AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG CEREDIGION A SIR BENFRO YN ARDAL CYMUNED LLANDUDOCH
ADRODDIAD A CHYNIGION
Atodiad 5
YMATEB CYNGOR SIR CEREDIGION I GAIS Y COMISIWN AM WYBODAETH
1. Effaith Cynigion Drafft y Comisiwn ar Dreth Gyngor a chyllideb Ceredigion.
1.1 Cyflwyniad.
Mae’n anodd cyfrifo union effaith y cynigion. Yn ogystal â chymhlethdodau fformiwla dosbarthu Grant Cymorth Refeniw (RSG) y Cynulliad Cenedlaethol, nid oes unrhyw wybodaeth fanwl ar ddata ariannol ac an-ariannol, sy’n ymwneud â’r ardal yr effeithir arni ar gael. Gwnaed ymdrech, mewn ymgynghoriad â swyddogion y Cynulliad, i wneud amcangyfrif o effaith y cynigion a dyma yw sail yr ymateb isod.
1.2 Sail y Dreth Gyngor.
O ganlyniad i’r cynigion byddai sail y Dreth Gyngor yn gostwng i tua 261 (cyfwerth â Band Gros D) yng Ngheredigion a chynnydd cyfatebol yn Sir Benfro. Fodd bynnag, caiff effaith gostyngiad y Sail Treth hwn ar Gyngor Sir Ceredigion, fodd bynnag, ei ddigolledu’n rhannol yng nghyfrifiad yr RSG. Amcangyfrifir mai cynnydd o £6.32 fyddai’r effaith ar Dreth Gyngor Ceredigion o ganlyniad i ostyngiad yn Sail y Dreth Gyngor.
1.3 RSG a’r Asesiad Gwario Safonol.
Mae’r dull o ddosbarthu RSG i Gynghorau yn un o swyddogaethau Asesiad Gwario Safonol (SSA) sy’n seiliedig ar fformiwla. Mae’r fformiwla yn ffordd wrthrychol o adlewyrchu anghenion gwario cymharol Cynghorau i ddarparu lefel safonol o wasanaethau refeniw. Mae’n ystyried ystod eang o nodweddion demograffig, ffisegol a chymdeithasol pob ardal. Caiff y rhain eu dal drwy amrywiaeth o ddangosyddion, yn gyfanswm o tua 50 o ddangosyddion. Atodir dyfyniad o Adroddiad Setliad RSG ar gyfer 2000/2001 i amlygu’r ystod o ddangosyddion. Yr SSA ar gyfer Ceredigion ar gyfer 2001/2002 yw £84,279,644 sy’n gyfwerth â £1,175 fesul person yn y boblogaeth.
Yn anffodus, ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl nodi’r holl ddata ariannol ac anariannol sydd ei angen i ailgyfrifo’r fformiwla’n gyfan gwbl. Fodd bynnag, mae’n bosibl llunio amcangyfrif o’r newid yn yr SSA o ganlyniad i’r cynigion. Byddai Ceredigion yn profi gostyngiad yn y ffactorau niferus hynny sy’n dylanwadu ar y fformiwla. Y prif ffactor sy’n penderfynu ar yr SSA yw’r boblogaeth a byddai tua 400 yn trosglwyddo i Sir Benfro. Yn ogystal, bu’n bosibl sefydlu y byddai tua 11.7 cilomedr o’r priffyrdd yn cael eu trosglwyddo i Sir Benfro. Gan nad oes unrhyw ddata diffiniol arall, mae ystadegwyr y Cynulliad wedi ailgyfrifo’r fformiwla gan ystyried trosglwyddiad y boblogaeth a’r priffyrdd yn unig ac mae hyn yn cynhyrchu newid SSA sy’n gyfwerth â £132,737 sy’n cynrychioli £332 fesul person o’r boblogaeth a drosglwyddwyd. Wrth gwrs bydd effaith lawn hyn yn llawer mwy a bydd rhywle rhwng £332 a £1175 fesul person o’r boblogaeth.
Mae addysg yn ymddangos fel elfen sylweddol o’r fformiwla, ond nid yw’r cynigion yn cynnwys trosglwyddo unrhyw ysgol a chaiff nifer y disgyblion eu cofnodi yn lleoliad yr addysg. Yn ogystal, ni fydd y cynigion yn effeithio ar gostau ariannu cyfalaf y ddau Cyngor. Felly mae’n bosibl dileu’r ddwy elfen hon o’r SSA i lunio ffigwr o £37,365,644 sy’n gyfwerth â £521.13 fesul person o’r boblogaeth. Felly mae’r effaith a amcangyfrifwyd ar yr SSA yn seiliedig ar ffigwr a dalgrynnwyd o £500 fesul person o’r boblogaeth at ddibenion darluniol. Dyma hefyd yw barn ystadegwyr y Cynulliad. Amcangyfrifir bod y gostyngiad SSA yng Ngheredigion yn £200,000 (£500 x 400 o’r boblogaeth) gyda chynnydd cyfatebol yn SSA Sir Benfro o £200,000. Effaith gyffredinol trosglwyddo SSA ar yr RSG fydd cynnydd mewn Treth Gyngor yng Ngheredigion o £1.99.
1.4 Effaith ar Wariant Refeniw.
Unwaith eto mae’n hynod anodd bod yn fanwl gywir ynghylch y gostyngiad mewn gwariant gan Geredigion yn yr ardal yr effeithir arni. Byddai angen manylion a chostau’r holl wasanaethau i gleientiaid (e.e. cleientiaid gwasanaethau cymdeithasol, rhai sy’n gwneud cais am fudd-dal, rhai sy’n gwneud cais am gynllunio, safonau masnachu, cleientiaid iechyd amgylcheddol, ac ati) a chostau ymylol darparu gwasanaethau (e.e. cynnal a chadw ffyrdd, casglu a gwaredu sbwriel, trafnidiaeth ysgol, llyfrgelloedd, ac ati) i ddadansoddi’r effaith lawn ar wariant refeniw. Mae’r ymatebion gan y rhan fwyaf o Adrannau’r Cyngor yn nodi y byddai’r arbedion neu’r gostyngiadau yn gymharol fach. Nid yw’n debygol y bydd rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaethau yn yr ardal yr effeithir arni yn arwain at ostyngiad yn nifer y staff, neu gael gwared ar gerbydau ac ati oherwydd y caiff y rhan fwyaf o’r gwasanaethau eu darparu ar yr ymylon o fewn yr ardal y bwriedir ei throsglwyddo. I’r gwrthwyneb, byddai’r prif wasanaethau a ddarperir i drigolion Llandudoch yn parhau i gael eu darparu yn y rhannau sy’n weddill o Geredigion ac yn arbennig yn ardal tref Aberteifi. Amcangyfrif o gostau ymylol presennol darparu gwasanaethau yn yr ardal i’w throsglwyddo yw £25,000 i £40,000 ac at ddibenion dangos yr effaith ar lefelau’r Treth Gyngor defnyddir ffigwr o £30,000. Bydd y gostyngiad yn y Dreth Gyngor yng Ngheredigion o ganlyniad i’r arbedion a amcangyfrifwyd yn £1.13.
1.5 Crynodeb o’r effaith a amcangyfrifwyd ar Dreth Gyngor yng Ngheredigion.
Amcangyfrifir y bydd y Cynigion yn cynyddu lefel y Dreth Gyngor yng Ngheredigion tua £7.18 fesul cartref ym Mand D drwy’r rhannau sy’n weddill o Geredigion fel a ganlyn:
| Elfen |
Newid mewn Treth Gyngor |
|
Gostyngiad yn Sail y Dreth Gyngor |
Cynnydd o £6.32 |
|
Gostyngiad yn yr RSG |
Cynnydd o £1.99 |
|
Is-gyfanswm |
£8.31 |
|
Llai arbedion mewn gwariant |
Gostyngiad o £1.13 |
|
Effaith net ar Dreth Gyngor yng Ngheredigion |
Cynnydd o £7.18 |
Nodir manylion y cyfrifiadau yn y Daenlen atodedig.
1.6 Crynodeb o’r effaith a amcangyfrifwyd ar Dreth Gyngor yn Sir Benfro.
Cynhaliwyd ymarfer tebyg ar gyfer Sir Benfro gan ddefnyddio’r un ffigurau. Fodd bynnag, nid yw’r effaith ar lefelau Treth Gyngor yn Sir Benfro mor fawr gan fod Sail y Dreth Gyngor yn gyffredinol yn llawer uwch. Mae’r gostyngiad net a amcangyfrifwyd yn y Dreth Gyngor yn Sir Benfro yn £3.39 a gellir gweld bod effaith anghymesur ar dalwyr Treth Gyngor y ddau Gyngor. Rhaid gosod hyn yn erbyn y ffaith y bydd Cyngor Ceredigion yn parhau i ddarparu’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau i boblogaeth yr ardal a drosglwyddir.
1.7 Cymharu Treth Gyngor yng Ngheredigion a Sir Benfro.
Mae’r gwahaniaeth rhwng lefelau Treth Gyngor y ddau Gyngor yn amlwg. Mae hyn yn bennaf oherwydd perthynas cyllideb y Cyngor i’r SSA. Yn achos Ceredigion mae’r gylllideb yn fwy na’r SSA sy’n seiliedig ar y fformiwla, tra bod cyllideb Sir Benfro’n is na’r SSA. Mae effaith gerio gwario mwy na’r SSA yn creu’r gwahaniaeth. Mae’r cynigion i drosglwyddo rhannau o Geredigion yn dwysáu’r sefyllfaoedd cymharol ac yn ychwanegu at y problemau o ariannu gwasanaethau yng Ngheredigion. Nodir crynodeb isod i amlygu’r pwynt.
|
Sir Geredigion |
Sir Benfro |
Gwahaniaeth |
|
|
Treth Gyngor Bresennol |
£648.98 |
£499.00 |
£149.98 |
|
Treth Gyngor Arfaethedig |
£656.16 |
£495.61 |
£160.55 |
|
Newid |
Cynnydd o £7.18 |
Gostyngiad o £3.39 |
Cynnydd o £10.57 |
2. Effaith a Amcangyfrifwyd ar Cyfran Treth a Threth Gyngor Cyngor Tref Aberteifi
2.1 Cyflwyniad
Mae’n weddol rhwydd cyfrifo’r effaith ar Gyngor Tref Aberteifi. Nid yw materion yr RSG a’r SSA yn berthnasol.
2.2 Effaith ar Sail y Dreth Gyngor
Mae’r effaith yn debyg i ostyngiad y Sail Dreth yng Ngheredigion, ond mae’r effaith yn llawer mwy dramatig. Mae’r gostyngiad net a amcangyfrifir yn sail y Dreth Gyngor yn £251 sy’n cynrychioli gostyngiad o 15%. Gan ragdybio y bydd Cyngor y Dref yn cadw eu lefel gwariant a Cyfran Treth ar £62,805, bydd eu Treth Gyngor yn cynyddu £6 eto gan arwain at gynnydd o tua 15%.
Gan fynegi hyn yn wahanol, os bydd Cyngor y Dref yn cynnal lefel bresennol y Dreth Gyngor, bydd eu hincwm Cyfran Treth yn gostwng £9,229. Byddai hyn yn cael effaith niweidiol ddifrifol ar eu gallu i ddarparu’r un lefel o wasanaethau y maent yn dadlau y caiff ei darparu i bobl Llandudoch.
Nodir manylion y cyfrifiadau yn y Daenlen atodedig.
Cyfarwyddwr Cyllid
25ain Ebrill 2001
Arolwg Ffin Arfaethedig Llandudoch
|
Cyfrifiad o’r effaith a amcangyfrifwyd ar Dreth Gyngor (ar sail 2001/02) |
|||||||||||||
|
CEREDIGION |
|||||||||||||
|
Cyfredol |
Arfaethedig |
Newid rhwng y Presennol a’r Arfaethedig |
|||||||||||
|
Presennol |
Gwariant wedi’i ostwng £30k |
Gwariant wedi’i ostwng £30k ac SSA wedi’i ostwng £200k |
Gwariant wedi’i ostwng £30k ac SSA wedi’i ostwng £200k a gostyngiad yn sail y dreth |
||||||||||
|
Gwariant ar SSA |
84,279,644 |
84,249,644 |
84,079,644 |
84,079,644 |
- 200,000 |
||||||||
|
Grant Cymorth Refeniw a Ariannwyd |
52,967,802 |
52,967,802 |
52,915,802 |
52,915,802 |
51,662 |
||||||||
|
Cyfran y Gyfradd Annomestig |
15,362,425 |
15,362,425 |
15,362,425 |
15,362,425 |
- |
||||||||
|
Talwyr Treth Gyngor ar SSA |
15,362,425 |
15,362,425 |
15,362,425 |
15,362,425 |
- 148,338 |
||||||||
Treth Gyngor ar SSA |
590.99 |
590.99 |
590.99 |
590.99 |
- |
||||||||
|
|
|||||||||||||
|
Gwariant yn Uwch na’r SSA (Cyllideb (2001/02 Net Budget = Net 2001/02 = £85,787,120) |
1,507,476 |
1,507,476 |
1,677,476 |
1,677,476 |
170,000 |
||||||||
|
Treth Gyngor ar gyfer Symiau sy’n Uwch a’r SSA |
£ 57.99 |
£ 56.84 |
£ 64.53 |
£ 65.16 |
7.17 |
||||||||
|
Sail Treth |
25,994 |
25,994 |
25,994 |
25,743 |
251 |
||||||||
|
CYFANSWM Y DRETH GYNGOR |
£ 648.98 |
£ 647.83 |
£ 655.52 |
£ 656.16 |
7.17 |
||||||||
|
SIR BENFRO |
|||||||||||||||
|
Cyfredol |
Arfaethedig |
Newid rhwng y Presennol a’r Arfaethedig |
|||||||||||||
|
Presennol |
Gwariant wedi’i gynyddu £30k |
Gwariant wedi’i ostwng £30k ac SSA wedi’i gynyddu £200k |
Gwariant wedi’i ostwng £30k ac SSA wedi’i gynyddu £200k a gostyngiad yn sail y dreth |
||||||||||||
|
Gwariant ar SSA |
136,909,241 |
136,909,241 |
137,109,241 |
137,109,241 |
200,000 |
||||||||||
|
Grant Cymorth Refeniw a Ariannwyd |
87,140,956 |
87,140,956 |
87,140,956 |
87,192,617 |
51,662 |
||||||||||
|
Cyfran y Gyfradd Annomestig |
24,251,110 |
24,251,110 |
24,251,110 |
24,251,110 |
- |
||||||||||
|
Talwyr Treth Gyngor ar SSA |
25,517,175 |
25,517,175 |
25,517,175 |
25,665,514 |
148,338 |
||||||||||
|
Treth Gyngor ar SSA |
590.99 |
590.99 |
590.99 |
590.99 |
0 |
||||||||||
|
Gwariant yn is na’r SSA |
- 3,971,794 |
- 3,941,794 |
- 4,141,794 |
- 4,141,794 |
170,000 |
||||||||||
|
Treth Gyngor yn is na’r SSA |
-£ 91.99 |
-£ 91.29 |
-£ 95.93 |
-£ 95.37 |
3.38 |
||||||||||
|
Sail Treth |
43,177 |
43,177 |
43,177 |
43,428 |
251 |
||||||||||
|
CYFANSWM Y DRETH GYNGOR |
£ 499.00 |
£ 499.70 |
£ 495.06 |
£495.62 |
- 3.38 |
||||||||||
|
Gwahaniaeth mewn Treth Gyngor |
150 |
161 |
11 |
||||||||||||
|
Rhagdybiaethau |
Newid Asesiad Gwario Safonol |
£200k |
|||||||||||||
|
Newid Gwariant |
£30k |
||||||||||||||
|
Newid Sail y Dreth |
Gros |
261 |
|||||||||||||
|
Net |
251 |
||||||||||||||
|
Newid Trethi Annomestig wedi’i anwybyddu at ddiben cyfrifo |
|||||||||||||||
|
CYNGOR TREF ABERTEIFI |
|||||
|
Effaith a amcangyfrifwyd ar lefel y Dreth Gyngor |
|||||
|
Presennol |
|||||
|
Cyfradd Treth |
£62,805 |
||||
|
Sail y Dreth |
1,699 |
||||
|
Treth Gyngor |
£37 |
||||
|
Arfaethedig |
|||||
|
Cyfradd Treth |
£62,805 |
||||
|
Sail y Dreth |
1,448 |
||||
|
Treth Gyngor |
£43 |
||||
|
Gwahaniaeth |
£6 |
||||
