AROLWG O RAN O'R FFIN RHWNG BWRDEISTREFI SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR A RHONDDA CYNON TAF
ADRODDIAD A CHYNIGION
- CYFLWYNIAD
- CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
- CYNIGION DRAFFT
- CRYNODEB O'R CYNRYCHIOLIADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
- PLEIDLAIS GAN YR ETHOLWYR
- CYNRYCHIOLIADAU A DDERBYNIWYD YN DILYN Y BLEIDLAIS GUDD GAN YR ETHOLWYR
- ASESIAD
- CYNIGION
- CYDNABYDDIAETHAU
- YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
H Rhodri Morgan Ysw AS AC
Prif Ysgrifennydd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. CYFLWYNIAD
1.1 Rydym ni, y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ardal Cymunedau Gilfach Goch a Chwm Ogwr a chyflwynwn ein cynigion.
2. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG
2.1 Mae'r rhan o'r ffin y cynhelir arolwg ohoni yn gwahanu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ardal Cymunedau Cwm Ogwr a Gilfach Goch, yn arbennig lle mae'n rhannu aneddiadau Evanstown a Gilfach Goch. Cynhaliwyd yr arolwg yn dilyn ceisiadau a gyflwynwyd i ni a oedd yn awgrymu nad yw'r ffin bresennol yn foddhaol. Yn hanesyddol roedd y ffin yn gwahanu rhanbarthau Ogwr a Thaf Elai, yr oedd y ddau ohonynt o fewn hen sir Morgannwg Ganol. Diben yr arolwg oedd ystyried a ddylai'r Comisiwn gynnig newidiadau i'r ffin bresennol, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Cynhaliwyd yr arolwg o dan ddarpariaethau Adran 55(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
2.2 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Y drefn
2.3 Mae Adran 60 Deddf 1972 yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â'r arweiniad hwnnw ysgrifenasom, ar 7fed Gorffennaf 1998, i Gynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf, Cynghorau Cymuned Cwm Ogwr a Gilfach Goch, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, cymdeithasau yr awdurdodau lleol, awdurdod yr heddlu dros yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg, ac i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol. Gwahoddwyd y Cynghorau Bwrdeistref Sirol i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer newidiadau i'r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i'r cynghorau arddangos hysbysiadau cyhoeddus.
3. CYNIGION DRAFFT
3.1 Derbyniwyd cynrychioliadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Cyngor Cymuned Cwm Ogwr; Cyngor Cymuned Gilfach Goch; Awdurdod Heddlu De Cymru; a Phennaeth yr Ysgol Gynradd yn Evanstown. Ystyriwyd y cynrychioliadau hyn a cheir crynodeb ohonynt yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 12 Mawrth 1999.
3.2 Argymhellodd ein Cynigion Drafft y dylid adlinio'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gynnwys ward gymuned Evanstown o fewn ardal Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Nodwyd y newid arfaethedig i'r ffin ar y map yn yr adroddiad.
3.3 Anfonwyd copïau o'r Cynigion Drafft at bob cyngor, corff ac unigolyn y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.3, yn gofyn am eu barn. Hefyd anfonwyd copi at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau rhagarweiniol. Drwy hysbysiad cyhoeddus gwahoddwyd unrhyw sefydliad neu berson arall oedd â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu barn. Roedd copïau o'r Cynigion Drafft ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'r Comisiwn a hefyd yn swyddfeydd Awdurdod Heddlu De Cymru.
4. CRYNODEB O'R CYNRYCHIOLIADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT
4.1 Derbyniwyd cynrychioliadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Cyngor Cymuned Gilfach Goch; Cyngor Cymuned Cwm Ogwr; Syr Raymond Powell AS; pedwar cynghorydd; a chwe chorff a thrigolion eraill oedd â diddordeb. Ystyriwyd pob un o'r cynrychioliadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion.
4.2 Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn pryderu bod unrhyw gynigion i ddiffinio'r ffin ar y cam hwn o'r arolwg wedi dod cyn pryd ac na fu unrhyw ymchwiliad manwl i'r farn gyhoeddus o fewn yr ardaloedd yr effeithir arnynt. Gofynnodd y Cyngor yn daer i'r Comisiwn ymgymryd ag ymarfer o'r fath cyn gynted â phosibl ac y dylai'r ymarfer hwn gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus a refferendwm.
4.3 Nododd Cyngor Cymuned Gilfach Goch eu bod wedi mynychu cyfarfodydd cyhoeddus ac wedi cynnal cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Cwm Ogwr, a Chynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf. Cafodd y Cyngor Cymuned ar ddeall y byddai dymuniadau pobl yng Ngilfach Goch ac Evanstown yn cael eu ceisio a'u hystyried ar ddechrau'r broses hon. Yn wir ystyriwyd hyn yn brif flaenoriaeth. Ond ymddengys wrth lunio ei gynigion bod y Comisiwn wedi rhoi ei flaenoriaethau i sefydliad lleol e.e. Heddlu De Cymru, yn yr hyn a fyddai'n gyfleus iddynt hwy er mwyn cael llywodraeth leol effeithiol. Credai'r Cyngor Cymuned na ddeuai unrhyw broblemau a rhwystrau yn sgîl undod, na fyddai naill ai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr na Rhondda Cynon Taf yn gallu eu goresgyn yn yr hyn y gellid ei ystyried yn effeithiol a chyfleus ar gyfer y gymuned fach hon. Wrth ddod i benderfyniad unfryd ar y cynigion fel y'u nodwyd gan y Comisiwn, daeth y Cyngor Cymuned i'r casgliad:
Rhaid canfod beth yw dymuniadau democrataidd pobl Gilfach Goch ac Evanstown, o dan ba awdurdod lleol yr hoffent gael eu rheoli, drwy gyfrwng pleidlais a rhaid rhoi'r flaenoriaeth iddynt dros sefydliadau eraill. Byddai methu â gwneud hyn yn golygu y byddai'r status quo yn parhau, a dylai Cymunedau Gilfach Goch ac Evanstown aros yn union fel y maent.'
Mewn llythyr diweddarach, nododd y Cyngor eu bod wedi derbyn adroddiadau gan drigolion yn Evanstown ac mai bwriad y Comisiwn oedd cael holiaduron hyddysg ganddynt cyn paratoi eu cynigion terfynol. Gobaith y Cyngor oedd y byddai'r Comisiwn yn ystyried rhoi'r un ystyriaeth i drigolion o fewn Rhondda Cynon Taf cyn llunio eu penderfyniad terfynol.
4.4 Roedd Cyngor Cymuned Cwm Ogwr wedi ystyried yr adroddiad ar y cynigion drafft ac wedi cynnal dau gyfarfod ar gyfer trigolion Evanstown i geisio barn gyhoeddus. Cafwyd presenoldeb da yn y cyfarfodydd a nodwyd y byddai'r trigolion am aros o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd gan y trigolion gysylltiad â Phen-y-bont ar Ogwr fel tref ar gyfer siopa a llawer o wasanaethau hanfodol eraill. Ystyrir ei bod yn hawdd cyrraedd y dref drwy wasanaeth bws cysylltiedig. Teimlai'r Cyngor Cymuned fod Rhondda Cynon Taf eisoes yn fwrdeistref fawr iawn ac y gallai ei hehangu ymhellach roi mwy o straen ar yr adnoddau sydd ar gael. Awgrymodd y Cyngor Cymuned y dylid ystyried dymuniadau trigolion Evanstown drwy gynnal refferendwm, neu broses ymgynghori arall a ystyriwyd yn briodol gan y Comisiwn.
4.5 Ysgrifennodd Syr Raymond Powell AS Ogwr i hysbysu'r Comisiwn yn dilyn ymgynghori â thrigolion ardal Evanstown ei fod wedi'i hysbysu nad oedd y mwyafrif ohonynt yn fodlon ar y newid i'r ffin a'u bod yn llai bodlon fyth na chynhelir unrhyw refferendwm i benderfynu ar y mater. Nododd y bu sôn am refferendwm beth amser yn ôl ond nad oedd yn ymddangos y byddai hyn yn digwydd. Crybwyllodd fod trigolion Evanstown yn trefnu deiseb. Anogodd Syr Raymond y Comisiwn i adolygu'r cynigion a chynnig refferendwm i'r trigolion fel y bydd ganddynt lais yn y broses o wneud penderfyniadau.
4.6 Nododd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol H Clive Davies a thri chynghorydd cymuned, sef cynrychiolwyr etholedig Evanstown, eu bod wedi ymgynghori â'r gymuned mewn dau gyfarfod cyhoeddus ynglþn â'r arolwg o'r ffin. Y canlyniad oedd y byddai'r "status quo yn parhau", am fod y Comisiwn wedi methu â chynnal ymgynghoriad cyhoeddus, nes i ymgynghoriad cyhoeddus digonol gael ei gynnal, a dyma oedd barn y ddau gyfarfod cyhoeddus.
4.7 Nododd Awdurdod Heddlu De Cymru fod y Comisiwn wedi ystyried eu sylwadau cychwynnol ac nad oedd ganddynt unrhyw arsylwadau pellach.
4.8 Nid oedd gan Arolwg Ordnans unrhyw sylwadau i'w gwneud am gynigion drafft y Comisiwn.
4.9 Cyflwynodd un o'r trigolion ddeiseb gyda 477 o lofnodion, a oedd yn galw am refferendwm yn Evanstown.
4.10 Roedd un o'r trigolion o blaid y cynigion drafft. Nododd ei bod yn hen bryd uno Evanstown a Gilfach Goch o dan un awdurdod lleol, sef Rhondda Cynon Taf yn ddelfrydol.
4.11 Roedd un o'r trigolion yn gwrthwynebu'r diffyg ymgynghori a fu â'r trigolion am yr arolwg o'r ffin a rhestrwyd y safbwyntiau canlynol:-
- cytuno y dylai un awdurdod gwmpasu'r ardal gyfan ac
- y dylid ymgynghori â phob un o drigolion Gilfach Goch (Evanstown fel rhan o Gilfach Goch) ar ba awdurdod y dylai hyn fod.
Dymunodd dynnu sylw'r Comisiwn at y ffaith nad oedd pob un o'r trigolion yn fodlon ar y lefelau o wasanaeth a ddarperir gan awdurdodau cyfredol ac efallai y byddai ei awgrymiadau yn adlewyrchu barn y trigolion.
4.12 Disgrifiodd un o'r trigolion y problemau a wynebir gan bobl Evanstown a chyfeiriodd hefyd at broblemau ariannol cyfredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Nododd fod Gilfach Goch bob amser wedi bod ar gyrion pa bynnag awdurdod oedd yn ei wasanaethu, a waeth pa awdurdod y byddai'n diweddu ynddo ni fydd y sefyllfa yn newid yn ddramatig. Serch hynny byddai'r trigolion yn hoffi cael y cyfle i ddewis ar gyrion pa awdurdod y cânt eu rhoi.
4.13 Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar 24 Mawrth 1999 yn Neuadd Gymuned Evanstown i drafod Cynigion Drafft y Comisiwn. Roedd tua 55 o drigolion yn bresennol yn y cyfarfod. Roedd Mr John Stephens a Mrs Eirwen Hill, swyddogion y Comisiwn, yn bresennol drwy wahoddiad. Roedd y rhan fwyaf o'r pwyntiau a godwyd yn ymwneud â'r canlynol:
- Cwynion am ddiffyg ymgynghori ynglþn â'r arolwg;
- Gwrthwynebiadau i benderfyniad y Comisiwn i beidio â chynnal refferendwm;
- Gwrthwynebiadau i benderfyniad y Comisiwn i baratoi argymhellion drafft heb fod yn ymwybodol o ddymuniadau'r trigolion;
- Beirniadaethau am broblemau gweinyddol ac ariannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;
- Pryderon am y cynnydd o 12% yn y bandiau treth gyngor a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;
- Cwynion am y diffyg cymorth gan y cynghorydd bwrdeistref sirol sy'n cynrychioli Cwm Ogwr (Evanstown) a'r AS sy'n cynrychioli'r etholaeth;
- Beirniadaethau am blismona'r ardal;
- Sylwadau am un o'r cynrychioliadau a gyflwynwyd gan bennaeth Ysgol Abercerdin, y cyfeiriwyd ato yn adroddiad y Comisiwn.
5. PLEIDLAIS GAN YR ETHOLWYR
5.1 Ystyriwyd y cynrychioliadau a dderbyniwyd yn gofyn am bleidlais gan yr etholwyr. Cytunwyd y dylid rhoi'r cyfle i etholwyr o fewn ward Evanstown yng Nghymuned Cwm Ogwr fynegi eu dymuniadau. Er mwyn mesur barn yr etholwyr penderfynwyd cynnal pleidlais drwy'r post i ofyn i'r etholwyr a fyddai'n well ganddynt petai Evanstown yn parhau ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu'n dod yn rhan o Rondda Cynon Taf.
5.2 Yn dilyn cyhoeddiad y Comisiwn o'u penderfyniad i gynnal pleidlais gan yr etholwyr yn Evanstown, derbyniwyd cynrychioliadau pellach gan Gyngor Cymuned Gilfach Goch ac un o'r trigolion. Eu barn hwy oedd y dylai'r Comisiwn fod wedi cynnal pleidlais debyg gan yr etholwyr yng Nghymuned Gilfach Goch.
5.3 Ystyriwyd y cynrychioliadau yn gofyn am gyfle tebyg i etholwyr Cymuned Gilfach Goch fynegi eu barn. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth o'r cynrychioliadau a dderbyniwyd bod sefyllfa Gilfach Goch o fewn Rhondda Cynon Taf yn anghyson o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ac yn ein barn ni mae sefyllfa Gilfach Goch yn ddiamwys. Yn ein Cynigion Drafft ystyriwyd y dylid cynnwys Evanstown o fewn ardal Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Daethom i'r casgliad y dylai unrhyw bleidlais gudd a gynhaliwyd gael ei chyfyngu i brofi'r farn gyhoeddus o fewn Evanstown o ran ein cynnig.
5.4 Cynhaliwyd y bleidlais gan yr etholwyr yn ystod mis Awst 1999 gan Electoral Reform (Ballot Services) Limited ar ein rhan.
Gofynnwyd y cwestiwn:
Ym mha awdurdod lleol yr hoffech osod ward gymuned Evanstown?
Ward Gymuned Evanstown |
Nifer |
% |
|---|---|---|
Papurau pleidleisio a ddosbarthwyd |
712 |
100 |
Papurau pleidleisio a ddychwelwyd |
453 |
63.6 |
Papurau pleidleisio annilys |
0 |
0 |
Etholwyr a fynegodd y byddai'n well ganddynt petai Evanstown yn parhau ym Mhen-y-bont ar Ogwr |
378 |
83.4 (53.1% o'r etholwyr) |
Etholwyr a fynegodd y byddai'n well ganddynt petai Evanstown yn cael ei drosglwyddo i Rondda Cynon Taf |
75 |
16.6 |
5.4 Hysbyswyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Cymuned Gilfach Goch a Chyngor Cymuned Cwm Ogwr drwy lythyr o ganlyniadau'r bleidlais gudd ar 28 Medi 1999. Ystyriwyd, yn dilyn y bleidlais, y dylid rhoi cyfle pellach i'r awdurdodau lleol dan sylw ddarparu asesiadau o'r effeithiau ar faterion yn ymwneud â chyflwyno gwasanaethau wedi'u lleoli yn yr ardal a barn am oblygiadau cadw'r gwasanaethau gan Ben-y-bont ar Ogwr yn hytrach na'u trosglwyddo i Rondda Cynon Taf.
6. CYNRYCHIOLIADAU A DDERBYNIWYD YN DILYN Y BLEIDLAIS GAN YR ETHOLWYR
6.1 Ysgrifennodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddweud mai dim ond y gyfarwyddiaeth tai oedd ag unrhyw sylwadau pellach i'w hychwanegu i'r hynny a ddarparwyd eisoes gan y Comisiwn. Ar hyn o bryd mae 96 eiddo ym meddiant y cyngor yn Evanstown: 24 eiddo dwy ystafell wely; 53 eiddo tair ystafell wely; 4 eiddo pedair ystafell wely; a 15 eiddo llawr gwaelod. Ar hyn o bryd mae un eiddo gwag; lle gwag rheolwyr yw'r eiddo hwn ac mae gwaith atgyweirio hanfodol yn mynd rhagddo yno ar hyn o bryd. Mae'r eiddo wedi'i ragddyrannu. Felly, mae 95 o'r 96 eiddo ar hyn o bryd wedi'u meddiannu. Nid oes unrhyw gynlluniau i ddymchwel unrhyw eiddo yn Evanstown ar hyn o bryd. Mae 51 o geisiadau ar y Gofrestr Tai, er bod y darlun hwn, wrth gwrs, yn gymharol hyblyg ac y byddai'n rhaid ei adolygu ar adeg unrhyw newid i'r ffin. Byddai angen gwneud trefniadau i sicrhau na fyddai unrhyw ymgeiswyr ar adeg y newid yn cael eu dadryddfreinio. Mae'r dadansoddiad o'r rhestr aros fel a ganlyn: 12 ar gyfer eiddo un ystafell wely; 18 ar gyfer eiddo dwy ystafell wely; 20 ar gyfer eiddo tair ystafell wely; 1 ar gyfer eiddo llawr gwaelod.
6.2 Nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf safbwyntiau adrannau'r Cyngor o ran y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn yr ardal.
Roedd yr adran Gwasanaethau Tai o'r farn nad oes unrhyw broblem ar hyn o bryd parthed y galw am dai. Gallai Swyddfa Tai Ardal Tonyrefail wneud y gwaith o reoli'r eiddo o ddydd i ddydd heb unrhyw anhawster. Fodd bynnag cafwyd ar ddeall na wnaed llawer o waith, os o gwbl, ar y tai cyngor yn Evanstown yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Pe cynhwyswyd yr eiddo hyn yn stoc tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf byddai'n cynyddu'r ôl-groniadau o waith atgyweirio ac adnewyddu a oedd yn bodoli eisoes. Byddai hyn yn cael effaith ariannol ar Gymhorthdal Tai ac Adnoddau Cyfalaf a byddai hyn yn effeithio ar y gwasanaeth tai a ddarperir yn yr ardal. Ni ragwelir unrhyw broblemau mawr wrth wasanaethu'r ardal o ran grantiau tai sector preifat. Fodd bynnag, byddai'r rhain yn amodol ar argaeledd adnoddau ariannol gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer darparu grantiau adnewyddu tai a grantiau eraill. Ni fyddai unrhyw broblemau penodol ychwaith wrth ddarparu gwasanaethau eraill megis cynllun tai, larymau cymunedol ac ati.
Yn nhermau Treth Gyngor a Gwasanaethau Ariannol, byddai'r Awdurdod yn cael £291,000 gros pe bai Evanstown yn cael ei drosglwyddo, fodd bynnag ni ellir pennu i sicrwydd a fyddai'r Cyngor yn colli mwy o incwm nag y mae'n ei wario ar wasanaethau.
Yn nhermau Gwasanaethau Addysg,, mae tua 50% o'r disgyblion yn Ysgol Gynradd Abercerdin yn byw yn Rhondda Cynon Taf gan mai hon yw'r ysgol sy'n bwydo'n naturiol o Ysgol Fabanod Gilfach Goch. Aiff pob disgybl o Abercerdin i Ysgol Gyfun Tonyrefail, sydd yn Rhondda Cynon Taf. Mae cytundeb Lefel o Wasanaeth mewn grym rhwng y ddau awdurdod lle mae Rhondda Cynon Taf yn darparu Lles Addysg, Anghenion Addysgol Arbennig, Prydau Bwyd Ysgol, Grantiau Dillad a Gwasanaethau Gofalwyr i Ysgol Gynradd Abercerdin.
Roedd yr adran Gwasanaethau'r Amgylchedd o'r farn y byddai ceisiadau ychwanegol am grantiau adnewyddu tai yn rhoi baich cynyddol ar Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a fydd yn gorfod penderfynu a yw'r eiddo yn addas i fyw ynddo ai peidio. Byddai gwaith yr adran monitro grantiau hefyd yn cynyddu. Bydd hefyd galw am wasanaethau amgylcheddol eraill megis cyngor i ddefnyddwyr, wardeniaid anifeiliaid a rheoli pla.
Roedd yr adran Gynllunio o'r farn er nad oedd Evanstown yn rhan annatod o Gilfach Goch, fod ganddo gysylltiadau ymarferol arwyddocaol â Gilfach Goch ac na ellir ei ystyried mewn gwirionedd ar ei ben ei hun. Mae gan y ddau anheddiad gysylltiadau cryf â Thonyrefail, Y Porth, Tonypandy a Thonysguboriau yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer llawer o'u hanghenion. Roeddent o'r farn nad oedd unrhyw faterion cyflwyno cynlluniau ac yn nhermau'r cynllun datblygu mae'n gwneud synnwyr i drin y ddau anheddiad gyda'i gilydd. Byddai goblygiadau byr dymor a phroblemau o ran gwaith datblygu ond ni fyddai'r rhain yn broblemau na ellid eu goresgyn nac yn broblemau o bwys.
Roedd y Gwasanaeth Cofrestru o'r farn y byddai'n haws o safbwynt y cyhoedd pe bai Evanstown yn cael ei ymgorffori yn Nosbarth Cofrestru Pontypridd gan fod dryswch yn codi'n aml o ran pa swyddfa gofrestru y dylid ei mynychu. Byddai angen i'r Cynllun' cyfredol gael ei ddiwygio a fyddai'n gofyn am ymgynghori cyhoeddus a chymeradwyo'r Cynllun diwygiedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mewn llythyr pellach nodwyd safbwyntiau Pwyllgor Polisi'r Cyngor. Cydnabu'r Pwyllgor Polisi o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cyflwyno gwasanaeth ei bod yn werth trosglwyddo Evanstown i Rondda Cynon Taf ond y caiff hyn ei wrthbwyso gan ganlyniad eithriadol y refferendwm lle y pleidleisiodd trigolion lleol y dylai Evanstown aros gyda Phen-y-bont ar Ogwr. Safbwynt yr Awdurdod yw y dylai'r ffin barhau yr un peth ac y dylai Evanstown aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
6.3 Pwysleisiodd Mrs Millicent Phillips, pennaeth Ysgol Abercerdin bwysigrwydd uno cwm Gilfach Goch yn un gymuned. Ac eithrio'r problemau enfawr sy'n effeithio ar addysg plant nid yn unig yn Evanstown ond hefyd plant o ochr Rhondda Cynon Taf y cwm (sydd o fewn y dalgylch), teimlai na ddylid colli'r cyfle i uno'r ardal unwaith ac am byth.
Nododd Mrs Phillips unwaith eto y materion a gyflwynwyd ganddi yng ngham cychwynnol yr arolwg. Ers llunio'r awdurdodau unedol newydd, mae'r ysgol wedi wynebu llawer o anawsterau gweinyddol gan fod dau awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau. Eglurodd Mrs Phillips yn fanwl yr anawsterau wrth weinyddu'r ysgol, gan amlygu problemau wrth ddarparu addysg anghenion arbennig, cyfleusterau meithrin, iechyd a lles, prydau bwyd ysgol, chwaraeon a gwasanaethau eraill. Cyflwynodd ddyfyniad o adroddiad diweddar gan Swyddfa Prif Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi (SPAEM), a oedd yn cydnabod y problemau oedd yn codi yn yr ysgol o ganlyniad i'r angen i fod yn atebol i ddau awdurdod lleol. Crynhodd Mrs Phillips ei hachos drwy nodi fod Ysgol Abercerdin ac Evanstown wedi'u lleoli yn yr awdurdod anghywir.
Yn ogystal â'i sylwadau cychwynnol, cyflwynodd Mrs Phillips sylwadau ar gyfarfod a gynhaliwyd gyda Chyfarwyddwyr Addysg Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf. Penderfynwyd o ganlyniad i sefyllfa eithriadol o anodd yr ysgol, a oedd yn ei gwneud ymron yn amhosibl rheoli'r ysgol, y byddai'r gwasanaethau o ddarparu addysg (h.y. cyllid, TG, cynnal a chadw, lles, iechyd, anghenion addysgol arbennig, prydau bwyd ysgol, polisïau a chyfarfodydd penaethiaid) yn cael eu rhannu rhwng y ddau awdurdod lleol.
Darparodd Mrs Phillips fanylion am y problemau a wynebwyd o ran anghenion arbennig, iechyd, addysg/chwaraeon cymunedol, plismona ac effeithiau'r tywydd garw ar y cwm. Nododd Mrs Phillips mai ei phrif bryder yw addysg y plant a nododd y dylid manteisio ar y cyfle gwych hwn i uno'r ardal i greu un gymuned.
7. ASESIAD
7.1 Yn ein hadroddiad ar y Cynigion Drafft nodwyd bod daearyddiaeth yr ardal yn un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at gymeriad anghyson y ffin bresennol. Mae ward gymuned Evanstown ar ymyl gogledd-ddwyreiniol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r anheddiad yn gymharol bell oddi wrth aneddiadau eraill o fewn ei gymuned ei hun, Cymuned Cwm Ogwr ac oddi wrth gymunedau eraill o fewn Pen-y-bont ar Ogwr, gyda'r cyswllt ffordd uniongyrchol drwy Gilfach Goch yn Rhondda Cynon Taf. Nodwyd ei bod yn ymddangos bod cysylltiad rhwng aneddiadau Evanstown a Gilfach Goch a bod yna gred y dylai'r ddau gael eu gwasanaethu gan yr un awdurdod. Cyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 roedd y ffin yn gwahanu dosbarthau Ogwr a Thaf Elai yr oedd y ddau ohonynt o fewn Sir Morgannwg Ganol. O dan y trefniant hwnnw darparwyd gwasanaethau cyngor sir i Evanstown a Gilfach Goch gan Gyngor Sir Morgannwg Ganol. Ers ad-drefnu llywodraeth leol, dau wahanol awdurdod unedol fu'n gyfrifol am y gwasanaethau hynny.
7.2 Ystyriwyd y cynrychioliadau cychwynnol a wnaed i ni gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yr oedd y ddau ohonynt yn ystyried bod y ffin bresennol yn anghyson. Nodwyd bod y trefniant presennol yn achosi anawsterau i'r ddau awdurdod a'u bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau i Evanstown. Roedd yn ymddangos i ni er gwaethaf y cytundebau lefel o wasanaeth rhwng y ddau awdurdod bod rhai problemau yn parhau ac ni chawsom ein darbwyllo bod y trefniant yn caniatáu ar gyfer darparu gwasanaethau llywodraeth leol yn y ffordd fwyaf effeithiol a chyfleus. Felly cynigiwyd y dylid adlinio'r ffin i gynnwys ward gymuned Evanstown o fewn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
7.3 Yn nhermau darparu gwasanaethau llywodraeth leol i Evanstown, nodwyd bod un o'r cynrychioliadau a dderbyniwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn awgrymu y gallai fod i'r newid arfaethedig oblygiadau cychwynnol yn ariannol ac o ran adnoddau. Fodd bynnag, yn gyffredinol, ymddengys fod y cynrychioliadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi ein Cynigion Drafft yn cadarnhau'r farn yn yr hir dymor y byddai'n fwy effeithiol a chyfleus pe bai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn darparu'r holl wasanaethau o'r fath i Evanstown. Rydym hefyd wedi ystyried canlyniad y bleidlais gan yr etholwyr yn Evanstown sydd wedi nodi'n glir eu bod am aros o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Er nad yw pleidlais gudd o'r fath yn fesur ynddo'i hun o effeithiolrwydd neu gyfleustra llywodraeth leol, yn yr achos hwn mae'n amlwg bod canlyniad y bleidlais gudd yn nodi boddhad yr etholwyr â'r trefniadau presennol. O gofio'r sylwadau a gyflwynwyd i ni yn y cynrychioliadau a dderbyniwyd ac yn y cyfarfod cyhoeddus, rydym o'r farn bod yr etholwyr wedi llunio barn hyddysg am rinweddau cymharol darparu gwasanaethau rhwng y ddau awdurdod.
7.4 Mae canlyniad y bleidlais yn dynodi bod mwyafrif yr etholwyr yn Evanstown yn fodlon ar y trefniant cyfredol lle y darperir gwasanaethau llywodraeth leol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, naill ai'n uniongyrchol neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf drwy gytundebau lefel o wasanaeth. Fodd bynnag rydym yn cydnabod bod yna feysydd penodol o ddarparu gwasanaethau lle mae'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau o'r farn bod yna broblemau. Rydym o'r farn y gellir goresgyn llawer o'r problemau hyn, os nad bob un ohonynt, drwy ofyn i'r ddau awdurdod gydweithio â'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau i gynnal arolygon rheolaidd o'r cytundebau lefel o wasanaeth fel eu bod yn parhau i gwrdd ag anghenion trigolion Evanstown.
8. CYNIGION
8.1 Cynhaliwyd yr arolwg yn unol â'r Ddeddf a hysbyswn nad oes gennym unrhyw gynigion ar gyfer newid y ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
9. CYDNABYDDIAETHAU
9.1 Hoffem fynegi ein diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chynghorau Cymuned Gilfach Goch a Chwm Ogwr am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob person a chorff a gyflwynodd gynrychioliadau i ni. Diolchwn hefyd i Electoral Reform (Ballot Services) Limited am eu gwaith wrth gynnal y bleidlais gudd drwy'r post ar ein rhan.
10. YMATEBION I'R ADRODDIAD HWN
10.1 Wedi cwblhau ein harolwg o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y Ddeddf.
10.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny'n briodol, yw eu derbyn neu gyfarwyddo'r Comisiwn i gynnal arolwg pellach.
10.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychioliadau pellach yn ymwneud â'r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o'r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio cynrychioliadau i:
Adain Moderneiddio Llywodraeth Leol 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQYR ATHRO E SUNDERLAND OBE LL MA PhD LLD FIBiol (Cadeirydd)
E F L FITZHUGH OBE DL (Dirprwy Gadeirydd)
MRS S G SMITH LLB (Aelod)
R L KNIGHT BA MSc MRTPI (Ysgrifennydd)
Ebrill 2000
