Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O RAN O'R FFIN RHWNG SIR GAERFYRDDIN, BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT A SIR POWYS YN ARDAL CWMLLYNFELL

ADRODDIAD A CHYNIGION

  1. CYFLWYNIAD
  2. CRYNODEB GWEITHREDOL
  3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
  4. CYNIGION DRAFFT
  5. SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
  6. ASESIAD
  7. PONT BRYN-MORGAN
  8. CYNIGION
  9. TREFNIADAU CANLYNIADOL
  10. CYDNABYDDIAETHAU
  11. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN

Sue Essex AC

Gweinidog dros Gyllid, Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r arolwg o ran o'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin, Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn Ardal Cwmllynfell a'n cynigion ar gyfer ffin newydd. (Ceir map yn dangos ardal yr arolwg yn Atodiad 6).

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

2.1 Cynigiwn y dylid:

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Y drefn

3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw, ysgrifenasom at y prif gynghorau, y cynghorau cymuned, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, Aelodau'r Cynulliad dros yr ardal, cymdeithasau'r awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu dros yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg, ac i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol. Gwahoddwyd y prif gynghorau i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer newidiadau i'r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i'r cynghorau arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Mewn ymateb i'n gwahoddiad cychwynnol, derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Cymuned Cwmllynfell, y Gwir Anrh. Peter Hain AS, Gwenda Thomas AC, Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ac un o'r trigolion. Ystyriwyd y sylwadau hyn ac fe'u crynhowyd yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 15 Tachwedd 2002.

4.2 Argymhellodd ein Cynigion Drafft y dylid adlinio'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ardal Cwmllynfell yn ardal yr arolwg i ddilyn Afon Llynfell o'r man ar y ffin bresennol wrth bont heol yr A4068 yng Nghwmllynfell nes iddi gwrdd â'r ffin bresennol eto lle y mae Afon Llynfell ac Afon Twrch yn cydlifo.

4.3 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft nodwyd y cynnig amgen a wnaed gan Gyngor Cymuned Cwmllynfell i greu cymuned newydd drwy gyfuno Cymuned bresennol Cwmllynfell â rhan sylweddol o Ward Llynfell yng Nghymuned Cwarter Bach. Roeddem o'r farn nad oedd gennym ddigon o dystiolaeth ar yr adeg honno i ystyried y byddai cynnig Cyngor Cymuned Cwmllynfell er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Felly nodwyd cynnig Cyngor Cymuned Cwmllynfell a gwahoddwyd sylwadau pellach i lywio ein hystyriaeth bellach o'r mater hwn.

4.4 Anfonwyd copïau o'r Cynigion Drafft at bob cyngor, corff ac unigolyn y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3.2 yn gofyn am eu barn. Hefyd anfonwyd copi at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau rhagarweiniol. Drwy hysbysiad cyhoeddus gwahoddwyd unrhyw sefydliad neu berson arall a oedd â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu barn. Roedd copïau o'r Cynigion Drafft ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a'r Comisiwn a hefyd yn swyddfeydd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys. Yn ogystal, cawsom gyfeiriadau'r holl drigolion yn yr ardal yr effeithiodd yr arolwg arnynt oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Ysgrifenasom at y trigolion ar 7 Mehefin 2003 gan roi crynodeb o'n Cynigion Drafft iddynt ac i'w hysbysu o gyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2003 yn Neuadd y Mileniwm, Cwmllynfell. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn, a fynychwyd gan 112 o bobl, er mwyn rhoi esboniad manwl o'r cynigion drafft, fel y byddai'r trigolion lleol wedyn mewn sefyllfa i ymateb erbyn y dyddiad cau. O ganlyniad i ysgrifennu at y trigolion a'r wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod, rydym o'r farn bod y gymuned leol yn deall y cynigion drafft ac roeddem yn fodlon ar yr ymateb ardderchog o ran nifer y sylwadau a dderbyniwyd o ganlyniad i hynny (Atodiad 5).

5. SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT

5.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Sir Caerfyrddin; Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot; Cyngor Sir Powys; Cyngor Cymuned Cwmllynfell; Cyngor Tref Ystradgynlais; Adam Price AS; Rhodri Glyn Thomas AC; 120 o gyrff a thrigolion eraill â diddordeb a 6 deiseb gyda chyfanswm o 544 o lofnodion arnynt. Ystyriwyd pob un o'r sylwadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion.

5.2 Ceir copïau o'r sylwadau a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn Atodiadau 1 a 2.

5.3 Ceir copïau o'r sylwadau a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot yn Atodiadau 3 a 4.

5.4 Ceir crynodeb o'r sylwadau eraill yn Atodiad 5.

6. ASESIAD

6.1 Nododd Cyngor Cymuned Cwmllynfell yn ei gynnig gwreiddiol mai dim ond drwy groesi ac ail-groesi'r ffiniau sy'n bodoli rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin y gellid darparu gwasanaethau awdurdod lleol ar hyn o bryd. Roeddent o'r farn bod dyblygu yn bodoli (o ran darparu gwasanaethau) a bod hyn yn wastraffus o ran adnoddau a'i fod yn tynnu oddi ar lywodraeth leol effeithiol a chyfleus y gellid ei darparu pe bai'r ardal yn cael ei gwasanaethu gan un Cyngor Sir ac un Cyngor Cymuned. Ystyrid hefyd y byddai hyn yn atgyfnerthu'r ymdeimlad o ysbryd cymunedol sy'n bodoli eisoes. Ystyriwn fod rhinweddau gan y pwyntiau hyn.

6.2 Mae'n amlwg o'r mwyafrif o'r sylwadau a dderbyniwyd yr ystyrir bod buddiannau cyffredin rhwng pentrefi Cwmllynfell, Pen-Rhiw-fawr, Cefn bryn brain ac Ystradowen. Mae'r pedwar pentref yn agos at ei gilydd ar lethrau cyferbyniol cwm Afon Llynfell gyda'r ffin bresennol yn rhannol yn dilyn yr afon ac yn rhannol yn torri ar draws y tir ar lethr ogleddol y cwm (gweler y map yn Atodiad 6). Mae nifer o'r sylwadau wedi nodi y byddai cynnwys y pentrefi gyda'i gilydd o dan un awdurdod yn galluogi'r awdurdod hwnnw i ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol yn fwy effeithiol ac effeithlon nag o dan y trefniadau presennol.

6.3 Mae'r wybodaeth a dderbyniwyd yn ysgrifenedig gennym ar ôl cyhoeddi ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft a'r wybodaeth a fynegwyd yn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2003, wedi ategu ein barn y byddai er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus i gynnwys pentrefi Cwmllynfell, Pen-Rhiw-fawr, Cefn-bryn-brain ac Ystradowen gyda'i gilydd mewn cymuned newydd o fewn yr un ardal awdurdod unedol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ran y prif wasanaethau, sef Addysg, Casglu Sbwriel a Phriffyrdd, a byddai cael cymuned â diddordebau cyffredin o fudd pendant i'r gwasanaethau eraill a ddarperir.

6.4 Darparodd y ddau awdurdod sirol wybodaeth yn ymwneud â phriodolrwydd lleoliad y gymuned gyfunedig yn y dyfodol a pha mor addas yw'r awdurdod penodol hwnnw fel darparwr gwasanaethau. Fodd bynnag, rydym o'r farn y byddai nodi a derbyn buddiannau cyffredin yn cyfrannu'n sylweddol at y gwaith o lunio polisi a strategaethau darparu gwasanaethau sydd o fudd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

6.5 Roedd yn amlwg iawn o'r Cyfarfod Cyhoeddus a gynhaliwyd yn Neuadd y Mileniwm bod nifer fawr o drigolion Cymraeg eu hiaith yn byw yn y gymuned arfaethedig. Dengys archwiliad o ystadegau'r Cyfrifiad diwethaf y byddai ychydig dros 73% o boblogaeth y gymuned arfaethedig yn siarad Cymraeg. Mae hyn dipyn yn uwch na'r cymunedau cyfagos a leolir yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys. Byddai'r gymuned arfaethedig yn rhan o boblogaeth â dwysedd uchel o bobl sy'n siarad Cymraeg sy'n amlwg o ddata'r Cyfrifiad a archwiliwyd ar gyfer yr ardal hon. Gellir ystyried bod iaith yn un o'r ffactorau sy'n creu ymdeimlad o gymuned yn lleol. Ceir cymunedau tebyg gyda niferoedd tebyg o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin.

6.6 Ymhellach nodwyd bod rhanbarth etholiadol presennol Cwmllynfell o fewn Castell-nedd Port Talbot. Y rhanbarth hwn, er ei fod yn cwmpasu ardal gymharol fawr, sydd â nifer isaf yr etholwyr yn y sir sydd 46% yn is na chyfartaledd y sir (1995). Mae nifer yr etholwyr o fewn y rhanbarth yn llai na 1% o etholwyr Castell-nedd Port Talbot. Bydd maint rhanbarth etholiadol arfaethedig Cwmllynfell yn cydymffurfio'n fwy â rhanbarthau etholiadol yn Sir Gaerfyrddin (gweler 9.2 isod). Felly ystyriwn fod gan ardal Cwmllynfell fwy yn gyffredin â rhanbarthau gwledig Sir Gaerfyrddin na'r mwyafrif o ranbarthau yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n fwy trefol ac mae hyn, yn ein barn ni, yn ategu'r argymhelliad i gynnwys y gymuned newydd arfaethedig o fewn Sir Gaerfyrddin.

6.7 Mae'n amlwg o'r sylwadau a dderbyniwyd bod y trigolion hynny sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd am aros yn Sir Gaerfyrddin ac nad ydynt yn dymuno bod yn rhan o Gastell-nedd Port Talbot.

6.8 Ymddengys bod y mwyafrif o'r trigolion yn Ward Cwmllynfell yng Nghymuned Cwmllynfell yn cefnogi'r cynnig i gyfuno'r pentrefi o fewn un ardal gymunedol yn Sir Gaerfyrddin ond ceir nifer o sylwadau gan drigolion y byddai'n well ganddynt aros yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ymddengys bod y farn wedi'i rhannu'n fwy cyfartal ymhlith trigolion yn Ward Pen-Rhiw-fawr yng Nghymuned Cwmllynfell o ran pa awdurdod unedol y dylid cynnwys y gymuned arfaethedig ynddi. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd a'r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2003, daethom i'r casgliad bod y mwyafrif helaeth yn cefnogi'r cynnig i greu'r gymuned newydd hon o fewn Sir Gaerfyrddin.

6.9 Cyfeiriodd nifer o'r sylwadau at y diffyg cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhwng Cwmllynfell a rhannau eraill o Gastell-nedd Port Talbot. I'r gwrthwyneb nodwyd bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gyda Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin sy'n golygu bod trigolion Cwmllynfell yn defnyddio Rhydaman i siopa ac ar gyfer anghenion eraill.

6.10 Derbyniwyd nifer o sylwadau gan rieni a chan athrawon a gyflogir mewn ysgolion cynradd yn ardal yr arolwg; yn mynegi pryder ynghylch yr effeithiau andwyol posibl y byddai'r newid arfaethedig i'r ffin yn eu cael ar ddyfodol y gwasanaeth addysg gynradd. Mae pedair ysgol gynradd yn gweithredu yn ardal yr arolwg ar hyn o bryd - Cefnbrynbrain ac Ystradowen yn Sir Gaerfyrddin a Chwmllynfell a Rhiwfawr yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae Sir Gaerfyrddin yn ystyried darparu ysgol gynradd newydd yn eu rhan hwy o ardal yr arolwg ar hyn o bryd ond maent wedi nodi y byddent yn ailasesu'r sefyllfa pe bai'r newid arfaethedig i'r ffin yn cael ei gymeradwyo.

6.11 Nid yw'n rhan o frîff y Comisiwn i ragfarnu'r angen i gynnal arolwg o ddarpariaeth addysgol a allai fod yn angenrheidiol. Fodd bynnag, fel mater o egwyddor mae'r Comisiwn o'r farn y dylai unrhyw arolwg o'r fath gwmpasu ardal gyfan lle ceir diddordeb cymunedol er budd disgyblion a llywodraeth leol gyfleus ac effeithiol. Yn ddiamau, byddai ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal â phawb â diddordeb yr effeithid arnynt wrth lunio polisïau a strategaethau darparu gwasanaethau sydd o fudd i lywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac wrth weithredu'r newidiadau arfaethedig, ac rydym yn fodlon o'r sylwadau a dderbyniwyd y byddai'r ddau Awdurdod Addysg yn ceisio cyflawni'r safonau uchaf posibl o addysg gynradd yn gyson ag anghenion poblogaeth yr ardal a aseswyd.

6.12 Roedd nifer o'r sylwadau a dderbyniwyd yn mynegi pryderon o ran parhau i ariannu Neuadd y Mileniwm yng Nghwmlynfell. Yn eu hail sylw (Atodiad 3), rhoddodd Cyngor Sir Caerfyrddin y sicrwydd y byddai'n darparu'r arian ar gyfer Neuadd y Mileniwm pe byddai'n cael ei throsglwyddo i Sir Gaerfyrddin. Felly rydym yn fodlon na fyddai'n newid arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y broses o redeg Neuadd y Mileniwm.

6.13 Rydym yn cytuno â sylwadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot na ddylai gwahaniaethau yn lefel y Dreth Gyngor fod yn ffactor pwysig wrth newid ffiniau. Dylanwadir ar lefel y Dreth Gyngor yn sylweddol gan gymorth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad a gyfrifir i adlewyrchu angen ac a fydd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

6.14 Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael i ni rydym o'r farn y dylai'r Gymuned newydd arfaethedig fod o fewn ardal Cyngor Sir Caerfyrddin er budd llywodraeth leol fwy effeithiol a chyfleus ac yn unol â dymuniadau'r mwyafrif helaeth o'r trigolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig hyn i'r ffin.

7. PONT BRYN-MORGAN

7.1 Yn ystod yr arolwg derbyniwyd sylw gan un o drigolion ardal Pont Bryn-Morgan yng Nghymuned Cwmllynfell. Gofynnodd a fyddai'r Comisiwn yn ystyried newid y ffin rhwng Castell-nedd Port Talbot a Phowys er mwyn cynnwys ei eiddo o fewn Sir Powys. Ystyriwyd y cais hwn a phenderfynwyd bod gan y cynnig rai rhinweddau. Felly cytunwyd i ymestyn y broses o ystyried ffiniau'r sir yn ardal Cwmllynfell i gynnwys ardal Pont Bryn-Morgan. Ysgrifennwyd at Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Powys, Cyngor Cymuned Cwmllynfell a Chyngor Tref Ystradgynlais yn gofyn am eu barn ar y cynnig hwn. Hefyd amgaewyd manylion y newid arfaethedig hwn, gyda map, yn y llythyr a anfonwyd at y trigolion ar 7 Mehefin 2003.

7.2 Derbyniwyd sylwadau am y cynnig hwn gan Gyngor Sir Powys, Cyngor Cymuned Cwmllynfell, Cyngor Tref Ystradgynlais a dau arall. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau eraill ynghylch y cynnig hwn. Caiff y sylwadau eu cynnwys yn y crynodeb o'r sylwadau yn Atodiad 5.

7.3 Ystyriwyd y ffaith mai dim ond drwy Sir Powys y gellir cael mynediad i'r eiddo hwn, ac ymddengys ei bod yn rhesymol mai un awdurdod priffyrdd a ddylai fod yn gyfrifol am fynediad i'r eiddo o'r briffordd. Ymddengys i ni hefyd fod yr eiddo yn sefyll ar wahân i weddill Cymuned Cwmllynfell a bod diddordeb cyffredin trigolion yr eiddo yng Nghwm-twrch yn Sir Powys. Felly rydym o'r farn ei bod yn briodol newid y ffin er mwyn cynnwys yr eiddo o fewn Sir Powys er budd llywodraeth leol gyfleus ac effeithiol.

8. CYNIGION

8.1 Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, cynigiwn y dylid adlinio'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ardal yr arolwg i ddilyn ffin ddeheuol Cymuned bresennol Cwmllynfell. Dangosir y newid arfaethedig i'r ffin mewn glas ar y map yn Atodiad 7.

8.2 O ganlyniad caiff ardal Cymuned bresennol Cwmllynfell ei throsglwyddo o Awdurdod Unedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i Awdurdod Unedol Cyngor Sir Caerfyrddin ac eithrio'r rhan honno o Gymuned bresennol Cwmllynfell ym Mhont Bryn-Morgan Isaf (a dangosir ar y map yn Atodiad 8) a gaiff ei throsglwyddo i Awdurdod Unedol Cyngor Sir Powys. Caiff Cymuned newydd Cwmllynfell ei ffurfio drwy gyfuno ardal Cymuned bresennol Cwmllynfell â ward Llynfell Cymuned bresennol Cwarter Bach. Caiff Cymuned newydd Cwarter Bach ei ffurfio o wardiau Cwarter Bach a Brynaman yng Nghymuned bresennol Cwarter Bach.

8.3 Mae map manwl ar raddfa fwy yn dangos y ffin newydd arfaethedig ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Powys ac yn swyddfa'r Comisiwn yng Nghaerdydd.

9. TREFNIADAU CANLYNIADOL

9.1 O dan Adran 54 (1) (e) o'r Ddeddf, gall y Comisiwn wneud cynigion i newid y trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol, yn sgîl unrhyw newid arfaethedig mewn ardaloedd llywodraeth leol. Rhoddir manylion y newidiadau arfaethedig i'r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot a chymunedau Cwarter Bach a Chwmllynfell isod.

9.2 Rhennir Sir Gaerfyrddin at ddibenion etholiadol yn 58 o ranbarthau etholiadol a gynrychiolir gan 74 o gynghorwyr. Mae rhanbarth etholiadol presennol Cwarter Bach yn cynnwys Cymuned Cwarter Bach gyda 2,200 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Byddai'r newidiadau arfaethedig yn lleihau maint Cymuned Cwarter Bach ac felly yn lleihau maint rhanbarth etholiadol Cwarter Bach 668 o etholwyr i 1,532 o etholwyr. Er bod hyn yn llai na chyfartaledd y sir o 1 cynghorydd i 1,809 o etholwyr ceir sawl rhanbarth etholiadol o fewn Sir Gaerfyrddin gyda nifer tebyg neu nifer llai o etholwyr. Felly cynigiwn y dylid ffurfio rhanbarth etholiadol diwygiedig Cwarter Bach yn cynnwys Cymuned ddiwygiedig Cwarter Bach a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Bydd gan Gymuned newydd arfaethedig Cwmllynfell 1,578 o etholwyr. Ystyriwn fod hyn yn nifer briodol o etholwyr i ffurfio rhanbarth etholiadol newydd Cwmllynfell o fewn Sir Gaerfyrddin gyda 1,578 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd. Bydd hyn yn arwain at newid trefniadau etholiadol Cyngor Sir Caerfyrddin gyda chynnydd i 59 o ranbarthau etholiadol a gynrychiolir gan 75 o gynghorwyr.

9.3 Rhennir Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot at ddibenion etholiadol yn 42 o ranbarthau etholiadol a gynrychiolir gan 64 o gynghorwyr. Byddai'r newidiadau arfaethedig yn arwain at golli rhanbarth etholiadol Cwmllynfell gan leihau trefniadau etholiadol y Cyngor Bwrdeistref Sirol i 63 o gynghorwyr yn cynrychioli 41 o ranbarthau etholiadol.

9.4 Rhennir Cymuned Cwarter Bach yn Sir Gaerfyrddin yn dair ward at ddibenion etholiadau cymunedol fel a ganlyn:

Enw’r Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Cwarter Bach

Brynaman

Llynfell

842

690

668

5

5

4

Cyfanswm

2,200

14

9.5 Rhennir Cymuned Cwmllynfell yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ddwy ward at ddibenion etholiadau cymunedol fel a ganlyn:

Enw’r Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Cwmllynfell

Penrhiwfawr

685

225

6

3

Cyfanswm

910

9

9.6 Wrth ystyried y newidiadau sy'n ofynnol i'r trefniadau etholiadol cymunedol ar gyfer y ddwy ardal gymunedol ddiwygiedig, cynigiwn y dylid defnyddio'r wardiau cymunedol presennol. Felly cynigiwn y dylid rhannu Cymuned newydd Cwmllynfell yn Sir Gaerfyrddin yn dair ward at ddibenion etholiadau cymunedol fel a ganlyn:

Enw’r Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Cwmllynfell

Penrhiwfawr

Llynfell

685

225

668

5

3

5

Cyfanswm

1,578

13

Cynigiwn, er mwyn rhoi cydraddoldeb rhwng lefelau'r gynrychiolaeth yn y wardiau cymunedol newydd, y dylid lleihau nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli ward Cwmllynfel i 5 ac y dylid cynyddu nifer y cynghorwyr sy'n cynrychioli ward Llynfell i 5.

Cynigiwn hefyd y dylid rhannu Cymuned ddiwygiedig Cwarter Bach yn Sir Gaerfyrddin yn ddwy ward at ddibenion etholiadau cymunedol fel a ganlyn:

Enw’r Ward

Etholwyr

Cynghorwyr

Cwarter Bach

Brynaman

842

690

6

5

Cyfanswm

1,532

11

O ystyried y nifer fwy o etholwyr yn ward Cwarter Bach o gymharu â ward Brynaman, dylid dyrannu cynghorydd ychwanegol i ward Cwarter Bach.

Nodir ffiniau'r wardiau cymunedol mewn du ar y map yn Atodiad 7.

9.7 Mae'r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot a'r ffin rhwng Powys a Chastell-nedd Port Talbot yn rhan o'r ffin rhwng ardaloedd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys a Heddlu De Cymru. Argymhellwn y dylid cymhwyso'r newidiadau arfaethedig i ffiniau'r awdurdodau unedol i'r ffin rhwng y ddau awdurdod heddlu hefyd.

10. CYDNABYDDIAETHAU

10.1 Hoffem fynegi ein diolch i'r prif gynghorau a'r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob person a chorff a gyflwynodd sylwadau i ni.

11. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN

11.1 Ar ôl cwblhau ein harolwg o ran o'r ffin rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn Ardal Cwmllynfell a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

11.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny'n briodol, yw eu gweithredu gydag addasiadau neu hebddynt drwy Orchymyn neu roi cyfarwyddyd i'r Comisiwn gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o'r fath cyn cyfnod o chwe wythnos o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

11.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach yn ymwneud â'r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau i:

Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol 2
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

J DAVIES ICSA IPFA (Dirprwy Gadeirydd)

D H ROBERTS BSc DMS MBCS MCMI (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Mawrth 2004

19/3/2004