Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O RHAN O’R FFIN RHWNG BWRDEISTREFI SIROL BRO MORGANNWG A PHEN-Y-BONT AR OGWR

ADRODDIAD A CHYNIGION

  1. CYFLWYNIAD
  2. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
  3. CYNIGION DRAFFT
  4. SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
  5. ASESIAD
  6. CYNIGION
  7. CYDNABYDDIAETHAU
  8. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN

Y Gwir Anrhydeddus Alun Michael YH AS AC

Prif Ysgrifennydd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Rydym ni Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn) wedi cwblhau yr arolwg o ran y ffin rhwng Bwrdeistrefi Sirol Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr fel y’i cyfarwyddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei gyfarwyddiadau i ni dyddiedig 20fed Chwefror 1998.

2. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

2.1 Mae Adran 54 (1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Cyfarwyddiadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru

2.2 Yn unol ag Adran 56(1) Deddf 1972 (fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (Deddf 1994)) mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg o’r ardal sy’n cynnwys cymunedau Ewenni, Saint-y-brid a’r Wig ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.

2.3 Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd wedi rhoi’r cyfarwyddiadau canlynol i’r Comisiwn i’w harwain wrth gynnal yr arolwg yn unol ag Adran 59(1) Deddf 1972:

  1. dylid lleoli setliadau ar wahân o anheddau i bobl, lle bo hynny’n bosibl, o fewn un brif ardal;
  2. dylai ffiniau rhwng ardaloedd llywodraeth leol, lle bo hynny’n bosibl, ddilyn

nodweddion ffisegol adnabyddadwy megis afonydd a ffyrdd.

Y drefn

2.4 Mae Adran 60 Deddf 1972 yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r arweiniad hwnnw, ysgrifenasom ar 29ain Mai 1998, at Gynghorau Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, Cynghorau Cymuned Ewenni, Saint-y-brid a’r Wig, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, cymdeithasau yr awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu dros yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg, er mwyn gofyn am eu safbwyntiau cychwynnol a darparu copi o gyfarwyddiadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Comisiwn. Gwahoddwyd y Cynghorau Bwrdeistref Sirol i gyflwyno eu hawgrymiadau ar gyfer newidiadau i’r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i’r Cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus.

3. CYNIGION DRAFFT

3.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, pedwar cyngor cymuned, dau gynghorydd bwrdeistref sirol, tri chorff â diddordeb a 64 o drigolion. Derbyniasom dair deiseb hefyd.

3.2 Daeth yn amlwg drwy gyfarfodydd gyda Chynghorau Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr a Chynghorau Cymuned Ewenni, Saint-y-brid a’r Wig ynghyd â llythyrau a dderbyniwyd gan drigolion bod yna farn gynyddol y dylid cynnal pleidlais i fesur barn yr etholwyr. Rhoddwyd contract i Electoral Reform (Ballot Services) Cyfyngedig i gynnal pleidlais drwy’r post o’r holl etholwyr o fewn Cymunedau Ewenni, Saint-y-brid a’r Wig. Dim ond rhan o’r broses gwneud penderfyniadau oedd y pleidleisiau ym mhob un o’r cymunedau a gwerthuswyd y canlyniadau ynghyd â thystiolaeth arall a dderbyniwyd cyn i’r Comisiwn gyhoeddi ei gynigion drafft. Dosbarthwyd cyfanswm o 2,825 o bapurau pleidleisio a dychwelwyd 70% ohonynt. O’r etholwyr hynny a ddychwelodd bapurau, mynegodd 74% y byddai’n well ganddynt aros ym Mro Morgannwg ac roedd 26% am ddychwelyd i Ben-y-bont ar Ogwr.

3.3 Canlyniadau’r bleidlais gudd drwy’r post oedd:

Cymuned Papurau pleidleisio a ddosbarth-wyd Nifer a ddychwel-wyd

% a ddychwel-wyd O blaid Bro Morgannwg O blaid Pen-y-bont ar Ogwr
Ewenni

619

444

71.7%

287 (64.6%)

157 (35.4%)
Saint-y-brid

1,640

1,156

70.5%

868 (71.5%)

288 (24.9%)
Y Wig

566

387

68.3%

315 (81.4%)

72 (18.6%)
Cyfanswm

2,825

1,987

70.3%

1,470 (74.0%)

517 (26.0%)

3.4 Ystyriwyd canlyniad y bleidlais ynghyd â’r holl dystiolaeth arall a dderbyniwyd a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol i’n harwain a chynigiwyd y dylai’r ffin bresennol rhwng Bwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg aros. O dan ein cynnig byddai Cymunedau Ewenni, Saint-y-brid a’r Wig yn aros o fewn Bwrdeistrefi Sirol Bro Morgannwg. Byddai ffiniau cymunedau unigol yn parhau'n ddigyfnewid.

4. CRYNODEB O’R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

4.1 Mynegodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu siom gyda chynnwys yr adroddiad ar y cynigion drafft. Nodwyd bod paragraff 5.3 yr adroddiad yn datgan nad oedd y Comisiwn ‘yn argyhoeddedig bod y pellter i’r pencadlys sirol priodol yn awgrym o gyfleustra. Bydd cyfleustra o ran defnyddio gwasanaethau yn dibynnu i raddau helaeth ar y graddau y bydd unigolyn yn derbyn gwasanaethau a ddarperir yn ganolog a’r amgyffred personol o gyfleustra a boddhad.’ Dywedodd y Cyngor bod Pen-y-bont ar Ogwr yn amlwg yn sylweddol agosach at y tair cymuned na’r Barri, Llanilltud Fawr neu’r Bont-faen ac yn wir y byddai’n haws o lawer i bobl ddefnyddio gwasanaethau a ddarperir yn ganolog.

Cred y Cyngor mai Pen-y-bont ar Ogwr yw’r ffocws naturiol ar gyfer y tair cymuned ac ni ellid gwadu rhwyddineb a hwylustod defnyddio gwasanaethau llywodraeth leol ar y cyd â mynediad i’r holl gyfleusterau cyfreithiol ac iechyd a’r holl siopau. Roedd y trigolion o’r tair cymuned yn parhau i ddefnyddio’r cyfleusterau hamdden, y llyfrgelloedd, a’r cyfleusterau ailgylchu a gwaredu gwastraff ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gwelwyd hyn fel awgrym clir ei bod yn fwy hwylus ac effeithlon i’r tair cymuned ddefnyddio’r gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr nag yr oedd i ddefnyddio’r rheiny yr oedd Bro Morgannwg yn eu cynnig.

Cyfeiriodd y Cyngor at ddau bwynt pwysig arall, a wnaed yn eu cyflwyniad cychwynnol [cyfeirier at baragraffau 15.12 a 15.13 Atodiad 1 i’r adroddiad ar y Cynigion Drafft], yr ymddengys nad oedd y Comisiwn wedi eu hystyried.

  1. Dryswch y ffiniau. Dim ond rhan o’r broses etholiadol o fewn Bro Morgannwg ar gyfer etholiadau i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ac i’r cynghorau cymuned yw’r etholaethau yn y tair cymuned. Fe’u cynrychiolir gan AS ac ASE gwahanol a chânt eu cynrychioli gan Aelod gwahanol o’r Cynulliad Cenedlaethol yn ôl y system cyntaf yn y ras ac yn y rhestrau rhanbarthol. Roedd y Cyngor yn credu bod penderfyniad y Comisiwn i gadw’r ffin bresennol yn anwybyddu’r cyfle i gysoni’r ffiniau hyn ac i roi terfyn ar y dryswch ar gyfer y tair cymuned.
  2. Yr ymateb i argyfyngau. Roedd y Cyngor yn teimlo wrth ddelio ag ystod o argyfyngau, o fân ddigwyddiadau i drychinebau mawr, bod ymateb cyflym sy’n glir ac eglur yn hanfodol. Credant y gallai cadw’r sefyllfa bresennol achosi problemau difrifol. Nodwyd bod y gwasanaethau brys wedi’u lleoli o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac y byddai unrhyw ymateb awdurdod lleol yn cael ei gydlynu’n well o Ben-y-bont ar Ogwr yn hytrach nag o’r Fro. Er y byddai’r Cyngor yn helpu ym mha ffordd bynnag y fyddai’n angenrheidiol petai argyfwng yn codi, ni ellir fforddio gwastraffu amser wrth ymateb i argyfyngau beth bynnag fo’u maint oherwydd dryswch ynglþn â’r ffiniau. Cred y Cyngor na ellid gwarantu hyn petai’r statws quo yn parhau.

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn teimlo ei fod yn amlwg bod penderfyniad y Comisiwn wedi’i ddylanwadu’n fawr gan y refferendwm, a ddangosodd bod y mwyafrif o blaid cadw’r cymunedau ym Mro Morgannwg. Cyfeiriodd y Cyngor at yr ymgyrch frwd a gynhaliwyd gan y tair cymuned i aros o fewn Pen-y-bont ar Ogwr cyn ad-drefnu llywodraeth leol a bod y farn gyhoeddus ar y pryd wedi’i hanwybyddu’n llwyr. Nid oedd y newid yn y farn gyhoeddus, ym marn y Cyngor, yn awgrymu bod y gwasanaethau a ddarparwyd gan y Fro yn well na’r rheiny a gyflwynwyd gan Ben-y-bont ar Ogwr ond fe’i dylanwadwyd yn fwy gan ddymuniad y trigolion i beidio â symud o un awdurdod i un arall unwaith eto mor fuan ar ôl newid y ffin ym 1996. Dangosodd canlyniad y bleidlais pa mor newidiol y gallai’r farn gyhoeddus fod ac er na ellir anwybyddu barn gyhoeddus, roedd y Cyngor yn credu bod yn rhaid i’r Comisiwn wneud ei benderfyniad ei hun ar yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron.

I gloi nododd y Cyngor bod y penderfyniad i newid y ffin ym 1996 yn sylfaenol ddiffygiol a byddai cadw’r statws quo yn colli’r cyfle i unioni’r penderfyniad diffygiol hwnnw unwaith ac am byth. Dywedwyd bod y dystiolaeth o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn amlwg yn nodi mai cartref naturiol pobl y tair cymuned oedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Anogodd y Cyngor y Comisiwn i gymryd y penderfyniad cywir hwnnw.

4.2 Croesawodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg y cynigion y dylai’r Ewenni, Y Wig a Saint-y-brid aros ym Mro Morgannwg. Anogwyd y Comisiwn i’w cadarnhau pan gyhoeddir eu cynigion terfynol, yn unol â’r dewis gwell a fynegwyd gan drigolion lleol.

4.3 Roedd Cyngor Cymuned Ewenni yn gofidio o hyd am ddarpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol megis: iechyd, gwasanaethau’r heddlu ac addysg gynradd (Ysgol Yr Hengastell). Fodd bynnag, roedd y cyngor yn credu bod yn rhaid iddynt ildio i farn trigolion y gymuned fel y mynegwyd yn y bleidlais.

4.4 Dywedodd Win Griffiths AS Pen-y-bont ar Ogwr mai ei farn gref ei hun oedd na ddylai’r newid [hynny yw trosglwyddo’r tair cymuned o Ben-y-bont ar Ogwr i Fro Morgannwg] byth fod wedi cael ei wneud a bod y cynnig gwreiddiol yn bengam. Fodd bynnag, yn ystod y trafodaethau ar y cynnig gwreiddiol roedd wedi pwysleisio ei fod yn credu y dylid cynnal refferendwm arall i’r bobl benderfynu a oeddynt am aros yn y Fro neu ddychwelyd i Ben-y-bont ar Ogwr. Er nad oedd gan y refferendwm ddiweddar yr un mwyafrif mawr â’r refferendwm wreiddiol i aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr credai y dylid parchu’r canlyniad ac felly na ddylid gwneud unrhyw newid.

4.5 Roedd Cangen Plaid Lafur Ewenni a’r Fro yn hapus i dderbyn ewyllys ddemocratig yr etholwyr i aros ym Mro Morgannwg. Fodd bynnag, nodwyd na wnaed unrhyw ymdrech i gael barn yr etholwyr yn yr ardal i’r gogledd o Afon Ewenni, a drosglwyddwyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym 1997. Gyda’r amheuaeth honno roedd y gangen yn fodlon y dylai’r Comisiwn argymell i’r Ysgrifennydd Gwladol na ddylid gwneud newid pellach i’r ffin.

4.6 Roedd Mr P W a Mrs E J Barber Saint-y-brid yn teimlo bod yr argymhellion y dylai’r cymunedau aros yn y Fro yn adlewyrchu barn y mwyafrif o bobl a oedd yn byw yn y plwyfi fel y dangosir gan ganlyniad y bleidlais.

4.7 Roedd Mr a Mrs R A Green Ewenni yn cymeradwyo’r cynigion a gynhwyswyd yn adroddiad y Comisiwn ar y cynigion drafft.

4.8 Roedd Mr Conway Hawkins Y Wig yn falch gyda’r cynnig y dylai’r gymuned aros ym Mro Morgannwg. Fodd bynnag, roedd yn gofidio bod Cymunedau Ewenni, Saint-y-brid a’r Wig y tu allan i etholaeth Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd yn gobeithio y gallai arolwg y Comisiwn argymell y dylid symud y ffin Seneddol hefyd. Teimlai nad oedd hyn yn rhoi llawer o gymhelliad i’r Aelod Seneddol ddatblygu cysylltiadau o fewn awdurdod lleol Bro Morgannwg.

4.9 Credai Mr L a Mrs M James Aberogwr eu bod yn cael gwasanaethau o safon uchel gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Dywedasant eu bod yn gobeithio, ar ôl cael pleidlais ddemocratig drwy’r post a arweiniodd at ddewis clir gan drigolion lleol, na fyddai unrhyw gost arall yn angenrheidiol i ddatrys y mater.

4.10 Dywedodd Mrs N E Smallwood Aberogwr os oedd democratiaeth i oroesi, dylai pleidlais o 74% i aros ym Mro Morgannwg fod yn derfynol ac y dylai’r Comisiwn wrando ar lais y bobl.

4.11 Roedd Dr A a Mrs S Warner Aberogwr yn credu bod y pentref wedi cael ei dynnu oddi wrth Ben-y-bont ar Ogwr ac wedi cael ei wthio i mewn i’r Fro mewn ffordd hollol amhriodol sawl blwyddyn yn ôl ac nad oedd unrhyw gysylltiad naturiol rhwng Aberogwr a’r Barri. Teimlasant hefyd bod y patrwm pleidleisio yn y bleidlais wedi cael ei ddylanwadu gan y dreth gyngor is (yn ôl pob tebyg) yn y Fro ac nid oedd y pleidleisio wedi digwydd ar ‘ faes chwarae gwastad’ ac felly roedd yn ddiffygiol. Nodwyd hefyd nad yw pobl efallai bob amser yn pleidleisio’n ddoeth. Aeth Dr a Mrs Warner yn eu blaen i restru nifer o bwyntiau lle roeddynt yn rhagweld anghyfleustra ac aneffeithlonrwydd tymor hir i’r trigolion petai Aberogwr yn aros ym Mro Morgannwg.

4.12 Nid oedd gan Arolwg Ordnans unrhyw sylwadau i’w gwneud ynglþn â chynigion drafft y Comisiwn.

5. ASESIAD

5.1 Ystyriwyd yn ofalus yr holl sylwadau a wnaed i ni ac sy’n codi o’n hadroddiad ar y cynigion drafft ynghyd â barn yr etholwyr fel y mynegwyd drwy’r bleidlais.

5.2 Yn ei sylw atom soniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y berthynas rhwng y pellteroedd o’r ddau bencadlys sirol a rhwyddineb y mynediad i’r gwasanaethau llywodraeth leol. Gwnaed pwynt tebyg hefyd gan Dr a Mrs Warner yn eu llythyr atom. Wrth ystyried y mater hwn ystyriwyd canlyniadau pleidlais yr etholwyr o fewn y cymunedau oedd yn rhannol o leiaf, yn ein barn ni, yn adlewyrchiad o’r cyfleustra i’r etholwyr o berthyn i Fro Morgannwg. At hyn rydym yn ymwybodol o dan y trefniadau presennol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn darparu nifer o wasanaethau i’r cymunedau drwy ganolfannau lleol.

5.3 Ni fyddem yn amau’r dystiolaeth y cyfeiriwyd ati gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sef bod trigolion y tair cymuned yn parhau i ddefnyddio’r cyfleusterau hamdden, y llyfrgelloedd a’r cyfleusterau ailgylchu a gwaredu gwastraff a ddarperir ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag, byddem yn awgrymu na chyfyngir patrwm o’r fath i’r cymunedau hyn ac y byddai’n cael ei ailadrodd mewn sawl anheddfa ar ymylon ardaloedd awdurdodau lleol.

5.4 Codwyd y cwestiwn ymatebion i argyfyngau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei ymateb i’n cynigion drafft. Rydym wedi nodi’r sylwadau a wnaed yn flaenorol gan y Cyngor ynglþn â lleoliad gorsafoedd tân, yr heddlu a Gwylwyr y Glannau. Yn amlwg mae lleoliadau’r cyfleusterau hyn yn sefydlog ac nid yw newidiadau mewn ffiniau awdurdodau lleol yn effeithio arnynt. Mae trefn y gwasanaethau hyn yn fater ar gyfer yr awdurdodau rheoli perthnasol ac nid oes angen eu cyfyngu gan ffiniau sirol.

5.5 Roeddem yn gofidio bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn teimlo bod ‘potensial ar gyfer dryswch, gwastraffu amser ac aneffeithlonrwydd’ ac na ellid gwarantu ymateb cyflym i ddigwyddiad brys ‘petai’r status quo yn parhau’. Bydd yr angen i lunio cynlluniau ymateb i ddelio ag argyfyngau yn aml yn cynnwys cydweithredu rhwng dau awdurdod lleol neu fwy a nifer o wasanaethau brys. Yn achos y cymunedau o dan arolwg, credwn fod hwn yn fater yr ymdrinnir yn fwy priodol ag ef drwy gynlluniau wrth gefn a thrwy gysylltu ag awdurdodau lleol a gwasanaethau brys cyfagos yn hytrach na thrwy newidiadau i ffiniau awdurdodau lleol.

5.6 Dywedodd y Cyngor wrthym nad oedd yn credu bod canlyniad pleidlais y tair cymuned yn awgrym bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn darparu gwasanaeth gwell. Teimlwyd bod y canlyniad wedi’i ddylanwadu gan ddymuniad yr etholwyr i beidio â chael eu symud rhwng awdurdodau lleol. Yn eu hymateb i’n cynigion drafft awgrymodd Dr a Mrs Warner bod y patrwm pleidleisio wedi cael ei ddylanwadu gan wahaniaethau yn swm y dreth gyngor a godwyd gan y ddau awdurdod lleol. Wrth ystyried y bleidlais a gynhaliwyd fel rhan o’r arolwg hwn ystyriwyd y canlyniad gennym fel awgrym syml o farn yr etholwyr ar y cwestiwn a oedd yn cael ei ofyn iddynt. Nid ydym yn credu y byddai’n briodol neu’n fuddiannol i ni ddamcaniaethu ynglþn â’r rhesymu y tu ôl i’r pleidleisio. Dylem efallai ailnodi nad oedd y Comisiwn yn rhwym wrth ganlyniad y bleidlais a oedd yn ffurfio rhan o’r broses gwneud penderfyniadau yn unig. Rydym hefyd yn cadarnhau bod y canlyniad wedi’i ystyried ynghyd â’r holl dystiolaeth arall a gafwyd cyn i ni lunio ein cynigion drafft.

5.7 Cyfeiriodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr at y ffaith nad oes unrhyw ffin awdurdod lleol wedi ei halinio â’r ffiniau ar gyfer etholaethau Seneddol, Ewropeaidd neu etholaethau Cynulliad Cymru. Teimlasant hefyd bod ein cynnig yn colli ar y cyfle i gysoni’r ffiniau hyn. Awgrymwyd hefyd i ni gan Mr Conway Hawkins y dylem argymell newidiadau i’r ffin Seneddol rhwng etholaethau Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg er mwyn eu cysoni â ffiniau awdurdod lleol. Fel ag y nodir ym mharagraff 2.1 yr Adroddiad hwn, cyfyngir pwerau’r Comisiwn i wneud cynigion sy’n ymddangos yn ddymunol i’r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithlon a chyfleus: mae’r arolwg o ffiniau Seneddol a ffiniau etholaethol eraill yn fater i Gomisiwn Ffiniau Cymru.

5.8 Nodwyd y sylwadau a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â sefydlu’r ffin sirol bresennol. Dylem nodi bod y ffin wedi’i sefydlu o ganlyniad i ad-drefnu llywodraeth leol a chan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a ddiffiniodd Fwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg. Ni fu’r Comisiwn yn ymwneud â diffinio’r ffin, nac â’r ymarfer ymgynghori a’i rhagflaenodd: swyddogaeth y Comisiwn yw arolygu’r ffin bresennol ar sail y dystiolaeth sydd ar gael iddo nawr, ac i wneud cynigion parthed a ddylai gael ei newid.

5.9 Nodwyd hefyd yr amheuaeth a gynhwyswyd yn y sylw a wnaed gan Gangen Plaid Lafur Ewenni a Bro Morgannwg a gyfeiriodd at ardaloedd i’r gogledd o Afon Ewenni a oedd yn rhan o Gymuned Ewenni yn flaenorol ond a drosglwyddwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ym 1997. Mae’r ardaloedd o dan sylw bellach yn ffurfio rhan o Gymuned Llangrallo Isaf a ward gymunedol Yr Hengastell o fewn Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd y cyfarwyddiadau a roddwyd i’r Comisiwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn benodol ac yn cyfeirio at Gymunedau Ewenni, Saint-y-brid a’r Wig yn unig. Felly nid oedd o fewn ein cylch gorchwyl i arolygu’r ardaloedd y cyfeiriwyd atynt gan Gangen Plaid Lafur Ewenni a’r Fro.

5.10 Rydym wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r sylwadau a gafwyd mewn ymateb i’n cynigion drafft, yn arbennig y rheiny a gynhwysir yn y llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Am y rhesymau a nodir uchod, nid ydym yn credu bod y sylwadau hynny yn mynd â’r mater llawer ymhellach, ac yn wir mae rhai ohonynt (er enghraifft yr hyn a gynhwysir ym mharagraff 5.7 uchod) yn cyfeirio at faterion nad oedd gan y Comisiwn yn ein barn ni yr hawl i’w hystyried wrth gynnal yr arolwg hwn. Cyfeiriwn felly at y casgliad a gynhwysir ym mharagraff 5.3 yn ein cynigion drafft, ac yn arbennig ein casgliad y byddai’r naill awdurdod neu’r llall yn gallu cyflwyno gwasanaethau i ddiwallu anghenion y cymunedau. Roedd ein casgliadau ar y mater hwn felly yn union gytbwys, a chawsom ein cynorthwyo wrth lunio ein cynigion terfynol, fel y cawsom yn ein cynigion drafft, gan y sylwadau a gawsom a chanlyniadau pleidleisiau’r etholwyr yn y cymunedau. Gan ystyried yr holl faterion hyn, daeth y Comisiwn i’r casgliad bod y dystiolaeth yn awgrymu y dylai’r cymunedau aros ym Mro Morgannwg.

6. CYNIGION

6.1 Rydym wedi cynnal yr arolwg yn unol â chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol ac yn cynnig er budd llywodraeth leol effeithlon a chyfleus y dylai’r ffin bresennol rhwng Bwrdeistrefi Sirol Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr barhau. Yn unol â’n cynnig byddai Cymunedau Ewenni, Saint-y-brid a’r Wig yn parhau o fewn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Nid yw ffiniau’r Cymunedau unigol wedi newid.

7. CYDNABYDDIAETHAU

7.1 Hoffem fynegi ein diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Chynghorau Cymuned Ewenni, Saint-y-brid a’r Wig am eu cymorth ac i bob corff a pherson a gyflwynodd sylwadau i ni. Diolchwn hefyd i Electoral Reform (Ballot) Services Cyfyngedig am eu gwaith wrth gynnal y bleidlais gudd drwy’r post ar ein rhan.

8. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

8.1 Ar ôl cwblhau ein harolwg o’r rhan o’r ffin rhwng Bwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg ac ar ôl cyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad statudol yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

8.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny’n briodol, yw eu gweithredu gyda newidiadau neu hebddynt drwy gyfrwng Gorchymyn neu i gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach. Ni chaiff Gorchymyn o’r fath ei wneud yn gynharach na chyfnod o chwe wythnos i’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

8.3 Dylai unrhyw sylwadau pellach o ran y materion yn yr adroddiad hwn gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau i:

Adran Polisi a Chyllid Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

YR ATHRO E SUNDERLAND OBE DL MA PhD LLD FIBiol (Cadeirydd)

E F L FITZHUGH OBE DL (Dirprwy Gadeirydd)

MRS S G SMITH LLB (Aelod)

R L KNIGHT BA MSc MRTPI (Ysgrifennydd)

Gorffennaf 1999