Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG CEREDIGION A SIR BENFRO YN ARDAL CYMUNED LLANDUDOCH

ADRODDIAD A CHYNIGION

Atodiad 3

SYLWADAU CYNGOR TREF ABERTEIFI AR GYNIGION DRAFFT Y COMISIWN FFINIAU AR GYFER LLANDUDOCH

12fedChwefror 2001

Annwyl Mr Knight,

Par. Cynigion Drafft y Comisiwn Ffiniau ar y ffin rhwng Llandudoch a Thref Aberteifi

Tynnaf eich sylw at eich cyflwyniad i Gyngor y Dref ar ddechrau’r broses hon. Dywedoch mai’r unig reswm dros newid y byddai’r Comisiwn Ffiniau yn ei ystyried fyddai gweinyddiaeth llywodraeth leol effeithiol ac effeithlon. Bu i chi gamarwain cyngor y dref, oherwydd gwyddom nawr mai effeithiol a chyfleus yw’r prawf: gwahanol iawn. Ymddengys fod y cynnig drafft gan eich comisiwn wedi anwybyddu hyn ac wedi gwneud ei benderfyniad ar sail barn y trigolion am sut y dylai eu cymdeithas fod. Mae hyn yn gamgymeriad cyfreithiol yn ein barn ni. Nid ymddengys fod y Comisiwn wedi rhoi unrhyw resymau cyfreithiol yn eu cynigion drafft. Hoffwn gael synopsis o’r rhesymau cyfreithiol a ddefnyddiwyd gennych i seilio eich cynigion drafft arnynt!

Nid ymddengys fod y Comisiwn Ffiniau wedi ystyried barn gweddill Tref Aberteifi ynglŷn â’r posibilrwydd o golli rhan o’r Dref a’r niwed dilynol ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Ceredigion a Chyngor y Dref. Bydd yr ail elfen hon yn achosi gostyngiad o ran effeithiolrwydd a chyfleustra gweinyddu’r ardal weddilliol. NID yw’r Comisiwn ym mharagraff 3.9 tudalen 9 wedi dadlau gan ystyried colled y refeniw NET nid GROS. Nid yw Ceredigion yn debygol o ddigomisiynu lori casglu sbwriel na diswyddo staff felly mae’n debyg mai bach ac ymylol fydd unrhyw arbedion a geir.

Mewn ymateb i argymhelliad arfaethedig y Comisiwn Ffiniau y dylid uno Llandudoch a’i leoli yn Sir Benfro dosbarthodd cyngor y dref lythyr a holiadur syml i holl drigolion Aberteifi (amg. 1). Dosbarthwyd cyfanswm o 2,300 o holiaduron a dim ond 121 a ddychwelwyd. O nifer mor fach nid yw’n bosibl dod i gasgliadau cadarn. Roedd y sylwadau a wnaed yn ddiddorol ac mae dadansoddiad o’r canlyniadau yn atodedig (amg. 2).

Mae’r Comisiwn Ffiniau yn ymwybodol iawn o’r diffyg apêl yn erbyn methiant y Cynghorau Sir i gydweithredu ar draws y ffin a dylai ystyried yn hanesyddol fethiant Sir Benfro i gynnal y gwaith o ddarparu gwasanaethau a datblygu gwasanaethau yn Aberteifi er budd y trigolion.

Rhaid nodi’n gadarn na wnaeth cyngor tref Aberteifi gais ar gyfer yr arolwg hwn o’r Ffin. Ar y cyfan roedd trigolion wardiau Aberteifi yn cydymdeimlo â thrigolion Llandudoch ac yn eu cefnogi, wedi iddynt gydfyw am ganrifoedd roedd yn braf gweld hyn. Nid oes gan gyngor Tref Aberteifi unrhyw ddrwgdeimlad tuag at Landudoch, yn wir mae bob amser wedi cynorthwyo’r pentref hyd eithaf ei allu. Mae Cyngor y Dref wedi ei siomi o weld faint o ddrwgdeimlad a ddangoswyd gan Gyngor Cymunedol Llandudoch. Rhaid nodi mai hwy a gychwynnodd yr arolwg hwn o’r ffin ac mae’n naturiol bod yn rhaid i Aberteifi amddiffyn ei fuddiannau; byddai trigolion Aberteifi yn disgwyl hyn. Mae cyngor y dref yn gobeithio beth bynnag fydd canlyniad yr arolwg ffin hwn y gallwn oll ddychwelyd at normalrwydd bod yn gymdogion cyfeillgar a chefnogol.

Ym mharagraff 3.13 hoffem i’r Comisiwn ddarparu tystiolaeth o gydweithrediad trawsffiniol effeithiol. Methiant Sir Benfro i wneud hyn ymron yn llwyr yn y gorffennol sydd wedi achosi’r gwrthwynebiad o ran trosglwyddo’r ardal arfaethedig i Sir Benfro. Ni fydd Sir Benfro’n cyfrannu’n deg, ar sail profiad yn y gorffennol, at y defnydd y mae eu trigolion yn ei wneud o gyfleusterau Aberteifi nac yn darparu unrhyw gyfalaf ar gyfer eu datblygu.

Mae ymateb y Comisiwn i nifer y trigolion fesul cymuned a chynghorydd sir yn rhyfedd a dweud y lleiaf. Byddai gan 5 cynghorydd cymunedol o Aberteifi yr un baich gwaith â 12 cynghorydd o Landudoch - am effeithiol. Dim ond o 0.086% y mae cynrychiolaeth y cynghorydd Sir y tu allan i ganllawiau’r Llywodraeth.

Hoffwn roi sylwadau manwl ar asesiad a chynigion y Comisiwn fel a ganlyn.

3.1 Derbyniwyd.

3.2 Sut y gallant fod wedi’u hystyried yn llawn pan fo’r dystiolaeth yn gytbwys iawn? Maent wedi ildio i emosiwn ac amgyffrediad y boblogaeth. Waeth pa mor ganmoladwy yw hyn, a ellir ei gysylltu mewn unrhyw ffordd â llywodraeth effeithiol a chyfleus?

3.3 Cytunodd un awdurdod.

3.4 Derbyniwyd.

3.5 Sut mae ‘synnwyr cryf’ yn cyfateb ag effeithiol a chyfleus? Mae Aberteifi yn gwasanaethu ardal Tref Aberteifi o Landudoch llawn cystal ag y mae Cyngor Cymuned Llandudoch yn gwasanaethu ei ardal ei hun.

3.6 Mae hon yn ddadl ddaearyddol gyfleus nid yn unig ynghylch effeithiolrwydd a chyfleustra – sef cylch gorchwyl y Comisiwn Ffiniau.

3.7 Derbyniwyd.

3.8 Mae’n dderbyniol i Poppit aros yn y Parc Cenedlaethol—Nid yw’r cynrychioliadau’n effeithiol a chyfleus – Hael – nid i Sir Benfro dim ond uno.

3.9 Pa arbedion? (mae’r dystiolaeth a roddwyd yn nodi colled net anferth i Gynghorau Ceredigion ac Aberteifi – ni cheir sôn am y golled bosibl o refeniw i Elusennau a grwpiau gwirfoddol ac arian project. Gweler hefyd 5.4 5.5 5.6. Byddai trigolion Llandudoch gyfun yn dal i ddefnyddio’r cyfleusterau yn Aberteifi, ac mae croeso iddynt wneud hynny, ond dylid cael cyfraniad teg tuag atynt. Byddai angen i’r cyfraddau godi tua £10 yng ngweddill Aberteifi ac ar draws Ceredigion i ddigolledu’r golled hon. Yn y gorffennol ni fu Sir Benfro yn barod i ariannu unrhyw beth yn drawsffiniol.

Beth fydd effaith yr Ymddiriedolaethau Gofal ar drigolion Llandudoch os bydd yn rhaid iddynt fynd i Hwlffordd (30 milltir i ffwrdd) i reoli’r gwasanaethau hyn. Pa wasanaethau y mae Llandudoch yn eu darparu ar hyn o bryd? – a fyddant nawr yn ariannu Canolfan Cynghori, pwll nofio, Ardal 43, clwb ieuenctid ac yn darparu llyfrgell? Mae hyn yn annhebygol a byddai’n fwy effeithiol a chyfleus iddynt barhau i ddefnyddio’r cyfleusterau yn Aberteifi. Abergwaun, 17 milltir i ffwrdd fydd yn gyfrifol am blismona’r ardal hon o Sir Benfro yn rheolaidd, nid Aberteifi, 2 filltir i ffwrdd.

Soniwyd hefyd am yr Arolwg Etholiadol o’r ardal hon, a gynhaliwyd ddiwethaf gan eich pwyllgor yn 1998. Bryd hynny ni chafwyd unrhyw sôn na ellid cynnal y trefniadau presennol. Bydd yn rhaid i’ch pwyllgor ailedrych ar y ffin hon ar ôl dwy flynedd yn unig, nid yw hyn yn effeithiol iawn.

3.10 Ble mae’r ddadl ar sail effeithiol a chyfleus yn y paragraff hwn? Mae 184 allan o fwy na 300 o drigolion Llandudoch wedi cytuno ond beth am weddill trigolion Tref Aberteifi oherwydd bu’n endid unigol am dros 150 o flynyddoedd. Bydd gweddill trigolion Tref Aberteifi (3,500) yn dymuno lleisio eu barn ar y mater – os mai dyna sy’n bwysig – yn enwedig os bydd aildrefnu’n golygu colled iddynt hwy.

3.11 Cytunwyd y byddai effeithiolrwydd a chyfleustra Ardal Llandudoch yr un peth o dan y naill Sir neu’r llall; OND byddai’r effaith ar effeithiolrwydd a chyfleustra gweinyddu Aberteifi yn anghyfartal. Byddai’r effaith gymharol ar y boblogaeth ac inertia hanfodol Sir mor fach â Cheredigion (o ran poblogaeth) yn sylweddol drwy leihau’r sail treth sydd eisoes yn fach. Dylai ardal unedig Llandudoch aros gydag Aberteifi. Byddai gweinyddiaeth effeithiol a chyfleus y rhanbarthau aberol yn cael ei gwasanaethu’n well.

3.12 Ceir yr un gwelliant o dan pa bynnag awdurdod Unedol – ni cheir sôn am gynlluniau gwella o Geredigion, h.y. y gwelliant o ran y ffordd a’r llwybr i Landudoch ar gyfer Llandudoch gyfan, cael gwared ar dip Cilmaenllwyd a’r cynllun lleddfu llifogydd ar gyfer Aberteifi. (arian y Cynulliad)

3.13 Ni roddwyd tystiolaeth o gydweithrediad trawsffiniol. Yn wir bu’r diffyg tystiolaeth a chydweithrediad priodol o ran cyfalaf a refeniw yn un o’r prif resymau dros ddiffyg seilwaith priodol Aberteifi ar gyfer y dalgylch a wasanaethir gan dref Aberteifi. Pe byddai hyn wedi bod yn yr arfaeth yna byddai trigolion y ddwy gymuned yn mwynhau cynnydd o ran gwell cyfleusterau a seilwaith. Beth fyddai’n digwydd pe byddai Ceredigion yn codi mwy o arian ar gyfer gwasanaethau Cymunedol i drigolion De Sir Benfro? Ni fyddai hynny’n effeithiol, yn gyfleus nac yn dderbyniol.

3.14 Ni fyddai hyn yn wir oherwydd y byddai Cynghorwyr Llandudoch wedi canfasio’n helaeth ar y mater hwn.

3.15 Nid yw hunaniaeth yn effeithiol ac yn gyfleus; nid yw cryfder teimlad ym ymwneud mewn unrhyw ffordd â gweinyddiaeth effeithiol a chyfleus. Er hyn mae’r Dref yn ymwybodol iawn o natur agos cymuned Llandudoch ac mae’n llawn cydymdeimlad.

3.16 Mae’r comisiwn wedi anwybyddu aber afon Teifi. Mae problemau anferth yn gysylltiedig â diffyg cydweithrediad gyda’r ddau Gyngor Sir, tystiolaeth a roddwyd yn yr adroddiad TEEMI (Menter Rheolaeth Amgylcheddol Aber Teifi). Yn wir mae Sir Benfro wedi gwrthod cydweithredu gyda TEEMI nes iddo ddod yn gorff annibynnol.

3.17 Dylem anelu at gynnwys Dyffryn Teifi Isaf cyfan yng Ngheredigion ar gyfer gweinyddu effeithiol a chyfleus. Byddai’r ardal fach sydd yn cael ei hystyried, Llandudoch, yn un rhan o’r darlun mwy ac ni ddylid ei hystyried tan y bydd y materion ehangach wedi cael eu trafod. Edrychwch ar Gastellnewydd Emlyn a’r sylw diweddar yn y wasg i ddiffyg y cymorth seilwaith gan Gaerfyrddin – edrychwch ar y llinell ASDL i Hwlffordd, Caerfyrddin ac Aberystwyth. Ni ddadleuodd unrhyw un dros anghenion y 45,000 o bobl sy’n byw yn rhan isaf dyffryn Teifi oherwydd eu bod wedi’u rhannu a bod eu hanghenion wedi’u lledaenu rhwng Siroedd gwahanol.

5.4 Dim ond 50.086% o’r targed cenedlaethol yw 890 o bleidleiswyr fesul cynghorydd sir a 67% o gyfartaledd Ceredigion. A yw hyn yn dderbyniol gan y Cynulliad? A yw hyn yn effeithiol a chyfleus? – nag ydyw yn bendant.

5.5 Dim ond 40% o’r hyn a gynigiwyd yng Nghyngor Cymunedol Aberteifi yw 1 cynghorydd ar gyfer 90 o etholwyr yng Nghyngor Cymunedol Llandudoch – a ellid cyfiawnhau hyn ar sail gweinyddiaeth effeithiol a chyfleus? Na ellir yn bendant.

5.6 Ar hyn o bryd mae gan Ward Teifi 1,198 o etholwyr, 223 fesul cynghorwr. A yw’n effeithiol a chyfleus lleihau nifer y cynghorwyr i 4, gan roi mwy na dwbl nifer y pleidleiswyr fesul cynghorydd fel y cynigiwyd yn Llandudoch. Mae’r ffigurau diwygiedig ar gyfer Llandudoch yn rhoi un cynghorydd ar gyfer 90 o etholwyr. Yn unol â chynigion Aberteifi dylai hynny roi cyfanswm o 5 (4.5) o gynghorwyr i Gyngor Cymunedol Llandudoch. Byddai maint Cyngor Cymuned Aberteifi ar sail y ffigurau sy’n dderbyniol i’r Comisiwn Ffiniau ar gyfer Llandudoch yn (3463 – 306 = 3157/90 =) 35 cynghorydd, sy’n hollol chwerthinllyd. Os yw hyn yn chwerthinllyd ar gyfer Aberteifi yna dylai’r un peth fod yn wir ar gyfer Llandudoch.

Trevor T Griffiths. 15.1.2001

Maer Aberteifi

AMGAEAD 1

Sefyllfa bresennol Aberteifi

Aberteifi gyda Llandudoch unedig a Cilgerran – Cais Sir Benfro wedi’i leoli yn Sir Benfro

Ardal weinyddu unigol gyfleus (Llandudoch unedig fel cymuned ar wahân oddi mewn iddi)

AMGAEAD 2

ADRODDIAD AM HOLIADUR CYNGOR Y DREF I DRIGOLION TREF ABERTEIFI YNGHYLCH UNO LLANDUDOCH

Mewn ymateb i argymhelliad arfaethedig y Comisiwn Ffiniau y caiff Llandudoch ei uno a’i leoli yn Sir Benfro dosbarthodd cyngor y dref lythyr a holiadur syml i holl drigolion Aberteifi (amg. 1). Dosbarthwyd 2,300 o holiaduron a dim ond 121 a ddychwelwyd. O nifer mor fach nid yw’n bosibl dod i gasgliadau cadarn. Roedd y sylwadau a wnaed yn ddiddorol ac mae dadansoddiad o’r canlyniadau wedi’i atodi (amg. 2). Er mwyn eu dadansoddi rhannwyd yr holiaduron i wardiau Llandudoch a gweddill Aberteifi (h.y. codau post SA43 3 - a gweddill Aberteifi).

Ar y cyfan roedd trigolion wardiau Aberteifi yn cydymdeimlo â thrigolion Llandudoch ac yn eu cefnogi, wedi iddynt gydfyw am ganrifoedd roedd yn braf gweld hyn. Nid oes gan gyngor Tref Aberteifi unrhyw ddrwgdeimlad tuag at Landudoch, yn wir mae bob amser wedi cynorthwyo’r pentref hyd eithaf ei allu. Mae Cyngor y Dref wedi ei siomi o weld faint o ddrwgdeimlad a ddangoswyd gan Gyngor Cymunedol Llandudoch. Rhaid nodi mai hwy a gychwynnodd yr arolwg hwn o’r ffin ac mae’n naturiol bod yn rhaid i Aberteifi amddiffyn ei fuddiannau; byddai trigolion Aberteifi yn disgwyl hyn. Mae cyngor y dref yn gobeithio beth bynnag fydd canlyniad yr arolwg ffin hwn y gallwn oll ddychwelyd at normalrwydd o fod yn gymdogion cyfeillgar a chefnogol. Ymddengys o’r sampl fach hon bod y trigolion o’r un farn â chyngor tref Aberteifi y dylid uno Llandudoch.

Fodd bynnag yr oedd y neges yn hollol glir – y dylai trigolion yn Sir Benfro sy’n defnyddio gwasanaethau yn Aberteifi/Ceredigion gyfrannu atynt. Hefyd dyma farn cyngor Tref Aberteifi – oherwydd nad oes unrhyw ddull i annog Sir Benfro i gyfrannu at wasanaethau a ddarperir yn Aberteifi (a dylid cofio bod hynny’n cyfeirio at arian datblygu cyfalaf yn ogystal â chostau refeniw) mae cyngor Tref Aberteifi o’r farn mai’r unig ffordd y ceir y cymorth cyfalaf a refeniw hwn yw drwy drosglwyddo Llandudoch unedig i Geredigion.

Mae’r Comisiwn Ffiniau yn ymwybodol iawn o’r diffyg apêl yn erbyn methiant y Cynghorau Sir i gydweithredu ar draws y ffin a dylai ystyried methiant Sir Benfro yn hanesyddol i gynnal y gwaith o ddarparu gwasanaethau a datblygu gwasanaethau yn Aberteifi er budd pawb.

Crynodeb o’r dadansoddiad

Cyffredinol

Roedd 74% o’r holiaduron a ddychwelwyd yn dymuno gweld Llandudoch yn cael ei uno ac roedd 15% yn erbyn hynny, gyda 59% yn dymuno i’r pentref unedig fod yn Sir Benfro.

Holiaduron a ddychwelwyd â chod post Aberteifi

Roedd 70% yn dymuno gweld Llandudoch unedig a 14% yn erbyn hynny gyda 32% yn dymuno gweld y pentref unedig yn Sir Benfro a 53% yn dymuno ei weld yng Ngheredigion.

Holiaduro a ddychwelwyd heb god post

Roedd 77% yn dymuno gweld pentref unedig a 15% yn erbyn hynny gyda 62% yn dymuno gweld y pentref unedig yn Sir Benfro a 15% yn dymuno ei weld yng Ngheredigion.

Holiaduron a ddychwelwyd â chod post ‘Llandudoch’

Roedd 78% yn dymuno gweld pentref unedig a 18% yn erbyn hynny gyda 65% yn dymuno gweld pentref unedig yn Sir Benfro a 29% yn dymuno ei weld yng Ngheredigion; soniodd 22% am drethi is yn Sir Benfro.

Dim ond 3% o’r holiaduron a ddychwelwyd, pob un o wardiau ‘Aberteifi’ oedd yn dymuno i’r trigolion benderfynu drostynt eu hunain, roedd 6% yn dymuno i’r sefyllfa aros fel ag y mae (2% o wardiau ‘Llandudoch’) gyda 2% heb benderfynu.

Ymddengys, o’r sampl fach hon bod y trigolion o’r un farn â chyngor tref Aberteifi y dylid uno Llandudoch. Fodd bynnag, roedd y neges yn glir – y dylid cael cyfraniad teg gan Sir Benfro tuag at wasanaethau sy’n gyfleus i’w defnyddio gan bawb, costau datblygu cyfalaf a refeniw. Dyma farn cyngor Tref Aberteifi hefyd – oherwydd nad oes unrhyw ddull i annog Sir Benfro i gyfrannu at wasanaethau a ddarperir yn Aberteifi mae Cyngor y Dref o’r farn mai’r unig ffordd y ceir y cymorth cyfalaf a refeniw hwn yw drwy drosglwyddo Llandudoch unedig i Geredigion.

Mae’r Comisiwn Ffiniau yn ymwybodol iawn o’r diffyg apêl yn erbyn methiant y Cynghorau Sir i gydweithredu ar draws y ffin a dylai ystyried hyn. Hynny ac yn hanesyddol, methiant Sir Benfro i gydweithredu mewn materion trawsffiniol a fyddai o fudd i’r ddwy ochr.

Trevor T Griffiths

Maer Aberteifi

12fed Chwefror 2001

CANLYNIADAU HOLIADUR A DDOSBARTHWYD I DRIGOLION TREF ABERTEIFI

IONAWR 2001 GAN GYNGOR TREF ABERTEIFI

Cwestiwn – a ddylid uno Llandudoch ac, os felly, ym mha sir?

Ardal Tref Aberteifi

Cyfanswm yr ymatebion

UNO’R PENTREF

YN SIR BENFRO

GADAEL FEL AG Y MAE

DDIM YN GWYBOD

Trigolion i Benderfynu

IE

NA

IE

NA

Aberteifi

O blaid uno

40

40

17

20

 

1

2

 

Yn erbyn uno

11

 

8

 

7

3

 

 

 

Ddim yn gwybod

6

 

 

1

3

 

 

2

 

Cyfanswm

57

70%

14%

32%

53%

5%

2%

7%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dim cod post

13

10

2

8

2

2

 

 

 

 

13

77%

15%

62%

15%

15%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llandudoch

O blaid uno

40

40

 

32

8

 

 

 

 

Yn erbyn uno

9

 

9

 

7

2

 

 

 

Ddim yn gwybod

2

 

 

1

 

 

2

 

 

 

51

78%

18%

65%

29%

4%

4%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm llawn

121

90

19

59

47

7

3

4

% yr holiaduron a ddychwelwyd

 

74%

15%

49%

39%

6%

2%

3%

Dosbarthwyd 2,300 o holiaduron – dychwelwyd 121 ohonynt = ychydig dros 5%

Ni ellir ffurfio unrhyw gasgliadau cadarn o nifer mor fach o holiaduron a ddychwelwyd – byddai angen cyfradd ymateb o 80% o leiaf ar gyfer hynny.

AMGAEAD 3

CYNGOR TREF ABERTEIFI

SWYDDFA’R CYNGOR, STRYD MORGAN, ABERTEIFI SA43 1DG

) 01239 612641

CARDIGAN TOWN COUNCIL

COUNCIL OFFICES, MORGAN STREET, CARDIGAN 5A43 1DG

) 01239 612641

C/erc y Cyngor / Clerk to the Council: J. Keith Bowen, Porthgerran, Brynhafod, Aberteifi ) 01239 612902

Annwyl ddeiliad y cartref,

Par. Arolwg Ffin Llandudoch, Cilgerran a Thref Aberteifi

Hoffai Cyngor Tref Aberteifi dynnu eich sylw at y map atodedig sy’n dangos y tir mae Sir Benfro’n ei hawlio gan Aberteifi. Mae Cilgerran a Llandudoch yn dymuno cymryd ymron pob ardal i’r de o’r Teifi, gan adael dim ond Bridgend. Aberteifi fu canolbwynt masnachol, cymdeithasol a diwylliannol de Ceredigion a llawer o ogledd Sir Benfro ers sawl cenhedlaeth. Caiff llawer o’r gwasanaethau a ddarperir yn Aberteifi eu defnyddio gan bobl gogledd Sir Benfro yn ogystal â phobl Ceredigion, fel: y Llyfrgell, y Ganolfan Cynghori, Ardal 43, y pwll nofio, y Ganolfan Hamdden, y Grŵp Cymorth Teulu Kinora a Jigso. Mae lefel y gwasanaethau’n dibynnu’n uniongyrchol ar y boblogaeth. Os bydd llai o bobl yn talu amdanynt fel trethdalwyr yna mae’r gwasanaethau hyn o dan fygythiad. Er bod Sir Benfro’n darparu rhywfaint o arian nid yw hyn yn cwmpasu’r defnydd a wneir gan ei dinasyddion. Gallai’r gwasanaethau a ddarperir heddiw gael eu cwtogi o draean. O ran hanes yn y gorffennol nid yw’n debygol y bydd Sir Benfro yn gwneud yn iawn am y gwahaniaethau. Os bydd Ceredigion yn gwneud yn iawn am y gwahaniaethau gallai olygu cynnydd mewn Treth Gyngor o tua £10 fesul cartref.

Yn groes i’r hyn a honnwyd, mae Ceredigion wedi cefnogi Aberteifi, yn cynnwys yr ardal i’r de o’r afon, i gyfanswm o filiynau o bunnoedd. Mae hyn yn cynnwys clirio tip sbwriel y Cyngor, y twnnel lleddfu llifogydd, Cynllun Treftadaeth y Dref, y gwelliannau diweddaraf i’r ffyrdd yn Rhyd y Gwin, ac eraill.

Mae’r llwybr troed a ddarparwyd yn ddiweddar a’r gwelliant i’r ffordd i Landudoch yn enghreifftiau amlwg eraill.

Darparodd Cyngor Tref Aberteifi loches fysus a goleuadau ffordd ar hyd ffordd Llandudoch yn ogystal â chynnal a chadw rhai eraill. Mae Cyngor y Dref yn cyfrannu’n rheolaidd tuag at sefydliadau gwirfoddol Llandudoch, fel y tîm pêl-droed, yr ysgol, y clwb rhwyfo, y clwb achub bywydau yn y môr a’r bad achub.

Mae ein wardiau yn Llandudoch ac i’r de o’r afon bob amser wedi cael yr un sylw ag unrhyw ward arall yn ein gofal.

Mae’n bwysig i bob un ohonom y caiff y materion hyn eu datrys i gael y gorau o’n Cynghorau Sir fel y gall Aberteifi a Llandudoch dyfu gyda’i gilydd yn y dyfodol.

CROESAWN EICH BARN AC FE’CH GWAHODDIR I’W HANFON I GYNGOR Y DREF. LLENWCH YR HOLIADUR AR Y FFURFLEN A’I DYCHWELYD.

SICRHEWCH FOD EICH BARN YN CYFRIF.

Yn gywir

Trevor T. Griffiths, Maer

QUESTIONNAIRE HOLIADUR

Cardigan Town Council would be pleased to have your comments on the proposals to change the boundary.

Gwerthfawrogir eich sylwadau gan Gyngor Tref Aberteifi ar yr awgrymiadau i newid y ffin.

Should St. Dogmaels, as a village, be unified? Yes / No

A ddylai Llandudoch, fel pentref, fod yn unedig? Dylai / Na ddylai

Pam/Why …………………………………………………….…………………………………………

………………………………………………………………………...………………………………..

In which County? Pembrokeshire / Ceredigion

Ym mha Sir? Sir Benfro / Ceredigion

Pam/Why …………………………………………………….…………………………………………

……………………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………….……………………………………..

Do you wish to remain, as at present, in Ceredigion? Yes/No

A hoffech aros, fel yr ydym ar hyn o bryd, yng Ngheredigion? Hoffwn / Nac hoffwn

Pam/Why …………………………………………………….…………………………………………

……………………………………………………………………………………………………………

……………………………………………………………………….…………………………………..

Other comments, please.

Unrhyw sylwadau eraill, os gwelwch yn dda.

…..……..…………………………………………………….…………………………………………

……………………………………………………………………………………………………………

……………………………………………………………………….…………………………………..

Although the content of this questionnaire is confidential, we would appreciate noting your post code.

Er fod cynnwys yr holiadur yn gyfrinachol, gwerthfawrogwn nodi eich côd post.

Post Code / Côd Post ……………………

Please return this questionnaire with your comments by 9th February, 2001 to the Council Offices, Morgan Street, Cardigan SA43 1DG

Dychwelwch yr holiadur ynghyd â‘ch sylwadau i Swyddfa’r Cyngor, Stryd Morgan, Aberteifi SA43 1DG, erbyn 9fed Chwefror, 2001.