Map o'r Wefan
Cysylltiadau
Ymholiadau
Chwilio
English

AROLWG O RAN O’R FFIN RHWNG BWRDEISTREFI SIROL BLAENAU GWENT A CHAERFFILI

ADRODDIAD A CHYNIGION

  1. CYFLWYNIAD

  2. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

  3. CYNIGION DRAFFT

  4. CRYNODEB O'R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

  5. ASESIAD

  6. CYNIGION

  7. TREFNIADAU DILYNOL

  8. CYDNABYDDIAETHAU

  9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

Y Gwir Anrhydeddus Alun Michael YH AS AC

Prif Ysgrifennydd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. CYFLWYNIAD

1.1 Rydym ni, y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau’r arolwg o ran o’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ardal Tafarnaubach a chyflwynwn ein cynigion ar gyfer ffin newydd.

2. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

2.1 Mae Adran 54(1) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (y Ddeddf) yn nodi y gall y Comisiwn, o ganlyniad i arolwg a gynhelir ganddynt, gyflwyno cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gweithredu newidiadau sy'n ymddangos yn ddymunol i'r Comisiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Y drefn

2.2 Mae Adran 60 y Ddeddf yn nodi'r canllawiau gweithdrefnol y dylid eu dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol â’r arweiniad hwnnw, ysgrifenasom ar 29 Ionawr 1999 i Gynghorau Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chaerffili, Cynghorau Cymuned Rhymni a Thredegar, yr Aelodau Seneddol dros yr etholaethau lleol, cymdeithasau yr awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu dros yr ardal a'r pleidiau gwleidyddol i'w hysbysu o'n bwriad i gynnal yr arolwg, ac i ofyn am eu safbwyntiau cychwynnol. Gwahoddwyd y Cynghorau Bwrdeistref Sirol i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer newidiadau i’r ffin. Hefyd, rhoesom gyhoeddusrwydd i'n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd lleol a ddosberthir yn yr ardal a gofynnwyd i’r cynghorau arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus.

3. CYNIGION DRAFFT

3.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Cymuned Rhymni. Ystyriwyd y sylwadau hyn a cheir crynodeb ohonynt yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 13 Awst 1999.

3.2 Argymhellodd ein Cynigion Drafft y dylid adlinio’r ffin rhwng Blaenau Gwent a Chaerffili i gynnwys Ystad Ddiwydiannol gyfan Tafarnaubach o fewn ardal Blaenau Gwent. Nodwyd y newid arfaethedig i’r ffin ar y map o fewn yr adroddiad.

3.3 Anfonwyd copïau o'r Cynigion Drafft at bob cyngor, corff ac unigolyn y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.2, yn gofyn am eu barn. Hefyd anfonwyd copi at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau rhagarweiniol. Drwy hysbysiad cyhoeddus gwahoddwyd unrhyw sefydliad neu berson arall oedd â diddordeb yn yr arolwg i gyflwyno eu sylwadau. Roedd copïau o'r Cynigion Drafft ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r Comisiwn a hefyd yn swyddfeydd Heddlu Gwent.

4. CRYNODEB O'R SYLWADAU A DDAETH I LAW MEWN YMATEB I'R CYNIGION DRAFFT

4.1 Derbyniwyd sylwadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili; Brian Hancock AC; Peter Law AC; Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr; a chynrychiolydd un o’r cwmnïau sydd wedi’u lleoli ar yr ystad ddiwydiannol. Ystyriwyd pob un o’r sylwadau hyn yn ofalus cyn llunio ein cynigion.

4.2 Nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent eu bod o blaid cynnig y Comisiwn i gynnwys Ystad Ddiwydiannol gyfan Tafarnaubach yn ardal Blaenau Gwent.

4.3 Nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eu bod yn gwrthwynebu cynnig y Comisiwn i gynnwys Ystad Ddiwydiannol gyfan Tafarnaubach yn ardal Blaenau Gwent. Mynegwyd pryder dros golli Trethi Busnes o bosibl pe bai deddfwriaeth yn newid yn y dyfodol. Nodwyd, er bod y rhan fwyaf o ardal yr ystad ddiwydiannol o fewn Blaenau Gwent, roedd 60% o’r unedau diwydiannol o fewn Caerffili. Cydnabu’r Cyngor hwyrach na fyddai rhannu’r ystad ddiwydiannol rhwng dau awdurdod er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, ond dadleuwyd y byddai budd cyfartal i adlinio’r ffin i gynnwys yr ystad ddiwydiannol gyfan o fewn Caerffili. Gofynnwyd i’r Comisiwn ystyried adlinio’r ffin i gynnwys yr ystad ddiwydiannol gyfan o fewn Caerffili fel cynnig amgen.

4.4 Nododd Brian Hancock AC ei fod yn ei ystyried yn rhesymegol y dylai Ystad Ddiwydiannol Tafarnaubach gael ei gwasanaethu gan un Awdurdod Lleol.

4.5 Nododd Peter Law AC ei fod yn croesawu cynigion y Comisiwn a oedd, yn ei farn ef, yn ateb synnwyr cyffredin i broblem a oedd wedi bodoli ers peth amser.

4.6 Nododd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr mai dim ond ffurfioli trefniadau plismona presennol yr ardal fyddai’r adliniad arfaethedig i’r ffin.

4.7 Nododd Mr A Wardle, yn ysgrifennu ar ran Ashtenne Investments Ltd., fod ei gwmni, fel perchenogion Unedau 6, 9 - 12 a 17 - 22 ar Ystad Ddiwydiannol Tafarnaubach, yn llwyr o blaid adliniad arfaethedig y Comisiwn o’r ffin. Credai’r cwmni y byddai’r gwaith o gynnal a chadw’r ffyrdd a’r carthffosydd o fewn yr ystad ddiwydiannol yn cael ei reoli’n well o dan un awdurdod. Credai hefyd y byddai cael yr ystad ddiwydiannol gyfan o dan un awdurdod lleol yn arwain at symleiddio’r ceisiadau cynllunio a chymorth grant a fyddai yn ei dro yn arwain at welliant o ran y broses datblygu economaidd.

5. ASESIAD

5.1 Mae’r cytundeb barn cyffredinol a fynegwyd yn y sylwadau a dderbyniwyd gan y Comisiwn yn unol â chasgliad y Comisiwn fod y ffin bresennol rhwng Blaenau Gwent a Chaerffili yn afreolaidd, yn bennaf am ei bod yn rhannu Ystad Ddiwydiannol Tafarnaubach rhwng dau awdurdod. Yn ogystal, nid yw’r ffin bresennol yn dilyn nodweddion wedi’u diffinio’n glir am ei bod yn rhedeg drwy’r ystad ddiwydiannol.

5.2 Cyn cyhoeddi ein Cynigion Drafft cynhaliwyd ymweliad safle i’r ystad ddiwydiannol er mwyn adolygu’r sefyllfa yn gyffredinol, ac i ystyried cynnig Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i adlinio’r ffin, a fyddai’n trosglwyddo’r ystad ddiwydiannol gyfan i Blaenau Gwent. Canfuwyd fod y ffin arfaethedig wedi’i diffinio’n glir gan ei bod yn dilyn ffens sydd wedi’i adlinio o’r gogledd i’r de ar hyd perimedr gorllewinol yr ystad ddiwydiannol, gan ymuno â’r ffordd sydd yn union i’r de o’r ystad ddiwydiannol.

5.3 Ystyriwyd yr awgrym dilynol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bod yr un budd o drosglwyddo’r ystad ddiwydiannol gyfan i Gaerffili ag sydd i’w throsglwyddo i Flaenau Gwent. Mae’r Comisiwn wedi ystyried posibiliadau amgen ar gyfer adlinio fel yr awgrymwyd, ond fel y daw i’r amlwg o’r map yn Atodiad 1, byddai’r adliniad a gynigiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn debygol o gynnwys trosglwyddo ardal sylweddol iawn o Flaenau Gwent. Yn wir, nid yw’n glir ymhle y gallai’r llinell gael ei thynnu’n gyfleus, a nodwn na chyflwynwyd unrhyw awgrymiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili parthed yr adliniad. O gofio anhawster tynnu’r llinell, a’r materion a nodir yn yr Asesiad yn ein cynigion drafft, gan gynnwys y ffaith fod yr unig fynediad i’r ystad ddiwydiannol a mwyafrif y ffyrdd o fewn yr ystad ddiwydiannol ym Mlaenau Gwent, rydym yn fodlon bod y cydbwysedd i raddau helaeth iawn o blaid yr adliniad a gynigir yn ein cynigion drafft.

6. CYNIGION

6.1 Wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael cynigiwn, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, y dylid adlinio’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ardal Tafarnaubach i gynnwys Ystad Ddiwydiannol gyfan Tafarnaubach o fewn ardal Blaenau Gwent. Nodir y newid arfaethedig i’r ffin mewn glas ar y map yn Atodiad 1.

Nodwch nad yw'r map yn Atodiad 1 wedi ei gynnwys gyda'r fersiwn yma o'r adroddiad o ganlyniad i anawsterau technegol a hawlfraint. Mae copi o'r adroddiad gyda'r map ar gael trwy gysylltu âr Comisiwn.

7. TREFNIADAU DILYNOL

7.1 Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys ein cynnig ar gyfer newid i’r ffin rhwng Bwrdeistrefi Sirol Blaenau Gwent a Chaerffili. Wrth ystyried y newid i’r ffin bu’n rhaid i ni hefyd ystyried yr effeithiau ar y trefniadau etholiadol ar gyfer y Cynghorau Cymuned a’r Cynghorau Bwrdeistref Sirol a fyddai’n deillio o’r newid hwn.

7.2 Rydym yn tynnu sylw at y ffaith y byddai un eiddo preifat i dde pen gorllewinol yr ystad ddiwydiannol yn cael ei drosglwyddo o Gaerffili i Flaenau Gwent pe bai’r ffin arfaethedig yn cael ei mabwysiadu. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol newid cofrestrau etholiadol y cynghorau perthnasol ond ni fyddai’n effeithio ar y trefniadau etholiadol ar gyfer y Cynghorau Cymuned neu’r Cynghorau Bwrdeistref Sirol.

8. CYDNABYDDIAETHAU

8.1 Hoffem fynegi ein diolch i’r holl brif gynghorau am eu cymorth yn ystod yr arolwg ac i bob corff a pherson a gyflwynodd sylwadau i ni.

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Wedi cwblhau ein harolwg o ran o’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ardal Tafarnaubach a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y Ddeddf.

9.2 Cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach, os gwêl fod hynny’n briodol, yw eu gweithredu ynghyd ag addasiadau neu hebddynt drwy gyfrwng Gorchymyn neu gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach. Ni wneir Gorchymyn o’r fath yn gynt na chyfnod o chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau pellach yn ymwneud â’r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio sylwadau at:

Adain Moderneiddio Llywodraeth Leol 2
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

YR ATHRO E SUNDERLAND OBE LL MA PhD LLD FIBiol (Cadeirydd)

E F L FITZHUGH OBE DL (Dirprwy Gadeirydd)

MRS S G SMITH LLB (Aelod)

R L KNIGHT BA MSc MRTPI (Ysgrifennydd)

Chwefror 2000