Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG CEREDIGION A SIR BENFRO YN ARDAL CYMUNED LLANDUDOCH

ADRODDIAD A CHYNIGION

  1. CYFLWYNIAD

  2. CRYNODEB GWEITHREDOL

  3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

  4. CYNIGION DRAFFT

  5. CRYNODEB O’R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

  6. EFFAITH UNRHYW GYNIGION AR SIR GEREDIGION

  7. ASESIAD

  8. CYNIGION

  9. TREFNIADAU CANLYNIADOL

  10. CYDNABYDDIAETHAU

  11. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

Edwina Hart AC

Gweinidog dros Gyllid, Lywodraeth Leol a Chymunedau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau’r arolwg o ran o’r ffin rhwng Sir Geredigion a Sir Benfro yn ardal Cymuned Llandudoch a chyflwynwn ein cynigion ar gyfer ffin newydd.

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

2.1 Yn ein barn ni, dylid cyfuno pentref Llandudoch o fewn ardal un prif gyngor er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Ar ôl ystyried y dystiolaeth sydd ar gael daethom i’r casgliad y dylai Cymuned Llandudoch fod yn ardal prif gyngor Sir Benfro.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Y drefn

3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r arweiniad hwnnw ysgrifenasom, ar 2 Mawrth 2000, i Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Tref Aberteifi, Cyngor Cymuned Llandudoch, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, Aelodau’r Cynulliad dros yr ardal, cymdeithasau’r awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu dros yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg, ac i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol. Gwahoddwyd Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer newidiadau i’r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i’r cynghorau arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Tref Aberteifi, Cyngor Cymuned Llandudoch, Jackie Lawrence AS, Simon Thomas AS, Elin Jones AC, 2 gynghorydd a 189 o gyrff a thrigolion eraill oedd â diddordeb. Ystyriwyd y sylwadau hyn a cheir crynodeb ohonynt yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2000.

4.2 Argymhellodd ein Cynigion Drafft y dylid cyfuno pentref cyfan Llandudoch o fewn un awdurdod unedol ac mai Sir Benfro fyddai’r awdurdod gorau. Cynigiwyd y dylid adlinio’r ffin rhwng Sir Geredigion a Sir Benfro yn ardal Cymuned Llandudoch fel y dangosir mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad 9 i gynnwys yr ardaloedd a nodwyd yn Ardal A ac Ardal B yn Sir Benfro.

4.3 Anfonwyd copïau o'r Cynigion Drafft at bob cyngor, corff ac unigolyn y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.2 yn gofyn am eu barn. Hefyd anfonwyd copi at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau rhagarweiniol. Drwy hysbysiad cyhoeddus gwahoddwyd unrhyw sefydliad neu berson arall oedd â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu barn. Roedd copïau o'r Cynigion Drafft ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a’r Comisiwn a hefyd yn swyddfeydd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys.

5. CRYNODEB O’R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Tref Aberteifi, Cyngor Cymuned Llandudoch, Cyngor Cymuned Cilgerran, Jackie Lawrence AS, Dr Richard Edwards AC, Delyth Evans AC, Glyn Davies AC, dau Gynghorydd Sir, 3 Cynghorydd Cymuned a Thref, 11 o sefydliadau eraill a 572 o drigolion. Derbyniwyd llythyr hefyd ar ran trigolion yr ardaloedd ychwanegol i’r de ddwyrain o Landudoch yr awgrymodd Cyngor Sir Penfro y dylid eu trosglwyddo o Geredigion i Gymunedau Cilgerran a Llandudoch yn Sir Benfro. Ystyriwyd pob un o’r sylwadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion.

5.2 Cyflwynodd

Cyngor Sir Ceredigion adroddiad. Cynhwysir yr adroddiad hwn yn llawn yn Atodiad 1. Mae prif bwyntiau’r adroddiad fel a ganlyn:

Ni chred y Cyngor bod y Comisiwn Ffiniau wedi mynd i’r afael â’r prif fater, sef y ddarpariaeth o wasanaethau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i bentref cyfun Llandudoch gan un awdurdod lleol. Mae’r Cyngor yn cytuno y dylai’r pentref “gael ei gyfuno o dan un awdurdod” ac mae’n nodi bod y ddau Gyngor wedi nodi eu bod “yn hyderus y byddent yn gallu darparu lefel briodol o wasanaeth i bentref cyfun Llandudoch”.

Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn anghytuno â’r rhesymau a roddwyd yng Nghynigion Drafft y Comisiwn dros nodi y dylid lleoli’r pentref cyfun o fewn Sir Benfro fel a ganlyn:

  1. Mae Paragraff 3.12 yr Adroddiad ar y Cynigion Drafft yn rhestru gwelliannau mewn meysydd o gyflwyno gwasanaeth, y maent yn honni y byddent yn deillio pe byddai’r pentref cyfun yn cael ei leoli yn Sir Benfro. Fodd bynnag, mae’r un egwyddor yn wir pe byddai Ceredigion yn gweinyddu’r ardal.
  2. Mae Paragraff 3.13 yn nodi ei bod “yn amlwg y byddai angen rhywfaint o ddarparu gwasanaethau yn drawsffiniol o hyd waeth pa sir y byddai’r gymuned newydd yn cael ei chynnwys o’i mewn”. Ni all y Cyngor Sir ddeall, pe byddai’r pentref cyfun yn cael ei osod yng Ngheredigion, pa wasanaethau y byddai angen i’w boblogaeth eu derbyn gan Gyngor Sir Penfro.

    Craidd achos y Cyngor Sir yw bod trigolion y pentref ar hyn o bryd yn troi at dref Aberteifi ar gyfer gwasanaethau fel y llyfrgell, y ganolfan hamdden, y pwll nofio, addysg uwchradd ac ati, a chyda Cheredigion yn darparu’r holl wasanaethau eraill fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, casglu sbwriel, priffyrdd ac ati i bentref cyfun, ni fyddai angen i Gyngor Sir Penfro ddarparu unrhyw wasanaethau o gwbl i’r boblogaeth, gan arwain felly at lywodraeth leol mwy effeithiol a chyfleus.

  3. Ym Mharagraff 3.14 nid ystyriai’r Comisiwn bod lefel y taliadau i’r cyngor yn “brif reswm dros gyfuno pentref Llandudoch i’w gynnwys o fewn Sir Benfro”. Fodd bynnag, nododd Cyngor Sir Ceredigion bod hyn wedi’i restru fel yr AIL bwynt a wnaed gan bentrefwyr Llandudoch. Awgrymir felly bod hyn yn un o’r prif resymau dros ddewis i’r pentref cyfun gael ei osod yn Sir Benfro yn hytrach nag yng Ngheredigion.
  4. Mae’r Cyngor yn mynnu bod datganiadau’r Comisiwn bod Afon Teifi yn ffin naturiol (Paragraff 3.16) a bod Bridgend yn rhan annatod o Dref Aberteifi yn gwrth-ddweud ei gilydd. Felly mae’r rhaniad arfaethedig o’r ardal i’r de o afon Teifi, ym marn y Cyngor Sir, yn anghyson iawn ac nid yw’n cynnig ei hun ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus
  5. Mae’r Cyngor o’r farn bod y Comisiwn wedi rhoi mwy o bwyslais i emosiwn nag i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

    Dadl y Cyngor yw bod y bobl sy’n byw ar ochr Sir Benfro o Landudoch ar hyn o bryd yn defnyddio’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion yn Nhref Aberteifi, ac y telir amdanynt gan dalwyr Treth Gyngor Ceredigion yn rheolaidd, a bod Cyngor Cymuned Llandudoch yn bwriadu i’w bobl allu parhau i elwa ar y gwasanaethau hyn eto’n talu eu Treth Gyngor i Awdurdod arall. Felly byddai pobl Llandudoch yn elwa ar dalu Treth Gyngor is tra’n dal i fwynhau’r gwasanaethau a ddarperir yn Nhref Aberteifi gan Gyngor Sir Ceredigion ac y telir amdanynt gan bobl Ceredigion.

  6. Mae’r lefelau Treth Gyngor gwahanol yn Sir Benfro a Cheredigion yn ganlyniad i fformiwla genedlaethol, a ddefnyddir i ddosbarthu adnoddau ymysg cynghorau unedol. Caiff y fformiwla ei hadolygu’n aml a dangosodd arolwg diweddar ostyngiad yn y gwahaniaeth rhwng lefelau’r Dreth Gyngor. Gan fod Ceredigion yn gyson wedi pennu ei lefelau Treth Gyngor yn is na chanllawiau’r Cynulliad Cenedlaethol, ymhen amser, mae hyn yn debygol o arwain at Drethi Cyngor cyfartal gan y ddau awdurdod.

  7. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dadlau bod pobl Llandudoch yn gwneud defnydd llawn o’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion a’i bod yn rhesymol iddynt gyfrannu at gostau darparu’r gwasanaethau. Ni cheir tystiolaeth i awgrymu bod y gost o ddarparu’r gwasanaethau hyn yn uwch yng Ngheredigion – i’r gwrthwyneb, fformiwla dosbarthu Grant Cymorth Refeniw sy’n rheoli lefel y Dreth Gyngor. Heb os byddai’n fwy atebol i’r trigolion dalu’r Cyngor sy’n darparu’r gwasanaethau. Dyma hanfod Llywodraeth Leol a chynrychiolaeth gyhoeddus effeithiol.
  8. Mae’r Cyngor Sir yn nodi os caiff Llandudoch ei drosglwyddo i Sir Benfro, bydd newid sylweddol ac anghyfartal o ran adnoddau o blaid Sir Benfro ar draul talwyr Treth Gyngor Ceredigion ac ni ellir disgwyl i dalwyr Treth Gyngor Ceredigion gwrdd â’r baich treth ychwanegol.
  9. Nododd y Cyngor bod y Comisiwn (mewn llythyr dyddiedig 17 Ionawr 2001 fel ateb i ymateb cychwynnol y Cyngor i’r Cynigion Drafft) wedi datgan na ddarparodd y Cyngor Sir unrhyw dystiolaeth y byddai colli rhan o’i ardal weinyddol yn niweidiol, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i’r Awdurdod cyfan. Byddai cynigion y Comisiwn, ym marn y Cyngor, drwy wneud mwy o ddefnyddwyr y gwasanaethau sydd wedi’u lleoli yn Aberteifi yn dalwyr Treth Gyngor yn Sir Benfro, yn gwaethygu’r sefyllfa ac yn creu mwy o anghydraddoldeb a drwgdeimlad yn yr ardal.
  10. I gloi, ystyriai’r Cyngor y byddai’r newidiadau arfaethedig felly yn cael effaith niweidiol ar allu Cyngor Sir Ceredigion i ddarparu’r lefel gyfredol o wasanaethau drwy’r Sir. Byddai’n effeithio’n niweidiol ar Lywodraeth Leol effeithiol a chyfleus nid yn unig yng nghyffiniau Aberteifi ond drwy’r Sir gyfan.

5.3 Cyflwynodd Cyngor Sir Penfro adroddiad a gafodd ei ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau. Ceir testun llawn yr adroddiad hwn yn Atodiad 2. Nododd yr adroddiad:-

bod Cyngor Sir Penfro’n cynnig i’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol:

  1. bod y Cyngor hwn yn mynegi cefnogaeth gref o blaid y cynigion a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau i uno cymuned Llandudoch o fewn Sir Benfro drwy gynnwys Ardal A a B (ar y map yn Atodiad 6 yr adroddiad ar y Cynigion Drafft).
  2. er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac ar sail cefnogaeth leol gryf iawn, bod Ardaloedd C a D (ar y map yn Atodiad 7 yr adroddiad ar y Cynigion Drafft) yn dod yn rhan o Sir Benfro, i gael eu cynnwys o fewn Cynghorau Cymunedol Llandudoch a Chilgerran yn y drefn honno.

Hefyd tynnodd y Cyngor ein sylw at yr holiadur a ddosbarthwyd gan Gyngor Tref Aberteifi i’r holl drigolion yn ardal tref Aberteifi. Datganwyd nifer o bryderon gan yr aelod lleol a thrigolion Llandudoch ynghylch y modd y cynhaliwyd yr ymarfer hwn a gwnaeth y Cyngor hwn y sylwadau canlynol:

5.4 Cyflwynodd

Cyngor Tref Aberteifi adroddiad (Atodiad 3) yn gwneud y pwyntiau canlynol:

5.5 Cyflwynodd Cyngor Cymuned Llandudoch adroddiad (Atodiad 4) lle ystyriwyd bod yr achos dros ailuno o dan awdurdod Sir Benfro yn aruthrol gyda’r rhesymau canlynol yn sail i’r casgliad hwn:

5.6 Ystyriai Cyngor Cymuned Cilgerran er budd llywodraeth leol effeithlon ac effeithiol y dylid ystyried trosglwyddo Ardal C a D ar y map yn Atodiad 7 adroddiad y Comisiwn ar y Cynigion Drafft i Sir Benfro. Maent yn ystyried y dylai Ardal D ddod yn rhan o Gymuned Cilgerran gan fod y mwyafrif llethol o’r trigolion wedi bod yn awyddus i ddod yn rhan o Sir Benfro ers peth amser. Mae Cyngor Sir Penfro eisoes yn casglu sbwriel rhai o’r trigolion yn wythnosol, er eu bod yn byw yng Ngheredigion.

5.7 Datganodd Jackie Lawrence ASei chefnogaeth lawn i farn Cyngor Cymuned Llandudoch a thrigolion Llandudoch yn eu dymuniad i’r pentref gael ei ailuno yn ôl adroddiad y Comisiwn ar y Cynigion Drafft.

5.8 Ysgrifennodd Dr Richard Edwards AC i gefnogi’r cynnig i ailuno Llandudoch o fewn Sir Benfro. Ystyriai bod amrywiaeth o ffactorau amlwg o blaid ailuno Llandudoch o dan Sir Benfro, yn cynnwys amgylchiadau hanesyddol, ac ewyllys pobl y gymuned ei hun.

5.9 Datganodd Delyth Evans AC ei chefnogaeth i’r cynnig i ailuno Llandudoch o fewn Sir Benfro.

5.10 Mae Glyn Davies AC, ar ôl archwilio’r mater a’i drafod â nifer o bobl yn yr ardal, o’r farn y dylai Llandudoch aros o fewn Sir Benfro.

5.11 Cefnogodd y Cynghorydd Sir Stephen Watkins (rhanbarth etholiadol Llandudoch, Trewyddel a Nanhyfer, Cyngor Sir Penfro) Gynigion Drafft y Comisiwn a hefyd gynnig Cyngor Sir Penfro y dylid symud Ardal D i’w ardal hefyd.

5.12 Roedd Y Cynghorydd Sir Mair Morris (rhanbarth etholiadol Aberteifi, Cyngor Sir Ceredigion) yn siomedig â chasgliad y comisiynwyr yn eu hadroddiad drafft. Ni chredai y byddai’n darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, am y rhesymau canlynol:

  1. gan fod Tref Aberteifi mor agos i Landudoch, sut y gall fod yn fwy cyfleus ac effeithlon i drigolion Llandudoch gael eu gweinyddu gan Awdurdod sydd â’i dref agosaf tua 20 milltir i ffwrdd?
  2. Mae Ceredigion eisoes yn awdurdod llai na Sir Benfro a dim ond gwaethygu’r sefyllfa a wnaiff y penderfyniad hwn. Bydd llai o arian i Geredigion heb os yn arwain at lai o arian ar gyfer darparu gwasanaethau yn Aberteifi, gwasanaethau y bydd eu hangen o hyd ar drigolion Llandudoch, p’un a ydynt yn Sir Benfro neu yng Ngheredigion.
  3. Ni ddylid ystyried Treth Gyngor rhatach a sachau sbwriel am ddim fel rheswm digon da i ddylanwadu ar benderfyniad unrhyw un o’r trigolion yr effeithir arnynt.
  4. Yn yr Adroddiad Drafft, ymddengys fod y Comisiwn wedi camddeall goblygiadau colli cyfran dreth i Gyngor Tref Aberteifi. Mae’r arian a gaiff ei wario ar wasanaethau a phrojectau yn Aberteifi o fudd i drigolion Tref Aberteifi A thrigolion Llandudoch.
  5. Nid yw’r Cynghorydd Morris yn deall sut, yn yr adroddiad, y gall y Comisiwn nodi bod afon Teifi yn “cynrychioli ffin naturiol wedi’i diffinio’n glir”, ac yna barhau drwy ddweud bod ardal Bridgend, ar ochr arall afon Teifi “yn rhan hanfodol o Dref Aberteifi”. Mae’r Cynghorydd Morris o’r farn bod Llandudoch hefyd yn rhan hanfodol o Dref Aberteifi gan fod palmant yn cysylltu’r ddwy ardal a hefyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bod tai newydd a adeiladwyd ar hyd ffordd Aberteifi-Llandudoch bron iawn yn cysylltu’r ddwy gymuned.

Mae’r Cynghorydd Morris yn ystyried y byddai’r cynigion fel y maent ar hyn o bryd yn niweidiol i Dref Aberteifi, ac yn y pen draw y byddent yn cael effaith ddilynol ar ardal eang iawn yn cynnwys trigolion Llandudoch.

5.13 Barn y Cynghorydd Bob Doyle (Cyngor Tref Aberteifi), mewn llythyr a anfonwyd at y wasg leol, ar adeg pan fo diwydiant craidd yr ardal yn destun argyfwng a phan fo arian yn brin, oedd bod angen casglu adnoddau ynghyd yn hytrach na rhannu’r brif ardal o boblogaeth ac felly’r ffynhonnell refeniw posibl, yn ddau awdurdod lleol ar wahân. Nododd y Cynghorydd Doyle mai’r peth gorau i bawb fyddai ei adael fel ag y mae.

5.14 Ystyriai’r Cynghorydd Graham Thomas (Cyngor Tref Aberteifi) y byddai caniatáu i’r ffin newid o blaid Sir Benfro yn gwneud mwy o niwed i Geredigion nag y byddai o fudd i Sir Benfro. Roedd o’r farn y dylai’r sefyllfa bresennol barhau. Datganodd y Cynghorydd Thomas y farn mai bwriad Sir Benfro yn y pen draw yw cymryd yr ardal o dir ar lan Afon Teifi a fyddai’n achosi i Aberteifi a Cheredigion golli’r lladd-dy, ystâd ddiwydiannol Pentood, y farchnad da byw, a’r adeiladau hanesyddol, y mae un ohonynt yn gartref i’r Ganolfan Treftadaeth. Hefyd nododd y Cynghorydd Thomas bod tai’n cael eu hadeiladu’n barhaus ar hyd y brif ffordd rhwng Tref Aberteifi a Llandudoch ac na fyddai’n bosibl gwahaniaethu rhwng y ddau o fewn ugain mlynedd.

5.15 Nododd y Cynghorydd Valerie Fletcher (Dirprwy Gadeiryddes, Cyngor Cymuned Llandudoch) ei bod hi a llawer o drigolion Sir Benfro Llandudoch yn gwasanaethu ar bwyllgorau ac yn gwneud cyfraniadau ariannol i sefydliadau niferus Tref Aberteifi. Hefyd nododd y Cynghorydd bod yr adborth gan y sefydliadau a leolir yn y pentref yn awgrymu na fu’r gefnogaeth o Aberteifi yn gyfartal. Er bod sefydliadau’n derbyn rhoddion gan Gyngor y Dref, yn yr un modd mae Aberteifi’n derbyn rhoddion gan Gyngor Cymuned Llandudoch, y mae ei gyfran dreth tua 90% yn llai. Nododd y Cynghorydd Fletcher hefyd tra bod y Cyngor Cymuned wedi lleihau ei gyfran dreth am ddwy flynedd yn olynnol, cynyddodd Aberteifi ei chyfran dreth y llynedd. Cydnabu’r Cynghorydd Fletcher yr ymdrechion a wnaed gan Dref Aberteifi i wella’r Dref a chael gafael ar arian hanfodol, ond pwysleisiodd bod mwyafrif helaeth iawn o holl boblogaeth Llandudoch yn dymuno cael eu hailuno o fewn Sir Benfro. Ystyriai y dylai Cyngor Tref Aberteifi a Chyngor Sir Ceredigion barchu’r dymuniadau hyn.

5.16 Nododd Pwyllgor Rhanbarthol Ceredigion Plaid Cymru gan nad oedd barn unfrydol ynghylch y ffin hon, ac y byddai gostyngiad yng ngwerth trethiannol Ceredigion yn golygu gostyngiad yn y gwasanaethau a ddarperir gan dref Aberteifi ar gyfer y cyhoedd y naill ochr i’r afon yn Aberteifi, eu bod yn teimlo’n gryf na ddylid newid y ffin bresennol ac y dylai Llandudoch barhau o fewn Ceredigion.

5.17 Canfu Rhys Sinnett, (Darpar Ymgeisydd Seneddol, Plaid Cymru Preseli-Sir Benfro) ar ôl siarad â Chyngor Cymuned Llandudoch ac ar ôl cael barn pobl leol, fod ymdeimlad clir ac ysgubol o blaid uno pentref cyfan Llandudoch. Ystyriai fod y trefniadau presennol yn achosi cymhlethdod ac anniddigrwydd sylweddol ymysg cyfran sylweddol o drigolion y pentref. Canfu fod yr ymdeimlad yn ysgubol o blaid uno’r pentref o fewn Sir Benfro am resymau hanesyddol, gweinyddol a chymdeithasol. Gofynnodd Mr Sinnett i’r farn hon gael ei hystyried yn llawn a nododd ei fod yn credu ei bod yn amlwg bod y trigolion yn uniaethu â Sir Benfro.

5.18 Nododd yr Arolwg Ordnans bod tîm bach o Arbenigwyr Ffin wedi ymweld ag ardal Llandudoch i ystyried y ffiniau a gynigiwyd yn adroddiad y Comisiwn ar y Cynigion Drafft. Awgrymwyd nifer o fân newidiadau i’r ffiniau arfaethedig er mwyn sicrhau nad oedd y ffin yn dilyn nodweddion tir gwael.

5.19 Derbyniwyd y sylwadau canlynol gan gymdeithasau lleol yn ardal Llandudoch/Tref Aberteifi:

5.20 Derbyniwyd 572 o sylwadau gan drigolion pentref Llandudoch, 476 o ran Sir Benfro a 96 o ran Ceredigion. Roedd yr holl drigolion yn cefnogi cynnig y Comisiwn i uno’r pentref a phob un ohonynt yn cefnogi’r cynnig y dylai’r pentref unedig fod yn Sir Benfro. Gwnaed y rhan fwyaf o’r 572 o sylwadau gan drigolion Llandudoch, yn Sir Benfro a Cheredigion, drwy slip pro fforma yn nodi eu bod yn cefnogi’r cynigion drafft. O’r rhain cododd tua 50 o lythyrau, nad oeddent yn llythyrau pro fforma, y pwyntiau canlynol i gefnogi’r Cynigion Drafft:

5.21 Derbyniwyd llythyr ar ran trigolion yn cynrychioli 14 o’r 17 o aneddiadau yn Ardal D ar y map yn Atodiad 7 adroddiad y Cynigion Drafft. Cynigiodd Cyngor Sir Penfro y dylid trosglwyddo’r ardal hon i Sir Benfro. O’r tri anheddiad sy’n weddill, nid oedd gan ddeiliad un ohonynt unrhyw farn benodol ar y mater ac mae’r 2 arall yn wag. Ysgrifennodd y trigolion i gefnogi’r cynnig, gan ddadlau:

6. EFFAITH UNRHYW GYNIGION AR SIR GEREDIGION

6.1 Yn eu sylwadau gwnaeth Cyngor Sir Ceredigion y datganiad:

“Os caiff Llandudoch ei drosglwyddo i Sir Benfro, bydd newid sylweddol ac anghyfartal o ran adnoddau o blaid Sir Benfro ar draul talwyr Treth Gyngor Ceredigion. Bydd y prif wasanaethau yn Aberteifi yn parhau i gael eu darparu a’u hariannu gan Geredigion ac ni ellir disgwyl i dalwyr Treth Gyngor Ceredigion gwrdd â’r baich treth ychwanegol”.

Yn eu sylwadau hwy, cyfeiriodd Cyngor Tref Aberteifi hefyd at y mater hwn:

“Byddai angen i’r trethi godi tua £10 yng ngweddill Aberteifi ac ar draws Ceredigion i ddigolledu’r golled hon”. [Llandudoch].

6.2 Ystyrasom fod hwn yn fater pwysig ac o ganlyniad gofynasom i Gyngor Sir Ceredigion ddarparu eu cyfrifiad o effaith Cynigion Drafft y Comisiwn ar Dreth Gyngor a chyllideb Ceredigion ac i gynnwys manylion o’r modd y cyfrifir y ffigurau. Hefyd gofynnwyd am wybodaeth debyg mewn perthynas â chyfran dreth a chyllideb Tref Aberteifi.

6.3 Mewn ymateb i’n cais darparodd Cyngor Sir Ceredigion adroddiad yn rhoi manylion effaith ein Cynigion Drafft ar dreth gyngor a chyllideb Cyngor Ceredigion ac amcangyfrif o’r effaith ar gyfran dreth a threth gyngor Tref Aberteifi. Ceir copi o’r adroddiad yn Atodiad 5. Anfonwyd copïau o’r adroddiad at Gyngor Sir Penfro, Cyngor Tref Aberteifi a Chyngor Cymuned Llandudoch. Ar 11 Mehefin 2001, cyfarfu swyddogion y Comisiwn â chynrychiolwyr Cyngor Sir Ceredigion lle yr ymhelaethodd y Cyngor ar y sylwadau a wnaed yn eu hadroddiad a’u hagluro.

6.4 Ysgrifennodd Cyngor Sir Penfro gan wneud sylwadau mewn ymateb i adroddiad Cyngor Sir Ceredigion. Ceir copi o’r ymateb hwn yn Atodiad 6. Dyma grynodeb o’r ymateb:

  1. Mae Cyngor Sir Penfro yn ystyried na fyddai mater sail y dreth gyngor ar ei ben ei hun yn cael unrhyw effaith sylweddol ar y naill Gyngor na’r llall, ac yn bendant ni fyddai’r effaith yn £6.32 (Band D) fel yr awgrymwyd yn adroddiad Ceredigion.
  2. Mae’r Cyngor hefyd yn ystyried y byddai’n gamarweiniol awgrymu y byddai unrhyw newid i’r ffin, yn rhinwedd y newidiadau yn y Setliad Refeniw Llywodraeth Leol, yn peri unrhyw gynnydd o gwbl yn lefelau treth gyngor.
  3. Mae’r Cyngor yn cwestiynu’r rhagdybiaethau a wnaed gan Gyngor Sir Ceredigion mewn perthynas â’r gostyngiadau a amcangyfrifwyd o ran gwariant.

6.5 Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llandudoch hefyd mewn ymateb i adroddiad Cyngor Sir Ceredigion. Roedd y Cyngor Cymuned yn amau nifer y cartrefi sy’n talu treth gyngor (261) a nodwyd yn yr adroddiad. Cred y Cyngor Cymuned bod 199 o gartrefi’n talu treth gyngor. Nododd y Cyngor Cymuned hefyd bod Ceredigion wedi crybwyll bod y boblogaeth dan sylw yn 400 ond eu bod wedi cytuno’n flaenorol â ffigwr y Cyngor Cymuned o 307. Nododd y Cyngor Cymuned nad yw’r mater arian treth gyngor yn berthnasol ac na ddylai gael unrhyw effaith ar y newidiadau arfaethedig i’r ffin yn Llandudoch. Nodwyd nad yw “llywodraeth leol effeithlon a chyfleus” yn dibynnu ar sut y mae un sir yn cadw trefn ar eu materion ariannol.

6.6 Nododd un o drigolion Llandudoch ar ôl darllen adroddiad Ceredigion ac ymateb Sir Benfro y gwahaniaeth yn eu hamcangyfrifon Treth Gyngor. Nododd na ddylai’r agwedd hon ddylanwadu ar y penderfyniad. Ystyriai y byddai cyfanswm cyfoeth yr ardal yn aros yn ddigyfnewid. Ychwanegodd, mewn amser, pe gallai un sir ddangos y bu dan anfantais ariannol oherwydd y symud bach o ran poblogaeth, onid ellid unioni hyn rywsut? Nododd, o ystyried nifer yr ymatebwyr o blaid uno o dan Sir Benfro, mai ewyllys y bobl ddylai gael yr ystyriaeth fwyaf.

6.7 Ystyriwyd er mwyn llunio barn hyddysg ac annibynnol am y mater pwysig hwn, y dylai’r Comisiwn ddefnyddio gwasanaethau arbenigwr ym maes cyllid llywodraeth leol i gynnal archwiliad. Comisiynwyd adroddiad gan Rita Hale & Associates Ltd. Ceir crynodeb o’r adroddiad yn Atodiad 7. Darparwyd copi o’r adroddiad i Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Tref Aberteifi a Chyngor Cymuned Llandudoch.

6.8 Ar ôl derbyn sylwadau ar yr adroddiad a baratowyd ar gyfer y Comisiwn gan Rita Hale & Associates Ltd., gwelwyd bod y ffigurau a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad wedi’u gwyrdroi drwy gyfrif y gostyngiad yn y sail dreth leol ddwywaith. Arweiniodd hyn at:

6.9 Ailgyfrifwyd y ffigurau gan ddefnyddio:

6.10 Mae’r ffigurau diwygiedig, a nodir yn y tablau yn Atodiad 8, yn dangos:

6.11 Ni allai Cyngor Sir Ceredigion eu hunain gadarnhau’r arbedion posibl pe byddai’r newid arfaethedig i’r ffin yn mynd rhagddo. Amcangyfrifwyd y byddai’r arbedion hyn rhwng £25,000 a £40,000 ac maent wedi defnyddio £30,000 at ddibenion cyfrifo (Paragraff 1.4 Atodiad 5). Oherwydd y rhesymau a roddwyd yn Adroddiad Rita Hale (crynodeb yn Atodiad 7 ym mharagraff 10) ystyriwyd ei bod yn debygol y gallai archwiliad manwl o’r gostyngiad posibl mewn gwariant gan Gyngor Sir Ceredigion arwain at nodi arbedion pellach o ran gwariant fel y byddai’r cynnydd gwirioneddol mewn Treth Gyngor yn llai na’r ffigwr a amcangyfrifwyd. Gan nad ydym yn disgwyl i’r arbedion mewn gwariant gyd-fynd â’r gostyngiad a amcangyfrifwyd yn SSA y Cyngor Sir fodd bynnag, down i’r casgliad mai cynnydd bach (tua £6) yn Nhreth Gyngor Ceredigion fyddai effaith debygol y newid i’r ffin. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o tua 1% i’r Dreth Gyngor bresennol.

7. ASESIAD

7.1 Mae’n amlwg o’r sylwadau a dderbyniwyd gan bob ochr bod y mwyafrif llethol o blaid uno pentref Llandudoch o dan un awdurdod unedol. Mae hefyd yn amlwg o’r sylwadau a dderbyniwyd a’r wybodaeth a ddarparwyd y credir y byddai uno hefyd er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, pe cynigiwyd newid o’r fath, yn nhermau lefel y gwasanaethau a ddarperir i Landudoch. Mae’r amgyffrediad hwn yn arbennig o gryf ymhlith poblogaeth Llandudoch ei hun.

7.2 Mae’r sylwadau o blaid gweinyddu Cymuned Llandudoch gan Gyngor Sir Ceredigion yn awgrymu newid i’r ffin a fyddai’n rhannu prif ran y pentref oddi wrth ardaloedd mwy gwledig Cymuned bresennol Llandudoch sydd wedi’u lleoli i’r Gorllewin a’r Gogledd Orllewin o’r pentref. O’r sylwadau a dderbyniwyd, ymddengys fod trigolion yr ardaloedd gwledig hyn yn ystyried eu bod yn rhan annatod o Gymuned Llandudoch. Felly ymddengys er y byddai’r cynnig hwn yn cwrdd â’r nod o uno pentref Llandudoch, byddai hefyd yn torri cysylltiadau lleol â’r ardaloedd allanol.

7.3 O’r sylwadau a dderbyniwyd gan drigolion Cymuned bresennol Llandudoch ac ardaloedd Ceredigion a nodwyd yn Ardal A ac Ardal B ar y map yn Atodiad 9, mae’n amlwg bod cefnogaeth eang i’r cynnig y dylai’r gymuned newydd fod yn Sir Benfro. Mae’r rhesymau a roddwyd dros hyn yn amrywiol ac nid dim ond oherwydd y gwahaniaeth yn y Dreth Gyngor fel yr awgrymwyd (gweler sylwadau Cyngor Sir Ceredigion ym mharagraff 5.2 (iii) uchod). Mae’n bwysig bod nifer o’r sylwadau yn ystyried bod y gwasanaethau a ddarperir gan Sir Benfro yn rhagori ar y rhai a ddarperir gan Geredigion.

7.4 Mae Cyngor Tref Aberteifi’n ystyried y dylid cael barn holl drigolion Aberteifi ac y dylid ceisio cael y farn hon drwy gyfrwng holiadur. Gan mai dim ond 121 o ymatebion a dderbyniwyd o gyfanswm o 2,300 o holiaduron, dônt i’r casgliad nad yw’n bosibl dod i gasgliadau cadarn o nifer mor fach. Byddai lefel wael yr ymateb yn awgrymu o leiaf nad oes gan y mwyafrif o drigolion Aberteifi farn gryf y naill ffordd ar y mater.

7.5 Mae nifer o’r sylwadau sydd o blaid y cynnig y dylai pentref cyfun Llandudoch ddod yn rhan o Geredigion yn cyfeirio at drigolion Llandudoch yn defnyddio’r cyfleusterau a’r gwasanaethau yn Aberteifi. Y ddadl yw gan fod y trigolion yn defnyddio’r cyfleusterau a ddarperir gan Geredigion a Thref Aberteifi y dylent gyfrannu’n ariannol at gost y gwasanaethau hyn. Gwrthwynebir y ddadl hon gan sylwadau sy’n nodi bod Tref Aberteifi’n arfer ei dylanwad dros ardal fawr, yn cynnwys pentrefi eraill yn Sir Benfro. Nid yw’n gwneud synnwyr, dywedir, am fod trigolion ardal yn defnyddio cyfleusterau a gwasanaethau tref leol y dylent o anghenraid ddod yn rhan o’r dref neu orfod cyfrannu mewn rhyw ffordd at gyfran dreth y dref. Mae’r sylwadau hefyd yn nodi bod trigolion Llandudoch yn talu’r taliadau safonol am ddefnyddio’r rhan fwyaf o gyfleusterau Aberteifi fel meysydd parcio, y ganolfan hamdden ac ati, a bod Cyngor Sir Penfro a Chyngor Cymuned Llandudoch wedi cynorthwyo wrth ariannu gwasanaethau naill ai fel rhan o gytundeb ffurfiol neu ar gais.

7.6 Mae Ceredigion ac Aberteifi’n cwestiynu sail gyfreithiol Cynigion Drafft y Comisiwn ac yn honni bod y Comisiwn wedi rhoi mwy o bwyslais ar farn gyhoeddus nag ar ystyried llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Fodd bynnag bu’r Comisiwn bob amser o’r farn bod cysylltiad cryf rhwng hunaniaeth leol a llywodraeth leol effeithiol, y dylid ei weithredu os yw’n bosibl. Os bydd pobl yn teimlo eu bod wedi’u hynysu oddi wrth eu hawdurdod lleol, neu nad ydynt yn uniaethu ag ef mewn ffyrdd eraill, yna gellid effeithio’n niweidiol ar effeithiolrwydd. Fodd bynnag, er bod y Comisiwn bob amser wedi ystyried bod hwn yn ffactor perthnasol, nid dyma’r unig ffactor o bell ffordd ac nid hwn o reidrwydd yw’r ffactor tyngedfennol, yn ystyriaethau’r Comisiwn.

7.7 Rydym eisoes wedi nodi bod rhesymau cadarn dros feddwl y byddai uno pentref Llandudoch o dan un awdurdod unedol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Yn ein Hadroddiad ar y Cynigion Drafft daethom i’r casgliad mai Sir Benfro fyddai’r awdurdod gorau: roedd cefnogaeth leol gref i’r cynnig hwnnw, yn seiliedig ar ffactorau hanesyddol a chymdeithasol yn ogystal ag ansawdd canfyddedig y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdodau perthnasol a lefel y dreth leol. Ar y llaw arall er yr archwiliwyd y dystiolaeth yn ofalus nid oeddem yn ymwybodol o unrhyw ystyriaethau gwrthbwysol digonol seiliedig ar fuddiannau ardaloedd cyfagos – yn enwedig Tref Aberteifi a Chyngor Sir Ceredigion. Yn dilyn cyhoeddi ein cynigion drafft derbyniwyd sylwadau tebyg iawn i’r rhai hynny a lywiodd ein Hadroddiad ar y Cynigion Drafft, yn cynnwys y rhai hynny o Aberteifi a Cheredigion oedd yn datgan gwrthwynebiad cryf i’r newid a gynigiwyd. Mae’r gwrthwynebiad hwnnw’n seiliedig ar ddwy brif ystyriaeth: i ddechrau, na ddylai trigolion Llandudoch fod yn gymwys i ddefnyddio cyfleusterau Aberteifi heb gyfrannu at ei chyfran dreth. Mae’n amlwg bod “defnyddio” cyfleusterau awdurdod yn ffactor perthnasol, ond os caiff ei gymhwyso’n gaeth ni chredwn fod y cynnig hwnnw’n argyhoeddiadol o ran egwyddor nac yn ymarferol. Ceir rhai dadleuon ym mharagraffau 7.5, lle y dyfynwn y sylwadau a dderbyniwyd. Y gwirionedd yw bod tref Aberteifi yn ganolfan drefol cymharol ddatblygedig sy’n siwr o ddenu’r bobl hynny sy’n byw yn gymharol agos ati. Rhaid i hyn fod yn berthnasol i unrhyw ganolfan o’r fath, ond yn ein barn ni, ni all hyn arwain at y casgliad y dylai pob person sy’n byw yn agos at Aberteifi, neu sy’n ymweld ag Aberteifi (ac, o ganlyniad, yn cyfrannu at ei heconomi), hefyd gyfrannu at ei chyfran dreth.

7.8 Yn ail, dadleuir y byddai colli Llandudoch yn golygu goblygiadau ariannol difrifol ar gyfer Aberteifi. Rydym eisoes wedi nodi bod mwyafrif helaeth trigolion Llandudoch o fewn Sir Benfro eisoes a bod yr ardaloedd i gael eu trosglwyddo yn wledig yn bennaf. Fel y nodwyd yn 6.11 ymddengys y byddai goblygiadau colli nifer cymharol fach o dalwyr Treth Gyngor yn cael effaith ar gyllid Cyngor Sir Ceredigion sydd i raddau yn anghymesur â nifer y bobl i gael eu trosglwyddo. Mae’r ffigurau’n nodi, heb ostwng y gwariant a amcangyfrifwyd, y bydd angen cynnydd yn y Dreth Gyngor. Wrth ystyried budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus mewn perthynas â pha awdurdod y dylid lleoli pentref unedig Llandudoch o’i fewn, yn rhesymegol dylid ystyried budd Llandudoch ei hun yn gyntaf. Yn ein barn ni mae budd Llandudoch yn ein tywys yn gadarn iawn i gyfeiriad Sir Benfro. Fodd bynnag rydym yn derbyn yn barod bod buddiannau ardaloedd cyfagos eraill – gweddill Sir Benfro, Tref Aberteifi a Cheredigion – hefyd yn berthnasol. (I’r graddau hynny nid ydym yn cytuno â’r sylwadau a gaiff eu cynnwys ym mharagraff 6.5 uchod). Rydym yn ystyried o ran cyllid llywodraeth leol, y bydd newid i ffin y brif awdurdod yn arwain yn anochel at rywfaint o enillion a cholledion o ran incwm a gwariant sy’n effeithio ar y ddwy ardal. Rydym yn ystyried er mwyn gwrthbwyso’r budd cadarnhaol ar drigolion Llandudoch, byddai’n rhaid i’r effaith ariannol negyddol ar Geredigion fod yn sylweddol iawn, er nad yn gritigol. Er gwaethaf ymdrechion pob ochr i ganfod hyn, yn anffodus nid oes modd rhagweld yr union effaith, ond mae’n glir mai’r hyn a gynigir yw trosglwyddo rhwng 300 a 400 o bobl o Geredigion i Sir Benfro, sy’n cynrychioli tua 0.5% o boblogaeth Ceredigion. Mae trosglwyddiad o’r fath yn debygol o arwain at gynnydd yn y Dreth Gyngor o tua £6, sy’n cynrychioli cynnydd o tua 1% i lefel bresennol y dreth. Gan barhau yn ôl yr addewid bod uno Llandudoch o fewn un awdurdod yn gyffredinol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac wrth ystyried effeithiau’r buddiannau hynny o fewn Llandudoch, ni chredwn fod yr effaith ariannol tebygol ar Geredigion, naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r ffactorau negyddol eraill, yn ddigonol o bell ffordd i wrthbwyso’r buddiannau hynny. Yn yr holl amgylchiadau, mae’r Comisiwn yn cadarnhau’r casgliad a gaiff ei gynnwys yn yr Adroddiad ar y Cynigion Drafft, sef y dylid uno pentref Llandudoch drwy drosglwyddo’r ddwy ardal o dir, a ddangosir yn Atodiad 9, o Geredigion i Sir Benfro.

7.9 Wrth ystyried y newidiadau canlyniadol i’r trefniadau etholiadol, nid yw Cyngor Tref Aberteifi’n ystyried bod y trefniant lle y byddai rhanbarth etholiadol Teifi’n gweld gostyngiad i 890 o etholwyr yn briodol. Yn yr adroddiad ar y Cynigion Drafft, ystyriodd y Comisiwn y byddai gan ranbarth Teifi un o’r lefelau uchaf o gynrychiolaeth yn y sir ac y byddai ganddo gymhareb cynghorydd i nifer yr etholwyr sy’n llawer is na’r gymhareb o 1;1,750 a nodwyd yng nghyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol i’r Comisiwn. Fodd bynnag byddai’r gymhareb yn dal i fod o fewn 50% i gyfartaledd y sir o 1 cynghorydd i 1,327 o etholwyr (cofrestr etholiadol 1998) ac mae rhanbarth etholiadol o fewn Ceredigion (Cei Newydd) a chanddo lai o etholwyr. [Gan nad yw’r Cynulliad wedi gweithredu cynigion etholiadol y Comisiwn a wnaed ym mis Rhagfyr 1999 eto, caiff Tref Aberteifi ei chynrychioli ar hyn o bryd gan ranbarth aml-aelod o 3,452 o etholwyr a gynrychiolir gan 3 chynghorydd.]

7.10 Nododd Cyngor Sir Aberteifi hefyd y gwahaniaeth rhwng cymhareb yr etholwyr i’r cynghorwyr cymuned yn Nhref Aberteifi a Llandudoch o dan gynigion y Comisiwn (243 i 1 yn Nhref Aberteifi a 90 i 1 yn Llandudoch). Dylid nodi bod amrywiaeth eang yng nghymhareb y cynghorwyr cymuned i’r etholwyr drwy Gymru. Nodwyd hyn gan y Comisiwn wrth gynnal yr Adolygiadau Cymunedol Arbennig yn y 1970au. Ym 1976, dosbarthodd y Comisiwn ganllawiau ar gyfer y gynrychiolaeth ar gynghorau cymuned a dylid nodi bod lefel y gynrychiolaeth a gynigiwyd ar gyfer Llandudoch yn gyson â’r canllawiau hyn. Dylid nodi hefyd bod y cynnydd a gynigiwyd yn lefel y gynrychiolaeth ar gyfer Cyngor Cymuned Llandudoch a’r gostyngiad yn lefel y gynrychiolaeth ar gyfer ward Teifi yn gyson â’r cymarebau presennol ar gyfer y cymunedau hynny.

7.11 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft nodwyd bod yr awgrym gan Gyngor Sir Benfro y dylid cynnwys ardaloedd ychwanegol o fewn Sir Benfro yn ehangu cwmpas yr arolwg. Ystyriwyd y byddai’n amhriodol i’r Comisiwn wneud cynigion ar gyfer yr ardaloedd hynny ar yr adeg honno gan y teimlwyd nad oedd gennym ddigon o dystiolaeth i wneud penderfyniad arni. Gwahoddwyd partïon â diddordeb i roi sylwadau ar awgrym Sir Benfro y dylid trosglwyddo’r ardaloedd ychwanegol i’r de ddwyrain o Landudoch o Geredigion i Gymunedau Cilgerran a Llandudoch yn Sir Benfro. Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd sy’n ymwneud â’r awgrym hwn ac mae’n amlwg efallai bod sail i’r Comisiwn gynnal arolwg llawn o’r ardaloedd hyn. Rydym o’r farn fodd bynnag bod yr awgrym hwn yn ymwneud ag ardaloedd sydd y tu allan i gwmpas yr arolwg hwn. Felly byddai angen ymdrin â’r mater hwn fel arolwg ar wahân. Pe byddai partïon â diddordeb yn dymuno parhau â’r mater hwn byddem yn gofyn iddynt wneud cais ffurfiol i’r Comisiwn gynnal arolwg o’r ardal benodol hon.

8. CYNIGION

8.1 Cynhaliwyd yr arolwg yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chynigiwn y dylid adlunio’r ffin rhwng Sir Geredigion a Sir Benfro yn ardal Cymuned Llandudoch fel y dangosir mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad 9 i gynnwys yr ardaloedd a nodwyd yn Ardal A ac Ardal B o fewn Sir Benfro.

8.2 Mae map manwl ar raddfa fwy yn dangos y ffin newydd arfaethedig ar gael i’w archwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro ac yn swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

9. TREFNIADAU CANLYNIADOL

9.1 O dan Adran 54 (1) (e) o’r Ddeddf, gall y Comisiwn wneud cynigion i newid y trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol, yn sgîl unrhyw newid arfaethedig mewn ardaloedd llywodraeth leol. Rhoddir dadansoddiad manwl o’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd Ceredigion a Sir Benfro a chymunedau Aberteifi a Llandudoch isod.

9.2 Mae gan Gymuned bresennol Llandudoch 774 o etholwyr (cofrestr etholiadol 1997) a chaiff ei chynnwys o fewn Cymuned Nanhyfer yn rhanbarth etholiadol Llandudoch, a chanddo 1,464 o etholwyr, wedi’u cynrychioli gan 1 cynghorydd (cofrestr etholiadol 1997). Mae rhan Ceredigion pentref Llandudoch yn ward Teifi Cymuned Aberteifi a chanddo 1,198 o etholwyr (cofrestr etholiadol 1998) ac mae’n rhan o ranbarth etholiadol Aberteifi a chanddo 3,452 o etholwyr wedi’u cynrychioli gan 3 chynghorydd (cofrestr etholiadol 1998). Yn ein cynigion ym mis Rhagfyr 1999 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer trefniadau etholiadol Sir Geredigion cynigiwyd y dylai ward Teifi Cymuned Ceredigion ffurfio rhanbarth etholiadol Teifi gyda 1,198 o etholwyr (cofrestr etholiadol 1998) wedi’u cynrychioli gan 1 cynghorydd. Rydym yn dal i aros am benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cynigion hyn.

9.3 Yn ôl y wybodaeth a gyflwynwyd, mae tua 300 o etholwyr o fewn yr ardal yr ydym yn cynnig ei throsglwyddo o Geredigion i Sir Benfro. Byddai hyn yn cynyddu nifer yr etholwyr yn rhanbarth etholiadol Llandudoch i tua 1,770 o etholwyr. Byddai hyn yn arwain at lefel o gynrychiolaeth o 1 cynghorydd i 1,770 o etholwyr. Mae’r lefel hon o gynrychiolaeth yn agos at y gymhareb o 1 cynghorydd i 1,750 o etholwyr a nodwyd yng nghyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol i’r Comisiwn ar gyfer y rhaglen ddiweddar o adolygiadau etholiadol. Mae hefyd o fewn amrediad o 50% yn uwch neu’n is na chyfartaledd Sir Benfro. Felly ystyriwn ei bod yn lefel cynrychiolaeth briodol.

9.4 O dan y trefniadau presennol ar gyfer Sir Geredigion, byddai’r newid arfaethedig i’r ffin yn arwain at ostyngiad yn nifer yr etholwyr yn rhanbarth etholiadol Aberteifi o 3,452 (cofrestr etholiadol 1998) i tua 3,150. O dan y cynigion a gyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, byddai rhanbarth etholiadol Teifi yn gweld gostyngiad yn nifer yr etholwyr o 1,198 (cofrestr etholiadol 1998) i tua 890. Byddai gan ranbarth Teifi un o’r lefelau uchaf o gynrychiolaeth yn y sir a byddai ganddo gymhareb cynghorydd i nifer yr etholwyr sy’n llawer is na’r gymhareb o 1:1,750 a nodwyd yng nghyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol i’r Comisiwn. Fodd bynnag, byddai’r gymhareb yn dal i fod o fewn 50% o gyfartaledd y sir o 1 cynghorydd i 1,327 o etholwyr (cofrestr etholiadol 1998). Felly ystyriwn y dylai’r trefniant lle mae 1 cynghorydd yn cynrychioli rhanbarth etholiadol Teifi barhau.

9.5 Mae gan Gyngor Cymuned Llandudoch 10 o cynghorydd cymuned sy’n cynrychioli 774 o etholwyr. Bydd gan Gymuned newydd Llandudoch tua 1,080 o etholwyr. Cynigiwn y dylid cynyddu nifer y cynghorwyr ar Gyngor Cymuned Llandudoch o 10 i 12 gan ein bod yn ystyried bod hon yn lefel briodol o gynrychiolaeth.

9.6 Cynrychiolir Ward Teifi Cyngor Tref Aberteifi gan 5 cynghorydd sy’n cynrychioli 1,198 o etholwyr. O dan ein cynigion bydd nifer yr etholwyr yn Ward Teifi yn gostwng i tua 890. Cynigiwn felly y dylid gostwng nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli Ward Teifi o 5 i 4, gan gadw lefel y gynrychiolaeth yn gyson â Wardiau Mwldan a Rhyd y Fuwch Cyngor Tref Aberteifi.

9.7 Cydnabyddwn mai’r ffin bresennol rhwng Sir Geredigion a Sir Benfro hefyd yw’r ffin rhwng Etholaethau Seneddol Ceredigion a Phreseli Sir Benfro. Fodd bynnag, nid yw argymell newidiadau i ffiniau Etholaethau Seneddol yn rhan o’n cylch gorchwyl. Caiff y ffiniau hyn eu newid drwy Offeryn Statudol yn dilyn arolwg gan y Comisiwn Ffiniau (Seneddol) i Gymru.

10. CYDNABYDDIAETHAU

10.1 Hoffem fynegi ein diolch i’r prif gynghorau, i’r cynghorau cymuned ac i unigolion am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob person a chorff a gyflwynodd sylwadau i ni.

11. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

11.1 Ar ôl cwblhau ein harolwg o ran o’r ffin rhwng Sir Geredigion a Sir Benfro yn ardal Cymuned Llandudoch a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

11.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny’n briodol, yw eu gweithredu gydag addasiadau neu hebddynt drwy Orchymyn neu roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o’r fath cyn cyfnod o chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

11.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach yn ymwneud â’r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau i:

Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol 2
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

YR ATHRO E SUNDERLAND OBE LL MA PhD LLD FIBiol (Cadeirydd)

E F L FITZHUGH OBE DL (Dirprwy Gadeirydd)

MRS S G SMITH LLB (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Rhagfyr 2001