AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG CEREDIGION A SIR BENFRO YN ARDAL CYMUNED LLANDUDOCH
ADRODDIAD A CHYNIGION
Atodiad 2
CYNGOR SIR PENFRO
PWYLLGOR POLISI AC ADNODDAU
Adroddiad gan: Prif Weithredwr
Dyddiad: 15fed Chwefror 2001
AROLWG O’R FFIN RHWNG SIR GEREDIGION A SIR BENFRO YN ARDAL LLANDUDOCH
1 Cyflwynwyd adroddiad i’r pwyllgor hwn ar 13eg Ebrill 2000 yn hysbysu aelodau bod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn cynnal arolwg o’r ardal uchod. Yn y cyfarfod hwn cytunwyd mai ein hymateb i’r ymgynghoriad fyddai:
- dylai’r rhan o Landudoch sydd eisoes yn Sir Benfro aros o fewn y sir hon
- o ystyried barn Cyngor Cymuned Llandudoch, dylai’r ardaloedd i’r Gogledd ac i’r De Ddwyrain o Landudoch (a nodwyd yn “Ardal A” ar y map atodedig) fod yn rhan o Sir Benfro
- dylid cynnal ymgynghoriad pellach gyda Chyngor Cymuned Cilgerran ac Aelod lleol y Cyngor Sir o ran y ffin sirol bresennol i’r gogledd-orllewin o Gilgerran
2 Ar ôl ymgynghoriad â’r Cynghorydd J T Davies a Chyngor Cymunedol Cilgerran, cytunwyd i gynnig y dylai ardal o dir i’r gogledd-orllewin o Gilgerran (nodwyd yn “Ardal D”) hefyd ddod yn rhan o Sir Benfro ar sail cefnogaeth y trigolion lleol. Anfonwyd llythyr at y Comisiwn Ffiniau i’r perwyl hwnnw ar 27ain Gorffennaf 2000. Cydnabu pob parti y dylai “Ardal B” aros yng Ngheredigion, fodd bynnag, cynigiwyd hefyd y dylai “Ardal C” ddod yn rhan o Sir Benfro gan y Cyngor hwn ar sail llywodraeth leol effeithiol a chyfleus
3 Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn yn cynnwys ei gynigion drafft ar 15fed Rhagfyr y gofynnodd am sylwadau arno erbyn 16eg Chwefror 2001. Cynigiodd y Comisiwn y dylid lleoli “Ardal A” o fewn Sir Benfro. Hefyd gwahoddodd sylwadau ar awgrym y Cyngor hwn i gynnwys Ardaloedd C a D o fewn Sir Benfro gan eu bod yn teimlo nad oedd ganddynt ddigon o dystiolaeth i wneud penderfyniad.
4 Er bod Ardal C a D yn ardal ddaearyddol fawr, yng nghyd‑destun yr arolwg hwn, o ran poblogaeth mae’n fach iawn ac, felly, ni ddylid gweld unrhyw oblygiadau ariannol mawr yn gysylltiedig â newid ar gyfer unrhyw Gyngor Sir, Tref neu Gymuned. Fodd bynnag, ceir goblygiadau sylweddol o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ar gyfer yr ardal. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ardal Briscwm a hefyd Pant-y-grwndy fach a Throedyrhiw. Mae’r un egwyddorion oedd yn berthnasol i rannu pentref Llandudoch hefyd yn berthnasol yma, ar gyfer y gwasanaethau casglu sbwriel, mân waith cynnal a chadw ffyrdd ac ati.
5 O ran Ardal C, datganodd Cyngor Cymuned Llandudoch, yn ei lythyr atom dyddiedig 26ain Ionawr 2001, y farn ei fod yn dymuno cadw at ei gyflwyniad gwreiddiol (h.y. Ardal “A”). Gallai’r aelodau weld y rhesymau y tu ôl i’r cais i gynnwys ardaloedd C a D ond nid oeddent yn barod i roi eu cais yn y fantol. Fodd bynnag, daethant â’r llythyr i ben drwy nodi os gwêl y Comisiwn Ffiniau’n addas i gynnwys ardaloedd C a D yna byddai Cyngor Cymuned Llandudoch yn fwy na pharod i gynnwys Ardal C o fewn y gymuned. Mae aelod lleol y Cyngor Sir, y Cynghorydd S Watkins hefyd wedi cadarnhau ei fod o blaid yr awgrym hwn (llythyr dyddiedig 31 Ionawr i’r Comisiwn).
6 O ran Ardal D, datganodd Cyngor Cymuned Cilgerran, yn ei lythyr i’r Comisiwn dyddiedig 27 Ionawr 2001, y farn y dylai ardaloedd C a D ddod yn rhan o Sir Benfro ac y dylid cynnwys Ardal “D” yng nghymuned Cilgerran. Roedd hyn ar sail barn leol. Mae aelod lleol y Cyngor Sir, y Cynghorydd J T Davies wedi ymgynghori â thrigolion y 17 trigfan yn yr ardal hon ac mae 15 ohonynt am gael eu cynnwys yn Sir Benfro, nid oedd gan un ohonynt farn y naill ffordd neu’r llall ac roedd un yn “fodlon fel yr oedd”. Mae’r Cynghorydd Davies yn cefnogi’r cynnig hwn.
7 Y cam nesaf, pan fydd y Comisiwn wedi ystyried y sylwadau i’w cynigion yw cyflwyno ei argymhellion i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Argymhellion
- bod y Cyngor hwn yn mynegi cefnogaeth gref ar gyfer y cynigion a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau i uno cymuned Llandudoch o fewn Sir Benfro, fel y diffinnir fel Ardal A, ar y map atotedig.
- er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac ar sail cefnogaeth leol gryf; bod Ardaloedd C a D yn dod yn rhan o Sir Benfro, i gael eu cynnwys o fewn Cynghorau Cymunedol Llandudoch a Chilgerran yn y drefn honno.
Dogfennau Cefndir
- Adroddiad y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru – 15 Rhagfyr 2000
- Gohebiaeth dyddiedig 26ain, 27ain a 31ain Ionawr 2001.
