AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG CEREDIGION A SIR BENFRO YN ARDAL CYMUNED LLANDUDOCH
ADRODDIAD A CHYNIGION
Atodiad 1
Ymateb Cyngor Sir Ceredigion i Gynigion Drafft Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru mewn perthynas â’r Arolwg o Ran o’r Ffin rhwng Sir Geredigion a Sir Benfro yn Ardal Cymuned Llandudoch
1. Cyflwyniad
Cyhoeddodd y Comisiwn Ffiniau ei Gynigion Drafft ym mis Rhagfyr 2000 a gwahoddwyd sylwadau erbyn 16 Chwefror 2001. Cydnabu’r Cyngor Sir iddo dderbyn y Cynigion Drafft ar 22 Rhagfyr 2000 a chynhwysodd yn y llythyr hwn ei bryderon cychwynnol nad oedd y Comisiwn wedi ymroi ei hun i’r gofyniad i seilio ei gasgliadau ar lywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Derbyniwyd ymateb i’r llythyr hwn, dyddiedig 17 Ionawr 2001 gan y Cyngor Sir, ac anfonodd y Comisiwn Ffiniau gopïau o’r ddau lythyr at Gyngor Sir Penfro. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21ain Rhagfyr 2000, rhoddodd y Cyngor Sir awdurdod i’r Cabinet baratoi ymateb a pharatowyd yr ymateb hwn yn unol â’r penderfyniad hwnnw.
2.Sylwadau ar y Cynigion Drafft
Ni chred y Cyngor Sir bod y Comisiwn Ffiniau wedi mynd i’r afael â’r prif fater, sef y ddarpariaeth o wasanaethau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i bentref cyfun Llandudoch gan un awdurdod lleol.
Fel y nodwyd yn y Cynigion Drafft, mae’r Cyngor Sir yn cytuno y dylai’r “pentref gael ei gyfuno o dan un awdurdod” (Para. 3.3) ac mae hefyd yn nodi, yn eu cyflwyniadau gwreiddiol, bod yr Awdurdod hwn a Chyngor Sir Penfro wedi nodi eu bod “yn hyderus y byddent yn gallu darparu lefel briodol o wasanaeth i bentref cyfun Llandudoch” (Para. 3.13).
Fodd bynnag, mae’n anghytuno â’r rhesymau a roddwyd yn y paragraffau canlynol o’r Cynigion Drafft gan y Comisiwn Ffiniau dros nodi y dylid lleoli’r pentref cyfun o fewn Sir Benfro:
Para. 3.12
Rhestrir gwelliannau mewn meysydd o gyflwyno gwasanaeth yn y paragraff hwn, y maent yn honni y byddent yn deillio pe byddai’r pentref cyfun yn cael ei leoli yn Sir Benfro. Fodd bynnag, mae’r un egwyddor yn wir pe byddai Ceredigion yn gweinyddu’r ardal.
Para 3.13
Yma mae’n nodi bod y Comisiwn Ffiniau yn ystyried ei bod “yn amlwg y byddai angen rhywfaint o ddarparu gwasanaethau yn drawsffiniol o hyd waeth pa sir y byddai’r gymuned newydd yn cael ei chynnwys o’i mewn”. Ni all y Cyngor Sir ddeall, pe byddai’r pentref cyfun yn cael ei osod yng Ngheredigion, pa wasanaethau y byddai angen i’w boblogaeth eu derbyn gan Gyngor Sir Penfro. Craidd achos y Cyngor Sir yw bod trigolion y pentref ar hyn o bryd yn troi at dref Aberteifi ar gyfer gwasanaethau fel y llyfrgell, y ganolfan hamdden, y pwll nofio, addysg uwchradd ac ati, a chyda Ceredigion yn darparu’r holl wasanaethau eraill fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, casglu sbwriel, priffyrdd ac ati i bentref cyfun, ni fyddai angen i Gyngor Sir Penfro ddarparu unrhyw wasanaethau o gwbl i’r boblogaeth, gan arwain felly at lywodraeth leol mwy effeithiol a chyfleus. Felly gwahoddir y Comisiwn Ffiniau i egluro pa wasanaethau y cred y byddai angen i Sir Benfro eu darparu ar sail trawsffiniol pe lleolwyd y pentref cyfun yng Ngheredigion.
Para 3.14
Yma mae’n nodi nad yw’r Comisiwn Ffiniau’n ystyried bod lefel y taliadau i’r cyngor yn “brif reswm dros gyfuno pentref Llandudoch i’w gynnwys o fewn Sir Benfro”. Fodd bynnag ym Mhara. 2.15 ceir rhestr o gynrychioliadau a wnaed gan drigolion lleol, a rhestrir yr “anghydraddoldeb tybiedig o fewn y pentref gan fod trigolion Ceredigion yn talu treth gyngor uwch na’u cymdogion yn Sir Benfro” fel yr AIL bwynt a wnaed ganddynt. Awgrymir felly bod hyn yn un o’r prif resymau dros ddewis i’r pentref cyfun gael ei osod yn Sir Benfro yn hytrach nag yng Ngheredigion.
Para. 3.16
Yma mae’n nodi bod y Comisiwn Ffiniau’n ystyried bod “afon Teifi yn cynrychioli ffin naturiol wedi’i diffinio’n glir rhwng Sir Geredigion a Sir Benfro”. Fodd bynnag yn y llinell nesaf caiff hyn ei wrth-ddweud drwy nodi gwahaniaeth uniongyrchol rhwng ardaloedd i’r de o’r afon:
-
nodir fod Llandudoch wedi’i leoli o fewn yr “ardal a gysylltir â Sir Benfro”;
-
fodd bynnag, mae Bridgend a’i gyffiniau “yn rhan annatod o Dref Aberteifi”; tra gellid symud rhan o dir ar y ffin ddwyreiniol â Sir Benfro i Gymuned Cilgerran; ac yn olaf,
-
nid yw Ardal C fel y dangosir yn Atodiad 7 yn ffitio i unrhyw becyn cyfleus ac effeithiol ac, ym marn y Comisiwn Ffiniau, waeth iddi aros yng Ngheredigion.
Felly mae’r rhaniad arfaethedig o’r ardal i’r de o afon Teifi, ym marn y Cyngor Sir, yn anghyson iawn ac nid yw’n cynnig ei hun ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Hefyd, mewn paragraff blaenorol – Para. 3.6 – mae’r Comisiwn Ffiniau’n nodi y byddai’r ffin newydd a awgrymwyd gan Gyngor Cymunedol Llandudoch, er ei bod i’r de o afon Teifi, yn “ymddangos ei bod yn ffurfio ffin gyfleus rhwng Llandudoch ac Aberteifi”. A yw’r Comisiwn Ffiniau hefyd yn awgrymu ei bod yn ffin SIROL gyfleus? Ymddengys felly. Mae hyn unwaith eto’n gwrth-ddweud yr achos sy’n datgan mai afon Teifi yw’r ffin naturiol.
Ymddengys i’r Cyngor Sir bod y Comisiwn Ffiniau wedi dod i’r casgliad, yn seiliedig ar ei asesiad o’r dystiolaeth, bod yr “hunaniaeth gymunedol” y mae’n nodi sy’n bodoli rhwng trigolion y pentref a rhan wledig Cymuned Llandudoch yn bwysicach na’r honiad bod trigolion y pentref a’r gymuned ehangach yn troi at dref Aberteifi ar gyfer llywodraeth leol, gwasanaethau cymdeithasol, hamdden a diwylliannol yn ogystal â chyflogaeth a chyfleusterau siopa. Fodd bynnag, er iddo gydnabod bod Cyngor Sir Ceredigion yn hyderus y gall ddarparu’r ystod gyfan o wasanaethau llywodraeth leol i bentref cyfun, nid yw wedi ystyried mewn modd digon manwl y byddai hyn yn arwain at lywodraeth leol fwy effeithiol a chyfleus gan ddileu’r angen i ddarparu unrhyw wasanaethau trawsffiniol. Yn gryno, mae’r Cyngor Sir o’r farn bod y Comisiwn Ffiniau wedi rhoi mwy o bwyslais i emosiwn nag i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Yn ogystal, er gwaethaf honiad y Comisiwn Ffiniau, ymddengys fod lefel y Dreth Gyngor yn ffactor pwysig yn yr achos sy’n cael ei wneud gan Gyngor Cymuned Llandudoch. Soniwyd uchod eisoes am y cyfeiriad a wnaed ym Mhara 2.15 at y gwahaniaeth rhwng lefelau Treth Gyngor Ceredigion a Sir Benfro, gyda Chyngor Cymunedol Llandudoch, yn niweddglo ei gyflwyniad, yn nodi bod ganddo “ da o reoli gwasanaethau ac arian yn effeithlon ac o ganlyniad eleni maent wedi penderfynu gostwng eu cyfran dreth o £2,000”. Dadl y Cyngor Sir yw bod y bobl sy’n byw ar ochr Sir Benfro o Landudoch ar hyn o bryd yn defnyddio’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion yn Nhref Aberteifi, ac y telir amdanynt gan dalwyr Treth Gyngor Ceredigion yn rheolaidd, a bod Cyngor Cymuned Llandudoch yn bwriadu y gall ei bobl barhau i elwa ar y gwasanaethau hyn eto’n talu eu Treth Gyngor i Awdurdod arall. Felly byddai pobl Llandudoch yn elwa ar dalu Treth Gyngor is tra’n dal i fwynhau’r gwasanaethau a ddarperir yn Nhref Aberteifi gan Gyngor Sir Ceredigion ac y telir amdanynt gan bobl Ceredigion.
Treth Gyngor
Beth bynnag, mae’r lefelau Treth Gyngor gwahanol yn Sir Benfro a Cheredigion yn ganlyniad i fformiwla Genedlaethol, a ddefnyddir i ddosbarthu adnoddau ymysg Cynghorau unedol. Cynlluniwyd y fformiwla i adlewyrchu anghenion gwario yn wrthrychol ac mae’n dibynnu ar ddata ariannol ac an-ariannol a chymhwyso dulliau ystadegol soffistigedig. Caiff y fformiwla ei hadolygu’n aml (cwblhawyd arolwg mawr yn ddiweddar) a byddai newidiadau i’r fformiwla hon yn y dyfodol yn arwain at newid o ran lefelau Treth Gyngor. Mae’n afresymol rhagdybio y bydd y gwahaniaeth presennol yn y lefelau Treth Gyngor yn parhau am gyfnod amhenodol. Yn wir, mae Cyngor Sir Ceredigion yn gyson wedi pennu ei Dreth Gyngor yn is na chanllawiau’r Cynulliad Cenedlaethol mewn strategaeth ariannol glir i leihau Trethi Cyngor. Ymhen amser, mae hyn yn debygol o arwain at Drethi Cyngor cyfartal gan y ddau awdurdod.
Ar hyn o bryd, mae pobl Llandudoch yn gwneud defnydd llawn o’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae’n rhesymol iddynt gyfrannu at gostau darparu’r gwasanaethau. Ni cheir tystiolaeth i awgrymu bod y gost o ddarparu’r gwasanaethau hyn yn uwch yng Ngheredigion – i’r gwrthwyneb, fformiwla dosbarthu Grant Cymorth Refeniw sy’n rheoli lefel y Dreth Gyngor. Heb os byddai’n fwy atebol i’r trigolion dalu’r Cyngor sy’n darparu’r gwasanaethau. Dyma hanfod Llywodraeth Leol a chynrychiolaeth gyhoeddus effeithiol.
Os caiff Llandudoch ei drosglwyddo i Sir Benfro, bydd newid sylweddol ac anghyfartal o ran adnoddau o blaid Sir Benfro ar draul talwyr Treth Gyngor Ceredigion. Bydd y prif wasanaethau yn Aberteifi yn parhau i gael eu darparu a’u hariannu gan Geredigion ac ni ellir disgwyl i dalwyr Treth Gyngor Ceredigion gwrdd â’r baich treth ychwanegol.
3. Sylwadau ar Lythyr y Comisiwn Ffiniau dyddiedig 17 Ionawr 2001
Gan droi at lythyr y Comisiwn Ffiniau dyddiedig 17 Ionawr 2001, mae’n amlwg i’r Cyngor Sir bod y Comisiwn unwaith eto wedi methu â rhoi digon o bwyslais i achos y Cyngor Sir, fel yr amlinellir uchod.
Mae’n nodi bod y Comisiwn Ffiniau wedi datgan na ddarparodd y Cyngor Sir unrhyw dystiolaeth y byddai colli rhan o’i ardal weinyddol yn niweidiol, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, i’r Awdurdod cyfan. Fodd bynnag, fel y nodir uchod, mae’n dadlau mai sail ei ddadl wreiddiol yw ei fod yn darparu lefel o wasanaethau i drigolion nad yw’n cyfateb â lefel taliadau Treth Gyngor y trigolion hynny ar hyn o bryd, o dan y trefniadau presennol, ac y byddai’n parhau i ddarparu hynny, pe câi’r pentref cyfun ei leoli yn Sir Benfro. Byddai cynigion y Comisiwn Ffiniau, drwy wneud mwy o ddefnyddwyr y gwasanaethau sydd wedi’u lleoli yn Aberteifi yn dalwyr Treth Gyngor yn Sir Benfro, yn gwaethygu’r sefyllfa ac yn creu mwy o anghydraddoldeb a drwgdeimlad yn yr ardal.
I gloi, bydd y newidiadau arfaethedig felly yn cael effaith niweidiol ar allu Cyngor Sir Ceredigion i ddarparu’r lefel gyfredol o wasanaethau drwy’r Sir. Mae’n effeithio’n niweidiol ar Lywodraeth Leol effeithiol a chyfleus nid yn unig yng nghyffiniau Aberteifi ond drwy’r Sir gyfan.
Miss E. M. Bronwen Morgan
Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol
Cyngor Sir Ceredigion
15fed Chwefror 2001
