynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg, a gofyn am eu barnau rhagarweiniol. Gwahoddwyd y prif gynghorau gennym i gyflwyno awgrymiadau am newidiadau i'r ffin. Hefyd, cyhoeddom ein bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd yn y cylch, a gofyn i'r cynghorau arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus.
4.1 Mewn ymateb i'n gwahoddiad cychwynnol, cawsom gynrychiolaethau oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Tref Aberteifi, Cyngor Cymuned Cilgerran, Simon Thomas AS, y Cynghorydd Alan Wilson a thri ar ddeg o drigolion. Yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr 2004, ystyriom y materion a godwyd yn y cynrychiolaethau a gyflwynwyd.
Cymuned Gyfrannog
4.2 Adroddom fod Cyngor Sir Penfro, Cyngor Cymuned Cilgerran a naw o drigolion wedi nodi'r pwynt bod yr ardal dan sylw yn un wledig, brin ei phoblogaeth a fyddai'n cyfuno'n naturiol ag ardal sydd hefyd yn ardal wledig yn bennaf. Dywedodd Cyngor Cymuned Cilgerran a naw o drigolion yn ogystal fod trigolion yr ardal dan arolwg yn teimlo eu bod yn byw mewn parth sydd wedi'i anghofio (o ran darpariaeth gwasanaethau llywodraeth leol) a'u bod o'r farn bod gan yr ardal affinedd naturiol â phentrefi Cilgerran a Llandudoch.
4.3 Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion fod affinedd cryf rhwng yr ardal dan sylw a thref Aberteifi sy'n darparu gwasanaethau a chyfleusterau beunyddiol hanfodol ar gyfer trigolion y cylch. Roedd y dref hefyd yn brif ganolfan gyflogaeth i'r ardal. Roedd Cyngor Tref Aberteifi o'r farn bod rhesymau hanesyddol cryf i lan orllewinol afon Teifi fod yng Ngheredigion. Roeddent o'r farn nad oedd gan yr ardal dan arolwg unrhyw berthynas â Chilgerran na Llandudoch, ond bod y trigolion yn defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau Tref Aberteifi a Cheredigion. Nid oedd Simon Thomas AS wedi derbyn unrhyw gwynion na sylwadau ynghylch lleoliad y ffin bresennol, ac roedd o'r farn nad oedd y trefniant presennol yn achosi unrhyw drafferth. Nid oedd trigolion wedi codi'r mater hwn gyda'r Cynghorydd Wilson, er iddo ganfasio'r ardal ar ddau achlysur. Adroddodd na fu ymateb iddo ychwaith yn dilyn erthyglau ar y mater hwn yn y papurau lleol.
4.4 Ar ôl ystyried yr holl bwyntiau a godwyd am y mater hwn yn y cynrychiolaethau a gawsom yng ngham cychwynnol yr arolwg, mynegwyd y farn gennym yn ein Cynigion Drafft er bod rhywfaint o dystiolaeth bod gan drigolion yr ardal gysylltiadau lleol â Chilgerran neu Landudoch, nid oedd arwyddion yn erbyn y dystiolaeth o gysylltiadau lleol cryf â thref Aberteifi. Roeddem o'r farn felly, at ei gilydd, na fyddai'r newid awgrymedig i'r ffin yn esgor ar unrhyw fantais o ran cymuned gyfrannog.
Mynediad i Wasanaethau
4.5 Nododd Cyngor Cymuned Cilgerran a naw o drigolion fod llawer o wasanaethau Ceredigion, fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, â'u canolfan yn Aberystwyth, tra bod pencadlys Sir Benfro yn Hwlffordd, a oedd yn nes.
4.6 Roedd Cyngor Sir Ceredigion o'r farn bod gan y trigolion, dan y trefniadau presennol, fynediad i wasanaethau fel ysgolion, y llyfrgell, y ganolfan ddydd a'r ganolfan hamdden a oedd yn cael eu darparu gan y Cyngor yn nhref Aberteifi. Roeddent o'r farn y byddai cadw'r ardal yng Ngheredigion yn atal yr angen i gyflwyno gwasanaethau trawsffiniol. Nododd dau o'r trigolion eu bod yn hapus â'r sefyllfa bresennol a'u bod yn dibynnu ar Aberteifi am eu holl anghenion a gwasanaethau.
4.7 Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, nodwyd gennym er bod Aberystwyth 40 milltir o'r ardal dan arolwg, a Hwlffordd yn 30 milltir i ffwrdd, mai yn Aberaeron oedd pencadlys Cyngor Sir Ceredigion (gan gynnwys Canolfan Gyswllt y Gwasanaethau Cymdeithasol), sef 24.5 milltir o'r ardal. Roeddem o'r farn felly na fyddai'r newid awgrymedig i'r ffin yn cynnig unrhyw welliant o ran mynediad hwylus at wasanaethau llywodraeth leol i drigolion yr ardal dan arolwg.
Cludiant Cyhoeddus
4.8 Dywedodd Cyngor Cymuned Cilgerran a naw o drigolion fod pob un o'r gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn yr ardal yn cael eu gweithredu gan Gyngor Sir Penfro. Ni chawsom unrhyw dystiolaeth fod y gosodiad hwn yn anghywir, a chan fod yr ardal dan arolwg yn cynnwys dwy briffordd o Sir Benfro i Dref Aberteifi, derbyniom ei bod yn debygol mai dyma fel y mae. Roeddem o'r farn bod hwn yn ffactor pwysig, ond nid un penderfyniadol, yn ein hasesiad o'r newid awgrymedig i'r ffin.
Addysg
4.9 Dywedodd Cyngor Sir Penfro fod yr ardal gyfan dan sylw o fewn dalgylch Ysgol Gynradd Llandudoch. Dywedodd Cyngor Cymuned Cilgerran a naw o drigolion fod y mwyafrif o'r plant sy'n byw yn yr ardal yn mynd i Ysgolion Cynradd Cilgerran neu Landudoch yn Sir Benfro.
4.10 Dywedodd Cyngor Tref Aberteifi fod plant o'r ardal dan sylw, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi mynychu Ysgolion Cynradd Llandudoch, Aberteifi, Cilgerran a Phenparc.
4.11 O'r dystiolaeth a ddarparwyd yng ngham cychwynnol yr arolwg, nid oedd modd asesu'r effaith y byddai'r newid awgrymedig i'r ffin yn ei chael o ran y ddarpariaeth addysg. O wybod mai rhyw 40 o gartrefi yn unig sydd yn yr ardal, roedd yn ymddangos yr effeithid ar nifer fach o ddisgyblion ysgol yn unig. Roeddem o'r farn felly mai bach fyddai unrhyw fuddion o ran darpariaeth addysg a allai ddeillio o'r newid awgrymedig, a byddent yn cael eu cydbwyso trwy barhau â'r trefniadau trawsffiniol presennol.
Cynnal a Chadw'r Priffyrdd
4.12 Gan fod y ddwy brif ffordd yn yr ardal (yr A487 a'r A478) yn cyfarfod wrth y gylchfan i'r de o ardal Penybont yn Aberteifi, roedd Cyngor Sir Penfro o'r farn bod hwn yn fan terfyn naturiol o ran cyfrifoldebau am briffyrdd. Dywedodd Cyngor Cymuned Cilgerran a naw o drigolion fod rhannau Ceredigion o'r A478 a'r A487 yn cael eu graeanu gan Sir Benfro o'u depo yng Nghrymych. Dywedwyd hefyd, ers y newid diwethaf i'r ffin, bod dryswch wedi codi yn ardal Briscwm o ran cynnal a chadw ffyrdd, a bod rhaid i gerbydau cynnal a chadw ffyrdd fynd heibio i eiddo Ceredigion i wasanaethu Llandudoch a Chilgerran. Roedd un o'r trigolion o'r farn y byddai gan Sir Benfro fwy o gydymdeimlad â'r cais am gyfyngiadau cyflymder ar yr A478 y tu allan i'w fwthyn.
4.13 Roedd Cyngor Sir Ceredigion o'r farn nad oedd unrhyw anawsterau yn bodoli o dan y trefniadau presennol i'r ardal barhau i gael gwasanaeth cynnal a chadw priffyrdd gan y Cyngor. Dywedodd Cyngor Tref Aberteifi fod Cyngor Sir Ceredigion wedi buddsoddi'n sylweddol yn llwybr yr A478 allan o Aberteifi yn ystod y blynyddoedd diweddar, a chyn hyn roedd Cyngor y Dref wedi ariannu goleuadau stryd yn ardal Troedyrhiw.
4.14 Roedd yn ymddangos o'r cynrychiolaethau cychwynnol bod rhywfaint o gydweithredu trawsffiniol ar waith rhwng Cynghorau Sir Ceredigion a Phenfro o ran darparu gwasanaethau cynnal a chadw priffyrdd yn yr ardal dan arolwg. Roeddem o'r farn eu bod yn aneglur o'r wybodaeth a ddaeth i law a fyddai mantais sylweddol o ran costau ac effeithlonrwydd pe bai'r trefniant hwn yn cael ei ddisodli gan ddarpariaeth gan un awdurdod o ganlyniad i'r newid arfaethedig.
Cynllunio
4.15 Ysgrifennodd un o'r trigolion i ddweud nad oedd yn fodlon ar wasanaethau Cyngor Sir Ceredigion, yn enwedig o ran ceisiadau cynllunio. Ni chawsom unrhyw gynrychiolaethau eraill mewn perthynas â'r mater hwn, ac oherwydd y diffyg tystiolaeth bod y broblem yn gysylltiedig â darparu'r gwasanaeth hwn i'r ardal dan arolwg, nid oeddem yn gallu rhoi unrhyw bwys i'r gynrychiolaeth hon mewn perthynas â'n hystyriaethau.
Datblygu
4.16 Mynegodd y Cynghorydd Wilson bryder y byddai colli'r ardal dan sylw yn cyfyngu ar ddatblygiad Tref Aberteifi yn y dyfodol. Nodwyd gennym nad oedd hon yn broblem ar hyn o bryd, gan fod y Cynghorydd Wilson wedi dweud bod digon o dir ar gael ar gyfer datblygu'r dref hyd 2016.
Casglu Sbwriel
4.17 Ystyriodd Cyngor Sir Penfro gan fod eu cerbyd sbwriel eisoes yn teithio drwy'r ardal, estyniad bach yn unig a fyddai ei angen i'r llwybr presennol i gasglu'r sbwriel. Dywedodd Cyngor Cymuned Cilgerran a naw o drigolion, ers y newid diwethaf i'r ffin, fod dryswch wedi bod yn ardal Briscwm o ran casglu sbwriel, a bod rhaid i gerbydau casglu sbwriel fynd heibio i eiddo Ceredigion i ddarparu gwasanaeth i Landudoch a Chilgerran. Nododd un o drigolion Troedyrhiw fod cerbydau casglu sbwriel Sir Benfro yn mynd heibio i'w ddrws ffrynt.
4.18 Roedd Cyngor Sir Ceredigion o'r farn nad oedd unrhyw anawsterau yn bodoli o dan y trefniadau presennol i'r ardal barhau i gael gwasanaeth casglu sbwriel gan y Cyngor.
4.19 Yn ôl y wybodaeth a gafwyd gan y ddau Gyngor Sir yng ngham cychwynnol yr arolwg, daethom i'r casgliad nad oedd modd asesu graddau'r costau/arbedion tebygol i'r gwasanaeth casglu sbwriel a allai ddeillio o'r newid awgrymedig i'r ffin. Roedd yn aneglur felly o'r wybodaeth a ddaeth i law a fyddai'r newid i'r ffin yn cynnig mantais sylweddol mewn perthynas â'r gwasanaeth casglu sbwriel.
Y Dreth Gyngor/Praesept
4.20 Roedd nifer o'r trigolion a ysgrifennodd atom yng ngham cychwynnol yr arolwg o'r farn bod lefel y gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro o ansawdd gwell ac yn fwy effeithlon ac y byddai'r newid yn cynnig lefel treth gyngor fwy rhesymol iddynt.
4.21 O'u rhan hwy, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion, yn dilyn y newid diweddar i'r ffin pan unwyd Llandudoch â Sir Benfro, y byddai'r newid ychwanegol hwn yn arwain at fwy o bobl yn talu'u treth gyngor i un Awdurdod ac eto'n parhau i dderbyn llawer o wasanaethau gan awdurdod arall, heb unrhyw gyfraniad tuag at y gost. Dywedodd Cyngor Tref Aberteifi fod trigolion yr ardal yn defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau Tref Aberteifi, llawer ohonynt yn cael eu darparu gan sefydliadau sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan Gyngor Tref Aberteifi a Chyngor Sir Ceredigion. Roeddent yn dadlau y byddai'r newid yn gostwng seiliau praesept a threthi cyngor priodol ond heb fod yn gostwng y defnydd y mae'r trigolion yn ei wneud o'r gwasanaethau a'r cyfleusterau hyn. Tynnodd Cyngor y Dref sylw at y gostyngiad yn ei refeniw oherwydd y newid i ffin Llandudoch, er gwaethaf codiad yn y praesept ac y byddai colli mwy o drigolion yn golygu y byddai angen codiad arall yn y praesept er mwyn cynnal y lefelau incwm cyfredol. O ystyried popeth, fe wnaethant amcangyfrif mai effaith gronnus newid Llandudoch a'r cynnig hwn fyddai gostyngiad o 17% yn y praesept ar sail praesept 2002/03. Mynegodd y Cynghorydd Wilson ei bryder hefyd am effaith y newid ar amwynderau a gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Tref Aberteifi a Chyngor Sir Ceredigion o ystyried y gostyngiad mewn refeniw.
4.22 Dywedom yn ein Cynigion Drafft, ein bod, mewn adroddiadau blaenorol, wedi dweud yn eglur na ddylai gwahaniaethau mewn Trethi Cyngor fod yn ffactor penderfyniadol wrth i ni benderfynu'r ffin rhwng ardaloedd dau brif gyngor, ac rydym wedi datgan hyn yn eglur eto mewn perthynas â'n hystyriaethau presennol. Yn ogystal, er i ni nodi'r sylwadau a wnaed mewn cynrychiolaethau ynghylch effaith newidiadau diweddar i'r ffin yn ardal Llandudoch ar refeniw Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberteifi, nid oeddem o'r farn y byddai effaith unrhyw newid yn y sefyllfa bresennol (a fyddai'n effeithio ar ryw 40+ o eiddo yn unig) yn ffactor sylweddol a phenderfyniadol ar refeniw Cynghorau, ar ba ochr bynnag i'r ffin yr oedd yr eiddo.
Problemau Gweithredol Penodol
4.23 Yn eu cynrychiolaeth, amlygodd Cyngor Cymuned Cilgerran ddwy ardal lle'r oeddent o'r farn fod problemau gweithredol o dan y trefniadau presennol. Ymwelwyd â'r ddwy ardal yn ystod ymweliadau â safleoedd yn yr ardal.
4.24 Mewn perthynas â Nantperchellan ger Penybryn, roedd yn ymddangos bod yr eiddo mewn safle anrheolaidd gan fod y ffermdy yng Ngheredigion, ond bod y mynediad iddo o Sir Benfro. Barn y preswylydd fodd bynnag oedd nad oedd hyn yn broblem sylweddol.
4.25 Mewn perthynas â Glanpwllafon, yn ôl y wybodaeth a oedd wedi dod i law, nid oeddem o'r farn bod unrhyw ystyriaethau sylweddol o ran darparu gwasanaethau llywodraeth leol i eiddo yn yr ardal hon yn deillio o'u sefyllfa mewn perthynas â lleoliad presennol y ffin sirol. Mewn perthynas â chynnal a chadw'r hen bont ffordd gerrig, rydym wedi nodi bod y ffin yn dilyn canol Afon Piliau ac felly'n croesi canol y bont. Roedd yn ymddangos felly bod y cyfrifoldeb am gynnal a chadw'r bont yn cael ei rannu rhwng y ddau Gyngor Sir.
4.26 O'r wybodaeth a oedd gennym pan ysgrifennwyd ein Cynigion Drafft, nid oeddem o'r farn fod unrhyw broblemau sylweddol o ran llywodraeth leol effeithiol a hwylus yn y ddwy ardal hon. Adroddwyd gennym nad oedd y problemau a oedd yn bodoli, yn ein barn ni, yn ffactor penderfyniadol wrth ystyried yr holl ardal dan arolwg.
Yr Iaith Gymraeg
4.27 Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd cyfran y bobl (dros 3 oed) sydd naill ai'n siarad, yn darllen neu'n ysgrifennu Cymraeg yn 54% yng Ngheredigion, o gymharu â 24% yn Sir Benfro.
4.28 Mae cyfran y siaradwyr Cymraeg ym mhob un o raniadau etholiadol yr ardal dan arolwg fel a ganlyn:
|
Adran Etholiadol |
Awdurdod Unedol |
Yn medru’r Gymraeg |
|
Cilgerran |
Sir Benfro |
52.51% |
|
Llandudoch |
Sir Benfro |
51.18% |
|
Aberteifi-Teifi |
Ceredigion |
50.39% |
4.29 O ystyried bod lefelau'r siaradwyr Cymraeg yn rhaniadau etholiadol Sir Benfro a Cheredigion yn debyg iawn, roedd yn ymddangos i ni, o ran y newid awgrymedig i'r ffin, nad oedd unrhyw ystyriaethau sylweddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg.
Materion Ffiniol
Ffin yr Heddlu
4.30 Adroddodd Cyngor Cymuned Cilgerran a naw o'r trigolion, ers y newidiadau i'r ffin yn 2003, fod yr Heddlu lleol wedi drysu ynghylch eu ffiniau adrannol (mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu polisi cydffiniol sirol.)
4.31 Ni chafwyd unrhyw gynrychiolaeth yn adrodd am broblemau gan heddlu Dyfed-Powys a oedd wedi'u cynnwys yn y dosbarthiad cychwynnol. Gan fod y newid i'r ffin yn gymharol ddiweddar (1 Ebrill 2003), roeddem o'r farn y byddai'n debygol fod rhywfaint o ddryswch ar y dechrau, ond credem nad oedd hon yn debygol o fod yn broblem barhaus.
Ymweliad â'r Safle
4.32 Ymwelwyd â'r ddwy ardal yn ystod yr ymweliadau safle a grybwyllwyd ym mharagraff 4.23 uchod. Diben yr ymweliad oedd arolygu'r ffin sirol bresennol, y ffin sirol awgrymedig a ffin gymunedol awgrymedig Cilgerran/Llandudoch. Nodir ein canfyddiadau isod.
Ffin Sirol Bresennol
4.33 Archwiliwyd y ffin sirol bresennol yn y ddau fan a nodwyd yn y gynrychiolaeth oddi wrth Gyngor Cymuned Cilgerran.
4.34 Y man cyntaf oedd Fferm Nantperchellan. Deuir i'r eiddo ar hyd lôn hir sydd â chlwyd ar ei diwedd. Mae'r lôn cyn belled â'r bont dros Afon Piliau yn Sir Benfro, tra bod y ffermdy a'r tai allan yng Ngheredigion.
4.35 Siaradom â'r preswylydd, a dywedodd wrthym na chafodd ei theulu unrhyw broblemau gwirioneddol oherwydd y ffin. Yr unig anghyfleustra a gawsant oedd pan oeddent yn ceisio datrys y sefyllfa ynglyn â llwybr ceffylau ar draws eu tir pan fu'n rhaid iddynt ymgynghori â'r ddau gyngor sir.
4.36 Yr ail fan oedd Glanpwllafon. Nodwyd agosrwydd yr eiddo i'r afon (Afon Piliau) sy'n ffurfio'r ffin sirol yn y fan hon. Nodwyd hefyd y bont y cyfeiriwyd ati yng nghynrychiolaeth Cyngor Cymuned Cilgerran. Mae'r bont, a arferai fod ar y brif ffordd, bellach yn rhan o ffordd fynediad i'r tai. Mae'r Garreg Derfyn a grybwyllir yn y gynrychiolaeth wrth ochr ogledd-orllewinol y bont. Nodwyd, fodd bynnag, bod y ffin sirol bresennol yn croesi canol y bont ac nid trwy'r garreg derfyn.
Ffin Sirol Arfaethedig
4.37 Cafodd y ffin sirol a awgrymwyd gan Gyngor Cymuned Cilgerran a Chyngor Sir Penfro ei harchwilio er mwyn gweld a oedd yn dilyn nodweddion amlwg a oedd yn hawdd eu hadnabod.
4.38 Nodwyd bod y ffin sirol awgrymedig, gan fwyaf, yn dilyn nodweddion fel llwybrau, trywyddau neu ffiniau caeau, ond mewn rhai mannau nid oedd y ffin awgrymedig yn dilyn nodweddion amlwg.
Ffin Gymunedol Arfaethedig Cilgerran/Llandudoch
4.39 Archwiliwyd y ffin gymunedol arfaethedig hefyd er mwyn gweld a oedd yn dilyn nodweddion amlwg a oedd yn hawdd eu hadnabod. Yn yr un modd â'r ffin sirol awgrymedig, nodwyd bod y ffin, gan fwyaf, yn dilyn nodweddion fel llwybrau, trywyddau neu ffiniau caeau. Mewn rhai mannau, fodd bynnag, nid oedd y ffin awgrymedig yn dilyn nodweddion amlwg.
Ffin Bendant
4.40 Mae Cyngor Cymuned Cilgerran a naw o drigolion yn ystyried y byddai cylchfan Ridgeway yn cynnig ffin fwy naturiol ac amlwg.
4.41 Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberteifi a'r Cynghorydd Wilson y byddai'r newid awgrymedig i'r ffin yn cynnwys o fewn Sir Benfro yr ardal a ddefnyddiwyd yn y blynyddoedd diwethaf ar gyfer Sioe Amaethyddol Aberteifi. Byddai hyn yn golygu naill ai cynnal Sioe Aberteifi yn Sir Benfro neu orfod symud safle'r sioe i fan arall.
4.42 Fel y nodwyd uchod, ymwelwyd â'r ardal a gwnaethpwyd archwiliad o'r ffiniau sirol a chymunedol awgrymedig. O ran y ffin sirol, roeddem o'r farn nad yw'r ffin fel yr awgrymwyd yn gwbl effeithiol. Nodwyd nad yw'r ffin, mewn mannau, yn dilyn nodweddion amlwg. Rydym o'r farn y dylai ffin sirol ddilyn nodweddion daearyddol amlwg lle bynnag y mae hynny'n bosibl er mwyn osgoi dryswch. Roeddem o'r farn, fodd bynnag, na ddylai ein pryderon ynghylch effeithiolrwydd y ffin awgrymedig fod yn ffactor penderfyniadol yn ein hystyriaethau gan yr oedd yn debygol y gellid gwneud addasiadau priodol.
4.43 Roedd gennym rai pryderon yn ogystal ynglyn â'r ffin gymunedol awgrymedig, ond roeddem o'r farn nad oedd y rhain mor sylweddol o ran darparu gwasanaethau cyngor cymuned, y byddent yn effeithio'n andwyol ar effeithiolrwydd y ffin.
4.44 Daeth ein Cynigion Drafft i'r casgliad ein bod o'r farn nad oedd gennym dystiolaeth ddigonol bryd hynny i ystyried y byddai'r cynnig gan Gyngor Cymuned Cilgerran yn fuddiol o ran llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Argymhellom felly beidio â mabwysiadu'r newid awgrymedig i'r ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro a roddwyd gerbron gan Gyngor Cymuned Cilgerran.
4.45 Anfonwyd copïau o'r Cynigion Drafft i'r holl gynghorau, cyrff ac unigolion y cyfeirir atynt ym mharagraff 3.2 yn gofyn am eu barnau. Hefyd, anfonwyd copi at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau rhagarweiniol. Drwy hysbysiad cyhoeddus, gwahoddwyd unrhyw sefydliad neu berson arall â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno'u barn. Roedd copïau o'r Cynigion Drafft ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a'r Comisiwn, a rhoddwyd copïau i'w cadw yn swyddfeydd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys yn ogystal.
5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
5.1 Cawsom gynrychiolaethau oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberteifi, Cyngor Cymuned Cilgerran, Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion, Bwrdd Iechyd Sir Benfro ac un o'r trigolion. Ystyriwyd pob un o'r cynrychiolaethau'n ofalus cyn llunio'n cynigion.
5.2 Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi Cynigion Drafft y Comisiwn, ac roedd o'r farn nad oedd unrhyw dystiolaeth o gefnogaeth i newid y ffin. Gellir gweld copi o'r gynrychiolaeth yn Atodiad 1.
5.3 Gwrthbrofodd Cyngor Tref Aberteifi yr honiadau a wnaed yn y cynrychiolaethau a gyflwynwyd yn y Cynigion Drafft. Roeddent o'r farn nad oedd unrhyw affinedd naturiol rhwng Penybryn a Chilgerran, gyda'r cyntaf yn troi fwy tuag at Aberteifi am ei hanghenion. O ran gwasanaethau, roeddent o'r farn bod Ceredigion yn rhoi gwasanaeth cyfartal, os nad gwell, na Sir Benfro, gyda'r mwyafrif o wasanaethau â'u canolfan yn Aberaeron ac nid yn Aberystwyth fel yr honnai rhai o'r cynrychiolaethau. Gwadwyd bod Cilgerran yn ynysig ac 'wedi'i hanghofio', a nodwyd bod gan yr ardal gynghorydd enwebedig ar Gyngor Tref Aberteifi, ac amlygwyd y gwelliannau a oedd wedi'u gwneud i'r ffyrdd ym Mhenybryn a Glanpwllafon yn ogystal. Roeddent o'r farn bod llywodraeth leol effeithiol a hwylus yn yr ardal yn barod, ac y byddai unrhyw newid yn achosi aflonyddwch diangen. Mae testun llawn y gynrychiolaeth hon i'w gweld yn Atodiad 2.
5.4 Roedd yn flin ganddo ond derbyniodd Cyngor Cymuned Cilgerran ganfyddiadau Cynigion Drafft y Comisiwn. Gellir gweld copi o'r gynrychiolaeth hon yn Atodiad 3.
5.5 Cefnogodd Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion gynnig y Comisiwn i beidio â newid y ffin.
5.6 Cefnogodd Bwrdd Iechyd Sir Benfro Gynigion Drafft y Comisiwn.
5.7 Roedd un o drigolion Pantygrwndy yn parhau o'r farn bod newid y ffin yn gam synhwyrol ac y gellid ei weithredu. Gellir gweld copi o'r gynrychiolaeth hon yn Atodiad 4.
6. ASESIAD
6.1 Rydym wedi nodi bod y mwyafrif o'r cynrychiolaethau a ddaeth i law mewn perthynas â'n Cynigion Drafft yn cefnogi'r cynnig i beidio â newid y ffin.
6.2 Rydym o'r farn nad yw'r cynrychiolaethau a gyflwynwyd wedi rhoi unrhyw dystiolaeth newydd i ni y byddai'r newid awgrymedig i'r ffin yn fuddiol o ran llywodraeth leol effeithiol a hwylus.
7. CYNIGION
7.1 Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd ar gael i ni, rydym yn cynnig peidio â gwneud unrhyw newid i'r ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Aberteifi a Chilgerran.
8.1 Dan Adran 54 (1) (e) y Ddeddf, gall y Comisiwn wneud cynigion i newid y trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol sy'n deillio o unrhyw newid arfaethedig mewn ardaloedd llywodraeth leol. Gan ein bod yn cynnig peidio â newid ardal llywodraeth leol, nid ydym yn gwneud unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau ôl-ddilynol i'r trefniadau etholiadol.
9.1 Dymunwn fynegi ein diolchiadau i'r prif gynghorau a phob un o'r cynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg, ac i bob person a chorff a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni.
10. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
10.1 Wedi cwblhau'n harolwg o ran o'r ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Aberteifi a Chilgerran, a chyflwyno'n hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni'n rhwymedigaeth statudol.
10.2 Gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os y gwêl yn dda, yw eu gweithredu gyda neu heb newidiadau drwy gyfrwng Gorchymyn, neu gyfarwyddo'r Comisiwn i gynnal arolwg pellach. Ni chaiff Gorchymyn felly ei wneud yn gynharach na chyfnod o chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
10.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau pellach yn ymwneud â'r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac nid hwyrach na chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:
Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQMRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)
J DAVIES ICSA IPFA (Aelod)
D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Aelod)
E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)
Mai 2005
Ymateb Cyngor Sir Ceredigion i Argymhellion Drafft Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol yng Nghymru parthed yr adolygiad o ran o'r ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Cymunedau Aberteifi a Chilgerran
Y mae'r Cyngor yn croesawi ac yn cefnogi'n gryf yr Argymhellion Drafft dyddiedig Rhagfyr 2004. Nid yw'n credu fod unrhyw dystiolaeth o gefnogaeth o du'r trigolion perthnasol i newid y ffin ac y mae'n cytuno gyda barn y Comisiwn nad oes yna ddigon o dystiolaeth y byddai cynnig Cyngor Cymuned Cilgerran yn arwain at lywodraeth leol mwy effeithiol a hwylus.
E M B Morgan Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol Cyngor Sir Ceredigion Neuadd Cyngor Ceredigion Penmorfa ABERAERON SA46 0PA23 Chwefror 2005
27/5/2005
