AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG CEREDIGION A SIR BENFRO YN ARDAL CYMUNED LLANDUDOCH
ADRODDIAD A CHYNIGION
Atodiad 7
CRYNODEB O’R ADRODDIAD GAN RITA HALE A GOMISIYNWYD GAN Y COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
Cefndir
1. Deallwn fod y Comisiwn Ffiniau’n cynnal arolwg o ran o’r ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro, yn ardal cymuned Llandudoch.
2. Rydym wedi gweld:-
-
cynigion drafft y Comisiwn; a’r
-
ymatebion i’r cynigion hynny a gyflwynwyd gan Gyngor Cymunedol Llandudoch; Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro.
3. Gofynnwyd i ni adolygu’r ffeithiau a’r rhagdybiaethau yn y papur a gynhyrchwyd gan Gyngor Sir Ceredigion ar effeithiau ariannol tebygol y newid arfaethedig i’r ffin.
4. Disgrifir yr ymagwedd a fabwysiadwyd gennym yn fanwl yn y prif adroddiad.
Materion a Godwyd gan yr Astudiaeth
5. Codwyd cwestiynau ynghylch nifer y bobl sy’n byw yn ardal yr arolwg. Mae asesiad y Cyngor Sir o effaith debygol cynigion y Comisiwn Ffiniau yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod 400 o bobl yn byw yn yr ardal, ond dywedwyd wrthym ym mis Awst 2001 y gallai nifer y bobl sy’n byw yn yr ardal fod cyn lleied â 304. Nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod pa un o’r amcangyfrifon hyn yw’r un mwyaf cywir, ond mae’r rhagdybiaeth ynghylch nifer y bobl sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y newid arfaethedig i’r ffin yn debygol o gael effaith faterol ar ganlyniadau’r gwerthusiad ariannol o gynigion y Comisiwn. Yn unol â hyn, profwyd sensitifrwydd y dadansoddiadau i’r rhagdybiaeth a wnaed ynghylch nifer y bobl sy’n byw yn yr ardal. Ystyriwyd yr effaith debygol ar lefelau’r Dreth Gyngor yng Ngheredigion a Sir Benfro:
-
pe byddai 300 o bobl, neu tua 0.42% o boblogaeth Ceredigion, yn cael eu heffeithio gan y newid arfaethedig i’r ffin; neu
pe byddai 400 o bobl, neu tua 0.56% o boblogaeth Ceredigion, yn cael eu heffeithio gan y newid arfaethedig i’r ffin.
6. Codwyd cwestiynau hefyd ynghylch nifer yr eiddo domestig yn ardal yr arolwg – a’r broses o brisio’r eiddo hyn at ddibenion Treth Gyngor.
Ymddengys fod papurau’r Cyngor Sir yn awgrymu bod 129 eiddo domestig yn ardal yr arolwg gyda gwerth gros at ddibenion Treth Gyngor o 261 o rai cyfwerth â Band D. Mae hyn yn awgrymu bod gan bob eiddo yn ardal yr arolwg werth sydd ychydig yn uwch na 2 eiddo cyfwerth â Band D. Y Band Treth Gyngor uchaf yw Band H – ac mae gwerth eiddo Band H gyfwerth â 2 eiddo Band D. Felly ymddengys fod ffigurau’r Cyngor Sir yn awgrymu bod gan yr eiddo domestig yn ardal yr arolwg werth sydd y tu hwnt i ben uchaf yr ystod gwerth.
7. Nid oes gennym unrhyw ffordd o sefydlu faint o eiddo domestig sydd yn ardal yr arolwg – a sut y’u prisiwyd at ddibenion Treth Gyngor. Fodd bynnag, credwn y dylai fod yn bosibl i’r Cyngor Sir sefydlu’n union pa eiddo fyddai’n cael eu heffeithio gan y newid arfaethedig i’r ffin a sut y’u prisiwyd at ddibenion Treth Gyngor.
Materion Allweddol
8. Roeddem o’r farn bod y materion allweddol ar gyfer yr astudiaeth fel a ganlyn:
y gwahaniaeth, os o gwbl, rhwng y newidiadau yn SSA y cynghorau sir a’r newidiadau yn eu gwariant fyddai’n deillio o’r newid arfaethedig i’r ffin; ac
effaith unrhyw wahaniaeth ar lefel Treth Gyngor y ddau gyngor sir ar ôl y newid i’r ffin.
Newidiadau mewn Lefelau Gwario
9. Deallwn fod y Cyngor Sir wedi amcangyfrif y byddai ei wariant ei hun yn gostwng tua £30,000 pe byddai’r newid arfaethedig i’r ffin yn mynd yn ei flaen – h.y.
cynnal a chadw ffyrdd – gostyngiad o £10,000;
casglu sbwriel – gostyngiad o £10,000;a
gwasanaethau cymdeithasol ac amgylcheddol – gostyngiad o £10,000.
10. Ni allwn gadarnhau pa mor rhesymol yw ffigurau’r Cyngor Sir, ond rydym yn derbyn eu bod yn cynrychioli amcangyfrifon gorau’r Cyngor Sir o effeithiau’r newid arfaethedig i’r ffin o ran ei wariant ar ei wasanaethau ei hun. Fodd bynnag, credwn yn ogystal â’r arbedion ar ei wasanaethau ei hun y byddai’r Cyngor Sir hefyd yn talu llai o ardoll i Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru pe byddai’r newid arfaethedig i’r ffin yn mynd yn ei flaen. Amcangyfrifwn, ar sail y ffigurau ar gyfer 2001-02, y byddai taliadau ardoll y Cyngor Sir yn gostwng:
-
tua £11,500 pe byddai’r arolwg o’r ffin yn effeithio ar tua 300 o bobl – a byddai taliad ardoll Sir Benfro yn codi yn ôl yr un swm;
-
tua £15,300 pe byddai’r arolwg o’r ffin yn effeithio ar tua 400 o bobl – a byddai taliad ardoll Sir Benfro yn codi yn ôl yr un swm.
O ganlyniad, credwn y gallai Ceredigion arbed ychydig dros £30,000 pe byddai’r newid i’r ffin yn mynd yn ei flaen – a gallai Sir Benfro etifeddu ychydig dros £30,000 o wariant ar ôl y newid arfaethedig i’r ffin.
Newidiadau i’r SSA
11. Daethom i’r casgliad y byddai graddfa’r newid i SSA y Cyngor Sir yn sensitif i nifer y bobl sy’n byw yn ardal yr arolwg – a gallai SSA Ceredigion ostwng tua £150,000 os bydd tua 300 o bobl yn byw yn ardal yr arolwg, neu tua £200,000 os bydd tua 400 o bobl yn byw yn ardal yr arolwg, y ffigwr a amcangyfrifwyd gan Gyngor Sir Ceredigion.
Y Gwahaniaeth rhwng y Newid mewn Gwariant a’r Newid mewn SSA
12. Daethom i’r casgliad y gallai’r gwahaniaeth rhwng y newid yng nghyllidebau’r Cyngor a’r newidiadau yn eu SSA o ganlyniad i’r newid i’r ffin fod yn gymharol eang – e.e:-
-
os bydd tua 300 o bobl yn byw yn yr ardal, gallai’r gwahaniaeth fod tua £109,000 – h.y. y gwahaniaeth rhwng newid SSA tua £150,000 a newid mewn cyllideb o tua £41,000; neu
-
os bydd tua 400 o bobl yn byw yn yr ardal, gallai’r gwahaniaeth fod tua £155,000 – h.y. y gwahaniaeth rhwng newid SSA o tua £200,000 a newid mewn cyllideb o tua £45,000.
Effaith Debygol y Newid i’r Ffin ar Lefelau Treth Gyngor
13. Profwyd dwy ymagwedd wahanol wrth gyfrifo effeithiau tebygol y newid arfaethedig i’r ffin ar lefelau Treth Gyngor yng Ngheredigion a Sir Benfro – h.y. yr ymagwedd a fabwysiadwyd gan Gyngor Sir Ceredigion ac ymagwedd wahanol wrth gyfrifo, sy’n dilyn y weithdrefn arferol ar gyfer cyfrifo Grant Cymorth Refeniw awdurdodau lleol; ac yn defnyddio’r data a ddefnyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth ddosbarthu grantiau.
14. Credwn fod yr ymagwedd wahanol a brofwyd yn debygol o gynhyrchu asesiad mwy realistig o effeithiau tebygol y newid arfaethedig i’r ffin o ran dosbarthu’r Grant Cymorth Refeniw a’r incwm o’r Gronfa Trethi Annomestig Genedlaethol – ac felly effaith debygol y newid arfaethedig i’r ffin ar gyfer Talwyr Treth Gyngor yng Ngheredigion a Sir Benfro.
15. Mae angen i ni bwysleisio hynny gan na lwyddom i gael:-
-
data manwl ar gyfansoddiad SSAs ar gyfer 2001-02; ac
-
unrhyw ddata ar nodweddion y bobl sy’n byw yn ardal yr arolwg;
mai dim ond ffigurau dangosol yw’r rhai a gynhyrchwyd gennym. Fodd bynnag, credwn mai dyma’r amcangyfrifon gorau y gellid eu cynhyrchu o ystyried cyn lleied o ddata sydd ar gael.
16. Mae canlyniadau’r profion a wnaed gennym yn ein harwain at y casgliadau canlynol mewn perthynas â Cheredigion:-
-
byddai Treth Gyngor y Cyngor Sir yn debygol o godi pe byddai’r arolwg arfaethedig o’r ffin yn mynd yn ei flaen;
-
mae’n debyg y byddai cyfradd y cynnydd yn llai pe byddai tua 400 o bobl yn byw yn ardal yr arolwg na phe byddai llai – tua 300 o bobl – yn byw yn yr ardal; a
-
gallai’r cynnydd yn y Dreth Gyngor fod tua £5 fesul eiddo Band D pe byddai tua 300 o bobl yn byw yn yr ardal, ond dim ond ychydig yn fwy na £1 fesul eiddo Band D pe byddai tua 400 o bobl yn byw yn yr ardal.
17. Daethom i’r casgliad, mewn perthynas â Sir Benfro:-
-
y byddai Treth Gyngor y Cyngor Sir yn debygol o ostwng pe byddai’r arolwg i’r ffin yn mynd yn ei flaen;
-
y byddai’r gostyngiad yn y Dreth Gyngor yn debygol o fod yn uwch pe byddai 400 o bobl yn byw yn ardal yr arolwg na phe byddai 300 o bobl yn byw yn yr ardal; ac
-
y gallai’r gostyngiad fod tua £2 fesul eiddo Band D pe byddai tua 300 o bobl yn byw yn yr ardal, neu tua £3 fesul eiddo Band D pe byddai tua 400 o bobl yn byw yn yr ardal.
18. Ein hasesiad cyffredinol yw pe byddai’r arolwg o’r ffin yn mynd yn ei flaen, mae’n debyg y byddai’r gwahaniaeth rhwng y cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer Ceredigion a’r gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar gyfer Sir Benfro yn llai amlwg na’r hyn y mae’r ffigurau a nodwyd yn ymateb Ceredigion i gynigion y Comisiwn yn ei awgrymu.
19. Ni allwn roi sylwadau ar oblygiadau tebygol y newid arfaethedig i’r ffin ar gyfer Cyngor Tref Aberteifi oherwydd nad oes gennym unrhyw fodd o asesu a fyddai’r newid arfaethedig i’r ffin yn cael unrhyw effaith ar wariant Cyngor y Dref.
