AROLWG O RAN O'R FFIN RHWNG SIR GAERFYRDDIN A SIR BENFRO YN ARDAL CYMUNEDAU CLUNDERWEN A GORLLEWIN LLANDYSILIO
ADRODDIAD A CHYNIGION
- CYFLWYNIAD
- CRYNODEB GWEITHREDOL
- CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
- CYNIGION DRAFFT
- CRYNODEB O'R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
- FFIN CYMUNED CLUNDERWEN
- ASESIAD
- CYNIGION
- NEWID ENW
- TREFNIADAU CANLYNIADOL
- CYDNABYDDIAETHAU
- YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
Edwina Hart AC MBE
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. CYFLWYNIAD
1.1 Rydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o ran o'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn ardal Cymunedau Clunderwen a Gorllewin Llandysilio a chyflwynwn ein cynigion ar gyfer ffin newydd. Atodir map yn dangos yr ardal dan arolwg yn Atodiad 1.
2. CRYNODEB GWEITHREDOL
2.1 Cynigiwn y dylid adlinio'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn ardal Cymunedau Clunderwen a Gorllewin Llandysilio yn yr ardal y cynhelir arolwg ohoni yn sylweddol i ddilyn y ffin bresennol i'r dwyrain o Gymuned Clunderwen. Cynigiwn newid i'r ffin rhwng Cymunedau Clunderwen a Chilymaenllwyd yn ardal Efailwen a newid i'r ffin rhwng Cymunedau Clunderwen a Henllanfallteg yn ardal Fferm y Coleg. Bydd y cynnig hwn yn golygu y caiff Cymuned Clunderwen ei throsglwyddo o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro yn dilyn mân newidiadau i'r ffin.
3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
3.1 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Y drefn
3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw ysgrifenasom, ar 29ain Tachwedd 1999, i Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Cymuned Clunderwen, Cyngor Cymuned Henllanfallteg, Cyngor Cymuned Llanbedr Efelffre, Cyngor Cymuned Llanddewi Efelffre, Cyngor Cymuned Gorllewin Llandysilio, Cyngor Cymuned Llanhuadain, Cyngor Cymuned Maenclochog, Cyngor Cymuned Y Mot, Cyngor Cymuned Hendy-gwyn ar Daf, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, Aelodau'r Cynulliad dros yr ardal, cymdeithasau yr awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu dros yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg, ac i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol. Gwahoddwyd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer newidiadau i'r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i'r cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus.
4. CYNIGION DRAFFT
4.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Sir Caerfyrddin; Cyngor Sir Penfro; Cynghorau Cymuned Clunderwen, Henllanfallteg, Gorllewin Llandysilio a'r Mot; a phum corff a thrigolion eraill oedd â diddordeb. Ystyriwyd y cynrychioliadau hyn a cheir crynodeb ohonynt yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 28 Chwefror 2001.
4.2 Argymhellodd ein Cynigion Drafft y dylid adlinio'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn ardal Cymunedau Clunderwen a Gorllewin Llandysilio yn yr ardal y cynhelir arolwg ohoni i ddilyn y ffin bresennol i'r dwyrain o Gymuned Clunderwen. Yr oeddem yn bryderus bod y ffin arfaethedig yn rhannu anheddiad Efailwen a chroesawyd awgrymiadau ar gyfer ffin amgen yn yr ardal hon.
4.3 Anfonwyd copïau o'r Cynigion Drafft at bob cyngor, corff ac unigolyn y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.2 yn gofyn am eu barn. Hefyd anfonwyd copi at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau rhagarweiniol. Drwy hysbysiad cyhoeddus gwahoddwyd unrhyw sefydliad neu berson arall oedd â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu sylwadau. Roedd copïau o'r Cynigion Drafft ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a'r Comisiwn a hefyd yn swyddfeydd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys.
4.4 Ar ôl cyhoeddi ein hadroddiad o'r Cynigion Drafft cysylltodd Cyngor Sir Ceredigion â ni oedd yn bryderus nad anfonwyd copi o'r adroddiad at Gyngor Cymuned Cilymaenllwyd. Darganfuwyd, yn anffodus, na chafodd Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd ei gynnwys ar restr ddosbarthu'r arolwg hwn ac o ganlyniad nad anfonwyd copi o'r adroddiad o'r Cynigion Drafft atynt. Anfonwyd copi o'r adroddiad at Gyngor Cymuned Cilymaenllwyd ar unwaith a chytunwyd i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eu sylwadau i 1 Mehefin 2001.
5. CRYNODEB O'R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
5.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Sir Caerfyrddin; Cyngor Sir Penfro; tri chyngor cymuned; a phum corff a thrigolion eraill oedd â diddordeb. Ystyriwyd pob un o'r sylwadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion.
5.2 Croesawodd Cyngor Sir Caerfyrddin y ffaith bod Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd wedi'u cynnwys yn y cylch ymgynghori hwn. Nododd y Cyngor bod adroddiad y Comisiwn wedi dod i'r casgliad y dylai Clunderwen a Gorllewin Llandysilio fod yn yr un prif ardal ac y gallai'r ddau Gyngor Sir ddarparu'r ystod ac ansawdd gwasanaethau sy'n ofynnol gan y ddwy gymuned. Mae achos y Cyngor wedi'i adeiladu ar seiliau cadarn ffin naturiol amlwg ac maent yn ailadrodd y pwynt a wnaethant yn ystod cam cyntaf yr Arolwg bod y ffin naturiol a ddarperir gan Afon Cleddau Ddu yn gynnig llawer gwell na natur ffug y ffin a gynigir gan y Comisiwn. Mae'r Cyngor o'r farn nad yw'r farn gyhoeddus, o anghenraid, yn dynodi'r hyn sydd er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
5.3 Roedd Cyngor Sir Penfro yn cefnogi cynnig y Comisiwn y dylid trosglwyddo Cymuned Clunderwen o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro. Hefyd penderfynodd y Cyngor gefnogi barn Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd yn ymwneud ag unrhyw ffin amgen yn eu hardal.
5.4 Ystyriodd Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd y dylid adlinio'r ffin bresennol i ddilyn cwrs afon Taf i'r gogledd o Lanfallteg i ffin Sir Benfro yn Hebron. Byddai hyn yn arwain at drosglwyddo Cymuned Clunderwen a'r rhan fwyaf o ardal Cilymaenllwyd i Sir Benfro.
5.5 Nododd Cyngor Cymuned Clunderwen arsylwadau'r Comisiwn yn y cynigion drafft yn ymwneud â phentref Efailwen. Roeddent yn bryderus na chynrychiolwyd y rhanbarthau pellennig yn y cyfarfod â'r Comisiwn a gynhaliwyd yn y Neuadd Gymunedol. Codwyd y cwestiwn o bleidlais yr oeddent yn ystyried a allai nodi 'pocedi' o ddosbarthiadau â barn wahanol.
5.6 Cefnogodd Cyngor Cymuned Gorllewin Llandysilio gynnig y Comisiwn y dylid trosglwyddo Cymuned Clunderwen o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro. Roeddent hefyd yn dymuno i'r Comisiwn ymgynghori â hwy ar y gwaith o enwi'r rhanbarth etholiadol dilynol gan eu bod yn teimlo nad oedd yr enw Maenclochog yn llawn ddisgrifio'r ardal o fewn y rhanbarth.
5.7 Awgrymodd yr Arolwg Ordnans y gellid gwella ffin ddwyreiniol Clunderwen (ac felly ffin amgen y prif awdurdod a awgrymwyd yn y cynigion drafft) mewn dwy ardal fach i ddilyn nodweddion tir amlwg. Roeddent yn cynnwys map o'r adliniadau a awgrymwyd yn yr ardaloedd hyn.
5.8 Cefnogodd Plaid Ryddfrydol Cymru gynnig y Comisiwn i drosglwyddo Cymuned Clunderwen o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro. Fodd bynnag roeddent hefyd yn teimlo y dylid ailystyried eu hawgrym cychwynnol y dylai rhan o Gymuned Cilymaenllwyd gael ei chynnwys yn y trosglwyddiad o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro. Roeddent wedi nodi bod pentref Efailwen ar hyn o bryd yn cael ei rannu gan y ffin rhwng Cymunedau Clunderwen a Chilymaenllwyd a phe câi Clunderwen ei drosglwyddo o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro fel y cynigir yna byddai'r pentref yn cael ei rannu gan y ffin rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Benfro. Felly cynigiodd y Blaid ffin amgen fyddai'n trosglwyddo pentref Efailwen a'r cyffiniau i Sir Benfro ynghyd â Chymuned Clunderwen. Roeddent yn teimlo y byddai adlinio'r ffin fel hyn yn ddymunol oherwydd bod gan bentref Efailwen a'i bentrefi bach cymdogol fwy yn gyffredin gydag aneddiadau eraill ar hyd yr A478 na chyda gweddill Cymuned Cilymaenllwyd i'r dwyrain yn Nyffryn Taf. Nodwyd ganddynt hefyd y byddai hyn yn arwain at leoli'r A478 gyfan o fewn yr un Awdurdod Priffyrdd Sirol. Roeddent yn teimlo os caiff eu cynnig yn ymwneud ag Efailwen ei fabwysiadu yna dylid ffurfio cymuned newydd o fewn Sir Benfro yn cynnwys yr ardal a drosglwyddwyd o Gymuned Cilymaenllwyd a'r rhan honno o Gymuned Clunderwen i'r gogledd o Fferm Portis ar yr A478. Roeddent yn teimlo y dylid cynnwys y rhan ogleddol hon o Gymuned Clunderwen gan nad oedd ganddi lawer o gysylltiadau â phentref Clunderwen. Hefyd gofynnwyd i'r Comisiwn ystyried y ffin rhwng Cymunedau Clunderwen a Henllanfallteg sy'n cynnwys anomaledd hirsefydlog ar ffurf ymwthiad yng nghyfeiriad Llandysilio ar hyd yr isffordd sy'n arwain i'r gogledd-orllewin o Orllewin Llanfallteg.
5.9 Cefnogodd un o drigolion Clunderwen drosglwyddiad Cymuned Clunderwen o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro. Nododd fod Cyngor Sir Penfro'n ddiweddar wedi gosod hysbysiad ar ei thir yn ymwneud ag argyfwng clwy'r traed a'r genau, rhywbeth y teimlai oedd yn dynodi bod Clunderwen ar wahân i Sir Gaerfyrddin.
5.10 Cefnogodd un o drigolion Clunderwen drosglwyddiad Clunderwen o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro gan y teimlai fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn anwybyddu Clunderwen. Dywedodd bod ei phlant yn mynd i'r ysgol yn Sir Benfro ac mai'r unig wasanaeth yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei ddarparu iddi hi oedd casglu sbwriel.
5.11 Cefnogodd un o drigolion Clunderwen drosglwyddiad Clunderwen o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro. Dywedodd fod Clunderwen wedi'i gysylltu'n hanesyddol â Sir Benfro a bod yr holl wasanaethau ac amwynderau a ddefnyddir ganddi wedi'u lleoli yn y Sir honno. Nododd fod aneddiadau sy'n agos at Glunderwen yn Sir Benfro a theimlai fod Clunderwen wedi dod yn rhan ar wahân yn Sir Gaerfyrddin.
6. FFIN CYMUNED CLUNDERWEN
6.1 Yn ein Hadroddiad o'r Cynigion Drafft, ar ôl ystyried y dystiolaeth oedd ar gael i ni yn ystod y cam hwnnw o'n harolwg, cynigiwyd y dylid adlinio'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn ardal Cymunedau Clunderwen a Gorllewin Llandysilio yn yr ardal y cynhelir arolwg ohoni i ddilyn ffin ddwyreiniol bresennol Cymuned Clunderwen. Fodd bynnag roeddem yn bryderus y byddai'r ffin arfaethedig yn rhannu anheddiad Efailwen a chroesawyd yr awgrymiadau manwl am ffin amgen yn yr ardal hon.
6.2 Derbyniwyd awgrymiadau ar gyfer newidiadau i ffin Clunderwen gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd, a Phlaid Ryddfrydol Cymru. Cynhaliwyd ymweliad safle â'r ardal i arolygu'r ffiniau arfaethedig.
6.3 Nodwyd bod y cynnig a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Cilymaenllwyd ac un o'r cynigion a awgrymwyd gan Gyngor Sir Penfro yn debyg iawn i'r cynnig a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Gorllewin Llandysilio yn ystod cam cychwynnol yr arolwg a wrthodwyd gennym oherwydd ein bod yn teimlo ei fod yn ymestyn cwmpas yr arolwg ac nad oedd unrhyw dystiolaeth y byddai o fudd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Ystyriwyd bod yr awgrym i adlinio'r ffin a gyflwynwyd gan Blaid Ryddfrydol Cymru i alinio'r ffin i'r dwyrain o bentref Efailwen hefyd y tu allan i gwmpas yr arolwg.
6.4 Ystyriwyd y newidiadau a awgrymwyd i'r ffin i'r gorllewin ac i'r de o Efailwen, un gan Gyngor Sir Caerfyrddin a dau gan Gyngor Sir Penfro. Awgrymodd Cyngor Sir Caerfyrddin y dylid tynnu'r ffin o'r ffin bresennol yn Roseberry, filltir i'r de o Efailwen, at y Cleddau Ddu yn Fferm Llwyndwfr. Yn ystod ein hymweliad gwelwyd ei bod wedi'i diffinio'n glir o ffin y sir ym mhont Llwyn-dwfr at yr A478 gan ei bod yn dilyn isffordd. I'r dwyrain o'r A478 mae'r ffin yn dilyn llwybr i fferm Rhyd-y-moch ac yna'n dilyn ffiniau caeau at ffin bresennol y gymuned. Byddai'r newid arfaethedig hwn i'r ffin yn symud ardal fwy o dir a llawer o aneddiadau o Glunderwen i Gilymaenllwyd nag y byddai un o awgrymiadau Sir Benfro. Nodwyd bod eiddo bob ochr i'r isffordd sy'n ffurfio'r ffin hon i'r gorllewin o'r A478 ac y byddai'r eiddo i'r de o'r ffin ym mhont Llwyn-dwfr braidd yn ynysig o weddill Clunderwen.
6.5 Roedd awgrym cyntaf Cyngor Sir Penfro dros newid i'r ffin i'r Gorllewin o Efailwen yn cynnwys ardal fach o dir a nifer fach o eiddo tra'n cyflawni'r nod o gynnwys pentref Efailwen o fewn un ardal gymunedol. Yn bennaf, roedd y ffin arfaethedig yn dilyn ffiniau caeau neu lwybrau amlwg. Fodd bynnag gwelwyd nad oedd un o ffiniau'r caeau yn briodol gan nad oedd yn barhaus ac ymddengys bod y ddau gae y mae'n eu rhannu yn cael eu defnyddio fel un uned. Felly rydym wedi newid yr awgrym hwn i ddilyn ffin cae mwy priodol.
6.6 Roedd ail awgrym Sir Benfro (yn ymestyn eu hawgrym cyntaf) yn cynnwys ardal arall o dir a sawl eiddo yr ymddengys bod ganddynt gysylltiadau â phentref Efailwen. Yn gyffredinol mae'r llinell hon yn dilyn ffiniau caeau amlwg. Nodwyd bod yr arwydd ffordd ar gyfer pentref Efailwen wedi'i leoli yn y fan y mae'r ffin hon yn croesi'r A478. Wedi derbyn y dylid uno anheddiad Efailwen o fewn un awdurdod er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, daethom i'r casgliad mai'r ail gynllun a gyflwynwyd gan Sir Benfro, a ddiwygiwyd yn rhannol gan y Comisiwn, oedd yn cyflawni'r nod hwn orau.
6.7 Hefyd ystyriwyd awgrym pellach Plaid Ryddfrydol Cymru yn ymwneud ag anghysondeb ymddangosol y ffin rhwng Cymunedau Henllanfallteg a Chlunderwen. Gwelwyd bod y newid arfaethedig i'r ffin yn dilyn ffiniau caeau a oedd yn cynnwys gwrychoedd sylweddol a ymddangosai fel rhai hirsefydlog. Yr unig eiddo yr effeithir arno gan y newid fyddai Mountain Farm Cottage. Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwrthwynebu'r cynnig hwn ar y sail na fyddent yn dymuno gweld mwy o dir neu eiddo'n cael eu trosglwyddo i Glunderwen. Roeddent yn ystyried nad yw cynnig a wneir ar sail un sylw yn unig er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Fodd bynnag nid oedd gan Gyngor Cymuned Clunderwen unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig hwn a gan fod y ffin arfaethedig yn amlwg ac yn haws i'w gweld na'r ffin bresennol ystyrir y byddai cynnig y newid er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
7. ASESIAD
7.1 Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd fel ymateb i adroddiad y Cynigion Drafft. Roedd mwyafrif y sylwadau a dderbyniwyd yn cefnogi cynnig y Comisiwn i drosglwyddo Clunderwen o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro. Cafwyd un eithriad pwysig sef Cyngor Sir Caerfyrddin a oedd yn gwrthwynebu'r Cynigion Drafft ar sail bod y ffin a gynigiwyd ganddynt yn eu sylw cychwynnol (oedd yn dilyn Afon Cleddau Ddu) yn fwy amlwg na ffin arfaethedig y Comisiwn.
7.2 Yn ein Cynigion Drafft ystyriwyd y byddai cynnwys Clunderwen a Gorllewin Llandysilio o fewn un awdurdod yn galluogi'r awdurdod hwnnw i ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol yn fwy effeithiol ac effeithlon na'r trefniadau presennol. Yn yr adroddiad hwnnw nodwyd mewn termau daearyddol nad yw ffin y sir yn gyson ac mewn cyd-destun cymdeithasol ac ymarferol bod y sylwadau a dderbyniwyd wedi amlygu nifer o anomaleddau a arweiniodd at ddryswch wrth ddarparu gwasanaethau lleol fel a ganlyn:-
- Gwasanaethau priffyrdd
- Casglu sbwriel
- Torri gwrychoedd
- Addysg
- Polisi cynllunio
- Trafnidiaeth ysgol
Cadarnhaodd y wybodaeth a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi ein hadroddiad o'r Cynigion Drafft ein barn y byddai er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus pe byddai Cymunedau Clunderwen a Gorllewin Llandysilio o fewn yr un ardal awdurdod unedol.
7.3 Yn adroddiad ein Cynigion Drafft, nodwyd o'r sylwadau a dderbyniwyd nad oedd etholwyr Gorllewin Llandysilio yn dymuno bod yn rhan o Sir Gaerfyrddin. Ni dderbyniwyd unrhyw arwydd gan y trigolion yr effeithir yn niweidiol ar ystod ac ansawdd y gwasanaethau llywodraeth leol a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro oherwydd lleoliad daearyddol Gorllewin Llandysilio mewn perthynas â gweddill y sir. Ar ôl cyhoeddi ein Cynigion Drafft ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau oedd yn gwrthddweud y farn hon.
7.4 Cadarnhawn y farn, am y rhesymau a nodir uchod, y byddai cael Cymunedau Clunderwen a Gorllewin Llandysilio o fewn yr un ardal awdurdod unedol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, a nodwyd yn ein hadroddiad o'r cynigion drafft y gall Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro, ddarparu'r ystod ac ansawdd o wasanaethau llywodraeth leol sy'n ofynnol gan y ddwy gymuned. Nododd y sylwadau a dderbyniwyd cyn ac ar ôl cyhoeddi ein hadroddiad o'r cynigion drafft o ran darparu'r gwasanaethau, mai trosglwyddo Clunderwen i Sir Benfro fyddai er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus orau, er nad oes fawr rhwng y ddau. At hynny, o'r sylwadau a dderbyniwyd, ymddengys mai dyna fyddai orau gan drigolion Clunderwen. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dadlau na ddylai barn gyhoeddus benderfynu yr hyn sydd er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Maent yn iawn, ac nid yw'r Comisiwn yn ystyried bod hyn yn effeithio ar y penderfyniad mewn unrhyw ffordd. Fodd bynnag mae'r Comisiwn wedi bod o'r farn o hyd bod cysylltiad cryf rhwng hunaniaeth leol a llywodraeth leol effeithiol, o ran os bydd pobl yn teimlo eu bod wedi'u hynysu o'u hawdurdod lleol, neu nad ydynt yn uniaethu ag ef mewn ffyrdd eraill, yna gellid effeithio'n niweidiol ar effeithiolrwydd. Nid yw'r Comisiwn yn ystyried bod hyn yn fwy na ffactor perthnasol. Mae'n wir bod Afon Cleddau Ddu yn darparu "ffin naturiol amlwg", ond mae'r Comisiwn yn fodlon bod y ffin i'r dwyrain o Glunderwen yn hollol foddhaol, ac na ddylai rhagoriaeth yr Afon yn yr ystyr hwn, benderfynu, yn yr un modd, budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ac nid yw'n ddigonol o bell ffordd i wrthbwyso'r ffactorau eraill y soniwyd amdanynt uchod.
7.5 Nodwyd hefyd yn ein hadroddiad o'r Cynigion Drafft bod nifer o drigolion Clunderwen yn ystyried bod eu cymuned ar wahân i weddill Sir Gaerfyrddin ac o ganlyniad nid ydynt yn ystyried bod y ddarpariaeth o'r gwasanaethau mor effeithlon nac mor effeithiol ag y dylai fod. Roedd yn amlwg o'r sylwadau cychwynnol y byddai nifer o drigolion Clunderwen o blaid y newid arfaethedig i'r ffin a fyddai'n arwain at Glunderwen yn dod yn rhan o Sir Benfro. Mae'r sylwadau pellach a dderbyniwyd gan drigolion Clunderwen yn cefnogi'r farn hon.
7.6 Cynigiwn y dylid diwygio'r ffin rhwng Cymunedau Clunderwen a Chilymaenllwyd i gynnwys pentref cyfan Efailwen o fewn Cilymaenllwyd ac o ganlyniad o fewn Sir Gaerfyrddin. Nodwyd bod y rhan fwyaf o bentref Efailwen ar hyn o bryd o fewn Cymuned Cilymaenllwyd ac ystyriwyd y byddai newid i'r ffin i'r gorllewin o'r pentref o fwy o fudd, o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, yn hytrach na chreu ffin newydd i'r dwyrain o'r pentref i gynnwys y pentref o fewn Cymuned Clunderwen. Mae ein cynnig yn dilyn llinell ail awgrym Cyngor Sir Penfro (gyda diwygiad bach) fel yr ystyriwyd yn 6.6 uchod. Ceir map yn dangos y diwygiad hwn yn Atodiad 2.
7.7 Cynigiwn y dylid diwygio'r ffin rhwng Cymunedau Clunderwen a Henllanfallteg i ddilyn y llinell a awgrymwyd gan Blaid Ryddfrydol Cymru fel yr ystyriwyd yn 6.7 uchod. Ystyriwn mai effaith y cynnig hwn fydd dileu anomaledd amlwg. Ystyriwn hefyd fod y ffin newydd yn fwy amlwg. Ceir map yn dangos y diwygiad hwn yn Atodiad 3.
7.8 Nodwyd y codwyd y mater ynghylch a fyddai angen cyfnod ymgynghori pellach neu a ddylid cynnal pleidlais gan y Comisiwn yng Nghymuned Clunderwen i ddarganfod barn yr etholwyr o ran ein cynigion. Yr ydym yn fodlon bod y sylwadau a dderbyniwyd yn adlewyrchu barn yr etholwyr a'u cyrff cynrychioliadol yn ddigonol ac felly nid ydym yn ystyried bod angen pleidlais neu gyfnod ymgynghori pellach. Mae cyfle pellach i wneud sylwadau ynghylch ein cynigion ar gyfer y rhai hynny sy'n dymuno gwneud hynny (gweler 12.3 isod).
8. CYNIGION
8.1 Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd ar gael i ni, cynigiwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, y dylid adlinio'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn ardal Cymunedau Clunderwen a Gorllewin Llandysilio yn yr ardal y cynhelir arolwg ohoni yn sylweddol i ddilyn ffin ddwyreiniol bresennol Cymuned Clunderwen. Cynigiwn newid i'r ffin rhwng Cymunedau Clunderwen a Chilymaenllwyd yn ardal Efailwen a newid i'r ffin rhwng Cymunedau Clunderwen a Henllanfallteg yn ardal Fferm y Coleg. Yna bydd y ffin ddiwygiedig rhwng Cymuned Clunderwen a Chymunedau Cilymaenllwyd a Henllanfallteg yn ffurfio'r ffin newydd rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Dangosir y newid arfaethedig i ffin y Sir mewn glas ar y map yn Atodiad 1 â'r diwygiadau manwl wedi'u dangos ar y mapiau yn Atodiad 2 ac Atodiad 3.
8.2 Cynigiwn hefyd y dylid mabwysiadu'r newid a awgrymwyd gan yr Arolwg Ordnans i'r ffin rhwng Cymunedau Clunderwen a Henllanfallteg ym mhegwn de ddwyreiniol pellaf Clunderwen gerllaw fferm Pen-deri. Cynigiwn y dylid diwygio'r ffin yma i ddilyn llinell bresennol cwrs Afon Daulan. Dim ond ar ardal fach o dir lle nad oes unrhyw eiddo y mae'r cynnig hwn yn effeithio.
8.3 Gellir gweld map manwl ar raddfa fwy yn dangos y ffin newydd arfaethedig yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro ac yn swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.
9. NEWID ENW
9.1 Nodwyd, er mai Clynderwen yw enw swyddogol y gymuned, Clunderwen yw'r enw a ddefnyddir gan y Cyngor Cymuned ac ar arwyddion ffyrdd ac ati. Ystyriwn mai Clunderwen yw'r ffurf 'gywir' ac felly cynigiwn y dylid newid enw'r Gymuned yn unol â hynny.
10. TREFNIADAU CANLYNIADOL
10.1 O dan Adran 54 (1) (e) y Ddeddf, gall y Comisiwn wneud cynigion i newid y trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol sy'n ganlyniadol ar unrhyw newid arfaethedig mewn ardaloedd llywodraeth leol. Ceir dadansoddiad manwl o'r newidiadau arfaethedig i'r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro a chymunedau Clunderwen, Gorllewin Llandysilio a Chilymaenllwyd isod.
10.2 Caiff Cymuned Clunderwen ei chynnwys gyda Chymunedau Henllanfallteg a Hendy-gwyn ar Daf yn rhanbarth etholiadol Hendy-gwyn ar Daf gyda 2,043 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan 1 cynghorydd (ffigurau etholiadol 1995). Effaith y newid arfaethedig i'r ffin fyddai lleihau nifer yr etholwyr yn rhanbarth Hendy-gwyn ar Daf i tua 1,489 o etholwyr (ffigurau etholiadol 1995). Y gymhareb a argymhellir gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei Gyfarwyddiadau i'r Comisiwn yn 1995 yw 1:1750, ac rydym o'r farn bod y gymhareb sy'n seiliedig ar ffigurau etholiadol 1995 yn ddigon agos i'r gymhareb a argymhellir i sicrhau na fydd unrhyw newid o ran cynrychiolaeth yn ofynnol. Wedi'r cyfan mae sawl rhanbarth etholiadol o fewn y sir (Sir Gaerfyrddin) gyda llai o etholwyr.
10.3 Caiff Cymuned Gorllewin Llandysilio ei chynnwys gyda Chymunedau Maenclochog a Mynachlog-Ddu yn rhanbarth etholiadol Maenclochog gyda 1,273 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan 1 cynghorydd (ffigurau etholiadol 1997). Cynigiwn fod Cymuned Clunderwen yn cael ei chynnwys o fewn rhanbarth etholiadol Maenclochog. Bydd hyn yn arwain at ranbarth gyda thua 1,827 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan 1 cynghorydd. Fel y nodwyd yn 10.2 1:1,750 yw'r gymhareb a argymhellir ac rydym o'r farn bod y gymhareb arfaethedig ar gyfer rhanbarth Maenclochog yn ddigon agos i'r gymhareb a argymhellwyd i sicrhau na fydd unrhyw newid o ran cynrychiolaeth yn ofynnol. Mae nifer o ranbarthau etholiadol eraill gyda lefel debyg o gynrychiolaeth o fewn y sir ac ystyriwyd y byddai hyn yn lefel briodol o gynrychiolaeth. Nodwyd y sylwadau gan Gyngor Cymuned Gorllewin Llandysilio sy'n gofyn i ni ystyried enw gwahanol ar gyfer rhanbarth etholiadol newydd Maenclochog. Nid oes gennym farn gref ar enwi rhanbarthau etholiadol dim ond y dylent adlewyrchu enw'r ardal y maent yn ei chwmpasu a, lle y bo'n briodol, y dylid ystyried ffurf Gymraeg ar yr enw. Awgrymwn y byddai Cleddau Ddu yn enw priodol (enw Cymraeg Eastern Cleddau) gan mai'r afon hon sy'n ffurfio rhan o'r ffin ar gyfer y pedair cymuned.
10.4 Gan na fydd newid i ffin Cymuned Gorllewin Llandysilio o dan y cynigion hyn, ni chynigiwn unrhyw newid i'r trefniadau etholiadol ar gyfer y Cyngor Cymuned.
10.5 O dan y cynigion hyn, bydd newid bach i'r ffin rhwng Cymuned Clunderwen a Chymuned Cilymaenllwyd gan arwain at sawl eiddo yn symud o Glunderwen i Gilymaenllwyd. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i'r etholaeth yn effeithio'n niweidiol ar y trefniadau etholiadol ar gyfer y naill Gymuned na'r llall ac felly ni chynigiwn unrhyw newid i'r trefniadau etholiadol ar gyfer Cynghorau Cymuned Clunderwen na Chilymaenllwyd.
10.6 O dan y cynigion hyn bydd hefyd newid bach i'r ffin rhwng Cymuned Clunderwen a Chymuned Henllanfallteg gan arwain at un eiddo'n symud o Henllanfallteg i Glunderwen. Ystyriwn nad yw'r newid bach hwn i'r etholaeth yn effeithio'n niweidiol ar y trefniadau etholiadol ar gyfer y naill Gymuned na'r llall ac felly ni chynigiwn unrhyw newid i'r trefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Cymuned Clunderwen na Henllanfallteg.
11. CYDNABYDDIAETHAU
11.1 Hoffem fynegi ein diolch i'r prif gynghorau ac i'r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob person a chorff a gyflwynodd sylwadau i ni.
12. YMATEBION I'R ADDRODIAD HWN
12.1 Wedi cwblhau ein harolwg o ran o'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn ardal Cymunedau Clunderwen a Gorllewin Llandysilio a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y Ddeddf.
12.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny'n briodol, yw eu gweithredu gydag addasiadau neu hebddynt drwy Orchymyn neu gyfarwyddo'r Comisiwn i gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o'r fath cyn cyfnod o chwe wythnos o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
12.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach yn ymwneud â'r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau i:
Is-Adran Moderneiddio Llywodraeth Leol 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQYR ATHRO E SUNDERLAND OBE LL MA PhD LLD FIBiol (Cadeirydd)
E F L FITZHUGH OBE DL (Dirprwy Gadeirydd)
MRS S G SMITH LLB (Aelod)
E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)
Rhagfyr 2001
