Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG DINAS A SIR CAERDYDD A BWRDEISTREF SIROL BRO MORGANNWG YN ARDAL FFORDD GYSWLLT GRANGETOWN

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

4. CYNIGION CYCHWYNNOL

5. CRYNODEB O'R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION CYCHWYNNOL

6. ASESIAD

7. CYNIGION

8. CYDNABYDDIAETHAU

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

Edwina Hart AC MBE

Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Rydym ni, y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau’r arolwg o ran o’r ffin rhwng Dinas a Sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn ardal Ffordd Gyswllt Grangetown a chyflwynwn ein cynigion ar gyfer ffin newydd.

2. CRYNODEB GWEITHREDOL

2.1 Cynigiwn y dylid adlinio’r ffin rhwng Dinas a Sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn ardal Ffordd Gyswllt Grangetown yn yr ardal y cynhelir arolwg ohoni i ddilyn llinell ganol Afon Elái.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Y drefn

3.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r arweiniad hwnnw, ysgrifenasom ar 27 Gorffennaf 2001 i Gynghorau Dinas a Sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cynghorau Cymuned Llanfihangel-ar-Elái a Llandŵ, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, Aelodau Cynulliad yr ardal, cymdeithasau yr awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu dros yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg, ac i ofyn am eu safbwyntiau ar ein cynigion cychwynnol. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i’r cynghorau arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus.

Cefndir

3.3 Mae’r ffin rhwng Dinas a Sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn dilyn, yn bennaf, Afon Elái o’r A4232 i’r de tuag at Benrhyn Penarth. Newidiwyd cwrs rhan o’r afon (rhwng Brindley Road a Clip-coch) pan adeiladwyd Ffordd Gyswllt Grangetown ond mae’r ffin yn parhau i ddilyn hen gwrs yr afon. Newidiwyd cwrs yr afon gan ‘Orchymyn Sir De Morgannwg (Ffordd Ddosbarthu Ymylol: Cyswllt Grangetown) (Newid Cwrs Afon Elái) 1982’. Nodir ar ôl newid cwrs yr afon, fod pŵer yn bodoli o dan Adran 73 Deddf 1972 i’r Ysgrifennydd Gwladol orchymyn ar ôl ymgynghori â’r Comisiwn, y dylid newid y ffin i gydymffurfio â llinell newydd cwrs y dŵr, ond ym 1982 ni fanteisiwyd ar y cyfle i weithredu newid o’r fath heb arolwg gan y Comisiwn. Daethpwyd â’r anghysondeb hwn i sylw’r Comisiwn ym 1995 gan Gyngor Sir De Morgannwg. Fodd bynnag, ar y pryd, roedd y Comisiwn newydd gael cyfarwyddiadau gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gynnal rhaglen o drefniadau etholiadol ar gyfer yr awdurdodau newydd yng Nghymru a phenderfynwyd bod blaenoriaeth uwch i’r gwaith hwn nag i faterion yn ymwneud â ffiniau.Wedi cwblhau’r rhaglen o arolygon etholiadol, mae’r Comisiwn bellach wedi sicrhau bod adnoddau ar gael i gynnal yr arolwg hwn.

4. CYNIGION CYCHWYNNOL

4.1 Ystyriwyd bod yr arwynebedd tir a gynhwyswyd yn yr ymraniad rhwng y cwrs dŵr a’r ffin yn fach a bod y mwyafrif ohono wedi’i leoli o dan ffordd gyswllt Grangetown. Hyd y gellid gweld, nid effeithir ar unrhyw ardal breswyl, ddiwydiannol neu amaethyddol. O ystyried cwmpas ac effaith gyfyngedig newid y ffin yn yr ardal hon, penderfynwyd na fyddem yn cynnal cam Cynigion Drafft yr arolwg ac yn hytrach gwnaethom gynigion yn ystod y cam cychwynnol. Yn ein Cynigion Cychwynnol argymhellwyd y dylid newid y ffin i ddilyn canol cwrs newydd Afon Elái.

5. CRYNODEB O'R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT

5.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac un o drigolion Caerdydd. Ystyriwyd pob un o’r sylwadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion.

5.2 Roedd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd o blaid newid arfaethedig y Comisiwn i’r ffin i ddilyn llinell ganol cwrs newydd Afon Elái. Ni welai’r Cyngor unrhyw anawsterau neu broblemau’n codi o’r newid arfaethedig hwn i’r ffin yn nhermau gweinyddu’r ardal. Nid oedd y Cyngor o’r farn y byddai’r newid arfaethedig i’r ffin yn cael unrhyw effaith ar unrhyw gynlluniau cyfredol ar gyfer cyflwyno gwasanaethau. Cyhyd ag y bo’r Cyngor yn ymwybodol, nid oes unrhyw ffactorau lleol arbennig sydd wedi dylanwadu ar eu safbwyntiau. Roeddent o blaid awgrym y Comisiwn i hepgor cam Cynigion Drafft yr arolwg a bwrw ati yn syth â chynnig yn ystod y cam cychwynnol.

5.3 Nid oedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg unrhyw wrthwynebiad i gynnig y Comisiwn i newid y ffin er mwyn iddi ddilyn canol cwrs newydd Afon Elái.

5.4 Roedd un o drigolion Caerdydd o’r farn y dylai’r Comisiwn gynnwys ardal Harbwr Penarth yn eu harolwg o’r ffin rhwng Caerdydd a Bro Morgannwg. Awgrymodd y dylid trosglwyddo Harbwr Penarth i Gaerdydd er mwyn i ardal gyfan datblygiad Bae Caerdydd fod o dan un awdurdod lleol.

6. ASESIAD

6.1 Nodwyd gennym nad yw’r sylwadau a wnaed gan y ddau brif gyngor yn cynnwys unrhyw dystiolaeth i awgrymu na fyddai’r newid arfaethedig er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Ystyriwn fod y diffyg sylwadau gan unrhyw barti arall â diddordeb yn awgrymu bod bodlonrwydd cyffredinol â’r cynnig.

6.2 Nodwyd gennym yr awgrym gan un o drigolion Caerdydd y dylai’r Comisiwn hefyd ystyried newid i’r ffin i drosglwyddo ardal Harbwr Penarth i Gaerdydd. Fodd bynnag, rydym o’r farn bod yr awgrym hwn yn ymwneud â meysydd sydd y tu allan i gwmpas yr arolwg hwn. Felly byddai angen ymdrin â’r mater hwn fel arolwg ar wahân. Pe byddai partïon â diddordeb am barhau â’r mater hwn byddem yn gofyn iddynt wneud cais ffurfiol i’r Comisiwn gynnal arolwg o’r ardal benodol hon.

7. CYNIGION

7.1 Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, cynigiwn y dylid alinio’r ffin rhwng Dinas a Sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn ardal Ffordd Gyswllt Grangetown yn yr ardal y cynhelir arolwg ohoni i ddilyn llinell ganol Afon Elái. Nodir y newid arfaethedig i’r ffin mewn gwyrdd ar y map yn Atodiad 1.

7.2 Gellir archwilio map manwl ar raddfa fwy sy’n nodi’r ffin newydd arfaethedig yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac yn swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

8. CYDNABYDDIAETHAU

8.1 Hoffem fynegi ein diolch i’r prif gynghorau am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob corff a pherson a gyflwynodd sylwadau i ni.

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Ar ôl cwblhau ein harolwg o ran o’r ffin rhwng Dinas a Sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn ardal Ffordd Gyswllt Grangetown a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

9.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny’n briodol, yw eu gweithredu ynghyd ag addasiadau neu hebddynt drwy gyfrwng Gorchymyn neu roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o’r fath yn gynt na chyfnod o chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach yn ymwneud â’r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau at:

Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol 2
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

J DAVIES (Aelod)

D H ROBERTS (Aelod)

E H LEWIS BSc DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Ionawr 2002