AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG CEREDIGION A SIR BENFRO YN ARDAL CYMUNED LLANDUDOCH
ADRODDIAD A CHYNIGION
Atodiad 6
CYNGOR SIR PENFRO
SYLWADAU AR Y NODIADAU A WNAED GAN GYNGOR SIR CEREDIGION YN YMWNEUD AG EFFAITH ARIANNOL Y NEWID ARFAETHEDIG I’R FFIN
Nodir y sylwadau yn y nodyn technegol ar faterion fel Sail y Dreth Gyngor, Grant Cymorth Refeniw, Asesiad Gwario Safonol a gwariant y Cyngor. Fodd bynnag, fe nodwch o’r dadansoddiad canlynol ei bod yn amlwg y bu rhywfaint o ddryswch ynghylch nifer o bwyntiau o egwyddor, sydd o’u hystyried ar wahân, yn bwrw amheuon ar y casgliadau y daethpwyd iddynt yn y papur a’u heffaith gyffredinol ar lefelau treth gyngor.
Gwneir yr arsylwadau canlynol:-
1. Sail y Dreth Gyngor (gweler para. 1.2 nodyn Cyngor Sir Ceredigion)
Os oedd Cyngor Sir Ceredigion yn gwario ar yr S.S.A., yna byddai trosglwyddo Sail y Dreth Gyngor rhwng y ddau awdurdod yn niwtral. Hynny yw, byddai’r golled yn sail y dreth gan Gyngor Sir Ceredigion yn cael ei digolledu gan gynnydd cyfatebol yn y grant cymorth refeniw. Gan bod y Cyngor hwnnw’n gwario tua £1.5m yn fwy na’r S.S.A., yna byddai’r effaith ar lefelau treth gyngor yn fach iawn, tua £0.60 ar gyfer eiddo Band ‘D’. Ni fyddai mater sail y dreth gyngor ar ei ben ei hun yn cael unrhyw effaith sylweddol ar y naill Gyngor na’r llall, ac yn bendant ni fyddai’r effaith yn £6.32 (Band D) fel yr awgrymwyd yn y nodyn technegol.
2. Grant Cymorth Refeniw (R.S.G.) ac Asesiad Gwario Safonol (S.S.A.) (Gweler para 1.3 nodyn Cyngor Sir Ceredigion)
Mae cymhlethdodau setliad refeniw llywodraeth leol yn ymddangos yn amlwg yn y sylwadau amrywiol a’r nodiadau technegol a ddarparwyd gan Gyngor Sir Ceredigion. Fodd bynnag, byddai’r broses o symud S.S.A., R.S.G., Trethi Annomestig a sail y Dreth Gyngor rhwng y ddau awdurdod yn niwtral o fewn y Setliad Refeniw Llywodraeth Leol. Yn seiliedig ar y data a ddefnyddiwyd gan Geredigion h.y. S.S.A. (£200,000), Trethi Annomestig (£52,000) a Sail y Dreth Gyngor (261) yn trosglwyddo rhwng Ceredigion a Sir Benfro, yna byddai hyn yn arwain at newidiadau o ran grant cymorth refeniw rhwng y ddau Gyngor a fyddai’n sicrhau bod y dreth gyngor ar gyfer gwario ar S.S.A. yn aros yn union yr un peth. Felly, mae’n gamarweiniol awgrymu y byddai unrhyw newid i’r ffin, yn rhinwedd y newidiadau yn y Setliad Refeniw Llywodraeth Leol, yn peri unrhyw gynnydd o gwbl yn lefelau treth gyngor.
3. Effaith ar Wariant Refeniw
Y mater gwirioneddol a amlygwyd yn nodyn technegol Ceredigion yw’r effaith y byddai’r ffin arfaethedig yn ei chael ar wariant. Ymddengys fod y cynnig a gyflwynwyd yn awgrymu y byddai S.S.A. (yr angen i wario) yn newid o £200,000, ond y byddai’n cael ei wrthbwyso gan ostyngiadau gwariant o £30,000 yn unig. Credaf fod y casgliad hwn, (er ei fod yn gymwys yn ôl Ceredigion), yn afrealistig. Amcangyfrifwn y bydd yr effaith ar ardollau yn unig tua £20,000 y flwyddyn (h.y. awdurdod tân/draenio tir). O ran gwasanaethau rheng flaen eraill, byddai cost wirioneddol darparu gwasanaethau i blant ac oedolion, gwasanaethau priffyrdd a threfol, trafnidiaeth addysg ac ati, yn agos at y ffigwr o £200,000 a amlygwyd o fewn cyfrifiad yr S.S.A.
Mae’r rhagdybiaethau a ddefnyddiwyd yn y nodyn technegol yn ddiffygiol ac nid ydynt yn cynrychioli unrhyw asesiad realistig o ofynion gwariant presennol Ceredigion ar gyfer yr ardal a nodwyd gan y newid arfaethedig i’r ffin ac angen Sir Benfro i ddisodli gwasanaethau o’r fath am gost ariannol realistig.
Nid ydym yn derbyn y casgliadau y daethpwyd iddynt gan Gyngor Sir Ceredigion ar y mater hwn, yn enwedig gan eu bod yn llawn diffygion difrifol o ran rhagdybiaethau data sylfaenol. Pe gostyngai’r Cyngor hwnnw ei wariant yn ôl yr un swm â’r gostyngiad S.S.A. a amcangyfrifwyd (£200,000), yna byddai lefelau Treth Gyngor yn newid tua £0.60, (h.y. effaith y newid yn sail y dreth ar wariant gormodol dros yr S.S.A.).
MARK LEWIS
Cyfarwyddwr Cyllid
