AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG CEREDIGION A SIR BENFRO YN ARDAL CYMUNED LLANDUDOCH
ADRODDIAD A CHYNIGION
Atodiad 4
YMATEB CYNGOR CYMUNED LLANDUDOCH
i’r Cynigion Drafft a argymhellwyd yn adroddiad y
COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU
21ain Ionawr 2001
Cyflwyniad
Dymuna aelodau Cyngor Cymuned Llandudoch ddatgan eu cefnogaeth unfrydol ar gyfer argymhelliad arfaethedig y Comisiwn Ffiniau rhif cyfeirnod: 4.1 ‘Dylid adlinio’r ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Cymuned Llandudoch fel y dangosir mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad 6 i gynnwys yr ardaloedd wedi’u marcio fel Ardal A ac Ardal B o fewn Sir Benfro’. Hoffent ddatgan eu diolch i’r Comisiwn am eu hystyriaethau, a arweiniodd at gyflwyno adroddiad hollol fanwl a chynhwysfawr.
Mae’r aelodau’n teimlo bod eu Cyngor wedi gweithredu er budd poblogaeth Llandudoch yn unig a bod yr adroddiad anffurfiol a gyflwynwyd ganddynt yn deg ac yn adlewyrchu dymuniadau mwyafrif ac o ran hynny eu bod yn teimlo bod dyletswydd arnynt i ddatgan pryderon dros bwyntiau penodol y maent yn teimlo sydd naill ai’n annheg, yn anghywir neu’n gamarweiniol a wnaed gan bartïon eraill â diddordeb ac a gaiff eu cynnwys yn yr Adroddiad ar y Cynigion Drafft. Felly mae’r Cyngor wedi penderfynu rhoi ymateb manylach nag a ragwelwyd yn flaenorol.
Barn y cyhoedd
O ganlyniad i awgrymiadau’r Comisiwn Ffiniau i fesur a darparu tystiolaeth o farn ardaloedd Ceredigion a Sir Benfro o’r pentref, ystyriodd Cyngor Cymuned Llandudoch ffyrdd o gasglu consensws. Gan ei fod eisoes wedi derbyn deiseb gan Ward Ceredigion, teimlwyd na fyddai unrhyw gynrychioliadau gan grwpiau gwahanol o bentrefwyr yn cael eu hystyried fel barn y mwyafrif. Felly gofynnwyd i’r cyhoedd ysgrifennu at y Comisiwn Ffiniau yn nodi eu dymuniadau. Er mwyn helpu aelodau mwy eiddil o’r gymdeithas, dosbarthwyd ymateb safonol gan gynghorwyr (heb godi unrhyw gost ar y trethdalwr). Byddai hyn hefyd yn rhoi cyfle i’r bobl nad oeddent yn cytuno â’r syniad o uno i ddiwygio’r ffurflen, drwy ddileu cefnogi a nodi nid wyf yn cefnogi. Ymddengys o’r cynrychioliadau a dderbyniwyd fod llawer o bobl wedi ysgrifennu at y Comisiwn yn nodi rhesymau amrywiol iawn o blaid uno o dan Sir Benfro ac mai nid y gwahaniaeth mewn trethi y cyfeiriwyd ato yn adran 11 adroddiad Cyngor Tref Aberteifi oedd y prif reswm.
Nodwyd gan ein Cyngor bod sawl erthygl a ymddangosodd yn y wasg leol yn cynnwys anghywirdebau fel honiad y Cynghorydd Llwyd Edwards bod Llandudoch wedi cynnwys poblogaeth Bridgend yn argymhellion ei adroddiad. Rydym wedi amgáu datganiadau i’r wasg yn ymwneud â rhaniad y ffin a gymerwyd o 1998 ymlaen i ddangos pwy yn union sy’n cynyddu propaganda i’r eithaf.
Cyngor Sir Ceredigion
Mae Cyngor Ceredigion, ym mhwyntiau 2 a 3 o’u hadroddiad, yn nodi bod pob prif wasanaeth wedi’i leoli o fewn Aberteifi ac yn cael ei ddefnyddio gan drigolion Llandudoch. Dylid nodi bod gan Aberteifi ddalgylch o tua 30,000 o bobl (darparwyd y wybodaeth gan Fenter Aberteifi) sy’n defnyddio cyfleusterau’r dref, yn cynnwys pentrefi eraill yn Sir Benfro fel Cilgerran. Mae’r Cyngor Cymuned yn holi pam y dewiswyd Llandudoch yn benodol a pham bod ei ddefnydd o wasanaethau cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio fel dadl dros gadw rhan o’r pentref yng Ngheredigion neu drosglwyddo ochr Sir Benfro i Geredigion. Hoffai’r Cyngor ychwanegu rhagor o wybodaeth mewn perthynas â phedwar o’r gwasanaethau a restrwyd gan Geredigion:
-
Gorsaf Heddlu Aberteifi
Yn anffodus mae hon ar gau ar ddydd Sul ac ar ôl 6pm yn ystod yr wythnos pan gaiff galwadau eu cyfeirio i Gaerfyrddin. Hysbyswyd Llandudoch y bwriedir lleoli gorsaf heddlu yng Nghrymych i wasanaethu Gogledd Sir Benfro.
-
Pryd ar Glud
Mae trefniadau gwahanol yn bodoli bellach oherwydd ymdrechion Cyngor Cymuned Llandudoch. Sefydlwyd cynllun Pryd ar Glud yn ddiweddar pan hysbyswyd Cyngor Cymuned Llandudoch nad oedd ochr Sir Benfro’r pentref yn cael ei gwasanaethu a bod rhestr aros ar gyfer ochr Ceredigion. Mae’r cynllun bellach yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Penfro ac fe’i sefydlwyd ym mis Hydref 2000. Caiff prydau eu coginio yn Llandudoch a’u dosbarthu i drigolion rhannau Ceredigion a Sir Benfro’r pentref. Arweiniodd trafodaethau gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion a’r WRVS at gytundeb i leddfu adnoddau prin yr Hafod, Aberteifi (y cyflenwr blaenorol) drwy drefnu i Ysgol Llandudoch gyflenwi prydau ar gyfer clwb ciniawa Llandudoch. Mae’r taliad yn gymesur.
-
Meysydd parcio’r dref
Mae taliadau meysydd parcio Aberteifi’n uchel (sy’n cyfrannu’n helaeth at refeniw Ceredigion) a nodwyd hyn sawl gwaith gan Gyngor Tref Aberteifi a’r Siambr Fasnach fel un o’r prif resymau dros ddirywiad y Dref. Mae maes parcio Llandudoch am ddim i bawb. Cafodd ei wella’n ddiweddar a chaiff cyfleusterau toiledau cyhoeddus newydd eu hadeiladu eleni.
-
Ceir Ceredigion (Country Cars)
Nid oedd y Cyngor Cymuned yn ymwybodol y gallai trigolion Sir Benfro ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ond wedi cael gwybod hynny bydd yn falch o dynnu sylw ein trigolion at hyn, y bu llawer ohonynt yn dibynnu cyn hyn ar wasanaeth Ceir Penfro.
Mae Ceredigion hefyd yn argymell y caiff dymuniadau’r holl drigolion yr effeithir arnynt gan yr arolwg eu hystyried (yn cynnwys Tref Aberteifi) rhif cyfeirnod 3.1. Ers hynny mae Maer y Dref, y Cynghorydd Trevor Griffiths, wedi amlinellu cynlluniau i ddosbarthu holiadur yn ymwneud â’r arolwg o’r ffin i’r etholwyr lleol fel y nodwyd yn y Tivy-Side Advertiser ar 1af Tachwedd 2000. Gan mai 3,463 yw poblogaeth Aberteifi byddai Cyngor Cymuned Llandudoch yn amau dilysrwydd unrhyw ymarfer sy’n golygu ymgynghori â’r Dref gyfan ynghylch penderfyniadau sy’n ymwneud ag unrhyw drefniadau ar gyfer 307 o drigolion o Landudoch yn y dyfodol.
Cyngor Tref Aberteifi
Roedd adroddiad Cyngor Aberteifi, rhif cyfeirnod 5, yn cynnwys rhestr hir o wasanaethau cymunedol a chasgliad y byddai unrhyw golled yn deillio o drethdalwyr Llandudoch yn golygu y deuai’r rhan fwyaf ohonynt i ben. Roedd hefyd yn awgrymu bod arian gan Sir Benfro naill ai ddim yn bodoli, neu’n anghymesur. Fodd bynnag mae ffigurau a ddarparwyd gan Gyngor Sir Penfro’n datgelu bod y rhan fwyaf o’r wybodaeth hon yn anghywir. Rhestrir y data wedi’i gywiro mewn llythrennau italig isod:
-
Ysbyty – ni chaiff ei ariannu gan awdurdodau lleol.
-
Ambiwlans – ariennir yn fewnol.
-
Meddygfeydd – ni chânt eu hariannu gan awdurdodau lleol.
-
Ysgol Uwchradd – cydweithrediad trawsffiniol gyda Chyngor Sir Penfro yn ariannu trafnidiaeth i Landudoch.
-
Canolfan Cynghori - £7,060 ar gyfer y flwyddyn 2000/2001. Ariannwyd gan Gyngor Sir Penfro ar sail defnydd gan drigolion Llandudoch. Mae’r Cyngor Cymuned wedi cyfrannu pan ofynnwyd iddynt.
-
Pryd ar Glud WRVS – Arian gan Sir Benfro.
-
Llyfrgell – er na wneir unrhyw gyfraniad gan Sir Benfro mae’n werth nodi eu bod yn ariannu’r llyfrgell symudol sy’n gwasanaethu trigolion o ardaloedd Ceredigion a Sir Benfro ym mhentref Llandudoch.
-
Gofal nyrsio i’r henoed – trefniadau cytbwys.
-
Ardal 43 – hyd yma nid ofynnwyd i Sir Benfro gyfrannu unrhyw arian. (cadarnhawyd gan ymholiadau a wnaed i ymddiriedolwr ac aelod o staff). Fodd bynnag mae’r Cyngor Cymuned wedi cyfrannu pan ofynnwyd iddynt
-
Gorsaf dân – Canolbarth a Gorllewin Cymru, arian rhanbarthol, y ddwy sir.
-
Jigsaw – ddim yn ymwybodol o unrhyw geisiadau am arian a wnaed i Gyngor Sir Penfro.
-
Gwaith Trin Carthion – mae eiddo sydd wedi’u cysylltu â charthffosydd cyhoeddus yn talu treth garthffosiaeth i Hyder ar gyfer casglu a thrin.
-
Gwasanaeth cymunedol – Gofalwyr cymorth yn y cartref yn cael eu penodi gan Gyngor Sir Penfro.
Wedi’i gynnwys yn asesiad adroddiad y Comisiwn Ffiniau, rhif cyfeirnod 3.9 mae’r datganiad a wnaed gan y Comisiwn, “y byddai’r gyfran dreth y byddai Cyngor Tref Aberteifi yn ei cholli yn cael ei gwrthbwyso, yn rhannol o leiaf, gan arbedion a wneir oherwydd ni fyddai angen darparu gwasanaethau i ardal sydd wedi’i gwahanu o brif ran y dref.” Mae hyn yn arbennig o wir gan fod angen llawer o welliannau o fewn ardal Ceredigion o Landudoch, yn cynnwys gwella’r goleuadau stryd ar hyd Cwm Degwel. Derbyniwyd sawl cwyn am hyn ac fe’u cyfeiriwyd at Gyngor Aberteifi. O fewn y deunaw mis diwethaf mae ein cynghorwyr wedi derbyn cynrychioliadau gan drigolion Ceredigion yn ymwnued â phryderon fel argaeledd gwasanaethau cymdeithasol (anfonwyd llythyr at Gyngor y Dref), diffyg arwyddion ffyrdd, biniau sbwriel y cyngor, llinellau melyn dwbl a chyflwyno prisiau tacsi newydd Ceredigion. Mae’r clerc wedi anfon copïau o lythyrau ac ati at yr awdurdodau perthnasol pan fo hynny’n bosibl, ar adegau eraill cynghorwyd y trigolion i gysylltu naill ai â Chyngor Aberteifi neu Geredigion.
Gweithgaredd Trawsffiniol
Sir Benfro, Poppit Sands, wedi ennill Statws Baner Las yn bennaf drwy ymdrechion TEEMI, un o is-bwyllgorau’r cyngor (a gadeiriwyd gyda llaw am 5 mlynedd gan un o Gynghorwyr Cymunedol Sir Benfro). Nid yw hyn yn gywir, gweithiodd Cyngor Cymuned Llandudoch a Grŵp Mynediad Sir Benfro’n ddiflino dros gyfnod hir i gwrdd â’r meini prawf perthnasol h.y. gwahardd cŵn a mynediad i’r anabl yn unol â’u cylch gorchwyl. Rhoddwyd cymorth pellach gan Barc Cenedlaethol Sir Benfro a TEEMI. Dylid nodi hefyd bod aelodau TEEMI, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o amrywiol sefydliadau fel Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, wedi pleidleisio’n ddiweddar i fod yn hunanlywodraethol, a ddylai ganiatáu mynediad haws i amrywiaeth o ffynonellau ariannu ar gyfer y dyfodol.
Tirlithriad Llandudoch
Mae Adran 12 adroddiad Aberteifi’n crybwyll trychineb anferth a ddigwyddodd yn Llandudoch yn 1994. Am 5 mlynedd darparodd Cyngor Sir Penfro swm mawr o gymorth ariannol ac ymarferol fel rhan o gynllun sefydlogi a draenio eang a gynhaliwyd ganddynt. Mae’r cynllun hwn yn gofyn am waith monitro a chynnal a chadw parhaus am gyfnod amhenodol. Mae’n hanfodol cael parhad arbenigedd a gwybodaeth. Mae’r ymgynghorwyr, Syr William Halcrow Cyf (a leolir yng Nghaerdydd), a’r contractwyr, Gwasanaethau Contract Sir Benfro (Abergwaun), yn parhau i gysylltu â pheirianwyr Cyngor Sir Penfro. Mae llawer o drigolion Llandudoch wedi nodi pryderon o ran a fyddai Ceredigion yn fodlon neu a allent fforddio i ariannu’r gwaith hanfodol hwn. Mae sicrwydd o ran diogelwch a chadernid y pentref yn hanfodol i gynnal hyder ac i ddiogelu’r economi lleol e.e. gwerth eiddo, twristiaeth a masnach.
Cynrychiolaeth Cynghorwyr
Mae Cyngor Cymuned Llandudoch yn falch nad oes sail i bryder Cyngor Aberteifi y gallai golli Cynghorydd Sir Ceredigion, rhif cyfeirnod 5.4 Trefniadau Dilynol y Comisiwn. Mae’r Cynghorwyr Cymunedol hefyd yn dymuno pwysleisio eu bod yn cefnogi’r gynrychiolaeth fwyaf posibl ar gyfer Aberteifi ar lefel y Sir.
Nododd Cynghorydd Sir Ceredigion a Thref Aberteifi Trevor T Griffiths, ar dudalen 4 o’r adroddiad, cyfeirnod 2.10 rhif 8, y byddai ‘cyfuniad o ddwy gymuned yn arbed adnoddau 7 o gynghorwyr cymunedol ac un clerc cymunedol ac y byddai hyn yn fwy effeithiol ac effeithlon.’ I’r gwrthwyneb mae Cyngor Cymuned Llandudoch yn teimlo, o ran baich gwaith cynyddol cynghorwyr, oherwydd ceisiadau am arian loteri ac Amcan 1 ac ati, y byddai lleihau unrhyw adnoddau gwirfoddol (yn cynnwys cynghorwyr) yn gostwng yn hytrach nag yn cynyddu effeithlonrwydd. Felly mae Cyngor Cymuned Llandudoch yn cefnogi cynnig y Comisiwn Ffiniau ‘y dylid cynyddu nifer y cynghorwyr ar Gyngor Cymunedol Llandudoch o 10 i 12,’ rhif cyfeirnod 5.5.
Cyngor Cymuned Llandudoch
Mae aelodau Cyngor Cymuned Llandudoch wedi pwysleisio, o fewn eu hadran o’r adroddiad, y rôl arweiniol y mae ei Gyngor a Chyngor Sir Penfro wedi’i chwarae wrth adfywio’r pentref cyfan. Mae llawer o bwyntiau eraill y mae angen eu disgrifio yn fwy llawn:
Llwybrau Llandudoch
Sefydlwyd Llwybrau Llandudoch yn wreiddiol fel un o is-bwyllgorau’r Cyngor Cymuned ym 1996. Er ei fod yn hunanlywodraethol bellach, fe’i cadeiriwyd ers y cychwyn gan y Cynghorydd Cymunedol Mr Iwan Dafis. Derbyniodd y sefydliad arian gan Fenter Preseli (Cyngor Sir Penfro) a rhoddion gan Gyngor Cymunedol Llandudoch. Ym 1998 enillodd y grŵp wobr glodfawr gan Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru, i gydnabod eu gwaith wrth agor a chynnal a chadw llwybrau troed drwy Landudoch. Gwahoddwyd AS Ceredigion Cynog Dafis i agor y prif lwybr troed, Mwtshwr, sydd wedi’i leoli yng Ngheredigion.
Hyd yma gwnaed gwelliannau i saith llwybr troed (yn cynnwys tri ar ochr Ceredigion o’r pentref) ac mae’r gwaith hwn sy’n ddymunol i’r amgylchedd a wnaed gan y pentrefwyr hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol i dwristiaeth o fewn yr ardal.
Cymdeithas Cadw’r San
Mae Cymdeithas Cadw’r San yn sefydliad wedi’i leoli yn Llandudoch gyda phwyllgor sy’n cynnwys Cynghorwyr Cymunedol Llandudoch, Cynghorydd Sir Penfro, pysgotwyr Treftadaeth a phobl leol. Mae’r grŵp hwn yn ceisio sicrhau parhad pysgota Seine a Chwrwgl ar Aber Teifi.
Cymryd rhan ym Mhrojectau’r Dref
Mae casgliad Aberteifi a wnaed yn yr adroddiad ffin ac mewn datganiadau yn y wasg, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, bod pobl Llandudoch yn defnyddio’r Dref yn hollol ddi-sail. Gellir dadlau i’r gwrthwyneb gan fod y cymorth a roddir i Aberteifi yn y sectorau ariannol a gwirfoddol yn sylweddol iawn. Dros y blynyddoedd bu rhoddion a wnaed gan y Cyngor Cymuned i gymdeithasau yn Aberteifi yn gymesur â’r rhai a wnaed gan Aberteifi i Landudoch, o ystyried bod cyfran dreth y Cyngor Cymuned yn gyfwerth â thua 10% o swm Aberteifi. Mae aelodau Cyngor Cymuned Llandudoch a thrigolion y pentref yn chwarae rhan weithredol iawn wrth helpu Projectau’r Dref ac mae llawer wedi gwasanaethu ar sefydliadau a leolir yn Aberteifi neu yn gwasanaethu arnynt ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Menter Aberteifi
- TEEMI
- Y Clwb Rygbi
- ARDAL 43
- Hanes Aberteifi
- Cymdeithas Chwaraeon Aberteifi
- Clwb Cychod Teifi
- Canolfan Cynghori>
- Pwyllgor Sianelau Afon Teifi
CASGLIAD
Byddai ailuno pentref Llandudoch o dan un awdurdod er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus (Deddf Llywodraeth Leol 1972). Mae’r trefniadau presennol sef pentref wedi’i rannu yn anghyfartal rhwng dwy Sir yn gymhleth a dryslyd. Nodwyd ac ystyriwyd y ffactor pwysig hwn gan y Comisiwn Ffiniau yn eu Cynigion Drafft. Mae’r Cyngor Cymuned yn ystyried bod yr achos dros ailuno o dan awdurdod Sir Benfro yn aruthrol gyda’r pwyntiau canlynol yn rhesymau dros y casgliad hwn:
-
Ystyrir fod Gwasanaethau Sir Benfro’n fwy dibynadwy, effeithlon a chost effeithiol; mae ganddynt hefyd ganolfan gwasanaeth yn Abergwaun.
-
Ardal Sir Benfro o’r pentref sydd â’r boblogaeth fwyaf.
-
Mae’r Rhaglen Draenio a Sefydlogi, yn dilyn tirlithriad Llandudoch yn 1994, yn barhaus, yn ddrud i’w chynnal ac mae’n gofyn am barhad arbenigedd.
-
Mae Llandudoch yn hanesyddol ac yn hanfodol â’i wreiddiau yn Sir Benfro.
-
Mae Llandudoch ar wahân a chanddo hunaniaeth wahanol i Dref Aberteifi.
-
Mae sefydliadau’r pentref yn derbyn cymorth parhaus gan y Cyngor Cymuned.
-
Mae llawer o’r projectau presennol yn dibynnu ar arian Sir Benfro.
-
Ystyrir bod polisi cynllunio Sir Benfro’n fwy sensitif yn esthetaidd.
-
Ceisiadau Amcan 1 (cynhaliwyd dwy astudiaeth ymarferoldeb yn ddiweddar).
-
Y prif ffactor yw bod dros 90% o boblogaeth Llandudoch yn dymuno i’r pentref gael ei ailuno o dan awdurdod Sir Benfro. Maent wedi ymgyrchu i ddangos cefnogaeth ar gyfer y cynnig drwy arddangos a dosbarthu sticeri car. Mae llawer o drigolion wedi anfon llythyrau at y Comisiwn Ffiniau fel yr awgrymodd y Cyngor Cymuned.
Mae Cyngor Tref Aberteifi wedi cynnal ei ymgyrch yn bennaf drwy adroddiadau emosiynol wedi’u gorliwio yn y wasg a thrwy ddosbarthu holiaduron i drigolion y dref (gan ddibynnu ar godau post yn lle enwau a chyfeiriadau). Rhydd Cyngor y Dref bwyslais sylweddol ar y golled ariannol (i Aberteifi a Cheredigion). Fodd bynnag, nid oes unrhyw reswm dros dybio bod angen i Aberteifi fod yn dlotach o gwbl yn sgîl colli 307 o drigolion gan na fyddai colled refeniw i’r ardal gan na chaiff y boblogaeth ei lleihau: Mater o ddyrannu refeniw y gellir ei aildrafod rhwng y ddwy sir ydyw.
Ers i bentref Llandudoch gael ei rannu ym 1832 er mwyn i Aberteifi sicrhau mantais wleidyddol, mae ei drigolion wedi cyflwyno cynrychioliadau ddwywaith, unwaith yn 1885 ac eto yn 1976, i ailuno’r pentref o fewn Sir Benfro. Rhwystrwyd y ddwy ymdrech gan Aberteifi a gyflwynodd ddadleuon dros eu colled economaidd tybiedig.
Rydym bellach yn yr unfed ganrif ar hugain ac yn apelio am y trydydd tro. Gobeithio y caiff dymuniadau’r bobl eu parchu ac y caiff Llandudoch ei ailuno o dan awdurdod Cyngor Sir Penfro.
Y Cynghorydd Ian Gollop Cadeirydd is-bwyllgor Ffiniau Cyngor Cymuned Llandudoch.
